°¬²æAƬ

Gwybodaeth i Ymgeiswyr

Diolch am ddangos diddordeb mewn gwneud cais am swydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ.

Mae pob swydd yn cael ei hysbysebu ar ein gwefan a gellir gwneud cais amdani ar-lein yn unig. Os oes angen help arnoch i gwblhau eich ffurflen gais ar-lein, ewch i un o’n Hybiau Cymunedol lle mae Swyddogion ar gael i’ch cefnogi. Bydd ein swyddogion Hyb Cymunedol yn gallu eich helpu i gyflwyno eich ffurflen gais ar-lein.

I wneud cais am swydd ar-lein, bydd angen i chi gofrestru a chreu cyfrif ar-lein drwy roi cyfeiriad e-bost a chyfrinair, unwaith y byddwch wedi cofrestru, bydd y system yn cadw eich manylion ar gyfer ceisiadau yn y dyfodol. Os ydych wedi cofrestru o'r blaen, mewngofnodwch gan ddefnyddio'ch enw defnyddiwr a'ch cyfrinair.

Os ydych yn weithiwr gyda Chyngor °¬²æAƬ os gwelwch yn dda cyrchwch swyddi ar-lein trwy'r porth .

Bydd y cyfeiriad e-bost a roddwch ar eich cais yn cael ei ddefnyddio i gyfathrebu â chi drwy gydol y broses recriwtio.

Dylech roi sylw arbennig i’r dyddiad y mae’r hysbyseb yn cau, gan na ellir cyflwyno ceisiadau ar-lein unwaith y bydd y dyddiad cau wedi mynd heibio. Bydd ceisiadau wedi'u cwblhau a swydd-ddisgrifiadau cyfatebol ar gael yn eich cyfrif i'w hadalw yn ystod y broses.

Awgrymiadau defnyddiol ar sut i wneud cais

Eich cais yw’r porth i gamau nesaf y broses recriwtio felly mae’n hollbwysig eich bod yn ei gwblhau’n drylwyr, gan dynnu ar fanylion y swydd a ddarparwyd gennym. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n darllen yr holl ddeunyddiau sy'n cyd-fynd â nhw ac yn myfyrio ar pam mae gennych chi ddiddordeb yn y swydd a pha sgiliau a phrofiadau y gallwch chi eu cynnig i'r rôl. Ni fydd Curriculum Vitae (CV) yn cael ei dderbyn yn lle llenwi’r ffurflen gais.

Mae’r Swydd-ddisgrifiad a Manyleb y Person yn amlinellu’r hyn sydd ei angen ar gyfer y rôl a dylai eich cais ddangos yn glir sut rydych yn bodloni pob un o’r meini prawf hanfodol a dymunol, gan amlygu eich gwybodaeth, sgiliau a phrofiad gydag enghreifftiau penodol o’ch profiad blaenorol. Os nad oes gennych brofiad gwaith cyflogedig, peidiwch â phoeni; mae gennym ddiddordeb mewn pob math o brofiad gan gynnwys profiad gwaith, gwaith gwirfoddol, neu ddiddordebau hamdden, ac ati.

Nid yw nodi ar eich cais bod gennych sgil yn ddigon; mae angen i chi esbonio sut rydych chi wedi'i ddefnyddio. Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi fabwysiadu'r fformat a elwir yn Saesneg yn STAR, sy'n ffordd strwythuredig o ddangos profiad trwy ddarparu enghreifftiau penodol. Ystyr STAR yw Sefyllfa, Tasg, Camau Gweithredu a Chanlyniad ac mae’n eich galluogi i arddangos eich sgiliau a’ch profiadau mewn ffordd glir a threfnus, gan ei gwneud yn haws i’r Rheolwr Recriwtio asesu eich addasrwydd ar gyfer y rôl. Dyma sut y gallwch chi ddefnyddio'r fformat hwn.

Sefyllfa:

Dechreuwch trwy ddisgrifio'r sefyllfa neu'r cyd-destun y digwyddodd yr enghraifft ynddi. Dylai hwn fod yn drosolwg byr o'r senario yr oeddech ynddo.

Tasg:

Nesaf, eglurwch y dasg neu'r her roeddech yn eu hwynebu. Dylai hwn fod yn nod neu amcan penodol yr oeddech yn ceisio ei gyflawni.

Camau Gweithredu:

Disgrifiwch y camau gweithredu a gymerwyd gennych i fynd i'r afael â'r dasg neu'r her.

Canlyniad:

Yn olaf, eglurwch ganlyniadau neu ddeilliannau eich camau gweithredu. Dylai hyn gynnwys unrhyw ganlyniadau neu gyflawniadau cadarnhaol, yn ogystal ag unrhyw wersi a ddysgwyd neu feysydd i'w gwella.

Dim ond ymgeiswyr y bernir eu bod wedi darparu tystiolaeth ddigonol i ddangos eu bod yn bodloni'r meini prawf gofynnol all symud ymlaen y tu hwnt i'r cam cyntaf cychwynnol.

Ceisiadau yn Gymraeg

Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg ac ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Bydd unrhyw gyfathrebiadau a anfonir mewn perthynas â'ch recriwtio yn ddwyieithog.

Sgiliau Iaith Gymraeg – Ased Gwerthfawr ar gyfer Pob Swydd

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ yn falch o gefnogi a hyrwyddo'r iaith Gymraeg ar draws pob maes gwaith. Fel rhan o'n hymrwymiad i ddwyieithrwydd a gweledigaeth Llywodraeth Cymru am filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, rydym yn annog pob unigolyn — boed yn gwneud cais am swydd gyda ni neu eisoes yn gweithio o fewn y cyngor — i ystyried datblygu eu sgiliau iaith Gymraeg.

Ar gyfer rhai rolau o fewn y cyngor, mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol. I gefnogi hyn, rydym yn argymell y cwrs blasu iaith Gymraeg ar-lein 10 awr a ddarperir gan Ddysgu Cymraeg. Mae'r cwrs rhad ac am ddim hwn yn fan cychwyn gwych i unrhyw un sy'n awyddus i feithrin hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg yn y gwaith ac yn y gymuned. Mynediad i'r cwrs Cymraeg 10 awr .

Hyd yn oed os nad yw'r Gymraeg wedi'i rhestru fel hanfodol ar gyfer swydd benodol, rydym yn cydnabod gwerth sgiliau iaith Gymraeg ym mhob rôl.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn helpu'r cyngor:

  • Darparu gwasanaethau mwy cynhwysol ac ymatebol i'n cymunedau.
  • Cyfathrebu'n fwy effeithiol â thrigolion a chydweithwyr sy'n siarad Cymraeg.
  • Dangos eich cefnogaeth i'r iaith a'r diwylliant Cymraeg.
  • Gwella eich datblygiad personol a phroffesiynol.
  • Cyfrannu at y nod cenedlaethol o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg.

P'un a ydych chi'n ddechreuwr neu'n awyddus i adnewyddu eich sgiliau, rydym yn annog pawb i archwilio'r ystod o gyrsiau Cymraeg ar-lein sydd ar gael. Nid yn unig y mae dysgu Cymraeg yn fuddiol i'ch gyrfa — mae hefyd yn ffordd ystyrlon o gysylltu â'n treftadaeth a'n cymuned.

Cynllun Hyderus o ran Anabledd

Cefnogi Recriwtio Cynhwysol ym Mlaenau Gwent

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol °¬²æAƬ wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle. Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, rydym yn falch o gymryd rhan yng Nghynllun Hyderus o ran Anabledd Llywodraeth y DU, sy'n helpu cyflogwyr i recriwtio a chadw pobl anabl a'r rhai â chyflyrau iechyd.

O dan y cynllun hwn, rydym yn cynnig cyfweliad gwarantedig i nifer deg a chymesur o ymgeiswyr sy'n nodi eu bod yn anabl ac yn bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl y maent yn gwneud cais amdani.

Noder: nid yw bodloni'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y cynllun yn gwarantu cyfweliad yn awtomatig. Rhaid i ymgeiswyr ddangos eu bod yn bodloni'r gofynion sylfaenol ar gyfer y swydd, fel yr amlinellir yn y disgrifiad swydd neu fanyleb y person.

Pwrpas y Cynllun

Mae'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd wedi'i gynllunio i annog pobl anabl i wneud cais am rolau ac i sicrhau eu bod yn cael y cyfle i arddangos eu sgiliau, eu profiad a'u potensial yn ystod y broses recriwtio.

Meini Prawf Cymhwysedd

I gael eich ystyried o dan y Cynllun Hyderus o ran Anabledd, rhaid i chi:

  • Fod â nam corfforol neu feddyliol, neu gyflwr iechyd hirdymor sydd ag effaith sylweddol a pharhaol (12 mis neu fwy) ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau bob dydd.
  • Dangos yn glir yn eich cais ac unrhyw asesiadau eich bod yn bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl, fel y nodir yn yr hysbyseb swydd neu fanyleb y person.

Gwybodaeth Pellach

I ddysgu mwy am y Cynllun Hyderus o ran Anabledd a sut mae'n cefnogi arferion cyflogaeth gynhwysol, ewch i swyddogol y llywodraeth.

Cynllun Cydnabod Cyflogwr Amddiffyn

O dan y cynllun hwn, mae’r Cyngor yn gwarantu cyfweliad i Gymuned y Lluoedd Arfog (y rhai sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd, sydd wedi gwasanaethu o’r blaen, milwyr wrth gefn a’u partner/priod) os ydynt yn bodloni gofynion hanfodol y swydd.

Siarter Rhianta Corfforaethol

O dan y cynllun hwn mae gan y Cyngor ddyletswydd i gefnogi ei ymadawyr gofal pan fyddant yn chwilio am waith fel eu bod yn cael yr un gefnogaeth â'u cyfoedion ac yn gallu mynd ymlaen i gael cyflogaeth a hyfforddiant. Lle mae ymgeiswyr sydd â phrofiad o ofal* yn bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, mae'r Cyngor yn gwarantu cyfweliad.

* rhywun sydd wedi derbyn gofal ffurfiol gan awdurdod lleol, yng nghartref y teulu (gyda chymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol neu weithiwr cymdeithasol), mewn gofal gan berthnasau gyda theulu, ffrindiau neu berthnasau (gan gynnwys gofal anffurfiol gan berthnasau), gofal maeth, gofal preswyl neu ddiogel neu sydd wedi’i fabwysiadu’n gyfreithiol.

Ail-gyflogi Staff

Ni fydd staff sydd wedi gadael cyflogaeth y Cyngor drwy ddiswyddo gwirfoddol neu daliad diswyddo gwirfoddol a oedd yn cynnwys pecyn ariannol fel arfer yn cael eu hailgyflogi na’u hailgyflogi mewn unrhyw ffordd (h.y. drwy asiantaeth neu ymgynghoriaeth).

Y Camau Nesaf

Ar ôl i chi gyflwyno eich cais byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau ein bod wedi derbyn eich cais yn llwyddiannus.

Os cewch eich rhoi ar y rhestr fer, bydd camau nesaf y broses recriwtio a dethol yn cael eu cadarnhau gyda chi, bydd hyn yn cynnwys manylion yr hyn fydd yn ofynnol gennych a gwybodaeth am y dyddiad, amser a lleoliad. Byddwn hefyd yn dweud wrthych os na chafodd eich cais ei roi ar y rhestr fer.

Gwiriadau cyn cyflogi

Os cynigir cyflogaeth i chi efallai y bydd angen nifer o wiriadau cyn cyflogi, yn dibynnu ar y swydd yr ydych yn cael eich recriwtio iddi ac a ydych yn gyflogedig gan y Cyngor ar hyn o bryd. Mae gwiriadau cyn cyflogi fel a ganlyn:

  • Geirdaon
  • Cymwysterau
  • Asesiad Iechyd Gwaith
  • Tystysgrif Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
  • Cofrestru Proffesiynol e.e. Cyngor y Gweithlu Addysg/Gofal Cymdeithasol Cymru

Bydd rhagor o wybodaeth am y gwiriadau cyn cyflogi sy’n berthnasol i’ch cynnig cyflogaeth yn cael ei chynnwys yn eich pecyn cynnig amodol.

Cyfnod Prawf

Dyma’r cyfle i weithwyr newydd sefydlu eu hunain yn y swydd ac i’r rheolwr asesu pa mor dda y maent yn ymgartrefu, monitro perfformiad y gweithwyr, a nodi unrhyw anghenion datblygu. Darperir goruchwyliaeth reolaidd ar gyfer yr holl weithwyr a bydd nodiadau o'r sesiynau hyn yn cael eu defnyddio i lywio cwblhau'r cyfnod prawf yn llwyddiannus.

Sefydlu

Bydd gweithwyr sydd newydd eu penodi yn cael Sesiynau Sefydlu am y Gyfarwyddiaeth a Chorfforaethol. Bydd fformat y rhain yn amrywio yn ôl natur y rôl y cawsoch eich penodi iddi. Bydd gweithwyr yn cael manylion mewngofnodi i'w galluogi i gwblhau ein cyfnod Sefydlu Corfforaethol ar-lein, a ddylai gael ei gwblhau o fewn mis i ddechrau. Bydd gweithwyr heb fynediad i TG yn cael eu cefnogi gan eu rheolwr i gwblhau'r cyfnod sefydlu ar-lein.

Thinqi

Mae gennym lwyfan e-ddysgu o'r enw Thinqi sydd â llawer o adnoddau hyfforddi a datblygu ar gyfer staff. Mae ar gael o unrhyw ddyfais sy’n galluogi’r rhyngrwyd ac mae’n addasu’n awtomatig i liniaduron, llechi a ffonau clyfar felly gellir ei gyrchu pan fydd yn gyfleus i chi ar ddyfais o’ch dewis.

My Info (Hunanwasanaeth Gweithwyr)

Mae gennym borth gweithwyr o'r enw My Info lle byddwch yn gallu gweld a diweddaru eich data personol. Gallwch hefyd weld a lawrlwytho eich slipiau cyflog, cyflwyno hawliadau treuliau a gweld gwybodaeth absenoldeb benodol. Gellir cyrchu My Info o unrhyw ddyfais sy’n galluogi’r rhyngrwyd neu drwy’r fewnrwyd os ydych yn defnyddio rhwydwaith TG y Cyngor.

Gwybodaeth Gyswllt

Os hoffech gysylltu ag aelod o’r Tîm Recriwtio, e-bostiwch: recruit.bgcbc@blaenau-gwent.gov.uk

Dogfennau Cysylltiedig