RSS Feed /cy/newyddion/ cy Mae Cyngor AƬ yn cynnig grantiau i ddioddefwyr llifogydd Mae Cyngor AƬ am roi grantiau o £1,000 i ddioddefwyr llifogydd yn dilyn Storm Bert. Bydd y Cynllun Grant Adfer Llifogydd ar gael i drigolion sydd wedi dioddef llifogydd mewnol o ganlyniad i’r storm ddiweddar.

ѱ岹’r Cynghorydd Helen Cunningham, Arweinydd Dirprwy ac Aelod Cabinet dros Le a’r Amgylchedd:

“Rydw i wedi bod allan mewn cymunedau sydd wedi’u heffeithio gan lifogydd yn ein bwrdeistref ac wedi gweld fy hunain y dinistr aruthrol y mae hyn wedi’i achosi i bobl a theuluoedd, yn enwedig yn y cyfnod cyn y Nadolig. Mae staff y Cyngor yn parhau i fod yn yr ardaloedd yr effeithir arnynt yn cefnogi preswylwyr gyda sesiynau glanhau a gwneud yn siŵr eu bod yn gallu cael mynediad at yr holl gymorth sydd ar gael.

“Bydd ein Cynllun Grant Adfer Llifogydd yn golygu taliad o £1,000 i drigolion cymwys yr effeithir gan lifogydd. Mae hyn yn ychwanegol at gynllun Llywodraeth Cymru a chynlluniau taliadau dewisol a chaledi eraill yr ydym wedi helpu pobl i gael mynediad atynt. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi ailadeiladu ac adfer ein cymunedau ac rydym yn obeithiol y bydd y cynllun grant hwn, ynghyd â’r cymorth arall sydd ar gael, yn helpu i fynd peth o’r ffordd i’w helpu i adfer eu cartrefi a’u heiddo.”

Cynigwyd a chefnogwyd hyn gan aelodau'r Cyngor Llawn heddiw.

Byddwn yn darparu gwybodaeth am gymhwysedd a sut i wneud cais yn fuan.

]]>
/cy/newyddion/mae-cyngor-blaenau-gwent-yn-cynnig-grantiau-i-ddioddefwyr-llifogydd/ /cy/newyddion/mae-cyngor-blaenau-gwent-yn-cynnig-grantiau-i-ddioddefwyr-llifogydd/ Thu, 28 Nov 2024 10:41:30 GMT Louise Bishop
Noson Tân Gwyllt – meddyliwch am yr amgylchedd Bob mis Tachwedd rydym yn dathlu noson ‘Guto Ffowc’ gyda phobl yn mynychu arddangosiadau tân gwyllt a choelcerthi. Er y gall ymddengys nad yw un noswaith o’r flwyddyn yn mynd i achosi fawr o niwed, nid yw rhai o’r tocsinau byth yn chwalu ac yn cael effaith barhaus ar yr amgylchedd. Gallant hefyd achosi problemau iechyd i rai sy’n anadlu aer wedi ei lygru, yn arbennig bobl sydd eisoes â phroblemau anadlu.

Mae’n anghyfreithlon llosgi’r rhan fwyaf o fathau o eitemau gwastraff tebyg i deiars, pren wedi ei drin, plastig, tanwydd, olew, metel a gwydr. Dylai unrhyw ddeunydd ar gyfer y goelcerth fod yn wastraff glân heb fod yn fasnachol. Mae yn cynghori mai dim ond gwastraff gardd sych, pren/coed heb ei drin ac ychydig o ddail y dylid eu llosgi.

Nid oes unrhyw ddeddf yn erbyn cael coelcerth ond mae’n drosedd i’r mwg neu arogl mwg achosi niwsans. Yn ogystal â lefelau llygredd aer lleol, mae’n bosibl y gall y mwg effeithio ar y gallu i weld ar ffyrdd cyfagos gan achosi amodau gyrru peryglus.

Peidiwch ag anghofio y gall anifeiliaid gael eu hanafu gan y marwydos ac yn aml mae tân yn eu dychryn. Gwnewch yn siŵr bob amser nad oes anifeiliaid bach fel draenogod wedi cuddio yn y goelcerth cyn i chi ei chynnau.

Caiff preswylwyr AƬ eu hatgoffa am yr effaith y gall llosgi gwastraff mewn coelcerthi ei gael ar yr amgylchedd. Dylid hefyd ystyried y deunyddiau y dylid eu llosgi a’r broblem bosibl y gall mwg ei achosi yn yr ardal o amgylch.

Dywedodd y Cynghorydd Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd/Aelod Cabinet Lle ac Amgylchedd:

“Y ffordd fwyaf diogel o ddathlu Noson Tân Gwyllt yw mynychu digwyddiad cyhoeddus wedi ei drefnu. Os ydych yn bwriadu cael coelcerth y penwythnos yma, yna meddyliwch yn ofalus beth fyddwch yn ei losgi. Nid oes unrhyw fath o goelcerth yn dda i’r amgylchedd felly ceisiwch fod mor ‘eco-gyfeillgar’ ag y medrwch a chofio ei bod yn drosedd gwaredu â gwastraff mewn ffordd a all achosi llygredd i’r amgylchedd.”

Dolenni Defnyddiol:

]]>
/cy/newyddion/noson-tan-gwyllt-meddyliwch-am-yr-amgylchedd/ /cy/newyddion/noson-tan-gwyllt-meddyliwch-am-yr-amgylchedd/ Fri, 03 Nov 2023 11:26:57 GMT Andy Hale
Cymorth Costau Byw yn helpu preswylwyr AƬ Cyngor AƬ yn parhau i roi cyngor a chymorth i breswylwyr sy’n cael trafferthion gyda Chostau Byw

Bu grŵp gorchwyl yn cydweithio am dros flwyddyn i sicrhau dull gweithredu cydlynus gyda’n partneriaid i gefnogi pobl, gyda ffocws ar y pum prif faes: Tai; Bwyd; Tanwydd; Cymorth Ariannol a Chymorth Cyffredinol.

Mae hyn wedi cynnwys:

  • Cynhyrchu llyfryn gwybodaeth cynhwysfawr a thudalen gwefan yn llawn gwybodaeth am gynlluniau cymorth oedd ar gael a sut i gael mynediad iddynt. Cafodd hyn ei ddiweddaru’n rheolaidd i cynnig y cyngor diweddaraf.
  • Gweithio i weinyddu cynlluniau cymorth Llywodraeth Cymru yn lleol, tebyg i Gynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf a’r Cynllun Costau Byw. Mae’r Cyngor hefyd wedi defnyddio cyllid dewisol i’w gynnig i gartrefi taliad i gartrefi hyd at fand H y Dreth Gyngor a thaliad ychwanegol i gartrefi sy’n derbyn prydau ysgol am ddim.
  • Pleidleisio i ddefnyddio cyllid dewisol Llywodraeth Cymru i wneud cyfraniadau sylweddol i Fanc Bwyd AƬ (£30,000), Cyngor ar Bopeth (£50,000) a grwpiau eraill sy’n dosbarthu bwyd yn lleol (£70,000)
  • Gwneud taliadau i rieni heb berthynas uniongyrchol gyda chyflenwr ynni
  • Helpu i drefnu a dosbarthu cyllid i Ganolfannau Cynnes
  • Cyhoeddi talebau banc tanwydd drwy’r Hybiau Cymunedol
  • Trefnu digwyddiad lle bu nifer dda yn bresennol gydag amrywiaeth o gyngor a chymorth ar gael i breswylwyr.

Mae’r Cyngor wrthi’n diweddaru ei wefan gyda’r wybodaeth ddiweddaraf ar ba gymorth sydd ar gael. Caiff hyn hefyd ei hysbysebu ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd y Cynghorydd Steve Thomas, Arweinydd Cyngor AƬ:

“Mae llawer o deuluoedd ym Mlaenau Gwent yn parhau i deimlo effeithiau costau llawer uwch ar gyfer tanwydd, nwyddau cartref a biliau eraill, yn arbennig ymysg ein teuluoedd mwyaf bregus. Mae gwneud yr hyn a fedrwn i gefnogi pobl yn un o’n prif flaenoriaethau. Mae ein gwefan yn cynnwys llawer o wybodaeth am y math o gymorth sy’n parhau i fod ar gael i bobl ac mae ein Hybiau Cymunedol yno bob amser ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno siarad wyneb yn wyneb gyda rhywun am yr anawsterau maent yn eu hwynebu.

“Hoffwn ddatgan fy niolch i bawb sy’n parhau i weithio gyda’n cymunedau i roi help a chymorth yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

]]>
/cy/newyddion/cymorth-costau-byw-yn-helpu-preswylwyr-blaenau-gwent/ /cy/newyddion/cymorth-costau-byw-yn-helpu-preswylwyr-blaenau-gwent/ Thu, 04 Jan 2024 10:01:07 GMT Andy Hale
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn cynnal archwiliad sicrwydd o wasanaethau ar gyfer oedolion gyda anableddau dysgu yn eich ardal.

Pwrpas yr archwiliad hwn yw adolygu pa mor dda y mae’r awdurdod lleol yn arfer ei ddyletswyddau a’i swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn unol â deddfwriaeth.

Rydym eisiau clywed am eich profiad o ofyn am a/neu dderbyn gwybodaeth, cyngor a chymorth a byddwn yn ceisio deall pa wahaniaeth y mae derbyn gwasanaethau wedi ei wneud i chi a/neu eich teulu.

Nid yw'r arolygwyr yn cadw llygad arnoch chi na'ch teulu, ac nid oes rhaid i chi rannu unrhyw wybodaeth bersonol â ni. Os byddwch am aros yn ddienw byddwn yn gwneud yn siŵr na fyddwn yn eich adnabod. Fodd bynnag, os byddwch yn rhoi gwybod i ni am rywun sy'n cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, mae dyletswydd gennym i rannu'r wybodaeth ag eraill er mwyn atal niwed pellach.

Ar ddiwedd yr archwiliad sicrwydd, byddwn yn rhannu ein canfyddiadau â'r awdurdod lleol a’r bwrdd iechyd lleol. Byddwn yn nodi cryfderau ac unrhyw feysydd i'w gwella.

Mae eich barn yn bwysig i ni, a gobeithiwn y byddwch yn cytuno i siarad â ni. Gallai hyn fod trwy sgwrs ffôn neu alwad fideo. Efallai y byddwch hefyd am gwblhau arolwg byr. Os ydych yn hapus i wneud hynny, cliciwch ar y ddolen briodol.

Bydd cyfrinachedd yn cael ei barchu oni bai bod cadw gwybodaeth yn ôl yn peryglu diogelwch person. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio eich manylion personol, gweler ein Hysbysiad Preifatrwydd yn

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon pellach, mae croeso i chi fy ffonio ar 0300 790 0126 neu anfonwch e-bost ataf yn AGC.AwdurdodLleol@llyw.cymru

]]>
/cy/newyddion/mae-arolygiaeth-gofal-cymru/ /cy/newyddion/mae-arolygiaeth-gofal-cymru/ Thu, 07 Mar 2024 13:42:11 GMT Andy Hale
Ysgol Gynradd Deighton yn dathlu adroddiad arolwg rhagorol Mae Ysgol Gynradd Deighton a Chyngor AƬ wedi croesawu adroddiad cadarnhaol iawn gan Estyn sydd yn canmol yr ysgol am fod yn amgylchedd ysgogol, diddorol a chefnogol ar gyfer pob disgybl.

Mae’r adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dilyn arolwg o’r ysgol yn Nhredegar ym mis Rhagfyr 2023.

Mae’n dweud fod arweinwyr ysgol, staff a llywodraethwyr Ysgol Gynradd Deighton wedi gweithio’n effeithlon fel cymuned i ddatblygu ysgol gynhwysol gyda ffocws ar godi uchelgais pob disgybl a’u datblygu fel dysgwyr cydnerth, gydol oes. Mae’r berthynas rhwng disgyblion ac oedolion yn gryf ac mae partneriaeth yr ysgol gyda’r ysgol yn rhagorol. Mae cefnogaeth effeithiol ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, a’r rhai sydd yn agored i niwed. Mae disgyblion yn gwerthfawrogi’r gofal a chymorth ansawdd uchel pan maent yn profi anawsterau cymdeithasol ac emosiynol.

Mae staff yn darparu ystod eang o brofiadau dysgu dilys ac yn ennyn diddordeb disgyblion drwy roi cyfleoedd iddynt a ystyriwyd yn ofalus i ddylanwadu ar yr hyn maent yn ei ddysgu.

Dywedodd Mr Huw Waythe, Pennaeth yr ysgol:

“Rwy’n falch tu hwnt o’r adroddiad hwn. Mae holl gymuned yr ysgol wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau fod ein disgyblion yn derbyn y dechrau gorau posibl mewn bywyd. Rwyf wrth fy modd fod yr adroddiad yn cydnabod ein staff a Llywodraethwyr ymroddedig a’u gwaith i ddarparu amrywiaeth o brofiadau i’n dysgwyr na fedrent efallai eu cael fel arall.”

Dywedodd y Cyng Haydn Trollope, Cadeirydd Llywodraethwyr yr ysgol:

“Rydym mor falch o’n hysgol. Dim ond pan fo pawb yn cydweithio y gellir cael y canlyniad hwn; mae’r staff i lawr o’r pennaeth i’r gofalwr yn gweithio fel un ac yn cael eu gwir werthfawrogi. Y nod yw rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant, a rydym i gyd yn gweithio’n galed i gyflawni hyn. Rwy’n falch i fod yn rhan o gymuned Deighton.”

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet Pobl ac Addysg y Cyngor:

“Dylai Ysgol Gynradd Deighton a chymuned yr ysgol gyfan fod yn falch tu hwnt o’r adroddiad gwych hwn gan Estyn. Rydyn ni ym Mlaenau Gwent yn ymroddedig i weithio gyda’n hysgolion ac ystod o bartneriaid ar ein gweledigaeth i rymuso ein dysgwyr i fod yn ddysgwyr uchelgeisiol, moesegol wybodus, gydol oes. Rydym eisiau i’n hysgolion gynnwys pawb a chynyddu llesiant plant a phobl ifanc i’r eithaf ac mae Ysgol Gynradd Deighton yn enghraifft wych o hyn – da iawn bawb!”

]]>
/cy/newyddion/ysgol-gynradd-deighton-yn-dathlu-adroddiad-arolwg-rhagorol/ /cy/newyddion/ysgol-gynradd-deighton-yn-dathlu-adroddiad-arolwg-rhagorol/ Wed, 13 Mar 2024 10:46:26 GMT Andy Hale
Prentis-Beiriannydd Anelu’n Uchel CBS AƬ yn cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru Mae Jacob Marshall, sydd ar hyn o bryd yn Brentis-Beiriannydd yn Anelu’n Uchel Cyngor Bwrdeistref Sirol AƬ, wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 yn y categori 'Talent Yfory'.

Wedi creu argraff ar ei gyflogwr a'i asesydd gyda'i sgiliau a'i safon uchel o waith, mae gan Jacob, 20 o Bontypridd, ddyfodol disglair mewn peirianneg fecanyddol. Mae’n cael ei gyflogi gan Combined Engineering Services (CES) ar hyn o bryd, cwmni peirianneg a dylunio ym Mrynmawr mewn partneriaeth ag Anelu’n Uchel AƬ.

Dywedodd Jacob:

"Rydw i mor falch o gyrraedd rowndiau terfynol y wobr hon, mae'n teimlo bod fy holl waith caled ac ymroddiad wedi cael eu cydnabod ac mae hynny'n golygu llawer i mi. Roeddwn yn falch iawn gydag ymateb fy nheulu gan fod y digwyddiad yn cael ei gynnal mewn lleoliad mawreddog ac rwy'n edrych ymlaen at ei brofi gyda fy nheulu wrth fy ochr. Rwy'n teimlo fy mod wedi dod o hyd i'm gwir alwedigaeth ac rwy'n edrych ymlaen at yrfa hir a llwyddiannus fel Peiriannydd. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi fy nghefnogi drwy fy nhaith gydag Anelu’n Uchel Cyngor Bwrdeistref Sirol AƬ a’r Gwasanaethau Peirianneg Cyfunol".

Cynhelir y seremoni wobrwyo yng Ngwesty'r Celtic Manor ddydd Gwener 22 Mawrth 2024 ac mae'n cydnabod llwyddiant unigolion, cyflogwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith ar draws 9 categori gwahanol.

Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop ac yn gwobrwyo unigolion, darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at Raglenni Cyflogadwyedd a Phrentisiaethau Llywodraeth Cymru ledled Cymru.

Sefydlwyd Anelu’n Uchel yn 2015 ac mae'r Tîm yn arbenigo mewn darparu prentisiaid i fusnesau gweithgynhyrchu a pheirianneg De-ddwyrain Cymru. Hyd yma, mae ganddynt record drawiadol o 100% o brentisiaid yn cael eu cyflogi drwy'r rhaglen ar ôl cwblhau eu prentisiaeth. Mae’r tîm Anelu’n Uchel eisoes wedi cael eu cydnabod am eu hymroddiad rhagorol a'u record gyda phrentisiaethau yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2019 a 2021 lle enillon nhw yn y categori Cyflogwr Mawr y Flwyddyn.

Os ydych chi'n fusnes gweithgynhyrchu a pheirianneg yn Ne-Ddwyrain Cymru, yn ardal AƬ neu Ferthyr, ac yn ystyried cyflogi prentis, cysylltwch ag Anelu’n Uchel ar 01495 355508 neu e-bostiwch: sap@blaenau-gwent.gov.uk

Y Prentis-Beiriannydd, Jacob Marshall, yn y cwmni dylunio a pheirianneg Combined Engineering Services ym Mrynmawr.
]]>
/cy/newyddion/prentis-beiriannydd-anelu-n-uchel-cbs-blaenau-gwent-yn-cyrraedd-rownd-derfynol-gwobrau-prentisiaethau-cymru/ /cy/newyddion/prentis-beiriannydd-anelu-n-uchel-cbs-blaenau-gwent-yn-cyrraedd-rownd-derfynol-gwobrau-prentisiaethau-cymru/ Fri, 22 Mar 2024 08:59:25 GMT Andy Hale
Teuluoedd Dechrau Deg yn dysgu Cymraeg yng Nhwm. Mae grŵp o rieni o Gwm, sy'n defnyddio cyfleusterau'r Dechrau Deg, wedi penderfynu dysgu Cymraeg i gefnogi addysg ddwyieithog eu plant. Byddant yn mynychu cwrs tair wythnos a ddarparwyd gan Ddysgu Cymraeg sydd yn dechrau ar y 6ed o Fehefin.

Bydd y cwrs yn cyflwyno'r dysgwyr i sgiliau sylfaenol y Gymraeg, megis cyfarch, cyflwyniadau, rhifau, lliwiau, ac ymadroddion teuluol bob dydd. Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i roi sylfaen iddynt i ddysgu'n well a'u helpu i gyfathrebu â'u plant yn y Gymraeg. Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim ac yn agored i bob teulu yn yr ardal.

Mynegodd y rhieni eu diddordeb i ddysgu Cymraeg ar ôl gweld post ar y cyfryngau cymdeithasol gan Ddechrau Deg, sy'n cynnig ystod o wasanaethau i deuluoedd â phlant dan bedair oed, megis gofal plant, ymweliadau iechyd, cymorth i rieni a datblygiad iaith gynnar. Mae gan lawer o'r rhieni blant sy'n mynychu ysgolion neu feithrinfeydd cyfrwng Cymraeg, ac maent am ymuno â nhw yn eu taith ddwyieithog.

‘Mae hyn yn syniad hyfryd, mae’n neis gweld mwy o ddiddordeb gan bobol, yn yr iaith Cymraeg’

‘Dwi â diddordeb mawr mynychu’r cwrs. Mae fy mhlentyn yn 4 ac yn cywiro fi pam byddwn yn trio siarad Cymraeg’

Dywedodd dau riant

Darparwyd y cwrs gan Ddysgu Cymraeg Cymru, sef y darparwr cenedlaethol o gyrsiau Cymraeg ar gyfer oedolion yng Nghymru. Maent yn cynnig cyrsiau ar bob lefel, o ddechreuwyr i uwch, mewn gwahanol leoliadau a fformatau. Maent hefyd yn darparu adnoddau a gweithgareddau ar-lein i gefnogi cynnydd dysgwyr.

Mae Cyngor AƬ yn falch iawn bod y teuluoedd yn cael eu cefnogi i ddysgu Cymraeg. Nid yw byth yn rhy hwyr i ddechrau dysgu iaith newydd, a gall ddod â llawer o fuddion, megis gwella eich hyder, eich iechyd meddwl a'ch rhagolygon gyrfa. Gall dysgu Cymraeg hefyd gryfhau'ch cysylltiad â'ch plant a'ch cymuned.

Am fwy o wybodaeth am y cwrs, ewch i

Am fwy o wybodaeth am Ddechrau Deg, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd AƬ: 08000 32 33 39.

]]>
/cy/newyddion/teuluoedd-dechrau-deg-yn-dysgu-cymraeg-yng-nhwm/ /cy/newyddion/teuluoedd-dechrau-deg-yn-dysgu-cymraeg-yng-nhwm/ Tue, 26 Mar 2024 09:43:03 GMT Andy Hale
Cyngor yn cwblhau erlyniad llwyddiannus Cafodd Jessica Chilton, 29 oed o Frynithel, ei dedfrydu yn Llys Ynadon Casnewydd ar 22/03/24 ar ôl pledio'n euog ar 14/03/24 yn Llys Ynadon Cwmbrân i 7 trosedd o dan adran 92 Deddf Nodau Masnach 1994 yn ymwneud â gwerthu a hysbysebu nwyddau ffug.

Esboniodd yr erlynydd Hayley Hawkins wrth y Llys fod Gwasanaeth Safonau Masnach CBS AƬ wedi ymchwilio i Chilton wedi i gŵyn gael ei derbyn ym mis Hydref 2022 yn honni ei bod yn gwerthu nwyddau ffug o'i thŷ a thrwy Facebook. Cadarnhaodd ymchwiliadau safonau masnach ei bod yn hysbysebu ac yn gwerthu amrywiaeth eang o nwyddau ffug trwy ei thudalen Facebook breifat a hefyd grŵp Facebook preifat o'r enw Affordable Brands 2. Roedd y nwyddau a hysbysebwyd yn cynnwys eitemau trydanol fel lampau a sythwyr gwallt yn ogystal â gemwaith, dillad a chlustffonau.

Dywedwyd wrth y Llys fod Chilton yn hysbysebu nwyddau ffug er iddi dderbyn ymweliad rhybuddio gan Safonau Masnach flwyddyn ynghynt pan ddaeth cwyn debyg i law, ac eglurwyd iddi, pe bai'n parhau i werthu, y byddai’n debygol o arwain at erlyniad.

Gweithredwyd gwarant ar 03/11/22 yng nghyfeiriad cartref Chilton lle cafwyd hyd i feintiau sylweddol o ddillad, esgidiau a bagiau llaw ffug yn barod i'w gwerthu i gwsmeriaid. Roedd y brandiau a atafaelwyd yn cynnwys treinyrs Nike, adidas a Balenciaga, crysau-t Under Armour a North Face, a bagiau llaw Gucci a Chanel.

Cafodd Ms Chilton ei chynrychioli gan Joe Davies o Driscoll Young Solicitors a honnodd fod Chilton wedi gweld cyfle ar Facebook fel ffordd o wneud arian, cynllun cyflym i helpu i gadw to uwch ei phen. Derbyniodd fod ffyrdd cyfreithlon eraill o ennill incwm ond nid oedd yn deall yn iawn y canlyniadau o werthu'r nwyddau hyn ar-lein.

Wrth ddedfrydu, dywedodd yr Ynadon fod gwerthu eitemau ffug yn cael ei gymryd o ddifrif pan wneir hynny er budd personol gan fod angen amddiffyn y cyhoedd a gweithgynhyrchwyr fel ei gilydd. Roeddent yn credu bod gan Ms Chilton rôl bwysig i'w chwarae wrth ddosbarthu eitemau a gweinyddu tudalen cyfryngau cymdeithasol Affordable Brands 2 er gwaethaf rhybudd gan y Cyngor 12 mis cyn hynny. Roedd difrifoldeb y troseddau’n bodloni’r trothwy ar gyfer carchar ond oherwydd cymeriad da blaenorol Ms Morgan a phle euog cynnar, byddai Ms Chilton yn destun gorchymyn cymunedol 12 mis o 160 awr o waith di-dâl. Cafodd orchymyn hefyd i dalu gordal dioddefwr o £114 a £3000 tuag at gostau’r ymchwiliad.

Mae gwerthu nwyddau ffug trwy wefannau fel Facebook yn creu cystadleuaeth annheg i fusnesau dilys ac yn achosi difrod i fusnesau deiliaid brandiau, gan arwain at golli swyddi yn y diwydiant. Gall llawer o nwyddau ffug fel persawr, gemwaith, eitemau trydan a theganau beri risg diogelwch i'r cyhoedd gan nad ydynt wedi cael y gwiriadau diogelwch manwl y mae cynhyrchion dilys yn destun iddynt yn ystod y broses weithgynhyrchu. Mae ymchwiliadau Safonau Masnach yn amddiffyn busnesau cyhoeddus a chyfreithlon trwy sicrhau bod y cynhyrchion ffug yn cael eu tynnu oddi ar safleoedd siopa a bod y gwerthwyr yn cael eu cosbi’n briodol.

]]>
/cy/newyddion/cyngor-yn-cwblhau-erlyniad-llwyddiannus/ /cy/newyddion/cyngor-yn-cwblhau-erlyniad-llwyddiannus/ Tue, 26 Mar 2024 10:03:41 GMT Andy Hale
Cyflogi plant – beth mae cyflogwr yn gyfrifol amdano? Mae’n Fis Ymwybyddiaeth Cyflogi Plant, ac mae Cyngor AƬ yn atgoffa busnesau sy’n cyflogi plant rhwng 13 a 16 oed eu bod angen trwyddedau i gydymffurfio gyda chyfraith cyflogaeth.

Mae Deddf Plant 1933 ac is-gyfreithiau awdurdodau lleol yn llywodraethu cyflogi plant oedran ysgol i sicrhau y caiff gweithwyr ifanc eu diogelu, eu trin yn deg a’u bod yn gwybod am eu hawliau.

Mae awdurdodau lleol ar draws Prydain yn ystod mis Ebrill bob blwyddyn yn rhoi sylw i’r gyfraith yng nghyswllt plant o oedran ysgol gorfodol sy’n gweithio’n rhan-amser drwy: ddosbarthu posteri a thaflenni mewn llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol a chanolfannau siopa; cyflwyniadau ac adnoddau ar gyfer ysgolion a mudiadau yn ogystal â chysylltu â chyflogwyr.

Yn ystod un Mis Cyflogi Plant ymwelwyd â 1394 o gyflogwyr ac allan o 1092 o blant y cawsant eu canfod yn gweithio, roedd 541 ohonynt yn cael eu cyflogi yn anghyfreithlon, yn bennaf heb y drwydded cyflogi (gwaith) angenrheidiol. Nid oedd y rhan fwyaf o gyflogwyr yn gwybod am y ddeddfwriaeth am gyflogi plant oedran ysgol a’r gofyniad cyfreithiol i gael trwydded.

Beth mae’r gyfraith yn ei ddweud?

Mae’r gyfraith yn caniatáu i berson ifanc gael eu cyflogi o 14 oed, ond gall awdurdodau lleol ganiatáu cyflogi person ifanc o 13 oed. Mae’r gyfraith yn nodi’r oriau a ganiateir, y mathau o gyflogaeth a’i gwneud yn hanfodol i gyflogwyr gael trwydded ar gyfer gweithwyr oedran ysgol. Mae’n cynnwys hawliau’r gweithiwr a chyfrifoldebau y cyflogwr. Mae cyflogwyr syn torri’r ddeddfwriaeth hon yn rhoi diogelwch pobl ifanc mewn risg a gallant wynebu dirwyon hyd at £1,000.

Mae’n ffaith drist fod yr 541 hynny (tua 38%) yn fwy tebygol, heb gael eu cynnwys o fewn unrhyw fath o yswiriant, pa bynnag bolisïau sydd gan y cyflogwr mewn grym.

Dywedodd y Gymdeithas Yswirwyr Prydain, lle mae cyflogwr yn torri cyfraith neu reoliad, byddai unrhyw ddigwyddiad fel arfer yn gwneud y polisi yswiriant yn annilys. Mae’n rhaid i gyflogwyr sicrhau eu bod wedi cyflawni’r holl ymrwymiadau cyfreithiol a hefyd yn gwybod am unrhyw risgiau ac unrhyw weithdrefnau diogelwch eraill angenrheidiol cyn y cyflogant blentyn.

Felly byddai torri unrhyw gyfraith statud neu reoleiddiad yn ymwneud â chyflogi plant oedran ysgol (ac mae dros 200 o gyfreithiau neu reoliadau o’r fath) yn gwneud y polisïau yswiriant a all fod gan y cyflogwr yn annilys.

  • Cafodd un disgybl oedran ysgol ei losgi’n ddifrifol iawn pan oedd yn gweithio mewn cegin. Roedd yn cael ei gyflogi’n anghyfreithlon ac nid oedd ganddo drwydded. Nid oedd yn dod o fewn yswiriant y cyflogwr ac felly ni chafodd unrhyw iawndal am ei anafiadau. Torrwyd nerfau a gewynnau llaw bachgen arall pan lithrodd a syrthio pan oedd yn dosbarthu llaeth. Roedd hefyd yn cael ei gyflogi’n anghyfreithlon a heb drwydded.

Anafiadau yn y gweithle:

Mae nifer y plant a’r bobl ifanc a gaiff eu hanafu bob blwyddyn yn y gweithle yn mynd heb ei adrodd i raddau helaeth, yn arbennig os cânt eu hanafu tra cânt eu cyflogi’n anghyfreithlon. Mewn blynyddoedd diweddar bu achosion o fachgen 15 oed yn colli bysedd ei law mewn peiriant gwneud selsig, collodd merch 14 oed flaenau ei bysedd mewn tafellwr llysiau, lladdwyd bachgen 13 oed pan oedd yn gwneud ei rownd bapurau a cafodd llaw bachgen 10 oed ei dal mewn gwasg argraffu ddiwydiannol.

Oriau Gwaith:

Canfuwyd fod plant 15 a 16 oed yn gweithio tan 2am a 3pm (yn casglu gwydrau mewn clwb nos ac yn gweithio mewn cadwyn bwyd cyflym). Gwelwyd fod llawer o blant yn dechrau gwaith rhwng 5.30am a 6.30am (yn dosbarthu papurau newydd). Bydd gweithio ar yr adegau hyn yn effeithio ar addysg y plentyn ac mae’n anghyfreithon.

Beth yw’r swyddi poblogaidd?

Yn ôl ymchwil, “rownd bapur yw’r swydd fwyaf poblogaidd ar gyfer bron hanner y plant (43%), a dilynir hynny gan weithio mewn siop (18%)”. Swyddi poblogaidd eraill yw: gweini ar fyrddau a/neu olchi llestri mewn caffes a bwytai; gweithio mewn salonau trin gwallt.

Pa fathau o swyddi na all plant eu wneud?

Gweithio mewn cegin, mewn garej, ar safle adeiladu, mewn ffatri, mewn gwerthiant ffôn a gwerthu alcohol heb oruchwyliaeth.

Mae tua 200 o ddeddfau a rheoliadau ar gyflogi plant.

Mae rhai ohonynt bron yn 100 oed. Gellir erlyn a dirwyo cyflogwyr sy’n torri’r rheoliadau.

]]>
/cy/newyddion/cyflogi-plant-beth-mae-cyflogwr-yn-gyfrifol-amdano/ /cy/newyddion/cyflogi-plant-beth-mae-cyflogwr-yn-gyfrifol-amdano/ Thu, 04 Apr 2024 12:11:33 GMT Andy Hale
Murlun Graffiti Pobl Ifanc i Fynd i’r Afael ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ym Mlaenau Gwent Fel rhan o dasglu newydd a sefydlwyd i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, mae Gwasanaeth Ieuenctid AƬ wedi cynnal prosiect ar gyfer pedwar o bobl ifanc i greu murlun gwaith celf graffiti yn y maes parcio aml-lawr newydd ar hen safle’r gwaith dur yng Nglynebwy. Nod y prosiect hwn yw lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal ac atal fandaliaeth, gan anelu at roi parch newydd i bobl ifanc at eu cymuned.

Gwyliwch

Credyd: BH Productions, Alexander Gold

Dros nifer o sesiynau, bu pedwar person ifanc sy’n gweithio ar hyn o bryd gyda staff y gwasanaeth ieuenctid yng Nghymuned Ddysgu Ebwy Fawr yn gyfrifol am benderfynu a chreu cysyniad ar gyfer darn o waith celf graffiti i’w gynnwys ar wal yn y maes parcio cyfagos. Gan gymryd ysbrydoliaeth o safle’r hen waith dur, penderfynodd y bobl ifanc ar thema hanes lleol a chymuned, gan gynnwys yr hen felin ddur integredig, mwyngloddio, rygbi, a mwy. Trosglwyddwyd syniadau ac ysbrydoliaeth i artist lleol, Anthony Smith, i’w gynorthwyo wrth ddylunio a chreu’r gwaith.

Dros gyfnod o ddau ddiwrnod, gweithiodd y bobl ifanc yn galed i adeiladu eu murlun, gan ddefnyddio stensiliau, paent chwistrell, a thechnegau llaw rydd.

Credyd: Alexander Gold

Dywedodd y bobl ifanc eu bod yn teimlo bod y prosiect wedi bod o fudd iddynt mewn amrywiol ffyrdd:

“Mae’r prosiect hwn wedi fy helpu i reoli fy dicter; dydw i ddim yn mynd i drwbl cymaint y tu allan i’r ysgol ac rydw i wedi dysgu sgìl newydd.”

“Mae wedi fy helpu i wella fy hyder.”

“Rwyf wedi mwynhau helpu’r gymuned ac roedd yn llawer o hwyl i’w wneud.”

Hoffem ddiolch yn bersonol i’r bobl ifanc am eu hamser a’u hymdrech wrth greu’r murlun, ynghyd â staff y gwasanaeth ieuenctid, Josh Bowen a Lauren Dobbs, am eu cefnogaeth a’u hymroddiad i’r prosiect. Wrth symud ymlaen, nod Gwasanaeth Ieuenctid AƬ yw rhedeg yr un prosiect ar draws sawl ardal yn y fwrdeistref, gan annog pobl ifanc i gymryd balchder a chyfrifoldeb yn eu cymuned.


Credyd: Alexander Gold

Mae Gwasanaeth Ieuenctid AƬ yn rhan o dasglu newydd rhwng Cyngor AƬ, Heddlu Gwent, a Chartrefi Cymunedol Tai Calon. Mae’r tasglu’n gweithio ar y cyd, gan gymryd y camau tuag at leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein cymunedau.

Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn unrhyw ymddygiad sy’n achosi neu’n debygol o achosi aflonyddwch, braw neu drallod i un neu fwy o bobl. Gall gynnwys niwsans sŵn, fandaliaeth, sbwriel, tipio anghyfreithlon, delio cyffuriau, brawychu, aflonyddu a throseddau casineb. Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol effeithio ar ansawdd bywyd unigolion a chymunedau a chreu ymdeimlad o ofn ac ansicrwydd.

]]>
/cy/newyddion/murlun-graffiti-pobl-ifanc-i-fynd-i-r-afael-ag-ymddygiad-gwrthgymdeithasol-ym-mlaenau-gwent/ /cy/newyddion/murlun-graffiti-pobl-ifanc-i-fynd-i-r-afael-ag-ymddygiad-gwrthgymdeithasol-ym-mlaenau-gwent/ Fri, 12 Apr 2024 08:54:12 GMT Andy Hale
Ysgol Gynradd Willowtown phrosiect ‘Big Bocs Bwyd’. Nod Ysgol Gynradd Willowtown oedd cefnogi teuluoedd a thrigolion y gymuned trwy ei phrosiect ‘Big Bocs Bwyd’.

Mae BBB yn gynhwysydd a ddefnyddir i gludo nwyddau ar long ac mae wedi cael ei drawsnewid yn Siop Gymunedol fach a chroesawgar. Staff yr ysgol, cenhadon ifainc sy’n ddisgyblion yn yr ysgol a rhieni a gofalwyr sy’n gwirfoddoli, sy’n rhedeg y siop.

Mae’r BBB ar agor ddwywaith yr wythnos ac mae’n gweithredu ar fodel ‘Talwch Beth Fynnwch Chi’ sy’n golygu bod cwsmeriaid yn talu faint allan nhw ei fforddio a bod y prosiect hefyd yn lleihau rhagfarn ac yn cefnogi cynaliadwyedd.

Prif nodau’r ysgol oedd:
• Lleihau Tlodi Bwyd
• Cadw Gwastraff Bwyd i Leiafswm
• Cefnogi teuluoedd a’r gymuned ehangach
• Creu ryseitiau iach a maethlon sy’n ysbrydoli teuluoedd i goginio ac i fwynhau gyda’i gilydd
• Hyrwyddo cynhwysiant ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol ac ysbrydoli cyfranogiad.

Llwyddodd Ysgol Gynradd Willowtown i gael cyllid trwy grant Cydlyniant Cymunedol sydd wedi cefnogi’r prosiect BBB i dyfu ac i ffynnu. Gyda chymorth y nawdd hwn, mae’r ysgol wedi cael effaith ar deuluoedd mewn mwy nag un ffordd, trwy ddarparu bwyd maethlon i’w brynu, cardiau rysáit a gweithdai coginio a oedd hefyd yn cynnwys bag o fwyd i deuluoedd fynd adref ag ef er mwyn iddynt deimlo’n hyderus ac yn gyffyrddus yn coginio’r rysáit gartref.

Fe fu rhieni’n gwirfoddoli i gyflwyno’r gweithdai coginio ac mae’r rhieni hyn wedi cwblhau Tystysgrif Hylendid Bwyd Lefel 2. Cefnogwyd hyn hefyd trwy’r grant a’r ysgol. Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar eu sgiliau gwaith ar gyfer y dyfodol ac wedi lleihau’r rhwystrau sy’n atal rhieni rhag trafod dewisiadau iachach ar gyfer prydau bwyd.

Mae mam-gus a thad-cus llawer o ddisgyblion hefyd wedi cael cefnogaeth gan y prosiect trwy fynd i siopa mewn archfarchnad leol bob wythnos gyda staff. Yn sgil hyn mae’r ysgol wedi gallu adnabod patrymau siopa a chynnig opsiynau iachach eraill sy’n gost-effeithiol.

Mae’r ysgol yn falch o’i hamrywiaeth a thrwy’r prosiect hwn mae wedi gallu rhannu a chynnig amrywiaeth o opsiynau bwyd ar wahân i brydau Prydeinig.

Meddai Rebecca Hughes, Swyddog Ymgysylltiad Teuluol a Dysgu, ‘Rwy’n teimlo bod y prosiect wedi cael ei sefydlu’n gadarn yn ein Cymuned leol a’i fod yn parhau i adeiladu ar yr hyn sydd wedi cael ei sefydlu’n barod, ac wedi gosod targedau ar gyfer y dyfodol a’u cyflawni. Mae wedi bod yn gymorth i chwalu rhwystrau a rhagfarn ac wedi annog cynhwysiant, amrywiaeth ac empathi yng Nghymuned yr Ysgol. Mae hefyd wedi cynnig cymorth hanfodol wrth ymgysylltu â rhieni ac aelodau o deuluoedd ac wedi fy ngalluogi i ddangos y ffordd at adnoddau cymunedol eraill sy’n rhad ac am ddim ac i weithio’n fwy mewn partneriaeth’.

Erbyn hyn mae’r prosiect wedi ehangu i greu rhandir ar gyfer yr ysgol ac mae gwirfoddolwr, Mr Kettle, wedi dechrau clirio lle ac adeiladu gwelyau uchel ac wedi gweithio gyda Grŵp Senedd Eco’r ysgol i ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfer Gwanwyn 2024.

]]>
/cy/newyddion/ysgol-gynradd-willowtown-phrosiect-big-bocs-bwyd/ /cy/newyddion/ysgol-gynradd-willowtown-phrosiect-big-bocs-bwyd/ Fri, 12 Apr 2024 10:12:15 GMT Andy Hale
Dysgwr Cymraeg lleol yn gwneud gwahaniaeth Mae Sarah Merton, cynorthwyydd yn llyfrgell Abertillery, wedi bod yn gweithio'n galed i annog y Gymraeg ym Mlaenau Gwent. Siaradwyd â Sarah a gofynnwyd iddi rannu ei hanes o ddysgu iaith newydd.

Ar ôl gweld pwysigrwydd iaith a diwylliant yn Ffrainc yn ystod ei thaith yn gwylio’r Ewros yn 2016, penderfynodd Sarah ddysgu Cymraeg. Ymunodd â cynllun yn 2017.

Ar ôl gorffen pob lefel cwrs o Ddysgu Cymraeg, derbyniodd Sarah wobr Dysgwr Newydd y Flwyddyn gan y llynedd. “ Roedd fy nhiwtor yn anhygoel ac wedi fy helpu'n fawr” . Nawr mae Sarah hefyd yn gweithio fel tiwtor i'r Dysgu Cymraeg ac yn gweithio’r ddwy swydd rhan-amser.

Dechreuodd Sarah grŵp ar gyfer dysgwyr Cymraeg yn yr ardal yn llyfrgell Abertillery flwyddyn yn ôl. Mae'n rhedeg bob dydd Mercher rhwng 2 a 3.30yp ac mae'n croesawu pob lefel o Gymraeg.

Mae Sarah yn disgrifio'r grŵp fel, "yn anffurfiol iawn ac yn hamddenol, rydym yn cael paned ac yn sgwrsio, mae'n bleser cefnogi dysgwyr a'u helpu i adeiladu hyder, roedd Abertillery yn gymuned sy'n siarad Cymraeg felly bob wythnos rydym yn anelu at gydweithio i adennill ein mamiaith".

Mae Sarah yn mynd ymlaen i ddweud eu bod am drefnu bws i fynd i'r ym Mhontypridd eleni a hefyd sefydlu mwy o ddigwyddiadau yn yr ardal. Mae'r grŵp hefyd yn parhau i helpu aelodau newydd sy'n gwneud yr arholiadau Dysgu Cymraeg ym mis Mehefin.

Dywedodd Bethan Lawrence, Cynorthwyydd Llyfrgell Ymchwil, Llyfrgelloedd AƬ: "Pan oeddwn i yn yr ysgol, roedd y Gymraeg yn un o'r pynciau eraill i'w gymryd ac nid oeddwn yn awyddus i ddysgu'r iaith, er fy mod yn falch o fod yn Gymreig a'm treftadaeth. Dim ond pan oeddwn yn fy 30au fy hun y darganfyddai fod gen i gysylltiadau cryf â'm hynafiaid Cymraeg, a dechreuais weithio ar wella fy sgiliau Cymraeg a dysgu, yn gobeithio parchu fy mhreiddiau. Mae hyn yn rhywbeth rydw i wedi bod yn angerddol am ei gynnwys yn fy rôl i lyfrgelloedd AƬ".

Bwriad gwasanaeth llyfrgelloedd AƬ yw ceisio cynnig mwy o ddigwyddiadau a gweithgareddau sy'n canolbwyntio ar y Gymraeg. Mae ganddyn nhw eisoes grŵp Cymraeg neu "Clwb Cymraeg" ar ddydd Mercher ar safle Abertillery, ac yn yr un man yn fuan bydd (Grŵp Chwarae Cymreig) gyda phartneriaid blynyddoedd cynnar, . Bydd y grŵp hwn ar gyfer plant dan oed ysgol i chwarae, canu, creftiau a mwynhau eu hunain mewn amgylchedd hamddenol, cyfeillgar a ddiogel. Nid oes angen i chi siarad Cymraeg gan fod yr holl weithgareddau'n ddwyieithog a bydd yn helpu i symud i'r Cylch Meithrin ac i addysg Gymraeg. Mi fydd darpariaeth ysgol newydd Tredegar, sydd yn barod wedi'i leoli yn dŷ Bedwellty, mi fydd y plant yn gallu symud i Ysgol Gymraeg Tredegar newydd pan fydd yn agor yn y gwanwyn blwyddyn nesaf.

Gorffennodd Sarah trwy ddweud "Rydym wedi bod yn ehangu ein llyfrau Cymraeg ar gyfer plant ac oedolion, sy'n cynnwys y gyfres i ddysgwyr oedolion "” Wrth i fwy o bobl â diddordeb yn yr iaith Gymraeg ar draws y fwrdeistref a mwy o ysgolion Cymraeg yn cael eu sefydlu yn yr ardal, rwy'n edrych ymlaen at y dyfodol a sut gall gwasanaethau llyfrgell helpu i dyfu siaradwyr Cymraeg ym Mlaenau Gwent.

Mae grŵp arall o ddysgwyr yn yr ardal, yn cwrdd ym Marc Bryn Bach ar fore dydd Mercher rhwng 10-12yb gyda grwpiau arall ar draws y Cwm wedi eu trefnu gan a Dysgu Cymraeg.

Am fwy o wybodaeth am lyfrgelloedd Aneurin Leisure neu yr hyn sydd yn y darn yma, ym Mlaenau Gwent: Ewch i neu defnyddiwch y lincs yn y dogfen.

]]>
/cy/newyddion/dysgwr-cymraeg-lleol-yn-gwneud-gwahaniaeth/ /cy/newyddion/dysgwr-cymraeg-lleol-yn-gwneud-gwahaniaeth/ Wed, 01 May 2024 09:05:06 GMT Andy Hale
Gofalwyr maeth AƬ yn annog pobl i ‘gynnig rhywbeth’ i gefnogi pobl ifanc yr ardal. Ar gyfer Pythefnos Gofal Maeth™, mae Maethu Cymru AƬ yn galw ar bobl yn yr ardal i ystyried dod yn ofalwyr maeth i gefnogi plant a phobl ifanc leol sydd mewn angen.

 

Thema Pythefnos Gofal Maeth eleni yw "eiliadau maethu" ac mae gofalwyr maeth lleol yn gobeithio y bydd rhannu eu heiliadau maethu yn cefnogi'r achos. Drwy rannu eiliadau maethu cadarnhaol, maent yn dangos sut y gall unrhyw un helpu i greu atgofion, magu hyder a gwneud i blant deimlo'n ddiogel a bod rhywun yn eu caru.

 

Canfu ymchwil diweddar gan Maethu Cymru - y rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu awdurdodau lleol - fod pobl yn aml yn peidio gwneud cais i ddod yn ofalwr gan nad ydynt yn credu bod ganddynt y sgiliau a'r profiad 'cywir'.

 

Yn y llyfr coginio newydd – Gall pawb gynnig rhywbeth - mae Maethu Cymru yn nodi’r pethau syml y gall gofalwr eu cynnig - fel sicrwydd o bryd o fwyd rheolaidd, amser teuluol o gwmpas y bwrdd, a chreu hoff brydau newydd.

 

Mae Gall pawb gynnig rhywbeth yn cynnwys dros 20 o ryseitiau, gan gynnwys ryseitiau gan y gymuned gofal maeth a chogyddion enwog.

 

Mae enillydd MasterChef, Wynne Evans; Beirniad Young MasterChef, Poppy O'Toole; a’r cogydd/awdur Colleen Ramsey wedi cyfrannu ryseitiau. Mae'r athletwr Olympaidd a'r ymgyrchydd gofal maeth, Fatima Whitbread, a oedd ei hun mewn gofal, hefyd wedi cyfrannu. 

 

Ychwanegodd cyn-gystadleuydd Great British Bake-Off, Jon Jenkins, a'r comedïwr Kiri Pritchard Mclean ryseitiau hefyd - gan dynnu ar eu profiadau personol fel gofalwyr maeth.

 

Mae pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn rhannu profiadau go iawn.

 

I lansio'r llyfr, bydd Colleen Ramsey, awdur 'Bywyd a Bwyd’, yn cynnal gweithdy coginio i bobl ifanc â phrofiad o ofal i ddysgu rysáit newydd a sgiliau coginio hanfodol i'w defnyddio yn eu bywydau annibynnol yn y dyfodol.

Mae pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal hefyd wedi chwarae rhan fawr yn natblygiad y llyfr coginio.

Darluniwyd ac ysgrifennwyd y rhagair ar gyfer y llyfr coginio gan Sophia Warner, Cymraes o ddarlunydd, ymgyrchydd, a pherson ifanc â phrofiad o ofal:

 

"Pan oeddwn i'n iau, rwy'n cofio'n glir holi fy mam faeth am darddiad y bwyd roedd hi’n ei roi i ni, gan fynnu ei fod yn hanu o Aberhonddu, cartref annwyl fy mhlentyndod. Ysgrifennais 'Bolognese Brycheiniog' ar gyfer y llyfr coginio, yn seiliedig ar rysáit fy mam faeth.

 

"Mae gan y rysáit yma le arbennig yn fy nghalon oherwydd hwn oedd y pryd cyntaf ges i ar ôl symud i mewn i'm cartref maeth. Roeddwn i wedi sôn bod fy mam fiolegol yn arfer coginio’r pryd yma, a gwnaeth fy mam faeth, yn annwyl iawn, ei baratoi i fi. Wrth i fi eistedd o gwmpas y bwrdd gyda fy nheulu maeth newydd, roeddwn i'n teimlo ymdeimlad o berthyn a chynhesrwydd, a bod croeso mawr i fi." 

 

Mae angen mwy o deuluoedd maeth ledled Cymru. 

 

Bob mis Mai, mae Pythefnos Gofal Maeth™ - ymgyrch flynyddol y Rhwydwaith Maethu i godi proffil maethu a dangos sut mae gofal maeth yn trawsnewid bywydau – yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o'r angen am fwy o ofalwyr maeth.

 

Yng Nghymru, mae mwy na 7,000 o blant mewn gofal, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth sydd yna.

 

Mae Maethu Cymru wedi cychwyn gyda'r nod beiddgar o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth newydd erbyn 2026, i ddarparu cartrefi croesawgar i blant a phobl ifanc leol.

 

Bydd y llyfr coginio yn cael ei ddosbarthu i ofalwyr maeth ledled Cymru a gellir lawrlwytho fersiwn ddigidol o:

 

I ddysgu mwy am ddod yn ofalwr maeth ym Mlaenau Gwent, ewch i

 

]]>
/cy/newyddion/gofalwyr-maeth-blaenau-gwent-yn-annog-pobl-i-gynnig-rhywbeth-i-gefnogi-pobl-ifanc-yr-ardal/ /cy/newyddion/gofalwyr-maeth-blaenau-gwent-yn-annog-pobl-i-gynnig-rhywbeth-i-gefnogi-pobl-ifanc-yr-ardal/ Mon, 13 May 2024 08:34:03 GMT Carolyn Jenkins
Stryd yng Nglynebwy yn cael ei henwi ar ôl gweithiwr dur 'ysbrydoledig' a gollodd ei freichiau mewn damwain dros 100 mlynedd yn ôl Bydd ffordd yng Nglynebwy yn cael ei henwi'n swyddogol ar ôl gweithiwr dur a oresgynnodd adfyd a dod yn adnabyddus yn lleol ar ôl colli ei ddwy fraich mewn damwain yn y gwaith brics yn ddim ond 14 oed.

Dadorchuddiwyd arwyddion ffyrdd newydd heddiw i enwi 'Ffordd Billy Collins’ yn swyddogol, y tu cefn i’r Swyddfeydd Cyffredinol yng Nglynebwy.

Datgelwyd stori Billy gan fyfyriwr Ôl-16 yn Ysgol Pen-y-Cwm, Ciaran Mitchel-Neal, pan ddechreuodd brofiad gwaith gydag Amgueddfa Gweithfeydd Glynebwy yn y Swyddfeydd Cyffredinol. Cafodd Ciaran ei ysbrydoli gan Billy a wnaeth, er gwaethaf y ddamwain a newidiodd ei fywyd, enw iddo'i hun ar lwyfan y Neuadd Gerdd, gan berfformio gweithgareddau 'bob dydd' dan yr enw 'Billy the Armless Wonder'. Gallai Billy gau botymau ei grys gyda bysedd ei draed, chwarae’r piano gyda'i drwyn a pheintio gan ddal brwsh yn ei geg!

Roedd Billy yn benderfynol o gefnogi pobl mewn adfyd a oedd wedi dioddef anableddau tebyg i'w rai ef, a rhoddodd ei amser i ysgrifennu at a chefnogi llawer o bobl, o filwyr clwyfedig yn dychwelyd o ryfel i ddioddefwyr thalidomide. Roedd hefyd yn helpu i godi arian i elusennau.

Yn dilyn y ddamwain, parhaodd i weithio yn y gwaith dur fel Clerc. Bu farw yn 1969, yn 67 oed.

Aeth Ciaran ymlaen i wneud ffilm ac arddangosfa am Billy a'i ddymuniad oedd cael cofeb barhaol i'r dyn rhyfeddol hwn a oresgynnodd gymaint yn ei fywyd ac a aeth ymlaen i fod yn esiampl ysbrydoledig i'r gymuned leol a thu hwnt, yn enwedig y rhai sy'n wynebu adfyd.

Heddiw, cyflawnodd ei nod gydag enwi'r stryd.

Meddai Ciaran:

"Pan ddechreuais i'r prosiect hwn, doeddwn i ddim yn gwybod ei fod yn mynd i fod mor fawr â hyn, felly hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Gyngor AƬ, teulu Billy Collins a phawb a helpodd o’m hysgol a'r amgueddfa."

Dywedodd y Cyng Sue Edmunds, Aelod Cabinet Cyngor AƬ dros Bobl ac Addysg:

"Mae'n dda cofio'r bobl hynny sy'n cyflawni llawer yn wyneb adfyd. Pobl sydd â chalon garedig a hael ac ewyllys i oresgyn y rhwystrau sy'n cael eu rhoi o'u blaenau. Yn anad dim, i gefnogi'r rhai sy'n wynebu anawsterau yn eu bywyd bob dydd sy'n ymddangos fel mynyddoedd.

"Rydym yn ddiolchgar i Ciaran am fynd ar drywydd stori Billy gydag ymchwil ymroddedig a dyfalbarhad ac mae Cyngor AƬ yn falch o'i gofio trwy enwi'r ffordd hon er cof amdano. Rwy'n siŵr bod ei deulu yn ddiolchgar iawn am dy ymdrechion. Gobeithio y bydd pawb sy'n gyrru neu gerdded ar hyd y ffordd yn dysgu am ei gyflawniadau rhyfeddol ac yn cael eu hysbrydoli."

Mwy am Amgueddfa Gweithfeydd Glynebwy yma.

]]>
/cy/newyddion/stryd-yng-nglynebwy-yn-cael-ei-henwi-ar-ol-gweithiwr-dur-ysbrydoledig-a-gollodd-ei-freichiau-mewn-damwain-dros-100-mlynedd-yn-ol/ /cy/newyddion/stryd-yng-nglynebwy-yn-cael-ei-henwi-ar-ol-gweithiwr-dur-ysbrydoledig-a-gollodd-ei-freichiau-mewn-damwain-dros-100-mlynedd-yn-ol/ Wed, 15 May 2024 12:33:33 GMT Louise Bishop
Hyfforddiant ‘Dewisiadau Dewr’ a ‘Lleihau Trais’ i Ddysgwyr Ifanc ym Mlaenau Gwent

Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol effeithio ar ansawdd bywyd unigolion a chymunedau, gan greu ymdeimlad o ofn ac ansicrwydd a all arwain at droseddau mwy difrifol. Fel rhan o dasglu sydd newydd ei ffurfio sy’n ymroddedig i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, mae Gwasanaeth Ieuenctid ac Adran Addysg AƬ wedi cymryd camau rhagweithiol i addysgu a grymuso pobl ifanc yn y gymuned trwy gyflwyno hyfforddiant ymwybyddiaeth o arfau i grŵp o ddysgwyr ifanc.

Mewn partneriaeth â Media Academy Cymru, trefnwyd gweithdai ‘Dewisiadau Dewr’ ganddynt, a gyflwynwyd ar draws canolfannau ieuenctid ac ysgolion ym Mlaenau Gwent ar 16 a 17 Ebrill. Nod y gweithdai hyn oedd codi ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc am beryglon a chanlyniadau cario arfau, yn enwedig cyllyll. Roedd y sesiynau’n canolbwyntio ar yr effaith ar deuluoedd a ffrindiau ac yn helpu i godi ymwybyddiaeth am gyfreithiau perthnasol mewn perthynas ag eitemau llafnog ac arfau bygythiol.

Hefyd gwnaeth Gwasanaeth Ieuenctid ac Adran Addysg AƬ gofrestru dysgwyr ifanc ar ‘Raglen Lleihau Trais’ StreetDoctors, sy’n cyflwyno sesiynau hyfforddiant cymorth cyntaf brys i bobl ifanc yr effeithir arnynt gan drais. Nod y fenter hon yw rhoi gwybodaeth i bobl ifanc a allai achub bywydau mewn sefyllfaoedd brys.


Dysgodd y bobl ifanc sut i ddelio â gwaedu trwy weld enghreifftiau ymarferol a gofyn cwestiynau a thrwy ddysgu am y wyddoniaeth y tu ôl i golli gwaed, a oedd yn egluro rhai camsyniadau cyffredin. Dysgodd y bobl ifanc hefyd sut i roi cymorth cyntaf i rywun sy’n anymwybodol, sut i’w roi yn yr ystum adfer, a sut i berfformio cywasgiadau ar y frest. Yna rhoddwyd y sgiliau newydd hyn ar waith trwy actio senarios i atgyfnerthu eu dysgu.

Mae Gwasanaeth Ieuenctid AƬ yn rhan annatod o dasglu cydweithredol newydd sy’n cynnwys Cyngor AƬ, Heddlu Gwent a Chartrefi Cymunedol Tai Calon. Gyda’i gilydd maent yn gweithio tuag at y nod cyffredin o leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein cymunedau.

Dywedodd Martyn Smith, Arweinydd Trais Difrifol Gwent:

“Mae’r gwaith y mae Gwasanaeth Ieuenctid ac Adran Addysg AƬ yn ei wneud i leihau trais yn y gymuned trwy raglenni arloesol fel y rhai a ddarperir gan StreetDoctors wedi gwneud argraff fawr arnaf. Mae’r fenter hon, a gefnogir gan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, wedi darparu hyfforddiant cymorth cyntaf i bobl ifanc yr effeithir arnynt gan drais, gan roi’r sgiliau ymarferol a’r hyder iddynt helpu eu hunain ac eraill mewn angen. Drwy gydweithio mewn partneriaeth fel rhan o’r Ddyletswydd Trais Difrifol, rydym wedi ymrwymo i leihau trais ieuenctid a gwneud ein cymunedau’n fwy diogel i bawb.”

Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cwmpasu unrhyw ymddygiad sy’n achosi neu’n debygol o achosi aflonyddwch, braw neu drallod i un neu fwy o bobl. Gall gynnwys niwsans sŵn, fandaliaeth, sbwriel, tipio anghyfreithlon, delio cyffuriau, bygwth, aflonyddu a throseddau casineb. Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol effeithio ar ansawdd bywyd unigolion a chymunedau a chreu ymdeimlad o ofn ac ansicrwydd.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am ein hymdrechion i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, rydym yn eich annog i fynychu ein digwyddiad Siarad Gyda’n Gilydd yn Stryd Fawr, Blaenau, ar 21 Mai rhwng 5pm a 7pm. Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle i glywed am y camau yr ydym yn eu cymryd a chael gwybod am sut i adrodd am ddigwyddiadau, ac i’ch llais gael ei glywed wrth lunio ein hymateb ar y cyd i ymddygiad gwrthgymdeithasol.


I gael rhagor o wybodaeth am ymddygiad gwrthgymdeithasol a sut i roi gwybod amdano, gallwch ymweld â’n gwefan drwy ddilyn y ddolen yma: Ymddygiad Gwrthgymdeithasol | Cyngor Bwrdeistref Sirol AƬ (blaenau-gwent.gov.uk)

]]>
/cy/newyddion/hyfforddiant-dewisiadau-dewr-a-lleihau-trais-i-ddysgwyr-ifanc-ym-mlaenau-gwent/ /cy/newyddion/hyfforddiant-dewisiadau-dewr-a-lleihau-trais-i-ddysgwyr-ifanc-ym-mlaenau-gwent/ Mon, 20 May 2024 08:21:07 GMT Carolyn Jenkins
Dennis y cerbyd sbwriel yn ymweld ag Ysgolion AƬ i helpu plant ysgol i ddysgu am wastraff ac ailgylchu Bydd Dennis y cerbyd casglu sbwriel (RCV) yn edrych yn gyfarwydd iawn o'r tu allan – mae’n edrych fel lori casglu gwastraff arferol.  Fodd bynnag, mae'r lori’n agor i ddatgelu lle i tua 15 o blant gymryd rhan mewn gwersi, gyda sgriniau teledu a byrddau gwyn yn ychwanegu ymhellach at y naws ystafell ddosbarth. 

Bydd y cerbyd canolfan addysg symudol hwn yn ymweld ag ysgolion AƬ i addysgu plant am wastraff ac ailgylchu, newid hinsawdd, cynaliadwyedd a llawer o bynciau eraill sy'n ymwneud â materion amgylcheddol allweddol.

Cadwch lygad am Dennis yr RCV yr wythnos hon – allwch chi ddim methu’r lluniau llachar sy'n addurno'r tu allan. Bydd yn ymweld â'r ysgolion canlynol:

Mehefin 2024
•    Dydd Mawrth 11eg - Campws Tillery Street, Abertyleri
•    Dydd Mercher 12fed - Ysgol Gynradd Willowtown, Glynebwy
•    Dydd Iau 13eg - Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Santes Fair, Brynmawr
•    Dydd Gwener 14eg - Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Santes Fair, Brynmawr
•    Dydd Llun 17eg – Ysgol Gynradd Blaen y Cwm, Brynmawr
•    Dydd Mawrth 18fed - Ysgol Gynradd Blaen y Cwm, Brynmawr
•    Dydd Mercher 19eg - Campws Tillery Street, Abertyleri
•    Dydd Iau 20fed - Ysgol Gynradd Beaufort Hill, Glynebwy
•    Dydd Gwener 21ain - Ysgol Gynradd Beaufort Hill, Glynebwy

 
Cadwch lygad am Dennis y Cerbyd Casglu a fydd yn ymweld â rhai o'n hysgolion yn y fwrdeistref. 
]]>
/cy/newyddion/dennis-y-cerbyd-sbwriel-yn-ymweld-ag-ysgolion-blaenau-gwent-i-helpu-plant-ysgol-i-ddysgu-am-wastraff-ac-ailgylchu/ /cy/newyddion/dennis-y-cerbyd-sbwriel-yn-ymweld-ag-ysgolion-blaenau-gwent-i-helpu-plant-ysgol-i-ddysgu-am-wastraff-ac-ailgylchu/ Mon, 10 Jun 2024 13:46:19 GMT Alan Powell
Grŵp plant bach newydd yn paratoi'r ffordd ar gyfer y Gymraeg yn llyfrgell Abertyleri Agorwyd grŵp Ti a Fi Cymraeg newydd yn llyfrgell Abertyleri, sy'n gynnig sesiynau am ddim bob dydd Iau, 10-11:00yb. Nid oes rhaid i chi fod ag unrhyw sgiliau Cymraeg o'r blaen i fynychu, mae pawb yn cael eu hannog i ddod ac ymuno â'r hwyl!

 

Sefydlwyd Louise Wilkins o Ebbw Vale grŵp newydd yn y llyfrgell, i'r holl bobl bach a'u teuluoedd yn yr ardal, darllenwch ymlaen i glywed am sut y mae’r teulu Wilkins wedi elwa o dderbyn yr iaith a sut y gallwch chi elwa o fynychu'r sesiynau Ti a Fi eich hun.

Penderfynodd Louise Wilkins a'i gŵr Mark, hyd yn oed cyn iddynt gael plant, y byddai'r plant yn mwynhau manteision yr iaith Gymraeg. Roedd y ddau yn frwd iawn am yr iaith ond roedd yn teimlo cywilydd nad oeddent yn gallu siarad Cymraeg eu hunain. Yn y pen draw cafodd y cwpl tripledi a'u hanfonodd i Ysgol Gymraeg Brynmawr, yr unig brif ysgol Gymraeg ar y pryd. Fel yr oedd eu rhieni'n disgwyl, roedd y plant yn dysgu'r iaith ar unwaith ac yn darganfod bod y profiad cyfan yn ymdrech ffyniannus. Newidiodd adeilad yr ysgol yn ei ddwy flynedd olaf  i Ysgol Gymraeg Bro Helyg gyda’i agoriad. Roedd y tripledi yn rhan o'r grŵp cyntaf o blant blwyddyn 4 i fynychu'r ysgol newydd fodern ac yn parhau i ffynnu.

Gwirfoddolodd Louise trwy gydol amser ysgol y tripledi, yn helpu gyda digwyddiadau ysgol, daeth hefyd yn fenyw cinio. Pan ddaeth am swydd wirfoddolwr yn y grŵp rhieni a phlant bach, roedd Louise yn ymgeisydd perffaith gyda'i angerdd mawr am yr iaith, o ran datblygu gallu'r plant ond hefyd ei gallu ei hun. Datblygodd y cyfnod gwirfoddol hwn yn swyddogol gyda Mudiad Meithrin fel swyddog Ti a Fi ar gyfer AƬ a Torfaen.

Ei rôl newydd gyda Mudiad Meithrin oedd sefydlu a goruchwylio grwpiau chwarae cyn-ysgol Cymraeg, rhoddodd hyn gyfle i Louise rannu ei phrofiad gyda rhieni eraill a allai fod yn meddwl am addysg Gymraeg i'w phlant ond efallai'n nerfus nad ydynt yn gallu sgwrsio'n rhugl eu hunain. Mae cael y profiad uniongyrchol hwn o gael plant mewn addysg Gymraeg tra nad oedd yn gallu siarad yr iaith ei hun yn golygu ei bod yn gallu darparu gwybodaeth onest am y broses. Y prif bryderon a godir wrth drafod anfon eich plant i ysgol yng Nghymru yw am anfantais rhieni i gefnogi eu plant gyda'u gwaith cartref a'u datblygiad addysgol. Fel y gall Louise gystadlu, mae addysg cyfrwng Cymraeg yn cynhyrchu mwy o ddysgwyr annibynnol gyda sgiliau datrys problemau uwch sy'n golygu nad oedd angen i rieni'r tri ddarparu llawer o help gyda gwaith cartref. Ar yr achosion prin roedd Louise a Mark angen help gyda gwaith, fe wnaethant ddefnyddio'r llyfrau oedd ar gael iddynt. Wrth gwrs, y dyddiau hyn gyda datblygiadau mewn technoleg, heb sôn am ymdrechion ein haddysgwyr cyfrwng Cymraeg i wneud pob adnoddau'n ddwyieithog a chynnig cymorth ychwanegol i rieni sy'n rhoi addysg Gymraeg i'w phlant.

Ar ôl i bennod ysgol gynradd lwyddiannus ddod i ben, aeth y triawd i Ysgol Gyfun Gwynllyw ym Mhontypool, sef yr ysgol gynhwysfawr agosaf i blant AƬ. Poenodd Louise a Mark am y daith bws, ond roedd y plant yn mynd yn hyderus i'r bws gyda hen a llawer o gyfeillion newydd a wnaethant o bob cefndir. Roedd eu cylchoedd cymdeithasol yn tyfu a gyda digwyddiadau ledled Cymru. Maent yn ymuno â'r Urdd, yn perfformio, ac yn ymweld ag Eisteddfodau, pethau nad oeddent erioed wedi clywed amdanynt cyn i'r plant ddechrau ysgol, ond roedden nhw'n eu caru ac yn mynd bob blwyddyn. Chwaraewyd y merched pêl-rwyd ar gyfer eu hysgol, daeth Ella yn bennaeth y flwyddyn a chwaraeodd Ethan bêl-droed â llawer o weithgareddau eraill a wnaed trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ar ôl iddynt gyrraedd oedran TGAU, roedd y tri yn gwneud yn dda iawn ac yn parhau i gael graddau lefel A, ac ymlaen i'r brifysgol. Credodd Louise mae'r llwyddiant achos y datblygiadau ymhellach i'w addysg ddwyieithog. Mae Ella wedi teithio'r byd yn astudio ieithyddiaeth, mae bellach yn siarad Cymraeg, Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg ac mae wedi dechrau gweithio yn ddiweddar fel dehonglydd ar gyfer y GIG.

yn cwblhau ei blwyddyn olaf o'i PGCE i ddod yn athro ysgol gynradd ac mae'n gobeithio gweithio yn yr ysgol gynradd newydd yn Nhredegar. Ac mae gyrfa Ethan fel peiriannydd awyrennau hefyd wedi cael ei wella gan ei allu i siarad Cymraeg gan ei fod yn gallu sgwrsio yn Gymraeg â phartneriaid y cwmni.

Yn fwy na dim, mae’r teulu Wilkins, dan arweiniad angerdd a nod clir Louise i gadw'r iaith yn fyw ac yn ffynnu, wedi cyfoethogi eu bywydau. Gydag agoriad y Cylch Ti a Fi newydd yn Abertyleri, mae Louise yn gyffrous i barhau i ledaenu'r neges am fanteision cyflwyno'r iaith i fywyd eich plant yn gynnar.

"Mae ganddyn nhw gymaint mwy o gyfleoedd y dyddiau hyn” esboniodd Louise,  "gallwch ddechrau trwy ymweld â Ti a Fi,  grŵp chwarae plant bach, gallwch ddysgu Cymraeg gyda'r Clwb Cwtsh, cwrs iaith y flwyddyn gynnar, rydym yn cynnal sesiynau Cymraeg i Blant - yoga babi, amser stori a chan, yn ogystal â'r nifer o apiau a chyrsiau ar-lein sydd ar gael"

 "Nid wyf yn difaru rhoi fy mhlant i'r Gymraeg 23 mlynedd yn ôl, mae wedi rhoi cymaint o gyfleoedd iddynt oherwydd hynny ac mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar eu bywydau i gyd. Wrth siarad â fy mhlant maent yn credu ein bod ni wedi gwneud y penderfyniad cywir a byddant yn rhoi plant eu hunain trwy'r ffrwd addysg Cymraeg hefyd; rhoddwyd llawer mwy o gyfleoedd iddynt oherwydd hynny."

Mae Louise bellach yn rhedeg sawl Ti a Fi ar draws gwahanol fwrdeistrefi. Prif nod y Ti a Fi newydd yn Abertyleri yw ymgysylltu â theuluoedd ar rai sydd yn, gan roi cyflwyniad a dealltwriaeth iddynt o'r iaith a'r addysg Gymraeg. Bydd y grŵp hwn yn bwydo i'r Cylch Meithrin yn Brynithel sy'n bwydo i'r ddwy ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg ym Mlaenau Gwent, Ysgol Gymraeg Bro Helyg ac Ysgol Gymraeg Tredegar.

Mae'r grŵp yn ffordd hwyl a hawdd o gael eich cyflwyno i'r iaith. Mae'r grŵp yn rhedeg bore dydd Iau yn llyfrgell Abertyleri, bydd croeso cynnes i bawb. Mae ganddyn nhw sesiwn chwarae, dawnsio, canu a llawer o grefftau i'ch cadw chi a'r rhai bach yn brysur. Mae'n gyfle gwych i ddysgu rhywfaint o'r iaith eich hun mewn amgylchedd hamddenol. Rydym yn gwarantu y byddwch yn canu'r caneuon Cymraeg gyda'ch plant bach mewn dim amser.

Mae Louise yn dal i ystyried ei hun yn ddysgwr ac felly mae'n gwneud y sesiynau'n hygyrch i bawb. Mae ei grwpiau'n gynnes ac yn groesawgar, ac mae ganddi ffynhonnell o wybodaeth am yr ardal ac am y camau nesaf ar daith addysgol eich plentyn.

Dewch draw bore Iau 10-11yb yn ystod yr amser tymor, ar gyfer sesiynau llawn hwyl am ddim!

Am fwy o wybodaeth o’r camau cyntaf i’r addysg Gymraeg neu i ffeindio grwpiau yn eich ardal chi eich i wefan .

Am wybodaeth am grwpiau arall yn eich ardal chi ewch i wefan

 

]]>
/cy/newyddion/grwp-plant-bach-newydd-yn-paratoir-ffordd-ar-gyfer-y-gymraeg-yn-llyfrgell-abertyleri/ /cy/newyddion/grwp-plant-bach-newydd-yn-paratoir-ffordd-ar-gyfer-y-gymraeg-yn-llyfrgell-abertyleri/ Fri, 21 Jun 2024 09:18:26 GMT Carolyn Jenkins
Archwilio'r Dyfnderoedd Cwmni sy'n seiliedig yn Nhredegar yw MetroRod sy'n darparu gwasanaethau draenio a phwmpio ar gyfer cwsmeriaid masnachol a phreswyl. Yn dilyn cefnogaeth o £20,000 gan Grant Datblygu Busnes AƬ, maent wedi diweddaru eu cyfarpar i ddarparu gwell gwasanaeth i'w cwsmeriaid.

Dywedodd Ben Witcomb o MetroRod, "Roedd ein cyfarpar yn cyfyngu ar y gwasanaethau y gallem eu darparu i'n cwsmeriaid. Roedd yn iawn ar gyfer draeniau diamedr llai ond ni allai ymdopi â'r systemau mwy. Un o'n cwmnïau mwyaf yw Welsh Water / Dwr Cymru, rydym yn gweithio iddynt ar draws De-ddwyrain Cymru, ar draws Powys ac ar draws y ffin yn Hereford a Gloucester.’

'Heb y grant ni fyddai wedi gallu prynu'r offer ac roedd cyflogaeth 2 o weithwyr mewn perygl. Mae'r grant wedi ein galluogi i brynu offer diweddaraf mewn fan camera sy'n ein galluogi ni i arolygu systemau seilwaith hyd at 1200mm mewn diamedr. Yn bwysicach fyth, mae wedi sicrhau cyflogaeth i ddau o'n gweithwyr.'

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod y Cabinet - Lle & Adfywio a Datblygu Economaidd, "Mae Metrorod yn stori lwyddiant lleol gwych sy'n tyfu o ddechrau yn 2012 i fod yn awr yn 41 o weithwyr ac yn troi dros sawl miliwn o bunnoedd. Mae'n wych gweld cwmni lleol yn tyfu a'u cefnogi i wneud pethau mwy a gwell.'

Ariannodd Grant Datblygu Busnes AƬ gan Gronfa Lles Rhanbarthol Llywodraeth y DU ac yn cael ei reoli gan Gyngor Bwrdeistref Sirol AƬ. Nod y Grant Datblygu Busnes yw cefnogi twf a datblygiad busnesau newydd a'r rhai sydd eisoes yn bodoli ym Mlaenau Gwent.

Cynghorydd John Morgan & Ben Witcomb (Cadeirydd Cwmni - Metro Rod)

Ben Witcomb (Cyfarwyddwr Cwmni - Metro Rod), Nathan Hale a Gareth Chappell (Metro Rod) a'r Cynghorydd John Morgan

]]>
/cy/newyddion/archwilior-dyfnderoedd/ /cy/newyddion/archwilior-dyfnderoedd/ Mon, 08 Jul 2024 12:41:17 GMT Carolyn Jenkins
Cyngor AƬ yn derbyn cyllid i fynd i'r afael â phroblem ludiog gwm cnoi ar strydoedd canol tref Bydd grant gan y Chewing Gum Task Force, a weinyddir gan yr elusen amgylcheddol Keep Britain Tidy, yn helpu Cyngor Bwrdeistref Sirol AƬ i lanhau gwm a lleihau sbwriel gwm.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol AƬ yn rhoi cynlluniau ar waith i gael gwared â'r gwm cnoi sy'n gwneud strydoedd lleol yn flêr ar ôl derbyn grant o £27,500 i fynd i'r afael â'r broblem.

Mae'r cyngor yn un o 54 ledled y DU sydd wedi gwneud cais llwyddiannus i’r Chewing Gum Task Force, sydd bellach yn ei drydedd flwyddyn, am arian i lanhau gwm oddi ar balmentydd a'i atal rhag cael ei daflu eto.

Wedi'i sefydlu gan Defra (Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig) a'i redeg gan yr elusen amgylcheddol Keep Britain Tidy, mae Cynllun Grant y Chewing Gum Task Force ar agor i gynghorau ledled y DU sy'n dymuno glanhau gwm yn eu hardaloedd lleol a buddsoddi mewn newid ymddygiadol hirdymor i atal gwm rhag cael ei ollwng yn y lle cyntaf. 

Ariennir y Tasglu gan wneuthurwyr gwm mawr gan gynnwys Mars Wrigley a Perfetti Van Melle, gyda buddsoddiad o hyd at £10 miliwn wedi'i wasgaru dros bum mlynedd.

Mae gwaith monitro a gwerthuso a gynhaliwyd gan Behaviour Change – menter gymdeithasol ddielw – wedi dangos, mewn ardaloedd a elwodd o'r flwyddyn gyntaf o ariannu, fod cyfradd is o sbwriel gwm yn dal i gael ei weld chwe mis ar ôl glanhau a gosod deunydd atal.

Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod cost glanhau blynyddol gwm cnoi i gynghorau yn y DU oddeutu £7 miliwn ac, yn ôl Keep Britain Tidy, mae tua 77% o strydoedd Lloegr a 99% o safleoedd manwerthu wedi'u staenio â gwm.

Yn ei ail flwyddyn, dyfarnodd y tasglu gyfanswm o £1.56 miliwn i 55 cyngor, gan helpu i lanhau tua 440,000m2 o balmant - ardal sy'n cyfateb i Ddinas y Fatican.

Drwy gyfuno gwaith glanhau strydoedd wedi'i dargedu gydag arwyddion wedi'u cynllunio'n arbennig i annog pobl i finio eu gwm, cyflawnodd y cynghorau a gymerodd ran ostyngiad o hyd at 60% mewn sbwriel gwm yn y ddau fis cyntaf.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Leoedd a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Helen Cunningham: "Rydym yn croesawu'r gefnogaeth gan y Chewing Gum Task Force. Bydd y cyllid hwn yn ein galluogi i fynd i'r afael â phroblemau sbwriel gwm yng nghanol ein trefi. Bydd arwyddion mewn safleoedd strategol yn helpu i godi ymwybyddiaeth o effaith sbwriel gwm ar ein hamgylchedd i'n helpu i greu stryd fawr lanach, heb gwm i drigolion ac ymwelwyr â'r fwrdeistref."

Dywedodd Allison Ogden-Newton OBE, prif weithredwr Keep Britain Tidy: "Mae sbwriel gwm cnoi yn weladwy iawn ar ein strydoedd mawr ac mae'n anodd ac yn ddrud i'w lanhau, felly mae croeso mawr i'r gefnogaeth i gynghorau gan y Chewing Gum Task Force a'r gwneuthurwyr gwm.

"Fodd bynnag, ar ôl i’r gwm gael ei lanhau, mae'n hanfodol atgoffa'r cyhoedd mai dim ond un lle y dylech daflu eich sbwriel, boed yn gwm neu unrhyw beth arall – y bin – a dyna pam mae elfen newid ymddygiad gwaith y tasglu mor bwysig."

]]>
/cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-derbyn-cyllid-i-fynd-ir-afael-a-phroblem-ludiog-gwm-cnoi-ar-strydoedd-canol-tref/ /cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-derbyn-cyllid-i-fynd-ir-afael-a-phroblem-ludiog-gwm-cnoi-ar-strydoedd-canol-tref/ Wed, 17 Jul 2024 13:00:49 GMT Alan Powell
Ystafell Cit Cymunedol - Cyngor AƬ yn gweithio mewn tîm ag Aneurin Leisure Trust (1) Mae Cyngor AƬ wedi gosod ei bin dillad chwaraeon - 'Ystafell Cit Cymunedol' - cyntaf yn Y Den yn Abertyleri, Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref, Parc Busnes Roseheyworth. Bydd y dillad chwaraeon a roddir yn cael eu defnyddio i gefnogi'r gymuned fel nad yw cit priodol yn dod yn rhwystr i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Syniad tîm datblygu chwaraeon Aneurin Leisure Trust oedd y dull arloesol hwn o ailgylchu dillad chwaraeon ac maen nhw’n gweithio gyda sefydliadau, trigolion, busnesau ac ysgolion lleol i ddosbarthu cit ar draws y gymuned felly os hoffech chi roi, ymholi, ymuno fel partner neu fod yn Ganolfan Cit Cymunedol, e-bostiwch ckr@aneurinleisure.org.uk neu ffoniwch 07976 635655. 

Mae rhoddion yn mynd i'r Ystafell Cit Cymunedol yng Nghanolfan Chwaraeon Abertyleri lle gallwch holi am y dillad chwaraeon sydd ar gael. Er mwyn gwneud pethau’n fwy hygyrch i bawb bydd Canolfannau Cit Cymunedol ledled y fwrdeistref yn cynnig mannau gollwng a chasglu. Mae rhestr o leoliadau biniau rhoi, canolfannau a'r hyn y gellir ei dderbyn isod.

Beth y gellir ei dderbyn     Beth na ellir ei dderbyn
Dillad chwaraeon cyffredinol, treinyrs a bŵts Dillad wedi'u staenio neu eu difrodi
Pâr o sgidiau wedi'u clymu gyda'i gilydd, heb faw neu fwd Treinyrs a bŵts nad ydynt mewn pâr
Dillad sy'n lân ac wedi'u golchi Offer chwaraeon

 

Lleoliadau biniau rhoi
Y Den, Canolfan Ailgylchu Roseheyworth, Parc Busnes Roseheyworth, Ffordd Roseheyworth, Abertyleri, NP13 1SP
Llyfrgell Abertyleri, Bryn yr Orsaf, Abertyleri NP13 1TE 
Canolfan Chwaraeon Abertyleri, Stryd Alma, Abertyleri NP13 1QD 
Llyfrgell Blaenau, The Institute, Stryd Fawr, Blaenau, Abertyleri NP13 3BN 
Llyfrgell Brynmawr, 3 Sgwâr y Farchnad, Brynmawr, Glynebwy NP23 4AJ
Llyfrgell Cwm, Stryd Canning, Cwm, Glynebwy NP23 6LW
Llyfrgell Glynebwy, 21 Stryd Bethcar, Glynebwy NP23 6HH
Canolfan Chwaraeon Glynebwy, Lime Ave, Glynebwy NP23 6GL 
Llyfrgell Tredegar, 10 Stryd Haearn, Tredegar NP22 3RJ  
Canolfan Chwaraeon Tredegar, Lôn y Stabl, Tredegar NP22 4BH

 

Lleoliadau Canolfannau Cit Cymunedol: 
Clwb Pêl-droed Abertillery Bluebirds - Stadiwm Cwm Nant-y-Groes, Chwe Chloch, Abertyleri NP132PR
Chanolfan Chwaraeon Abertyleri NP13 1QD
A. B. B. Blaenau'r Cwm - Hen floc gwyddoniaeth, Willowtown, Teras Garfield, Glynebwy NP23 6H
Clwb Pêl-droed Nant-y-glo - Parc Dyffryn, Blaenau, Abertyleri NP13 3DA
Clwb Pêl-droed Tref Tredegar - Maes Hamdden Tredegar NP22 3NG, a Chlwb Rygbi Tredegar NP22 3NN

 

Aelodau staff CBS AƬ a rhai o dîm Datblygu Chwaraeon Aneurin Leisure yn dangos y bin rhoi newydd yn Y Den.

 

 

]]>
/cy/newyddion/ystafell-cit-cymunedol-cyngor-blaenau-gwent-yn-gweithio-mewn-tim-ag-aneurin-leisure-trust-1/ /cy/newyddion/ystafell-cit-cymunedol-cyngor-blaenau-gwent-yn-gweithio-mewn-tim-ag-aneurin-leisure-trust-1/ Wed, 17 Jul 2024 14:13:53 GMT Alan Powell
Adnewyddu ac atgyweirio ardal chwarae yng Nglyncoed, Glynebwy Mae tîm Strydlun y Cyngor wedi bod yn gweithio gyda'r contractwyr arbenigol Touchline ar adnewyddu ac atgyweirio ardal y plant yng Nglyncoed, Glynebwy sydd bellach ar agor i'r cyhoedd ei mwynhau.

Mae'r ardal chwarae bellach yn cynnwys cynlluniau llawr arloesol, fel nadroedd ac ysgolion, ynghyd â gwelliannau i'r offer presennol. Mae'r ardal chwaraeon a ddefnyddir ar gyfer pêl-droed a phêl-rwyd hefyd wedi’i gwella'n sylweddol. Mae'r lluniau ‘cyn ac ar ôl’ isod yn dangos y llinellau clir a’r lliwiau llachar sy’n dynodi’r arwynebau a’r mannau chwarae.

Sicrhawyd cyfanswm o £32,000 drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer yr adnewyddu.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Leoedd a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Helen Cunningham: "Mae ardaloedd chwarae awyr agored yn bwysig iawn i blant a theuluoedd lleol. Rydym yn falch o gyhoeddi bod ardal chwarae Glyncoed yn ailagor mewn pryd ar gyfer dechrau'r gwyliau ysgol, yn dilyn gwaith atgyweirio ac adnewyddu yr oedd mawr ei angen." 

Lluniau ‘cyn ac ar ôl’ o'r ardal chwaraeon.

 

Yr ardal chwarae sydd newydd ei hadnewyddu a'i hatgyweirio yng Nglyncoed.

 

]]>
/cy/newyddion/adnewyddu-ac-atgyweirio-ardal-chwarae-yng-nglyncoed-glynebwy/ /cy/newyddion/adnewyddu-ac-atgyweirio-ardal-chwarae-yng-nglyncoed-glynebwy/ Tue, 23 Jul 2024 14:10:10 GMT Alan Powell
Cyngor AƬ yn sianelu eu hegni i mewn i sianeli gyli ar gyfer treial gwefru cerbydau trydan yn y cartref Ar ôl llwyddiant ein hymgyrch drwy'r cyfryngau cymdeithasol ym mis Ionawr a wahoddodd breswylwyr i dreialu atebion gwefru ar y stryd, gan ddefnyddio cyllid gan Lywodraeth Cymru, nodwyd nifer o atebion gwefru cerbydau trydan posibl i’w treialu. Mae'r cynhyrchion cychwynnol sy'n cael eu treialu yn gynhyrchion sianel gyli sy'n galluogi preswylwyr i gael pwyntiau gwefru yn y cartref heb orfod poeni am geblau ar y palmant neu'r ffordd.  Mae'r sianeli hyn yn cuddio'r cebl gwefru ac yn galluogi'r preswylydd i wefru cerbyd mewn ffordd ddiogel a hawdd.

Gosodwyd y gyli gwefru 'Kerbo' cyntaf gan y Tîm Priffyrdd ar 10 Gorffennaf 2024 yn Waunlwyd, Glynebwy. Dyma'r gosodiad cyntaf o'r fath yng Nghymru.  Bydd rhagor o osodiadau treial yn digwydd unwaith y bydd preswylwyr wedi derbyn yr holl gymeradwyaethau a thrwyddedau angenrheidiol.

 

SRhai o'r preswylwyr sy'n cymryd rhan yn y treial gwefru cerbydau trydan ar y stryd. Gallwch weld y sianel gyli wedi'i gosod yn ddiogel yn y palmant.

Mae yna opsiwn sianel gyli arall a fydd yn cael ei dreialu gan nifer o'r rhai sy'n cymryd rhan yn ein treial ac mae Swyddogion y Cyngor yn parhau i archwilio atebion gwefru ar y stryd ymhellach, gan ganolbwyntio ar helpu preswylwyr nad ydynt yn gymwys ar gyfer y treial hwn neu breswylwyr sydd angen atebion amgen. Mae cyllid pellach ar gael yn y flwyddyn ariannol hon i gynnal astudiaethau dichonoldeb o fwy o atebion sydd ar gael ar y farchnad a'u haddasrwydd ar gyfer ein hardal ni. 

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y treial neu os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'n treial yn y dyfodol, e-bostiwch: EVcharging@blaenau-gwent.gov.uk

]]>
/cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-sianelu-eu-hegni-i-mewn-i-sianeli-gyli-ar-gyfer-treial-gwefru-cerbydau-trydan-yn-y-cartref/ /cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-sianelu-eu-hegni-i-mewn-i-sianeli-gyli-ar-gyfer-treial-gwefru-cerbydau-trydan-yn-y-cartref/ Wed, 24 Jul 2024 11:15:11 GMT Alan Powell
Clwb Chwaraeon Cymunedol Blaina ar Garlam Yn 2019, cymerodd Blaina RFC a Chlwb Criced Blaina y penderfyniad balch i uno a chymryd drosodd redeg eu tir chwaraeon mewn trosglwyddiad asedau cymunedol. Ffurfiwyd Clwb Chwaraeon Cymunedol Blaina newydd. Pum mlynedd yn ddiweddarach, mae Parc Blaina Canolog yn edrych yn wych. Yn ogystal â gweithgareddau ar y cae, maent hefyd yn cynnal llawer o weithgareddau cymunedol a swyddogaethau preifat. Maent yn darparu cyflogaeth i 4 aelod o staff ac yn gwneud pob ymdrech i weithredu'n effeithlon ac yn broffidiol.

Teimlwyd y clwb mai nawr oedd yr amser iawn i ail-lunio eu pafiliwn er mwyn eu galluogi i wneud gwell defnydd o'r gofod.

Dywedodd Chris Adams o Glwb Chwaraeon Cymunedol Blaina, "Dim ond un le cymunedol oedd gennym felly pan oeddem yn cynnal digwyddiadau, doedd dim lle i'r clybiau ymgynnull gyda'i gilydd. Roedd y prosiect yn cynnwys cyfuno'r ddwy ystafell newid criced presennol yn un a chreu ardal lolfa ar wahân. Mae hyn yn golygu, bob tro y byddwn yn cynnal digwyddiad preifat, y gall ymwelwyr eraill ddefnyddio'r lolfa newydd hon. Mae'n gwneud y clwb yn fwy cynaliadwy ac yn agored i bawb.”

“Rydym yn hynod ddiolchgar i Gyngor Bwrdeistref Sirol AƬ. Dderbyniwyd £8,529.71 drwy'r Grant Menter Gymdeithasol sydd wedi ein galluogi i brynu uned fodwlar yr ydym bellach yn ei ddefnyddio fel ystafelloedd gwisgo ar gyfer ein timau criced. Mae'r adran criced wedi ehangu'n fawr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf neu fwy, i gynnwys timau 2ail a 3ydd, ynghyd â themâu gradd oedran a merched.”

"Mae'r cyllid hwn nid yn unig wedi caniatáu i'r uned gael ei brynu, ond hefyd wedi helpu i ariannu'r swm enfawr o waith a oedd yn ofynnol i wneud y neuadd aros yn lle gweithredol. Roeddem hefyd yn gallu uwchraddio ein cyfleusterau cegin i gynnwys ffwrn ac oergell newydd, i raglenni masnachol llawer uwch."

 Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod y Cabinet - Lle & Adfywio a Datblygu Economaidd, "Mae Clwb Chwaraeon Cymunedol Blaina yn enghraifft berffaith o sut y gall gweithio gyda'i gilydd gyflawni pethau mawr. Maent wedi rhoi cymaint o waith i adnewyddu ac ehangu eu tir a gyda rhai syniadau arloesol maent wedi dod i ateb sy'n fuddiol i'r clybiau a'r gymuned ehangach. Maen nhw bellach yn galon eu cymuned leol ac mae'n wych gweld yr hyn y gall ychydig o gefnogaeth ei gyflawni."

Mae Grant Menter Gymdeithasol AƬ yn cael ei ariannu gan Gronfa Ddatblygu Rannol Llywodraeth y DU ac yn cael ei reoli gan Gyngor Bwrdeistref Sirol AƬ. Nod y grant yw cefnogi datblygiad mentrau cymdeithasol lleol ym Mlaenau Gwent.

Criced Plant

Uned newid

Ystafell Digwyddiadau’r clwb

]]>
/cy/newyddion/clwb-chwaraeon-cymunedol-blaina-ar-garlam/ /cy/newyddion/clwb-chwaraeon-cymunedol-blaina-ar-garlam/ Fri, 26 Jul 2024 08:42:44 GMT Carolyn Jenkins
Y Cyngor yn parhau i gynllunio ar gyfer bwrdeistref Sero Net Mae cynghorwyr yng Nghyngor AƬ wedi cymeradwyo Fframwaith Sero Net 2050 newydd, sy'n nodi sut y gallai symud ymlaen a gweithio gyda phartneriaid a chymunedau lleol i leihau allyriadau carbon AƬ a chyflawni Sero Net erbyn 2050.  

Mae Fframwaith Sero Net 2050 yn cynnig trosolwg lefel uchel o beth sydd angen ei wneud er mwyn i Flaenau Gwent gyflawni Sero Net. Mae'r fframwaith yn cwmpasu’r holl allyriadau carbon ym Mlaenau Gwent, gan gynnwys o gartrefi, busnesau a thrafnidiaeth.  Er bod llawer o'r allyriadau hyn y tu hwnt i reolaeth uniongyrchol y Cyngor ac y bydd angen newidiadau ar lefel genedlaethol hefyd, mae'r fframwaith yn bwysig o ran rhoi dealltwriaeth i'r Awdurdod Lleol a'i bartneriaid o'r llwybr i Sero Net i Flaenau Gwent.

Mae'r Fframwaith wedi'i strwythuro o amgylch pedair thema: ynni, tai, natur a thrafnidiaeth.  Mae'r themâu hyn yn adlewyrchu blaenoriaethau Cynulliad Hinsawdd AƬ, 44 o drigolion AƬ a gyfarfu ar-lein ym mis Mawrth 2021 am 23 awr i drafod y cwestiwn 'sut allwn ni fynd i'r afael â newid hinsawdd ym Mlaenau Gwent mewn ffordd sy'n deg ac yn gwella safonau byw i bawb?' Cafodd Aelodau'r Cynulliad eu dewis ar hap i gynrychioli pobl ym Mlaenau Gwent a chlywed tystiolaeth gan dros 20 o arbenigwyr.

Mae allyriadau carbon ym Mlaenau Gwent wedi gostwng 44% rhwng 2005 a'r ffigyrau diweddaraf yn 2022.

Gwnaeth cynghorwyr hefyd gymeradwyo Cynllun Ynni Ardal Leol (LAEP) sy'n modelu senarios posibl ar gyfer system ynni Sero Net ym Mlaenau Gwent yn y dyfodol. Mae'r LAEP yn ddogfen allweddol yn nhaith AƬ i Sero Net gan fod y system ynni yn gyfrifol am 70% o allyriadau carbon AƬ. Mae'r model LAEP yn nodi heriau allweddol i Flaenau Gwent wrth gyrraedd Sero Net, gan gynnwys yr angen i gynyddu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy lleol, ac i symud i ffwrdd o gerbydau petrol/diesel a gwres nwy mewn adeiladau i ddewisiadau amgen di-garbon.   

Dywedodd y Cynghorydd Helen Cunningham, Aelod Cabinet y Cyngor dros Leoedd a'r Amgylchedd:

"Mae ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i ni, ac rydym yn cymryd ein cyfraniad at y broblem fyd-eang hon o ddifrif. Drwy ein Cynllun Datgarboneiddio, rydym yn gwneud beth allwn ni i leihau'r allyriadau rydym yn eu creu wrth ddarparu ein gwasanaethau ac rydym yn edrych ar ffyrdd newydd o wneud pethau i adlewyrchu ein cyfrifoldebau amgylcheddol.

"Er mwyn cymryd camau sylweddol ymlaen, rydym yn cydnabod bod angen i gamau lleol ddigwydd ochr yn ochr â gweithredu ar sail ranbarthol a chenedlaethol hefyd. Fodd bynnag, rhaid i ni hefyd fod yn fentrus ac yn barod wrth gynllunio, oherwydd petai'r newidiadau hynny'n digwydd heb weithredu lleol sylweddol, allwn ni ddim cyflawni system ynni Sero Net ym Mlaenau Gwent."

Datblygwyd y Cynllun Ynni Ardal Leol gyda chyllid Llywodraeth Cymru a bydd yn helpu i lywio'r Cynllun Ynni Cenedlaethol sydd ar ddod.

Datganodd Cyngor AƬ Argyfwng Hinsawdd ym mis Medi 2020 ac mae ganddo ei Gynllun Datgarboneiddio 2020 – 2030 ei hun , sy'n cwmpasu allyriadau carbon y Cyngor ei hun.

]]>
/cy/newyddion/y-cyngor-yn-parhau-i-gynllunio-ar-gyfer-bwrdeistref-sero-net/ /cy/newyddion/y-cyngor-yn-parhau-i-gynllunio-ar-gyfer-bwrdeistref-sero-net/ Wed, 31 Jul 2024 14:49:12 GMT Louise Bishop
Mae Arddangosfa Windrush Cymru Mae arddangosfa sy’n dathlu hanes cenhedlaeth y Windrush yng Nghymru ar hyn o bryd yn ardal AƬ ac ar gael i’w weld hyn nes diwedd mis Awst.

Mae Arddangosfa Windrush Cymru’n yn cofnodi cyflawniadau a chyfraniadau'r rhai a ymgartrefodd yn y DU o'r Caribî yn ogystal â'u disgynyddion. Chwaraeodd yr arloeswyr yma rhan hanfodol wrth ailadeiladu Prydain - gan weithio mewn gweithfeydd dur, pyllau glo, ysbytai a thrafnidiaeth gyhoeddus - gan lunio gwead ein cenedl ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Bydd yr arddangosfa gan Race Council Cymru, a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, i’w weld yn y lleoliadau canlynol:

*Swyddfeydd Cyffredinol, Glyn Ebwy (Dydd Llun i ddydd Gwener 9am-4pm).

* Llyfrgell Tredegar (Dydd Llyn i ddydd Mercher a Dydd Gwener 9am-1pm a 2pm-5.30pm a dydd Sadwrn, 9am-1pm).

* Llyfrgell Abertyleri (Dydd Mawrth i ddydd Gwener 9am-1pm a 2pm-5.30pm a dydd Sadwrn, 9am-1pm).

Gallwch hefyd wrando ar Valleys Voices podcast series,  a gynhelir gan Dîm Cydlyniant Cymunedol Gorllewin Gwent, ble mae Sean Wharton yn rhannu ei stori fel un o ddisgynyddion cenhedlaeth y Windrush a’u brofiadau o gael ei fagu yng Ngwent.

Am fwy o wybodaeth am Genhedlaeth y Windrush, gallwch ymweld â Windrush Generation Foundation trwy glicio ar y  

Efallai, bydd gyda chi ddiddordeb hefyd mewn darllen a chefnogi gan Lywodraeth Cymru – cynllun sy’n ceisio trechu hiliaeth a hyrwyddo cydraddoldeb ledled Cymru erbyn 2030.

]]>
/cy/newyddion/mae-arddangosfa-windrush-cymru/ /cy/newyddion/mae-arddangosfa-windrush-cymru/ Wed, 14 Aug 2024 09:11:35 GMT Carolyn Jenkins
Saethu am Lwyddiant Mae 'Cymru Creations' wedi bod yn rhedeg prosiectau buddiol cymunedol yn Nhredegar Blaenau ers 2016. Agorodd yn Academi Ffilm AƬ, a enillodd wobr ym mis Chwefror 2018 ac mae bellach yn denu dros 150 o bobl ifanc rhwng 7 a 18 oed bob wythnos, gan eu haddysgu sgiliau ffilm a chyfryngau. Mae'r cwmni hefyd yn rhedeg Gŵyl Ffilm Ryngwladol Plant Cymru, sy'n llwyddiannus iawn.

Gyda thechnoleg y byd sy'n newid yn gyflym ac er mwyn cadw o flaen y gêm, derbyniodd Cymru Creations grantiau drwy'r Cynlluniau Datblygu Busnes a Menter Gymdeithasol, i brynu offer newydd gan gynnwys camerâu gwneud ffilm o ansawdd uchel, lensys, cardiau cof ac ategolion gwneud ffilmiau eraill.

Dywedodd Kevin Phillips, Prif Swyddog Gweithredol Cymru Creations, "Mae'r grant gan Gyngor Bwrdeistref Sirol AƬ wedi ein helpu i brynu offer a fydd yn gwella ein galluoedd fel sefydliad hyfforddi cynhyrchu ffilmiau. Bydd yn galluogi myfyrwyr ein Hacademi Ffilm i wella eu sgiliau a gwella rhagolygon swyddi wrth greu cynhyrchion o ansawdd uchel, y gellir eu cyflwyno wedyn i Netflix a chwaraewyr a darlledu ffrydio eraill"

"Rydym ar hyn o bryd yn gweithio ar sioe ôl-apocalyptig aml-amser, sydd wedi'i ysgrifennu gan un o'n prentisiaid Ffilm sy'n cael ei wneud gan bob myfyriwr yn yr Academi Ffilm. Mae hyn wedi agor cyfleoedd a marchnadoedd newydd i Academi Ffilm AƬ na fyddai wedi bod yn anhygyrch gyda'n cyfarpar presennol. Yn bwysicaf oll, mae wedi creu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc AƬ nag erioed"

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod y Cabinet - Lle & Adfywio a Datblygu Economaidd, "Mae Creations Cymru yn gwmni lleol sy'n ennill gwobrau sy'n darparu hyfforddiant a chreadigrwydd yn ein cymuned. Mae'n dda clywed sut y bydd ein grant yn gwella cyfleoedd i genedlaethau iau ac yn eu cadw ar flaen y gad o greadigrwydd yng Nghymru."

Ariannwyd y ddau Grant Datblygu Busnes AƬ gan Gronfa Gysondeb Rhannol Llywodraeth y DU ac yn cael ei reoli gan y Tîm Busnes ac Arloesi yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol AƬ. Nod y Grant Datblygu Busnes yw cefnogi twf a datblygiad busnesau newydd a rhai presennol ym Mlaenau Gwent.

Kevin Phillips (Cymru Creations), Cllr John Morgan

]]>
/cy/newyddion/saethu-am-lwyddiant/ /cy/newyddion/saethu-am-lwyddiant/ Wed, 28 Aug 2024 14:10:33 GMT Carolyn Jenkins
STOPIO yn golygu STOPIO - Diolgelwch Ffyrdd Cymru Mae Diogelwch Ffyrdd Cymru a Cyngor AƬ yn atgoffa gyrwyr am eu cyfrifoldebau wrth ddod at Hebryngwyr Croesfannau Ysgol.

 

Mae Hebryngwyr Croesfannau Ysgol yn rhan annatod o'r gymuned mewn llawer rhan o Gymru; yn aml maen nhw wedi cynorthwyo plant, a hyd yn oed wyrion ac wyresau, y rhai oedd yn yr un ysgol flynyddoedd lawer yn ôl. Maen nhw'n wyneb cyfeillgar sydd bob amser yn ein cyfarch wrth gyrraedd yr ysgol ac yn ffarwelio â ni wrth inni droi am adre.

Maen nhw’n aelodau ymroddgar a gwerthfawr iawn o gymuned yr ysgol a'r gymuned ehangach sy'n troi allan, er gwaethaf y tywydd, i'n cadw ni i gyd yn ddiogel wrth groesi'r ffordd.

Diolch byth, mae'r mwyafrif o fodurwyr yn parchu’r gyfraith ac yn gwrtais, gan stopio pan fo’r arwydd yn dweud wrthyn nhw. Ond mae'n hanfodol bod gyrwyr a reidwyr yn cydymffurfio â'r gyfraith i wella diogelwch ar y ffyrdd o amgylch ysgolion.

Mae'n hanfodol bod modurwyr yn deall bod y gyfraith yn dweud bod rhaid ufuddhau i’r arwyddion sy’n cael eu rhoi gan Hebryngwr Croesfan Ysgol. Cyn gynted ag y bydd yr Hebryngwr yn codi ei arwydd, hyd yn oed os nad yw wedi camu i'r ffordd, rhaid i fodurwyr fod yn barod i stopio.

Unwaith y bydd Hebryngwr ar y gerbytffordd ac yn dangos yr arwydd ar i fyny, mae’n RHAID i’r traffig stopio a pheidio â mynd ymlaen nes bod y cerddwyr wedi gorffen croesi'r ffordd a bod yr Hebryngwr wedi dychwelyd i'r palmant.

Yn anffodus, mae Hebryngwyr ledled y wlad wedi bod yn wynebu sarhad ar lafar, bygythiadau a pherygl am fod cerbydau’n symud, a hynny am wneud eu gwaith. Mae achosion o ymddygiad bygythiol neu beryglus nid yn unig yn effeithio ar Hebryngwyr, ond mae pob defnyddiwr arall ar y ffordd yn wynebu risg ddiangen.

Dywedodd Teresa Ciano, Cadeirydd Diogelwch Ffyrdd Cymru: "Does dim esgus dros fethu â chydymffurfio â chyfarwyddiadau'r Hebryngwr. P'un a ydych chi'n hwyr neu heb sylweddoli bod RHAID ichi stopio, mae gennych chi gyfrifoldeb, yn gyfreithiol ac yn foesol, i osgoi creu risg i ddefnyddwyr eraill y ffordd.

"Dylai pob plentyn a'i warcheidwad yng Nghymru fod yn ddiogel wrth groesi'r ffordd i'r ysgol."

Dywedodd Wayne Tucker, Swyddog Diogelwch Ffyrdd Heddlu De Cymru: "Os bydd gyrrwr yn methu stopio’i gerbyd ar bellter diogel o'r Hebryngwr Croesfan Ysgol, neu os bydd yn dechrau symud i ffwrdd tra bo’r arwydd STOP yn cael ei ddangos, mae’n gallu cael dirwy o hyd at £1,000 a 3 phwynt cosb ar ei drwydded yrru.

"Mae'r rheolau a'r canllawiau yn Rheolau’r Ffordd Fawr yn bodoli i ddiogelu holl ddefnyddwyr y ffordd, ac yn yr achos hwn plant a'u gofalwyr yn arbennig. Mae cydymffurfio yn hanfodol er mwyn atal anafiadau ar y ffyrdd.”

Anogir y rhai sy'n dyst i ddigwyddiad neu sy'n rhan o ddigwyddiad i'w riportio i'r Heddlu ar 101, neu 999 mewn argyfwng. Gallwch gyflwyno fideos neu luniau ffotograffig hefyd i GanBwyll trwy Ymgyrch SNAP. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i .

 

]]>
/cy/newyddion/stopio-yn-golygu-stopio-diolgelwch-ffyrdd-cymru/ /cy/newyddion/stopio-yn-golygu-stopio-diolgelwch-ffyrdd-cymru/ Mon, 02 Sep 2024 12:21:13 GMT Emma Bennett
Pwyntio yn y Cyfeiriad Cywir Smartsignz yw gwmni arloesi a dylunio graffig sy'n tyfu'n gyflym ac sydd wedi'i leoli yn Nhredegar, AƬ. Eich delwedd yw eu blaenoriaeth, ac maent yn sicrhau bod eich busnes yn sefyll allan o'r dorf. Maent wedi'u sefydlu ers 2014 ond gyda'i gilydd mae ganddyn nhw dros 64 mlynedd o brofiad yn y diwydiant ac mae ganddyn nhw'r wybodaeth a'r arbenigedd i greu arwyddion deniadol.

Mae Smartsignz yn ymdrechu'n gyson i fod ar flaen y gad o ran datrysiadau creadigol ac maent bob amser yn ceisio cadw o flaen y gêm. Mae'r amgylchedd hefyd yn bwysig iddynt ac mae'n rhaid i unrhyw ddatblygiadau nodi'r blwch eco hefyd.

Derbyniodd Smartsignz Grant Datblygu Busnes a wnaeth eu galluogi i brynu offer newydd a fydd yn lleihau eu hôl troed carbon a gwastraff.

Dywedodd Daniel Andrews, perchennog y cwmni, "Fe wnaethom uwchraddio ein printer a phrynu printer dillad sy'n ein galluogi i arbed amser, deunyddiau ac uwchraddio i offer sy'n well i'r amgylchedd. Mae'r grant wedi ein galluogi i roi mwy o egni a chadw'n gyfredol gyda chyfarpar sy'n arwain y farchnad."

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod y Cabinet - Lle & Adfywio a Datblygu Economaidd, "Mae Smartsignz yn gwmni lleol anhygoel sy'n darparu atebion arloesol ar gyfer busnesau. Mae'n dda cefnogi busnesau fel hyn, i'w cadw'n arweinwyr yn eu maes ac i barchu'r amgylchedd yn y broses."

Mae Grant Datblygu Busnes AƬ yn cael ei ariannu gan Gronfa Cysondeb Rhannol Llywodraeth y DU ac yn cael ei reoli gan y Tîm Busnes ac Arloesi yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol AƬ. Nod y Grant Datblygu Busnes yw cefnogi twf a datblygiad busnesau newydd a'r rhai sydd eisoes yn bodoli yn AƬ.

Cllr John Morgan & Daniel Andrews (Smartsignz)

]]>
/cy/newyddion/pwyntio-yn-y-cyfeiriad-cywir/ /cy/newyddion/pwyntio-yn-y-cyfeiriad-cywir/ Tue, 03 Sep 2024 11:16:55 GMT Carolyn Jenkins
Taith Ysbrydoledig Dysgwyr Lleol ers dysgu Cymraeg

Ym mis Medi 2022, penderfynodd Daniel Minty, preswylydd Abertyleri, ddysgu'r Gymraeg, gan gydnabod ei fod yn bosibl o fudd. Pan ddaeth ei fusnes bach i ben y llynedd, roedd angen swydd newydd arno. Roedd Menter Iaith Casnewydd yn hysbysebu am swyddog i greu cyfleoedd o fewn y gymuned i siarad Cymraeg. Er gwaethaf pryder cychwynnol, ond gyda digon o gefnogaeth gan ei thiwtoriaid, ymgeisiodd Daniel a sicrhau'r rôl. 

"Fe wnes i ymgeisio am y swydd yn ysgogiad, gan feddwl efallai na fyddai fy siwrne fach dysgu Cymraeg yn ddigonol i weithio mewn amgylchedd sy'n siarad Cymraeg. Doedd gen i ddim hyder i sgwrsio yn y Gymraeg pum diwrnod yr wythnos gyda phobl sy'n siarad Cymraeg. Anogodd fy nhiwtoriaid i mi, ac es i'm cyfweliad Cymraeg cyntaf erioed. Roedd hiyn y Gymraeg mwyaf oeddwn wedi'i siarad erioed, ac o ganlyniad, fe'm dewiswyd i fod yn Swyddog Datblygu Cymunedol newydd", meddai Daniel. "Heb fy nhiwtoriaid, ni fyddwn erioed wedi cyrraedd y pwynt hwn. Nawr, er fy mod i'n dal i ddysgu, rwyf mewn lle o ddiolchgarwch ac yn anelu at ysbrydoli eraill i gymryd y naid" 

Anrhydeddwyd Daniel fel Dysgwr y Flwyddyn mewn seremoni wobrwyo yn Sbarc Caerdydd ar 3 Gorffennaf 2024.

Mae Daniel yn ymgysylltu'n weithredol â'r gymuned trwy ei dudalen lle mae'n trefnu digwyddiadau i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg ymarfer yr iaith. Mae'r rhain yn cynnwys cyfarfodydd cerdded cŵn ddwywaith y mis ym Mharc Tredegar (ar yr ail a'r pedwerydd Sul), ynghyd â rhannu straeon ysbrydoledig a'i safbwynt cadarnhaol. Mae ganddo lawer mwy o gynlluniau ar gyfer y dyfodol. 

Llongyfarchiadau, Daniel, ar fuddugoliaeth eleni a'ch cyflawniadau nodedig dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at yr hyn y byddwch yn ei gyflawni nesaf.

I ddilyn troed Daniel a dysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i ddysgu Cymraeg, ewch i'r ddolen Dysgu Cymraeg: 

 

]]>
/cy/newyddion/taith-ysbrydoledig-dysgwyr-lleol-ers-dysgu-cymraeg/ /cy/newyddion/taith-ysbrydoledig-dysgwyr-lleol-ers-dysgu-cymraeg/ Thu, 05 Sep 2024 07:42:45 GMT Carolyn Jenkins
Tŷ Gofal Cwrt Mytton yn dathlu Diwrnod Rarebit Cymru mewn steil (1) Dathlodd trigolion Cwrt Mytton mewn steil ar y 3ydd o Fedi ar gyfer Ddydd Cenedlaethol Rarebit Cymru gyda diolch i Lywodraeth y DU, Y Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF).

Ni wnaeth cogyddion Cwrt Mytton, Adam Grisley a Nigel Jelly, siomi gyda rarebit wedi'i wneud eu hun, bara blasus wedi'i phobi gyda chaws Cymreig blasus a chawl cennin a thatws, Bara Brith a mica maen Cymreig ffres i orffen.

Roedd Jonny Bevan yn adlonni’r preswylwyr gyda chaneuon nostalgig gan Tom Jones a David Alexander, gan ddod i ben gydag Anthem Cymru bwerus. Roedd trigolion yn canu, yn dawnsio, ac yn cael amser gwych, roedd Swyddogion Polisi Cymraeg Katherine Watkins-Hughes a Vikki Alexander yn cael y fraint i ddogfennu'r digwyddiad.

"Mae'r Gronfa Ffyniant Cyffredin (SPF) a dderbyniwyd fel rhan o'm rôl yn ein galluogi ni i drefnu’r digwyddiadau hyn yn y gymuned, rydym wedi gweithio gydag ysgolion ond roedd heddiw mor arbennig i allu gweithio gyda'r tîm gwych yn Gwrt Mytton i ddod â gwên i'r preswylwyr. Nid yw alli siarad Gymreig yn unig yw dod yn Gymro neu Cymrais, mae'n ymwneud â'r diwylliant cyfan, a'r traddodiadau sydd wedi'u trosglwyddo drwy'r cenedlaethau. Mae'n perthyn i bob un ohonom, boed yn siarad Cymraeg neu beidio, mae'n e yn ein DNA a dylem fod mor falch o fod yn rhan ohono."

Siaradodd Jonny Bevan am ei gariad o ymweld â Chwrt Mytton “Dw i'n dod yma yn aml i berfformio a rhedeg gweithgareddau ac rwy'n ei garu. Mae'n bleser gweld y llawenydd ar eu hwynebau a'r dagrau o hapusrwydd wrth iddynt gofio'r gerddoriaeth a'r atgofion sy'n cwmpasu'r eiliad hwnnw. Roedd dau o'r preswylwyr gyda mi yn Regiment Y Gymru Frenhinol ac fe welon ni lawer o deithiau dyletswydd. Rwy'n dioddef o PTSD ac mae gwneud y digwyddiadau hyn yn fy helpu i adfer fy iechyd meddwl fy hun. Mae'n wirioneddol arbennig gallu ymweld yn aml a'r rhan orau o'm swydd."

Mae Joanne Hawkins a'i thîm yn Gwrt Mytton yn weithgar, gan drefnu llawer o weithgareddau a digwyddiadau i'r trigolion, yn enwedig i ddathlu diwylliant Cymru.  "Rydym am i'r trigolion deimlo'n gyfforddus, nid fel eu bod mewn cartref, ond yn mwynhau eu hamser yma gyda digon i'w wneud."  Gyda chrefftau, cerddoriaeth a gemau, mae rhywbeth yn digwydd bob amser. Mae'r trigolion yn hapus, yn cael gofal da, ac yn gyffrous am yr hyn sy'n dod nesaf.

]]>
/cy/newyddion/ty-gofal-cwrt-mytton-yn-dathlu-diwrnod-rarebit-cymru-mewn-steil-1/ /cy/newyddion/ty-gofal-cwrt-mytton-yn-dathlu-diwrnod-rarebit-cymru-mewn-steil-1/ Fri, 06 Sep 2024 07:56:20 GMT Carolyn Jenkins
Cynyddu Llwyddiant JC Moulding yw fusnes mowldio chwistrellu sy'n tyfu'n gyflym sy'n seiliedig ar y Stad Ddiwydiannol Blaenant ym Mrynmawr.

Mae ganddyn nhw dros 30 mlynedd o brofiad ac yn arbenigo mewn dylunio a gweithgynhyrchu offer ar gyfer offer ffurfio chwistrellu. Mae JC Moulding yn allforio i'r diwydiant ledled y byd.

Defnyddiwyd arian o'r Grant Datblygu Busnes i brynu offer peiriannu CNC i gynhyrchu offer mowldio a fydd yn cynyddu capasiti, ansawdd ac effeithlonrwydd eu cynhyrchu offer mowldio.

Dywedodd Phil Marshall, Cyfarwyddwr JC Moulding, "Rydym yn ddiolchgar am y cymorth ariannol a dderbyniwyd, mae hyn wedi helpu i gyflymu ein cynlluniau ehangu ar gyfer y busnes a chefnogi'r galwadau cyson gan ein cwsmeriaid i leihau amseroedd ar gyfer offerynnau newydd ac i gynhyrchu cynhyrchion mwy cywir, o ansawdd uwch.”

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod y Cabinet - Lle & Adfywio a Datblygu Economaidd, "Mae JC Moulding yn gyflogwr lleol gwerthfawr gyda chynlluniau uchelgeisiol i dyfu eu busnes. Mae'n dda clywed sut y bydd ein grant yn gwella eu gwasanaeth gyda chreu swyddi newydd."

Mae Grant Datblygu Busnes AƬ yn cael ei ariannu gan Gronfa Cysondeb Rhannol Llywodraeth y DU ac yn cael ei reoli gan y Tîm Busnes ac Arloesi yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol AƬ. Nod y Grant Datblygu Busnes yw cefnogi twf a datblygiad busnesau newydd a'r rhai sydd eisoes yn bodoli yn AƬ.

Cynghorydd John Morgan, Jon Murcutt JC Moulding, Moe Forouzan, Rheolwr Tîm Busnes & Arloesi BGCBC

]]>
/cy/newyddion/cynyddu-llwyddiant/ /cy/newyddion/cynyddu-llwyddiant/ Wed, 11 Sep 2024 08:07:45 GMT Carolyn Jenkins
Plac Porffor yn coffáu Minnie Pallister i’w ddadorchuddio ym Mryn-mawr Cynhelir seremoni dadorchuddio Plac Porffor i anrhydeddu Minnie Pallister (1885-1960) - athro, ffeminydd, heddychwr, gwleidydd, newyddiadurwr a darlledwr - yn Neuadd y Farchnad Bryn-mawr ar 18 Medi am 6pm. Bydd y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn dadorchuddio’r plac.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Leoedd a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Helen Cunningham: 
"Mae'n hyfryd gweld Minnie yn cael ei chydnabod fel hyn gan ei bod hi’n rhan annatod o hanes y mudiadau llafur a heddychol. A hithau'n ffeminydd sosialaidd, eiriolodd ac ymgyrchodd yn feiddgar dros fyd gwell yn seiliedig ar y gwerthoedd hynny. Doedden nhw ddim bob amser yn ei gwneud hi'n boblogaidd ond roedd hi'n ddiwyro yn ei hymrwymiad i'r achosion hynny. Roedd y byd gwleidyddol bron yn gyfan gwbl wrywaidd bryd hynny felly mae’r ffaith iddi ddod yn unigolyn mor flaenllaw yn adrodd cyfrolau am ei nerth. Roedd ei blynyddoedd yma ym Mryn-mawr yn ffurfiannol a bydd yn cael ei chofio am byth gyda'r Plac Porffor hwn, teyrnged wirioneddol addas i ddynes ryfeddol. Dyma ein hail blac ym Mlaenau Gwent, yn dilyn Thora Silverthorn, a weithiodd fel nyrs yn y frwydr ryngwladol yn erbyn ffasgaeth yn Rhyfel Cartref Sbaen."

Teithiodd Minnie, a aned yng Nghernyw, ledled gwledydd Prydain gyda'i theulu gan fod ei thad yn Weinidog Methodistaidd. Ymgartrefon nhw ym Mryn-mawr lle enillodd gymhwyster addysgu yn y Brifysgol yng Nghaerdydd, a bu'n dysgu yn Ysgol Fabanod Gynradd Sir Bryn-mawr, neu’r ysgol fwrdd fel y’i gelwid rhwng 1906 a 1918. Trwy gydol y cyfnod hwn roedd hi’n cyfrannu’n weithredol at wleidyddiaeth ac fel heddychwr daeth yn ffigwr blaenllaw yn gwrthwynebu'r Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru - gwnaeth ei phresenoldeb a'i grym siarad cyhoeddus ei rhoi yn yr un categori â Sylvia Pankhurst. Ym 1915 disgrifiodd Keir Hardie hi fel seren newydd yn disgleirio ar y gorwel.

Gan godi trwy rengoedd y Blaid Lafur, daliodd Minnie lawer o swyddi ar lefel uchel iawn o ystyried cynrychiolaeth menywod ym myd gwleidyddol yr oes, megis: Llywydd Plaid Lafur Annibynnol Cymru (1920) ac Ymgeisydd Seneddol dros Bournemouth (1923).

Ar anterth ei gyrfa wleidyddol cafodd ei tharo'n wael gyda salwch a arweiniodd at flynyddoedd o eiddilwch parlysol. Fodd bynnag, o'i gwely hyfforddodd Minnie ei hun i fod yn newyddiadurwr gan sicrhau swyddi amlwg gyda’r Daily Mirror a'r Daily Herald (papur newydd mwyaf Prydain ar y pryd) cyn dod yn ddarlledwr gyda’r BBC.

Mae’r Placiau Porffor yn wobr sy'n cydnabod menywod hynod yng Nghymru a'r cyfraniad y maent wedi'i wneud i fywyd Cymru.  Bydd y menywod hyn o Gymru wedi cael dylanwad yng Nghymru a thu hwnt. Efallai na fyddant wedi cael sylw haeddiannol o’r blaen, neu efallai eu bod wedi cael eu gadael allan o'r llyfrau hanes yn gyfan gwbl. 

Meddai Sue Essex, cadeirydd Placiau Porffor Cymru:
"Mae Placiau Porffor yn grŵp gwirfoddol bach sy'n ymroddedig i gofio a dathlu Menywod Rhyfeddol yng Nghymru ac rydym yn falch iawn o godi ein 18fed Plac Porffor yng Nghymru ar gyfer Minnie Pallister ym Mryn-mawr lle bu'n byw am flynyddoedd lawer. Mae ei hanes rhyfeddol wedi dod i'r amlwg trwy ddiwydrwydd a phenderfyniad ei bywgraffydd Alun Burge ac ymrwymiad Cyngor AƬ a Chymdeithas Hanes Lleol Bryn-mawr.

Mae stori Minnie yn ymwneud â menyw hynod ddewr a deallus a oedd yn barod i roi ei bywyd i ymladd dros yr achosion yr oedd hi'n credu ynddynt. Roedd hi'n ddi-ofn ac yn gwbl ddyfal yn hyrwyddo ffeministiaeth a chydraddoldeb ar adeg pan nad oedd y rhain yn y brif ffrwd.
Mae codi Plac Porffor yn ffordd o ddathlu a rhoi clod hir-ddisgwyliedig i'r fenyw ryfeddol hon a chydnabod yr hyn yr oedd hi'n sefyll drosto."

 I ddathlu'r achlysur ymhellach, bydd lansiad llyfr swyddogol yn Amgueddfa Bryn-mawr - ‘Minnie Pallister: The Voice of a Rebel’ gan Alun Burge - hanes diddorol ei bywyd dewr. Dywedodd yr awdur Alun Burge, 'Gyda'r bywgraffiad hwn, mae Minnie Pallister bellach yn cael ei hadfer i'w lle priodol yn hanes AƬ a Chymru a gellir cydnabod ei chyfraniad at y mudiadau llafur a menywod yn llawn. Bydd yna hefyd furlun. Cefnogir dadorchuddiad y plac a'r murlun gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Bydd yna hefyd ddarlith i ddathlu hanner canmlwyddiant Cymdeithas Hanes Bryn-mawr yng Nghlwb Cymdeithasol Bryn-mawr am 7pm. Daethpwyd â llawer o'r gweithgareddau at ei gilydd gan y diweddar Mr Eifion Lloyd Davies a fu farw yn drist iawn yn y gwanwyn.

]]>
/cy/newyddion/plac-porffor-yn-coffau-minnie-pallister-i-w-ddadorchuddio-ym-mryn-mawr/ /cy/newyddion/plac-porffor-yn-coffau-minnie-pallister-i-w-ddadorchuddio-ym-mryn-mawr/ Wed, 11 Sep 2024 15:48:49 GMT Alan Powell
Ymdrechu am ôl traed Sero Carbon Canolfan Gerddi Victoria yw Ganolfan Gerddi lleol annibynnol sy'n cael ei redeg gan deulu, ac sydd wedi'i leoli yn Barc Busnes y Goron, Tredegar.

Yn 2023 gosododd y busnes paneli solar. Roedd hyn yn lleihau eu defnydd o drydan o'r grid cenedlaethol gan 95%.

Gyda chymorth y Grant Datblygu Busnes, roedd y Ganolfan yn gallu prynu Tryc Forklift Trydanol, Tryc Pallet Trydanol a pheiriant Bailio. Mae hyn wedi caniatáu iddynt leihau eu gwastraff 90% a lleihau eu defnydd o ynni. Mae'r peiriant bailio yn caniatáu i gwsmeriaid ddychwelyd potiau planhigion, hambyrddau ac ati fel y gellir eu hailgylchu. Mae hyn wedi cynyddu’r nifer o ymwelwyr ac felly yn y tymor hir gobeithio bydd yn helpu'r fasnach.

Dywedodd Kelvyn Miller o Ganolfan Gerddi Victoria "Ein cenhadaeth yw lleihau ein hôl troed carbon. Rydym yn cynnig ailgylchu am ddim i gwsmeriaid ar gyfer yr eitemau canlynol:

Cardfwrdd, potiau planhigion plastig, plastig, planhigion, labeli, hambyrddau planhigion plastig, bagiau compost, wrap swigod, ffilm pallet blastig clir, bagiau gwastraff du, bagiau cludo, bagiau swmp gan fasnachwyr adeiladu a ddefnyddir ar gyfer tywod/garreg ac ati."

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod y Cabinet - Lle & Adfywio a Datblygu Economaidd, "Mae'n dda gweld busnes lleol yn gwneud eu rhan i leihau'r troed carbon a lleihau tirlenwi gwastraff trwy ailgylchu cymaint â phosibl".

Mae Grant Datblygu Busnes AƬ yn cael ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Cyffredin gan Lywodraeth y DU ac yn cael ei reoli gan y Tîm Busnes ac Arloesi yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol AƬ. Nod y Grant Datblygu Busnes yw cefnogi twf a datblygiad busnesau newydd a'r rhai sydd eisoes yn bodoli ym Mlaenau Gwent.

 

Cynghorydd John Morgan

]]>
/cy/newyddion/ymdrechu-am-ol-traed-sero-carbon/ /cy/newyddion/ymdrechu-am-ol-traed-sero-carbon/ Fri, 20 Sep 2024 08:23:07 GMT Carolyn Jenkins
Cyngor yn gwneud 'Profiad o Ofal' yn Nodwedd Warchodedig Mae cynghorwyr ym Mlaenau Gwent heddiw wedi cytuno ar gynnig a fydd yn gweld pobl â phrofiad o ofal yn derbyn statws nodwedd warchodedig.

Daethpwyd â'r Cynnig gan grŵp o gynghorwyr a ddywedodd fod 'pobl â phrofiad o ofal yn un o'r grwpiau mwyaf agored i niwed ar draws ein cymdeithas, yn aml yn wynebu stigma a gwahaniaethu gydol oes.'  Cafodd ei gefnogi a'i groesawu gan yr holl gynghorwyr yn y cyfarfod.

Mae ymchwil wedi dangos bod pobl â phrofiad o ofal yn llai tebygol o gael mynediad i addysg bellach fel prifysgol, yn fwy tebygol o gael eu talu'n is yn eu cyflogaeth, a 70% yn fwy tebygol o farw cyn pryd.

Yr Aelod Cabinet dros Bobl a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Cynghorydd Haydn Trollope, oedd yn arwain y Cynnig. Meddai:

"Er y bydd y profiad o ddod i ofal a derbyn gofal fel plentyn yn unigryw i bob unigolyn, nid oes modd gwadu’r ffaith ei fod yn gadael etifeddiaeth barhaol ac yn dylanwadu ar drywydd bywyd. Mae pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn wynebu gwahaniaethu, stigma a rhagfarn yn eu bywydau o ddydd i ddydd ac fel Cyngor rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i helpu i newid hynny.

"Byddai gwneud profiad o ofal yn nodwedd warchodedig yn ein galluogi i roi polisïau a rhaglenni ar waith a fydd yn hybu canlyniadau gwell i bobl â phrofiad o ofal. Ar hyn o bryd rydym yn cynnig lefel dda o gefnogaeth i unigolion sy’n gadael gofal tan eu bod yn 25 oed ond bydd gwneud profiad o ofal yn nodwedd warchodedig yn rhoi mwy o ystyriaeth ac amddiffyniad rhag gwahaniaethu i bobl dros yr oedran hwnnw."  

O ganlyniad i basio'r Cynnig, mae'r Cyngor wedi penderfynu:

· Ychwanegu 'pobl sydd â phrofiad o ofal' at Asesiad Effaith Integredig y Cyngor, fel bod effaith unrhyw benderfyniadau polisi ar bobl â phrofiad o ofal yn cael ei nodi a'i ystyried pan wneir y penderfyniadau hynny.

· Gwarantu cyfweliad i unigolion sydd wedi bod mewn gofal, ar yr amod eu bod yn bodloni'r meini prawf dethol a nodir yn y disgrifiad swydd.

· Ystyried sut y gallai oresgyn yr anfanteision a'r gwahaniaethu a brofir gan bobl â phrofiad o ofal wrth osod ac adolygu'r Amcanion Cydraddoldeb Strategol.

Hefyd yn ddiweddar, llofnododd Cyngor AƬ Siarter Rhianta Corfforaethol Llywodraeth Cymru, gan gryfhau ei ymrwymiad i sicrhau'r gwasanaethau a'r cyfleoedd gorau i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Darllenwch fwy am hyn yma.

Person â phrofiad o ofal yw rhywun sy'n byw neu wedi byw mewn gofal ar unrhyw adeg yn ei fywyd. Mae hyn yn cynnwys plant sydd wedi profi - neu sy’n byw ar hyn o bryd - mewn gofal preswyl, gofal maeth, gofal gan berthnasau, neu gartref gyda gorchymyn goruchwylio. O dan 25 oed, cyfeirir atynt fel plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.

]]>
/cy/newyddion/cyngor-yn-gwneud-profiad-o-ofal-yn-nodwedd-warchodedig/ /cy/newyddion/cyngor-yn-gwneud-profiad-o-ofal-yn-nodwedd-warchodedig/ Thu, 26 Sep 2024 14:08:13 GMT Louise Bishop
Y chwaraewr Snwcer Ray Reardon i dderbyn Rhyddid Bwrdeistref AƬ Bydd Rhyddid Bwrdeistref AƬ yn cael ei roi i’r chwaraewr snwcer chwedlonol, Ray Reardon, wedi ei farwolaeth. Cytunwyd ar hyn yn unfrydol yng Nghyfarfod Llawn y Cyngor heddiw.

Ganwyd Ray Reardon yn Nhredegar a gwnaeth gyfraniad mawr i fyd snwcer nid yn unig yn Nhredegar ond ledled Cymru a’r byd. Dominyddodd y gamp am y rhan orau o ddegawd gan ennill chwe Phencampwriaeth Snwcer y Byd rhwng 1970 a 1978 a mwy na dwsin o deitlau proffesiynol eraill yn ystod ei yrfa.

Bu farw ym mis Gorffennaf eleni yn 91 oed.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Smith, Aelod Llywyddol Cyngor AƬ:

"Rwy'n falch iawn bod y Cyngor heddiw wedi cefnogi’r cynnig i roi Rhyddid y Fwrdeistref i’r chwaraewr snwcer Ray Reardon o Dredegar, wedi ei farwolaeth. Roedd Ray yn chwaraewr chwedlonol ac yn un o gymeriadau mawr y gamp. Roedd yn llawn ffocws ac yn benderfynol wrth y bwrdd, ond i ffwrdd ohono roedd yn adnabyddus am ei gynhesrwydd a'i hiwmor - gŵr bonheddig go iawn. Mae Ray yn haeddu'r anrhydedd uchaf y gallwn ei ddyfarnu fel Cyngor."

Ray yw'r ail chwaraewr snwcer i dderbyn yr anrhydedd yma, yn dilyn Mark Williams yn 2019. Dyma'r anrhydedd uchaf y gall Awdurdod Lleol ei roi i unigolyn.

Bydd trefniadau nawr yn cael eu gwneud i ddyfarnu'r anrhydedd yn ffurfiol.

]]>
/cy/newyddion/y-chwaraewr-snwcer-ray-reardon-i-dderbyn-rhyddid-bwrdeistref-blaenau-gwent/ /cy/newyddion/y-chwaraewr-snwcer-ray-reardon-i-dderbyn-rhyddid-bwrdeistref-blaenau-gwent/ Thu, 26 Sep 2024 15:48:42 GMT Louise Bishop
Cyngor AƬ yn datgan argyfwng natur Mewn ymateb i'r bygythiad difrifol o ddirywiad i fioamrywiaeth y fwrdeistref, mae Cyngor AƬ wedi datgan argyfwng natur.  Bydd hyn yn helpu i leihau neu atal colledion pellach o fioamrywiaeth a diogelu'r ardaloedd hyn ar gyfer y dyfodol.

Datganodd Cymru argyfwng natur ym mis Mehefin 2021 ac mae 11 o 22 o Gynghorau Cymru eisoes wedi gwneud yr un peth. Mae dyletswydd gyfreithiol ar bob Cyngor yng Nghymru drwy Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 i geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau.

Mae'r Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol (LNRAP) yn nodi blaenoriaethau lleol ar gyfer gwarchod rhywogaethau a chynefinoedd ac mae bellach wedi'i fabwysiadu gan y Cyngor i helpu i wrthdroi'r argyfwng presennol. Yn ogystal, cymeradwywyd y 'Polisi Peillwyr' a fydd yn creu cynefinoedd sy'n dda i beillwyr ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor i helpu i adfer natur ymhellach a gwrthdroi dirywiad mewn rhywogaethau, gan gynnwys pryfed peillio. 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Leoedd a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Helen Cunningham: 
"Mae'n hanfodol ein bod yn gweithredu'n gyflym i helpu i wrthdroi'r argyfwng ecolegol hwn. Mae newid hinsawdd wedi rhoi pwysau sylweddol ar fioamrywiaeth a bydd colli rhagor o fioamrywiaeth yn cynyddu newid hinsawdd - mae'r ddau wedi'u cysylltu'n annatod.  Mae CBS AƬ wedi cydnabod difrifoldeb y sefyllfa hon trwy ddatgan argyfwng natur a bydd yn ymrwymedig i ddiogelu a gwella ein hecosystem ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol".

]]>
/cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-datgan-argyfwng-natur/ /cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-datgan-argyfwng-natur/ Fri, 27 Sep 2024 10:31:44 GMT Alan Powell
Dyfarnu gwobrau'r Foundation of Community Engagement i dair ysgol leol. Enillodd Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair ym Mrynmawr wobr Arian y Foundation of Community Engagement.

Dywedodd Mrs Donna Hawkins, Arweinydd Ymgysylltu â Theuluoedd a Chymunedau, “Yn y Santes Fair, rydyn ni wir yn credu ei bod hi’n cymryd cymuned i fagu plentyn, ac rydyn ni’n cydnabod ac yn gwerthfawrogi pawb yn ein teulu ysgol. Mae ennill y wobr hon yn hynod bwysig i ni gan ei fod yn cydnabod gwaith caled cymuned yr ysgol gyfan. Mae fframwaith Calon y Gymuned wedi bod yn gefnogaeth enfawr wrth i ni barhau â’n taith fel Ysgol Fro.”

 

Enillodd Ysgol Arbennig Pen-y-Cwm yng Nglynebwy wobr Efydd y Foundation of Community Engagement.

Dywedodd Deborah Herald, Pennaeth, “Roeddem yn falch iawn ein bod wedi cael gwahoddiad i'r gynhadledd ieuenctid gyntaf erioed a gynhaliwyd gan y Foundation of Community Engagement yn dilyn ein gwobr Efydd. Rhannodd cynrychiolwyr ein Senedd Ysgol eu barn a chydweithio ag eraill ar yr hyn y mae cymuned yn ei olygu iddynt a beth yw rôl yr ysgol wrth adeiladu a chefnogi’r gymuned honno.

 

Fel pennaeth ysgol y mae ei dalgylch yn cwmpasu AƬ GYFAN, rwy’n ymwybodol iawn o faint y gwaith dan sylw ac mae’r wobr Efydd hon yn dangos ein bod ar y trywydd iawn. Mae’r fframwaith a ddarparwyd gan Sue Davies yn helpu i arwain cynllunio datblygiad ysgol a gyda gwaith caled parhaus a chefnogaeth holl staff yr ysgol, byddwn yn parhau i ddatblygu ac ymgorffori arferion sy’n ein helpu i symud tuag at fod yn ysgol sydd wrth galon ein cymuned.”

Argymhelliad olaf yr adroddiad oedd gwrando ar ein dysgwyr felly dyma safbwynt un o’r mynychwyr, Courtney Collyer. Dywedodd Courtney “Roedd yn ddiwrnod llawn hwyl a oedd hefyd yn addysgiadol iawn. Roeddwn i wrth fy modd bod yn rhan pencadlys ffansi’r stadiwm yn Abertawe. Byddwn yn dweud mai'r brownis oedd y rhan orau o'r diwrnod, ond mewn gwirionedd roedd yn braf cael fy amgylchynu gan oedolion a oedd yn gwrando ar y plant mewn gwirionedd. Roedd yn braf cael fy nghlywed.”

Enillodd Ysgol Gynradd Willowtown yng Nglynebwy Wobr Calon y Gymuned.

Dywedodd Melanie Evans, Pennaeth, “Mae ein hysgol yn ymfalchïo yn y perthnasoedd cryf sydd wedi’u meithrin gyda’n teuluoedd ac yn wir ein cymuned. Cychwynnodd Willowtown ar daith y ‘Foundation of Community Engagement’ yn dilyn cyflwyniad angerddol ac ysbrydoledig gan y sylfaenydd Sue Davies mewn cyfarfod Prifathrawon.

Wrth i ni edrych ar y pileri ar gyfer cydnabyddiaeth daeth yn amlwg yn gyflym iawn ein bod eisoes ar ein ffordd! Fel ysgol, fe wnaethom achub ar y cyfle wedyn i ddathlu’r holl weithgareddau/cyfleoedd bendigedig oedd ar gael a/neu a oedd yn digwydd yn ddyddiol yn Willowtown. Mae rhai o’r rhain yn cynnwys ein Gwerthoedd Misol, prosiect Cynefin, Big Bocs Bwyd, gweithdai Croeso Willowtown, Gwirfoddolwyr Rhieni, PTFA, prosiectau Pontio’r Cenedlaethau, rhaglenni Lluosi a Roots of Empathy i enwi dim ond rhai!

Mae hefyd wedi ein galluogi i nodi ein cryfderau a’n camau nesaf mewn Ymgysylltu â’r Gymuned fel y gallwn barhau a ffynnu ar ein taith. Mae wedi bod yn ddull ysgol gyfan o gyflawni ein gwobr, ond hoffwn roi ‘Diolch’ arbennig i’n Harweinydd Ymgysylltu â Theuluoedd a Chymunedau yn Willowtown – Mrs Hughes.

Ein datganiad gweledigaeth yw ‘We are the vibrant beating heart of the community[GA1] ’ ac ni allwn fod yn fwy balch o weld hyn yn dod yn fyw trwy ein gwaith. #WILLOWTOWNWAY.”

Mae Ysgol Gynradd Blaenycwm wedi ennill Gwobr Calonnau’r Gymuned.

Mae Ysgol Gynradd Blaenycwm wedi ennill Gwobr Calonnau’r Gymuned. Dywedodd Mrs Sarah Oliver-Bryant, Pennaeth, “Rydym wedi cyflawni’r Efydd, Arian ac Aur gan y Sefydliad Ymgysylltu â Theuluoedd a nawr Calonnau’r Gymuned mewn llai na deuddeg mis. Gwnaeth y gwaith yr ydym yn ei wneud i gefnogi’r gymuned ym Mrynmawr, Blaenau a Nantyglo argraff fawr ar Sue Davies, a’n hasesodd. Gwnaeth ein Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd sy'n gweithio gyda'n holl deuluoedd a'r gymuned argraff arbennig arni. Rwyf wedi atodi rhai lluniau o’r cyflwyniad.”

     

Mae'r Foundation for Community Engagement yn annog ac yn gweithio gydag ysgolion a phartneriaid i weithio gyda'i gilydd tuag at amcanion cyffredin, i ganolbwyntio ar anghenion pobl, ar bob cam o'u bywydau.

Cynhaliodd y Foundation of Community Engagement y gynhadledd ymgysylltu â’r gymuned gyntaf a anelwyd at bobl ifanc ar draws Cymru ar 12 Gorffennaf, 2024.

Roedd y diwrnod yn gyfle anhygoel i’n pobl ifanc fynegi barn, cydweithio, ystyried hoffterau a diddordebau, a rhannu pryderon am y ffordd y mae eu cymuned yn cael ei chefnogi gan ysgolion, a sut y gall eu cymunedau lleol gefnogi ysgolion.

Cyfrannodd disgyblion o Ysgol Penycwm, Ysgol Gymunedol Tonyrefail, Ysgol Brynteg, Ysgol Uwchradd Cwmbrân, Idris Davies, Ysgol Hen Felin, Ysgol Aberdaugleddau ac Ysgol Gatholig Bendigaid Carlo Acutis eu meddyliau a’u syniadau a fydd yn cael eu rhannu ar draws Cymru.

]]>
/cy/newyddion/dyfarnu-gwobraur-foundation-of-community-engagement-i-dair-ysgol-leol/ /cy/newyddion/dyfarnu-gwobraur-foundation-of-community-engagement-i-dair-ysgol-leol/ Fri, 27 Sep 2024 13:29:45 GMT Carolyn Jenkins
Ysgol STEM y Flwyddyn 2024 AƬ yn cael ei dyfarnu i Ysgol Gynradd Coed-y-Garn Llongyfarchiadau i Ysgol Gynradd Coed-y-Garn, y Blaenau a gafodd ei henwi’n ysgol Wyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) y flwyddyn yn ddiweddar.

Gwnaeth Mrs Holder, arweinydd STEM yr ysgol, ymgysylltu’n weithredol â'r Prosiect Hwyluso STEM ar draws pob grŵp blwyddyn a gwnaeth ei brwdfrydedd, ei chreadigrwydd a'i dull cydweithredol greu argraff ar y beirniaid. Gyda gweithdai gwyddoniaeth ymarferol, ymweliadau â'r 'Ganolfan Go Green' yng Nghanolfan Ailgylchu Roseheyworth, gwersi codio gan y ' Big Learning Company' a llawer o brosiectau rhyngweithiol a dysgu eraill, mae'r plant wedi mwynhau profiad dysgu gwych.

Fel rhan o brosiect Hwyluso STEM AƬ, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, dyfernir pwyntiau i ysgolion ledled y fwrdeistref yn seiliedig ar eu gweithgareddau a'u hymgysylltiad â'r prosiect. Roedd Coed-y-Garn yn enillwyr haeddiannol gan gronni mwy o bwyntiau nag unrhyw ysgol arall.

Dywedodd Dr Luisa Munro-Morris, Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg Cyngor AƬ:
"Mae hyn yn wych i Goed-y-Garn i ennill gwobr o'r fath a chael ei chydnabod fel un o'r ysgolion cynradd STEM gorau. Mae cymaint o gyfleoedd i ni fanteisio arnynt ac rydym eisoes wedi nodi rhai posibiliadau cyffrous iawn a fydd yn gwneud i'r bobl ifanc sylweddoli pa mor fuddiol yw pynciau STEM i’w dyfodol.  Da iawn i'r holl athrawon a disgyblion hynny sydd wedi chwarae rhan enfawr yn y cyflawniad hwn."

Mae STEM yn ddull o ddysgu a datblygu sy'n integreiddio gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Mae sgiliau allweddol fel datrys problemau, llythrennedd digidol, dadansoddi beirniadol, cyfathrebu a meddwl annibynnol ymhlith y sgiliau newydd sydd eu hangen ar blant i ragori trwy gydol eu taith ddysgu.

 
     
 

Plant yng Nghoed-y-Garn yn mwynhau rhai o'r gweithgareddau STEM niferus a enillodd y wobr Ysgol STEM y Flwyddyn 2024 iddyn nhw.

]]>
/cy/newyddion/ysgol-stem-y-flwyddyn-2024-blaenau-gwent-yn-cael-ei-dyfarnu-i-ysgol-gynradd-coed-y-garn/ /cy/newyddion/ysgol-stem-y-flwyddyn-2024-blaenau-gwent-yn-cael-ei-dyfarnu-i-ysgol-gynradd-coed-y-garn/ Fri, 27 Sep 2024 14:24:02 GMT Alan Powell
Hydref ydy Mis Hanes Du yn y DU

Hydref ydy Mis Hanes Du yn y DU, ac yng Nghyngor AƬ, rydym yn dathlu'r achlysur pwysig hwn yn falch.

Dechreuodd Mis Hanes y Duon yn yr Unol Daleithiau yn y 1920au a nodwyd am y tro cyntaf yn y DU yn 1987, sydd hefyd yn cael ei gydnabod mewn gwledydd fel Canada, yr Almaen, ac Iwerddon. 

Beth yw Mis Hanes Du?

Yn y DU, cynhelir Mis Hanes Du bob mis Hydref ac mae'n rhoi cyfle i bawb ddathlu, dysgu am, a gwerthfawrogi dylanwad treftadaeth a diwylliant Du. 

Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol AƬ, rydym yn arddangos llawer o unigolion Du ysbrydoledig sydd â chysylltiadau â'n hardal, gan amlygu eu cyfraniadau sylweddol a'r effaith barhaol y maent wedi'i wneud. Am ganrifoedd, mae pobl o ddisgynyddion Affrica a'r Caribî wedi llunio hanes Prydain, er bod eu hymdrechion yn aml wedi cael eu hesgeuluso neu eu cam-gynnwys. 

Mae blynyddoedd diweddar wedi dod â mwy o sylw at ddigwyddiadau allweddol fel cenhedlaeth Windrush a symudiadau fel 'Black Lives Matter', yn enwedig ar ôl marwolaeth drasig George Floyd yn 2020.

Sbotolau ar Sherrie Woolf: Arloeswr mewn Cyllid ac Adnoddau Dynol

 

I nodi Mis Hanes Pobl Dduon, mae’n bleser gennym roi sylw i Sherrie Woolf, Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau Dynol Airflo Fishing. Mae llwybr rhyfeddol Sherrie o brentisiaeth fodern yng Nghymru i yrfa ryngwladol nodedig mewn cyfrifyddu ac adnoddau dynol yn amlygu ei hymrwymiad a’i harbenigedd.

Yn wreiddiol o Dredegar, AƬ, dechreuodd Sherrie ei gyrfa gyda phrentisiaeth fodern a baratôdd y ffordd ar gyfer rolau rhyngwladol yn Llundain, Efrog Newydd ac Amsterdam. Gweithiodd i ddechrau yn y diwydiant technoleg a busnesau newydd cyn dychwelyd i Gymru i lansio ei chwmni cyfrifyddu ei hun. Mae ei chysylltiadau â Thredegar yn parhau’n gryf hyd heddiw, gyda’i theulu yn byw yno.

Dechreuodd taith Sherrie i Airflo Fishing pan gafodd ei phenodi’n ymgynghorydd ar weithredu meddalwedd gyfrifyddu newydd. Arweiniodd ei hymroddiad a’i hangerdd rhyfeddol hi i ymuno â’r cwmni’n barhaol. Bron i bedair blynedd yn ddiweddarach, mae hi’n parhau i fod yn rhan annatod o’r tîm, wedi’i denu gan ffocws Airflo ar bobl ac ymrwymiad y cwmni i hyrwyddo pysgota â phlu.

Yn ogystal â’i gwaith yn Airflo Fishing, mae Sherrie yn weithredol mewn rolau ymgynghori ac fel cyfarwyddwr anweithredol. Hi yw dirprwy gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac mae hi hefyd yn gweithio fel cadeirydd Partneriaeth Chwaraeon Canolbarth Cymru. Mae stori Sherrie yn amlygu arloesedd, ymroddiad, a chyfoeth o brofiad byd-eang, gan ei gwneud yn unigolyn rhagorol i’w anrhydeddu yn ystod Mis Hanes Pobl Dduon.

Gosododd Sherrie, sydd hefyd yn rym deinamig yn y gymuned feicio, record byd newydd ar gyfer y cyfarfod beicwyr mwyaf o fenywod yn unig, gan ddod â 1,132 o feicwyr benywaidd at ei gilydd yng nghaffi Lynn’s Raven yn yr Eglwys Newydd ar 16 Gorffennaf 2017. Nid dathliad o rym a chymuned merched yn unig oedd y digwyddiad, ond digwyddiad codi arian hefyd a gododd £5,131 ar gyfer elusennau beiciau gwaed ac ambiwlans awyr.

Mae cyflawniad Sherrie Woolf yn enghraifft ysbrydoledig o arweinyddiaeth, trefniadaeth ac ymroddiad, gan arddangos pŵer undod ac angerdd wrth greu hanes.

Nododd Sherrie: “Gyda ffrind yn Llundain, Nimi Patel, rwy’n trefnu digwyddiadau record byd ar gyfer beicwyr benywaidd i dynnu sylw at nifer y merched sy’n reidio ac i annog gwell offer diogelwch. Rydym hefyd yn codi arian ar gyfer elusennau. Cododd ein digwyddiad cyntaf yn 2015 yn Ace Cafe  yn Llundain dros £3,000 i Hosbis y Cymoedd. Ers hynny, rydym wedi codi tua £20,000 ar gyfer elusennau fel Ambiwlans Awyr a Beiciau Gwaed. Cafodd ein record ddiweddaraf ei gosod yn 2022, gyda 1,549 o feicwyr benywaidd mewn cyfnod o bum awr.”

Mae stori Sherrie yn tystio i’r llwyddiannau rhyfeddol y gall rhywun eu cyflawni trwy ddyfalbarhad, arloesedd, ac ymdeimlad dwfn o gymuned. Fel menyw falch o liw o Flaenau Gwent, mae’n ffigwr ysbrydoledig i lawer, gan ddangos sut y gall penderfyniad ac angerdd helpu i dorri rhwystrau a hwyluso’r ffordd i uchelfannau newydd. Mae ei thaith o brentisiaeth fodern i rôl ddylanwadol yn Airflo Fishing, ynghyd â’i chyfraniadau sylweddol i’r gymuned feicio, yn enghraifft o bŵer ymroddiad a’r effaith y gall un unigolyn ei chael ar y byd. Mae Sherrie yn parhau i fod yn ffagl gobaith ac yn esiampl, nid yn unig i bobl AƬ, ond i unrhyw un sy’n dyheu am wneud gwahaniaeth.

Sbotolau ar Paul Robeson: Llais Cyfiawnder, Ffagl Undod

Ym mis Awst 1958, gwahoddwyd yr artist bas-bariton, actor, chwaraewr pêl-droed proffesiynol ac ymgyrchydd Americanaidd Paul Robeson, a’i wraig Eslanda, fel gwesteion arbennig i’r Eisteddfod Genedlaethol yng Nglynebwy.

Yn yr Eisteddfod, cyflwynwyd iddo lyfr emynau Cymraeg i nodi ei ymweliad, a soniodd am bwysigrwydd ei gysylltiadau Cymreig:

“Rydych chi wedi siapio fy mywyd – rydw i wedi dysgu gennych chi.”

Yn nyddiau tywyll dechrau’r Ail Ryfel Byd yn Llundain, cychwynnodd Ealing Studios ar brosiect ffilm uchelgeisiol. Roedd y ffilm hon, a ffilmiwyd yn rhannol yn ardal lofaol De Cymru, yn adrodd hanes glöwr Du o West Virginia a ddaeth i Gymru drwy Loegr yn ei chwiliad am waith.

Cofnododd y ffilm fywydau anodd glowyr Cymru wrth ddarparu rôl yr oedd ei seren, y bariton, actor ac ymgyrchydd enwog Paul Robeson, yn teimlo’n falch o’i phortreadu. Soniodd wrth bapur newydd yn yr Alban ei fod yn gyfle i ddangos “y dyn fel y mae mewn gwirionedd – nid y gwawdlun a gynrychiolir bob amser ar y sgrin”.

Hyd yn oed yn ôl safonau cyfoes, roedd y ffilm yn cael ei hystyried yn wleidyddol radical, gan fynd i’r afael â’r mater heriol o gau pyllau glo. Parhaodd y pwnc hwn i atseinio ym meysydd glo Prydain dros y blynyddoedd, gan wneud y ffilm yn arwyddocaol i genedlaethau o lowyr a wynebodd raglenni cau tebyg yn y degawdau dilynol.

Roedd yn arbennig o gydymdeimladol â chyflwr y glowyr, a’r rhan hollbwysig a chwaraeodd y diwydiant glo wrth ysgogi’r boblogaeth ar gyfer y rhyfel nesaf, a ddechreuodd yn ystod wythnosau saethu olaf y ffilm. Gwnaeth y cynhyrchwyr hyd yn oed newid y diweddglo i adlewyrchu hyn.

Roedd hefyd yn delio’n blwmp ac yn blaen â hiliaeth. Ar un adeg yn y ffilm, mae grŵp o weithwyr yn cwyno am safle David (cymeriad Robeson) yn y pwll glo ac yn y côr. “Daeth y boi yma â dyn Du i weithio i lawr y pwll …” Oddi ar y camera, gellir clywed llais mawr yn dweud, “Wel? Beth amdani?” Mewn saethiad agos, fe welwch Robeson yn hongian ei ben ac yn plygu ei ysgwyddau, gan ddangos ei fod yn teimlo poen emosiynol y sarhad. Ond yn y canu mae undod llwyr ymhlith y dynion, sy’n adleisio thema’r ffilm.

Trwy gymryd y rôl hon, gwireddodd y potensial a ddangosodd yn ei flynyddoedd cychwynnol fel actor yn West End Llundain, yn arbennig pan chwaraeodd ran flaenllaw yn Show Boat yn Theatr Drury Lane yn 1928. Yno y daeth ar draws grŵp o lowyr di-waith a oedd wedi teithio i Lundain i dynnu sylw at y caledi a’r dioddefaint a wynebwyd gan filoedd o lowyr a’u teuluoedd yn Ne Cymru. Wedi’i ddenu gan eu canu, ffurfiodd gyfeillgarwch parhaol â’r glowyr Cymreig hyn a barhaodd dros ddegawdau. Dros y deng mlynedd nesaf, rhoddodd arian i Gartref Gorffwys Glowyr Tal-y-garn ac ymwelodd yn aml, gan berfformio mewn trefi fel Caerdydd, Castell-nedd ac Abertawe. Yn nodedig, yng Nghaernarfon, perfformiodd y diwrnod ar ôl i 266 o lowyr golli eu bywydau yn drasig yn nhrychineb Gresffordd.

Yn 1938, perfformiodd yn y digwyddiad i goffa Brigadau Rhyngwladol Cymru yn Aberpennar i anrhydeddu’r 33 o Gymry a fu farw yn Rhyfel Cartref Sbaen, gan fynegi i’r gynulleidfa, “Rwyf yma oherwydd gwn i’r cymrodyr hyn ymladd nid yn unig drostaf i ond dros y byd i gyd. Rwy’n teimlo ei bod yn ddyletswydd arnaf i fod yma.”

Parhaodd cysylltiad Robeson â Chymru yn gryf drwy gydol ei oes, gan symboleiddio parch dwfn a chyfnewid diwylliannol. Gadawodd ei ymweliadau, ei berfformiadau a’i ymgyrchedd ôl annileadwy ar gymunedau glofaol Cymru, a soniai’n aml am y teimlad o berthyn oedd ganddo â’r Cymry. Roedd Paul Robeson nid yn unig yn diddanu ond hefyd yn ysbrydoli, gan ddefnyddio ei lwyfan i eirioli dros gyfiawnder cymdeithasol ac urddas dynol. Mae ei etifeddiaeth yng Nghymru yn destament i rym undod a’r rhwymau parhaus a luniwyd trwy frwydrau a dyheadau cyffredin.

Sbotolau ar Roy Francis: Torri Rhwystrau, Adeiladu Etifeddiaeth

Cafodd Roy Francis, sy’n cael ei ddathlu fel un o’r prif hyfforddwyr gorau yn hanes rygbi’r gynghrair yng Nghymru, ei anrhydeddu’r llynedd yn ystod ein dathliadau coffa. I goffáu ymhellach ei gyfraniadau yn ystod Mis Hanes Pobl Dduon, fe wnaethom godi cofeb yn Sgwâr y Farchnad, Bryn-mawr, ac rydym yn annog pawb i ymweld a dysgu am ei etifeddiaeth nodedig.

Wedi’i eni yn 1919 a’i fagu ym Mryn-mawr, dechreuodd Roy ei yrfa mewn rygbi’r gynghrair yn 17 oed pan arwyddodd gyda Wigan. Enillodd bum cap i Gymru rhwng 1946 ac 1948, ond dim ond rhan o’i stori drawiadol yw hynny. Trwy gydol ei yrfa clwb, a oedd yn cynnwys cyfnodau gyda Barrow, Warrington, Hull FC a Dewsbury, sgoriodd 225 o geisiau mewn 346 o gemau. Er gwaethaf ei berfformiad eithriadol, dim ond un cap Prydain Fawr y sicrhaodd, lle sgoriodd ddau gais nodedig yn erbyn Seland Newydd yn Odsal. Credir bod gwahaniaethu ar sail hil, a ddylanwadwyd gan bolisi “Awstralia Gwyn” ar y pryd, wedi ei atal rhag ymuno â thaith y Llewod.

Fel y prif hyfforddwr proffesiynol Du cyntaf ym Mhrydain Fawr, roedd dulliau hyfforddi ac arweinyddiaeth arloesol Roy yn chwyldroadol, yn debyg i safle Carwyn James yn rygbi’r undeb. Yn enwog am ei sgiliau rheoli dyn, cyflwyno hyfforddiant campfa, dadansoddi fideo, a thechnegau seicolegol – arferion prin ar gyfer yr oes honno – roedd o flaen ei amser. Yn ogystal, fe arloesodd yr arfer o gynnwys teuluoedd chwaraewyr, gan ddarparu cludiant iddynt i gemau.

Trwy anrhydeddu Roy, mae AƬ nid yn unig yn anrhydeddu arwr lleol ond hefyd yn atgyfnerthu pwysigrwydd amrywiaeth, cynhwysiant a dyfalbarhad. Mae ei etifeddiaeth yn parhau i ysbrydoli, gan ein hatgoffa bod gwir fawredd yn cael ei gyflawni nid yn unig trwy sgìl ac arloesedd ond hefyd trwy’r dewrder i herio’r sefyllfa bresennol ac eirioli dros fyd gwell, mwy cynhwysol.

]]>
/cy/newyddion/hydref-ydy-mis-hanes-du-yn-y-du/ /cy/newyddion/hydref-ydy-mis-hanes-du-yn-y-du/ Mon, 30 Sep 2024 11:02:13 GMT Carolyn Jenkins
Dathlu Mis Hanes Du: Arddangosfa Windrush Fel rhan o'n dathliadau Mis Hanes Du, rydym yn falch i gydnabod yr arddangosfa Windrush anhygoel sydd wedi bod ar arddangosfa ar draws AƬ dros yr haf.

Mae Arddangosfa Windrush Cymru wedi bod yn daith anhygoel drwy hanes, gan arddangos cyflawniadau a chyfraniadau'r rhai a ymsefydlodd yn y DU o'r Caribî a'u disgynyddion. Bu'r arloeswyr hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth ailadeiladu Prydain - gan weithio mewn ffiliau dur, mwyngloddiau glo, ysbytai, a thrafnidiaeth gyhoeddus - ac wedi llunio ffabrig ein cenedl yn sylweddol ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Rydym yn eich gwahodd i feddwl am y profiadau hyn a dysgu oddi wrthynt. Gallwch weld yr Arddangosfa isod a hefyd wrando ar y gyfres podcast 'Valleys Voices', a gynhaliwyd gan Dîm Cydlyniad Cymunedol Gorllewin Gwent. Yn y gyfres hon, mae Sean Wharton yn rhannu ei stori fel disgynnydd Windrush a'i brofiadau yn tyfu i fyny yng Ngwent.

Ymwelodd y Cynghorydd Chris Smith (gweler y llun isod) â'r arddangosfa Windrush yn ôl ym mis Gorffennaf, a dywedodd y canlynol:

"I helpu i ailadeiladu Prydain ar ôl yr Ail Ryfel Byd, gwahoddwyd pobl i symud o'r Caribî rhwng 1948 a 1971 a daethant yn adnabyddus fel Cenhedlaeth Windrush. Mae'r arddangosfa sydd newydd ei agor yn Llyfrgell Tredegar, sy'n ymweld â phob llyfrgell arall yn y fwrdeistref, yn gyfle i gydnabod y genhedlaeth honno a gymerodd ran i adeiladu'r gymdeithas yr ydym yn ei adnabod heddiw a hefyd am ddeall y caledi a'r aberth a ddioddefodd. Ni ellir dirmygu neu anghofio cyfraniad Cenhedlaeth Windrush ledled Cymru".

I gael mwy o wybodaeth am y Genhedlaeth Windrush, ewch i'r 'Windrush Generation Foundation' drwy glicio ar y ddolen hon. Yn ogystal, efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn darllen a chefnogi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru, sy'n anelu at frwydro yn erbyn hiliaeth a hyrwyddo cydraddoldeb ledled Cymru erbyn 2030.

Gadewch i ni barhau i anrhydeddu a dathlu treftadaeth a chyfraniadau cyfoethog Cenhedlaeth Windrush yn ystod Mis Hanes Du a thu hwnt.

 

]]>
/cy/newyddion/dathlu-mis-hanes-du-arddangosfa-windrush/ /cy/newyddion/dathlu-mis-hanes-du-arddangosfa-windrush/ Fri, 04 Oct 2024 09:00:27 GMT Carolyn Jenkins
Gofalwyr maeth AƬ yn dangos y ‘gall pawb gynnig rhywbeth’ a sut mae mathau ‘heriol’ o faethu yn addas iddyn nhw.

Nod yr ymgyrch newydd yw codi ymwybyddiaeth am y gwahanol ffyrdd o faethu a sut y gall y rhain a ystyrir yn aml yn fathau “heriol” o faethu fod yn addas i unigolion a theuluoedd.

Mae mwy na 7,000 o blant yn y system ofal yng Nghymru, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth. Mae Maethu Cymru AƬ yn anelu at recriwtio llawer mwy o ofalwyr maeth i ddiwallu anghenion plant lleol mewn gofal.

Wrth baratoi ar gyfer ymgyrch Ionawr 2024 ‘Gall pawb gynnig rhywbeth’ mae Maethu Cymru wedi siarad â dros 100 o bobl – gan gynnwys gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol, athrawon, aelodau’r cyhoedd, a’r rhai sy’n gadael gofal.

Amlygodd ymatebion y grwpiau hyn dri pheth allweddol a oedd yn atal darpar ofalwyr rhag gwneud ymholiadau:

  • Diffyg hyder yn eu sgiliau a'u gallu i gefnogi plentyn mewn gofal.
  • Y gred nad yw maethu yn cyd-fynd â rhai ffyrdd o fyw.
  • Camsyniadau ynghylch y meini prawf i ddod yn ofalwr.

Yr hydref hwn, mae Maethu Cymru AƬ – ​​rhan o’r rhwydwaith cenedlaethol o 22 o dimau maethu awdurdodau lleol Cymru – yn parhau â’r ymgyrch genedlaethol ‘Gall pawb gynnig rhywbeth’ a lansiwyd ym mis Ionawr. Y tro hwn y nod yw tynnu sylw at yr anghenion maethu penodol y mae'r awdurdod lleol yn cael trafferth mynd i'r afael â nhw.

Drwy ddefnyddio ein hased mwyaf – gofalwyr maeth presennol – rydym am amlygu sgiliau a phriodoleddau sy’n eu helpu i ddarparu cartrefi cariadus i blant neu grwpiau a ystyrir yn fwy ‘heriol’, fel Rhiant a Phlentyn, Grwpiau Brodyr a Chwiorydd, Pobl Ifanc yn eu Harddegau, Plant ag anabledd, a Plant a Phobl Ifanc ar eu Pen eu Hunain sy'n Ceisio Lloches (UASC). Mae’r priodoleddau hyn yn fach ond yn arwyddocaol o ran trawsnewid bywydau plant yn eu gofal. Gall amynedd, sgiliau cyfathrebu da, chwilfrydedd, synnwyr digrifwch neu'r gallu i addasu, ymhlith llawer o nodweddion eraill, eich gwneud yn ofalwr maeth gwych.

“Roedd gennym ni eisoes yr holl sgiliau oedd eu hangen arnom i ddod yn ofalwyr maeth – ac mae angen i fwy o bobl wybod bod ganddyn nhw’r sgiliau hefyd”.

Dywedodd Mike, sy’n maethu ffoaduriaid ifanc sydd angen diogelwch ac arweiniad, “Rwy’n gofalu am ddau fachgen o Afghanistan, y ddau yn 16 oed. Maen nhw wedi setlo i mewn yn dda iawn. Maen nhw wrth eu bodd yn chwarae chwaraeon. Maen nhw'n bleser pur i fod yn eu cwmni. Rydyn ni wedi rhannu ein diwylliant gyda nhw, ac maen nhw wedi rhannu eu diwylliant gyda ni. Mae wedi bod yn brofiad cadarnhaol iawn i mi, yn dysgu amdanyn nhw, yn eu haddysgu amdanon ni ac yn dangos bod gennym ni gymaint yn gyffredin nad nhw a ni ydyw mewn gwirionedd, ond yn hytrach, ni.”

Dywedodd Kim a Phil sy’n cynnig maethu Rhiant a Phlentyn, “Mae cynnig lleoliad Rhiant a Phlentyn yn golygu bod angen ymgysylltu, ond roeddem wrth ein bodd; dyma'r math gorau o faethu. Fe wnaethom gefnogi mam gyda'i sgiliau magu plant, yn hytrach na bod yn ofalwyr maeth i blant yn unig. Pethau fel dangos i fam sut i fwydo'r babi a siarad â nhw ar yr un pryd. Roedd llawer o feithrin yn digwydd.”

Mae’r ymgyrch yn dechrau ddydd Llun 7 Hydref ar draws y cyfryngau digidol a chymdeithasol, a chyda digwyddiadau amrywiol mewn cymunedau lleol ar draws rhanbarth AƬ a Gwent.

I gael rhagor o wybodaeth am faethu, neu i holi, ewch i:

Maethu Cymru AƬ
Canolfan Adnoddau Teulu
Heol Beaufort
Glynebwy
NP23 5LH

fostering@blaenau-gwent.gov.uk

]]>
/cy/newyddion/gofalwyr-maeth-blaenau-gwent-yn-dangos-y-gall-pawb-gynnig-rhywbeth-a-sut-mae-mathau-heriol-o-faethu-yn-addas-iddyn-nhw/ /cy/newyddion/gofalwyr-maeth-blaenau-gwent-yn-dangos-y-gall-pawb-gynnig-rhywbeth-a-sut-mae-mathau-heriol-o-faethu-yn-addas-iddyn-nhw/ Mon, 07 Oct 2024 10:15:45 GMT Emma Bennett
Lansio canolfan gwaith a menter a gynlluniwyd i hybu busnes ym Mlaenau Gwent Mae canolfan gwaith a menter newydd, a gynlluniwyd i roi'r cymorth sydd ei angen ar bobl leol i ddechrau a thyfu eu busnesau, wedi agor yng Nglynebwy, AƬ. Ariannwyd yr adeilad gan Lywodraeth Cymru - Cymoedd Technoleg ac ariannwyd y gwaith ffitio mewnol gan Biler Cefnogi Busnes Lleol Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Wedi'i leoli ar Lime Avenue, Glynebwy, mae Gwaithaur wedi cael ei lansio gan Gyngor Bwrdeistref Sirol AƬ (GBSBG) a bydd yn ofod i weithwyr llawrydd, gweithwyr a sylfaenwyr weithio ochr yn ochr â'i gilydd, gan feithrin cymuned gefnogol ar gyfer busnesau newydd a busnesau bach.

Mae Gwaithaur yn adeilad modern gydag eco-gymwysterau uchel. Mae wedi’i ardystio gan BREEAM sy'n mesur safonau perfformiad adeilad gan sicrhau ei fod yn bodloni nodau cynaliadwyedd yr awdurdod a Chymru.

Wedi'i weithredu gan dîm menter Busnes ac Arloesi'r Cyngor, mae gan y gweithle modern nifer o swyddfeydd bach a chanolig, gofod cydweithio a sawl ystafell gyfarfod.

Bydd y gofod hefyd yn cynnig mynediad i'w aelodau at gefnogaeth un-i-un, mentora, gweithdai busnes a digwyddiadau rhwydweithio trwy ei Dîm Busnes ac Arloesi, mewn partneriaeth â’r Arbenigwyr cydweithio a busnesau bach Town Square Space Ltd.

Mae TownSq wedi cefnogi CBSBG yn y cyfnod cyn lansiad Gwaithaur a bydd yn parhau i ddarparu cymorth busnes, gan gynnwys mynediad at raglenni dechrau a chyflymu busnes ar gyfer aelodau Gwaithaur fel un o fannau Cyswllt swyddogol TownSq. 

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd ac Adfywio Cyngor Bwrdeistref Sirol AƬ:

"Mae ein Tîm Busnes ac Arloesi wedi sicrhau y bydd y cyfleuster yn cynnig yr ansawdd a'r gwerth gorau i unrhyw fusnes sy'n chwilio am le i weithio ohono a thyfu. Bydd yn plethu â'n gwasanaethau mentrau eiddo a chymorth busnes eraill y mae'r tîm yn eu cynnig."

Mae TownSq wedi cefnogi miloedd o fusnesau bach i ddechrau, tyfu a chodi buddsoddiad. Ers ei sefydlu yn 2017, mae TownSq yn parhau i ledaenu ei ddull gweithredu cymunedol ledled y DU, gan feithrin gofod cefnogol i bobl a busnesau ffynnu.

Dywedodd cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol TownSq, Gareth Jones, eu bod yn falch iawn o groesawu Gwaithaur i rwydwaith TownSq o weithfannau:

"Yn gynyddol rydym yn gweithio gyda phartneriaid i'w helpu i greu lleoedd sydd wedi'u hadeiladu ar wersi a phrofiadau ein tîm dros y 13 mlynedd diwethaf, ac mae Gwaithaur yn enghraifft wych o hyn - ein gofod cyswllt diweddaraf.

"Mae'r tîm ym Mlaenau Gwent wedi ymrwymo i greu amgylchedd gwych ar gyfer sylfaenwyr, gweithwyr llawrydd ac entrepreneuriaid ym Mlaenau'r Cymoedd, ac mae Gwaithaur yn ased arall i helpu i gyflawni'r nod hwn.

"Ein gobaith yw y gall AƬ elwa o'r dull gweithredu cymunedol hwn, gan ddod â busnesau newydd uchelgeisiol o'r un feddylfryd at ei gilydd i rannu mewnwelediadau a chefnogi datblygiad ei gilydd. Mae llawer i fod yn gyffrous amdano ar gyfer busnesau lleol ac rydym yn falch iawn o chwarae rhan yn llwyddiant y prosiect hwn."

I gael rhagor o wybodaeth am Gwaithaur neu i archebu taith, ewch i , e-bostiwch goldworks@blaenau-gwent.gov.uk neu ffoniwch 01495 369704.

Town Square Spaces Ltd (TownSq)

Mae TownSq yn creu cymunedau ar draws y DU sy'n creu a thyfu menter trwy gydweithio, cefnogaeth ac arweinyddiaeth. Mae'r busnes yn gweithredu canolfannau yng Nghymru, Swydd Rydychen, Gorllewin Sussex, Dyfnaint, Henffordd a Llundain, a gall gefnogi pobl o’r adeg y maen nhw’n cael syniad hyd at sefydlu, buddsoddi a thwf. Mae'n rhedeg Startup Club, rhaglen cymorth ar-ôl-gwaith i helpu pobl sydd am ddechrau busnes ond nad ydyn nhw’n gallu rhoi'r gorau i'w swydd, yn ogystal â TownSq Accelerator, i fusnesau sy'n anelu at dyfu'n gyflym.

Cyllidwyr

Llywodraeth Cymru – Rhaglen Cymoedd Technoleg

Piler Cefnogi Busnes Lleol y Gronfa Ffyniant Gyffredin trwy W24: Canolfannau hyfforddi, cynigion cymorth busnes, deoryddion a chyflymwyr.

]]>
/cy/newyddion/lansio-canolfan-gwaith-a-menter-a-gynlluniwyd-i-hybu-busnes-ym-mlaenau-gwent/ /cy/newyddion/lansio-canolfan-gwaith-a-menter-a-gynlluniwyd-i-hybu-busnes-ym-mlaenau-gwent/ Mon, 14 Oct 2024 08:59:45 GMT Louise Bishop
Feirws y Tafod Glas (BTV-3) wedi'i ganfod yng Ngwynedd Mae seroteip 3 y Tafod Glas (BTV-3) wedi'i ganfod mewn tair dafad a symudwyd i Wynedd o ddwyrain Lloegr. Mae ffermwyr ym Mlaenau Gwent yn cael eu hannog i fod yn wyliadwrus ar ôl y darganfyddiad hwn. 

Dyma'r tro cyntaf i’r Tafod Glas-3 gael ei ganfod yng Nghymru ac mae'n dilyn canfod achosion BTV-3 yn nwyrain Lloegr dros y mis diwethaf. Mae Swyddogion Iechyd Anifeiliaid yn annog ffermwyr i gadw llygad am y clefyd a phrynu da byw yn ddiogel.

Mae’r Tafod Glas yn cael ei achosi gan firws sy'n cael ei drosglwyddo'n bennaf gan rai rhywogaethau o wybed brathu. Mae'n effeithio ar anifeiliaid sy’n cnoi cil (fel gwartheg, geifr, defaid a cheirw) a chamelidau (fel alpacaod a lamaod). Fodd bynnag, nid yw’r Tafod Glas yn effeithio ar bobl na diogelwch bwyd.

Os amheuir y Tafod Glas, mae'n rhaid i ffermwyr a cheidwaid da byw ym Mlaenau Gwent roi gwybod yn syth drwy ffonio 0300 303 8268.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Leoedd a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Helen Cunningham:
"Mae'r achosion a nodwyd yng Ngwynedd mewn anifeiliaid a gludwyd i mewn i Gymru ac nid ydyn nhw ym Mlaenau Gwent ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae'n bwysig bod ffermwyr da byw yn siarad â'u milfeddyg ac yn prynu da byw yn ddiogel i ddiogelu buchesi a phreiddiau.  Os oes gennych unrhyw amheuon o'r firws Tafod Glas, rhowch wybod i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar unwaith."

Am y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i www.gov.uk/bluetongue ac mae rhagor o wybodaeth ac adnoddau ar sefyllfa bresennol y Tafod Glas hefyd ar gael yn

]]>
/cy/newyddion/feirws-y-tafod-glas-btv-3-wedii-ganfod-yng-ngwynedd/ /cy/newyddion/feirws-y-tafod-glas-btv-3-wedii-ganfod-yng-ngwynedd/ Mon, 14 Oct 2024 12:16:49 GMT Alan Powell
Murlun safle bws wedi ei beintio gan bobl ifanc yn cydnabod eu harwyr lleol yn Abertyleri Mae pobl ifanc wedi defnyddio celf graffiti i gynhyrchu murlun o arwyr cymunedol lleol ar safle bws yn Abertyleri, AƬ, wrth iddynt weithio i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i'w cymuned.

Mae'r bobl ifanc dan sylw yn rhan o grŵp Dyfodol Cadarnhaol Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor AƬ. Daeth y murlun i fodolaeth ar ôl ymgysylltu â'r grŵp ar yr hyn roedden nhw'n credu allai fod yn weithgareddau cadarnhaol i helpu i ddargyfeirio pobl ifanc i ffwrdd o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal. Gwnaethant fynegi diddordeb mewn celf graffiti y gellid ei defnyddio mewn ffordd gadarnhaol.

Mae'r prosiect murlun yn rhan o fenter ehangach, Tasglu Ymddygiad Gwrthgymdeithasol newydd dan arweiniad Cyngor AƬ mewn partneriaeth â'r Gwasanaeth Ieuenctid, Heddlu Gwent a Tai Calon Community Housing. Mae'r Tasglu yn cysylltu â chymunedau lleol i fynd i'r afael â phryderon am ymddygiad gwrthgymdeithasol a gyflawnir gan bobl o bob oed, gan gefnogi pobl i roi gwybod amdano a gweithio i fynd i'r afael â rhai o'r achosion sylfaenol.

Ar ôl cynnal arolwg ar-lein, dewisodd y bobl ifanc Jack a Richard Shore i ymddangos ar y murlun, tad a mab sy’n adnabyddus ac uchel eu parch am eu gwaith gyda Chrefft Ymladd Gymysg yn y gymuned. Mae Jack Shore, o Abertyleri, yn athletwr proffesiynol crefft ymladd gymysg o Gymru sydd ar hyn o bryd yn cystadlu yn adran Pwysau Plu’r Bencampwriaeth Ymladd Eithaf (UFC).  Mae ei dad Richard yn adnabyddus yn y gymuned am redeg campfa MMA a gweithio gyda phobl ifanc.

Hefyd yn ymddangos ar y murlun mae Alex Wiltshire (Boyo) sydd wedi cael ei gydnabod am ei waith gyda phobl ifanc yn y fwrdeistref, gan ddatblygu eu sgiliau celf, gan gynnwys, ffilmio, ysgrifennu cerddoriaeth a pherfformio.

Roedd y gymuned hefyd am gydnabod y Gwarcheidwad yn Abertyleri, a gomisiynwyd i goffáu 50 mlynedd ers y drychineb fwyngloddio yn Chwe Chloch ym 1960 a laddodd 45 o ddynion. Mae'r cerflun hefyd yn ymddangos ar y murlun.

Roedd Richard, Jack ac Alex i gyd yno gyda'r bobl ifanc o'r grŵp i ddadorchuddio'r prosiect yn swyddogol. Yn ymuno â nhw roedd yr Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Ddiogelwch Cymunedol, y Cynghorydd Helen Cunningham, cynghorydd ward lleol, y Cynghorydd Keith Chaplin, a chynrychiolwyr Heddlu Gwent.

Dywedodd yr Aelod Cabinet, y Cynghorydd Helen Cunningham:

"Mae'n hyfryd gweld y murlun yn dod â lliw i’r safle bws yn Abertyleri. Mae’n well fyth ei fod yn cynnwys wynebau lleol y mae'r bobl ifanc yn eu hedmygu ac yn cael eu hysbrydoli ganddynt.

"Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn effeithio ar ansawdd bywyd pobl a pha mor ddiogel maen nhw'n teimlo gartref ac allan yn y gymuned.  Diolch i'r holl drigolion a busnesau sydd wedi ymgysylltu â gwaith y Tasglu ac am eu gwyliadwriaeth a'u cydweithrediad wrth roi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol.  Yn flaenorol, rydym wedi rhannu ein llwyddiant yn cael Gwaharddebau Sifil yn erbyn unigolion sy'n mynnu cyflawni ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae heddiw’n ymwneud â thaflu goleuni ar y ffyrdd y mae pobl ifanc yn edrych at eu modelau rôl eu hunain ac yn ysbrydoli eraill i ddilyn eu hesiampl a lleihau apêl ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eu cymdogaethau".

Dywedodd Alex Wiltshire:

"Mae'n anrhydedd i mi gael fy ystyried a'm cynnwys fel rhan o'r darn celf cymunedol hwn sy'n canolbwyntio ar ysbrydoliaeth a dyfodol cadarnhaol yn ein cymoedd.  Mae'n anhygoel gweld canlyniadau undod a chreadigrwydd yn ein hardal."

Mae'r gwasanaeth ieuenctid yn darparu grŵp Dyfodol Cadarnhaol gyda phobl ifanc o ysgolion uwchradd lleol ddeuddydd yr wythnos. Nod y prosiect yw cefnogi pobl ifanc sydd ar drothwy gwaharddiad parhaol ac sydd ar fin cael eu derbyn i'r system cyfiawnder ieuenctid am y tro cyntaf.

Diolch yn fawr i Anthony Smith yn Consumersmith Fine Art, yr artist a roddodd y cymorth, y sgiliau a'r hyder i bobl ifanc gynhyrchu'r gwaith celf.

Mae'r prosiect wedi cael ei ariannu gan Lluosi drwy Gyllid Ffyniant Gyffredin. Mae'r bobl ifanc wedi cymryd rhan o'r dechrau i'r diwedd gyda'r prosiect, gan gynnwys rheoli'r gyllideb, sydd wedi cefnogi datblygiad eu sgiliau rhifedd.

Dyma ail brosiect celf graffiti y Gwasanaeth Ieuenctid ym Mlaenau Gwent, gydag un yn y maes parcio yn Y Gwaith, Glynebwy, yn dathlu treftadaeth lofaol yr ardal, ac rydym yn gobeithio gwneud mwy cyn bo hir. Maen nhw nid yn unig yn edrych yn wych, ond hefyd yn helpu i roi ymdeimlad o falchder go iawn i bobl ifanc yn eu cymuned.

Dysgwch fwy am y Tasglu Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ym Mlaenau Gwent yma – /cy/preswylwyr/argyfyngau-ac-atal-troseddau/diogelwch-cymunedol/ymddygiad-gwrthgymdeithasol/

]]>
/cy/newyddion/murlun-safle-bws-wedi-ei-beintio-gan-bobl-ifanc-yn-cydnabod-eu-harwyr-lleol-yn-abertyleri/ /cy/newyddion/murlun-safle-bws-wedi-ei-beintio-gan-bobl-ifanc-yn-cydnabod-eu-harwyr-lleol-yn-abertyleri/ Tue, 15 Oct 2024 12:10:09 GMT Louise Bishop
Penodi lleygwyr i bwyllgorau llywodraethu ac archwilio Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol AƬ ar hyn o bryd am benodi Personau Lleyg i’w Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

Mae’r pwyllgorau statudol hyn yn rhan allweddol o fframwaith llywodraethu a rhaglen cefnogi gwelliant Awdurdodau Lleol. Diben y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yw cynnig sicrwydd annibynnol ynghylch digonolrwydd ac effeithiolrwydd y fframwaith rheoli risg, yr amgylchedd rheoli mewnol, asesu perfformiad, ymdrin â chwynion a chywirdeb y dulliau adrodd ariannol a’r prosesau llywodraethu. Drwy oruchwylio’r gwaith archwilio mewnol ac allanol, gwneir cyfraniad pwysig tuag at sicrhau bod trefniadau sicrwydd effeithiol yn eu lle.

Mae nifer o awdurdodau lleol yn defnyddio cyfarfodydd ar-lein ar gyfer eu Pwyllgorau Llywodraethu ac Archwilio wrth feddwl am y dyfodol. Mae hyn yn ei gwneud yn haws i Leygwr gymryd rhan mewn Pwyllgorau Llywodraethu ac Archwilio.

Bydd y pwyllgorau’n cyfarfod sawl tro yn ystod y flwyddyn a bydd Lleygwyr (Aelodau Annibynnol) yn derbyn tâl ariannol. Cydnabyddiaeth yn cael eu talu yn unol â'r cyfraddau a benderfynir gan

Mae lleygwr yn golygu nad yw’r person:

1. Yn aelod nac yn swyddog mewn unrhyw awdurdod lleol,
2. Ar unrhyw adeg yn y cyfnod o ddeuddeng mis yn gorffen ar ddyddiad y penodiad wedi bod yn aelod nac yn swyddog mewn unrhyw awdurdod lleol, nac
3. Yn briod nac yn bartner sifil i aelod neu swyddog mewn unrhyw awdurdod lleol.

Yn ogystal â bodloni’r meini prawf hyn, bydd angen i ymgeiswyr addas fod yn anwleidyddol gyda dealltwriaeth ac ymroddiad i’r 7 Egwyddor o Fywyd Cyhoeddus (Egwyddorion Nolan) a gallu dangos y rhinweddau a’r priodoleddau canlynol:

  • Diddordeb a gwybodaeth/profiad o reoli materion ariannol, risg a pherfformiad, archwilio, cysyniadau a safonau cyfrifeg, a’r drefn reoleiddio yng Nghymru;
  • Meddwl gwrthrychol ac annibynnol gydag agwedd ddiduedd a’r gallu i fod yn gynnil;
  • Cefnogi egwyddorion llywodraethu da a’u defnyddio'n ymarferol er mwyn cyflawni’r amcanion sefydliadol;
  • Meddwl yn strategol gyda sgiliau cyfathrebu ardderchog;
  • Gallu deall a phwyso a mesur tystiolaeth a herio gyda pharch.
  • Nid yw gwybodaeth fanwl am lywodraeth leol yn angenrheidiol, er y disgwylir i ymgeiswyr posibl fod â diddordeb mewn materion yn ymwneud â bywyd a gwasanaethau cyhoeddus.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1af o Dachwedd. Ar gyfer ffurflen gais neu fwy o wybodaeth, e-bostiwch louise.rosser@blaenau-gwent.gov.uk

 

]]>
/cy/newyddion/penodi-lleygwyr-i-bwyllgorau-llywodraethu-ac-archwilio/ /cy/newyddion/penodi-lleygwyr-i-bwyllgorau-llywodraethu-ac-archwilio/ Tue, 15 Oct 2024 15:36:45 GMT Louise Bishop
Athletwr sydd wedi torri record i gael ei gydnabod yn ei dref enedigol Glynebwy Mi fydd Hydref 21ain yn nodi 40 mlynedd o fuddugoliaeth arwyddocaol Steve Jones yn Farathon Chicago 1984, buddugoliaeth a daliodd y byd a chryfhaodd ei le yn hanes athletau. Ar y diwrnod hwnnw ym 1984, nid yn unig y croesodd Jones o Lynebwy y llinell derfyn gyntaf ond chwalodd recordiau hefyd, gan ddangos cyfuniad rhyfeddol o stamina, penderfyniad, a grym ewyllys pur.

Mae Cyngor AƬ, mewn partneriaeth â Chlwb Rhedeg Parc Bryn Bach, yn cydweithio i drafod syniadau ar sut i goffáu cyflawniadau Steve ac arddangos ei fuddugoliaethau wrth i’r garreg filltir anferth hon agosáu. Y nod yw sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn cael eu hysbrydoli gan ei daith ryfeddol a bod ei etifeddiaeth yn parhau i ysgogi athletwyr uchelgeisiol.

I wireddu’r prosiectau hyn, lansiodd Clwb Rhedeg Parc Bryn Bach apêl i ennyn cefnogaeth gymunedol a mwy, gyda’r nod o anrhydeddu llwyddiannau rhyfeddol Steve Jones. Mae rhoddion wedi rhagori ar £4,000. Mae'r Cyngor hefyd ar hyn o bryd yn archwilio opsiynau ariannu i gydweithio ar etifeddiaeth barhaus.

Mae’r Cynghorydd Sue Edmunds, aelod etholedig De Glynebwy ac Aelod Cabinet y Cyngor dros Bobl ac Addysg yn gweithio ar y cynlluniau gyda thîm o’r Cyngor ar ôl i’r clwb rhedeg gysylltu â nhw.

ѱ岹’r Cynghorydd Edmunds:

“Pan gipiodd Steve Jones y teitl ym Marathon Chicago, fe wnaeth fwy nag ennill ras; gosododd record byd newydd, gan gwblhau'r cwrs mewn 2 awr, 8 munud, a 5 eiliad rhyfeddol. Nid buddugoliaeth bersonol yn unig oedd y gamp hon ond carreg filltir a ysbrydolodd athletwyr yn fyd-eang. Amlygodd ei berfformiad y safonau eithriadol o ddygnwch a chyflymder sydd eu hangen i ragori mewn rhedeg pellter hir. Roedd effaith ei gyflawniad yn adleisio trwy'r gymuned chwaraeon, gan godi'r bar ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol o redwyr marathon.

“Mae taith Steve o’n tref ni yng Nglynebwy i lwyfan y byd yn dyst i’w ymroddiad diwyro a’i angerdd dros y gamp. Siapiodd Glynebwy, tref sy’n adnabyddus am ei threftadaeth ddiwydiannol gyfoethog, Jones yn unigolyn gwydn a gweithgar. Gan dyfu i fyny mewn cymuned glos, trwythodd werthoedd dyfalbarhad a dycnwch, a ddaeth yn ddiweddarach yn gonglfeini ei yrfa athletaidd.

“Rhoddodd cefndir Jones yng Nglynebwy bersbectif unigryw ac etheg waith gadarn iddo. Er gwaethaf heriau hyfforddi mewn tref sy'n fwy enwog am ei gwaith dur na'i chyfleusterau chwaraeon, roedd penderfyniad Jones yn ei yrru ymlaen. Mae ei stori yn ffagl gobaith, gan ddangos y gall mawredd ddod i'r amlwg o'r lleoedd mwyaf diymhongar.

“Wrth i ni ddathlu 40 mlynedd ers buddugoliaeth hanesyddol Steve Jones, rydyn ni hefyd yn myfyrio ar yr etifeddiaeth barhaus y mae wedi’i gadael ar ei ôl. Mae ei gyflawniadau wedi ysbrydoli unigolion di-ri i ddilyn eu breuddwydion, gwaeth beth fo'r rhwystrau y gallent eu hwynebu. Mae stori Jones yn parhau i atseinio, gan ein hatgoffa, gydag angerdd, ymroddiad, a gwaith caled, bod llwyddiannau eithriadol o fewn cyrraedd.

“Wrth anrhydeddu Steve Jones MBE, rydym nid yn unig yn talu teyrnged i athletwr rhyfeddol ond hefyd yn dathlu’r ysbryd o benderfyniad a rhagoriaeth y mae’n ei ymgorffori. Wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, mae arwyddocâd cyflawniadau Steve Jones ym Marathon Chicago yn parhau i fod yn ddibwys, gan fod yn atgof tragwyddol o’r hyn y gellir ei gyflawni gydag ymrwymiad diwyro ac ysbryd anorchfygol.”

Trwy'r ymdrech gydweithredol hon, y gobaith yw nid yn unig dathlu buddugoliaethau Steve yn y gorffennol ond hefyd meithrin ysbryd o ragoriaeth athletaidd o fewn ein cymuned. Y gobaith yw adeiladu teyrnged addas i eicon go iawn ac ysbrydoli sawl un arall i fynd ar ôl eu breuddwydion gyda'r un egni a phenderfyniad ag y dangosodd Steve trwy gydol ei yrfa ddisglair.

]]>
/cy/newyddion/athletwr-sydd-wedi-torri-record-i-gael-ei-gydnabod-yn-ei-dref-enedigol-glynebwy/ /cy/newyddion/athletwr-sydd-wedi-torri-record-i-gael-ei-gydnabod-yn-ei-dref-enedigol-glynebwy/ Mon, 21 Oct 2024 14:28:39 GMT Louise Bishop
Enillwyr Tîm Prosiect Hwyluso STEM AƬ, Gwobrau STEM Cymru 2024  Mae Tîm Prosiect Hwyluso STEM AƬ wedi ennill Gwobr Rhaglen Addysgol STEM y Flwyddyn (Sector Cyhoeddus) yng Ngwobrau STEM mawreddog Cymru a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Mercure Holland House, Caerdydd ddydd Iau diwethaf 17 Hydref 2024.

Mae categori’r wobr yn cydnabod menter ragorol wrth fynd i’r afael â’r bwlch amrywiaeth a phrinder sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) tra’n codi dyheadau ar gyfer y genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr STEM.

Mae ennill gwobr o’r fath yn gryn gamp gan fod llawer o sefydliadau adnabyddus a sefydledig eraill yn cystadlu yn yr un categori megis Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru.

Meddai Dr Luisa Munro-Morris, Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg Cyngor AƬ:
“Mae hwn yn gyflawniad gwych i’r Tîm Prosiect Hwyluso STEM, mae’n foment mor falch iddynt gael eu cydnabod am yr holl waith caled y maent wedi’i wneud. Mae STEM yn rhan annatod o gwricwlwm yr ysgol, ac mae mor galonogol bod y safonau uchel hyn yn eu lle yn barod ar gyfer y dyfodol.”

Mae STEM yn ddull o ddysgu a datblygu sy'n integreiddio gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Mae sgiliau allweddol fel datrys problemau, llythrennedd digidol, dadansoddi beirniadol, cyfathrebu a meddwl yn annibynnol ymhlith y sgiliau newydd sydd eu hangen ar blant i ragori ar eu taith ddysgu.

ѱ岹’r Cynghorydd John C Morgan - Aelod Cabinet - Lleoedd ac Adfywio a Datblygu Economaidd:
“Roedd safon yr ymgeiswyr yn y categori hwn yn hynod o uchel sy’n gwneud ennill y wobr hon hyd yn oed yn fwy trawiadol. Mae datblygu arbenigedd STEM yn hanfodol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a’n heconomi yn enwedig gan fod arbenigedd yn y gweithle yn newid mor gyflym. Mae hyn yn dangos bod gennym ni lwyfan STEM rhagorol eisoes ar waith, sy’n galluogi busnesau ym Mlaenau Gwent i recriwtio ymgeiswyr â setiau sgiliau yn barod ar gyfer eu hanghenion busnes sy’n newid yn barhaus.”

Meddai Tara Lane, Rheolwr Tîm Cymunedau Cysylltiedig:
“Rwy’n falch iawn bod y Tîm STEM wedi derbyn gwobr o’r fath, mae nid yn unig yn amlygu pwysigrwydd STEM yn ein hysgolion ond hefyd y gwerth sylweddol ar gyfer dyfodol ein busnesau a’n gweithleoedd ledled y fwrdeistref. Mae’r cysylltiadau rhwng addysg a busnes yn hollbwysig ar gyfer cynnydd gan y bydd y sgiliau sydd eu hangen yn y gweithle yn newid yn sylweddol ac yn gyflymach nag y maent wedi’i wneud ar gyfer cenedlaethau blaenorol. Mae’r wobr hon yn dangos sut rydym wedi croesawu newid ac yn paratoi ar gyfer datblygu economaidd yn y dyfodol.” 

 
O’r chwith i’r dde: Darllenydd newyddion teledu Cymraeg Lucy Owen, Samuel Harris Swyddog Cyswllt (Hwyluso STEM CBSBG) Hybiau HiVE, Swyddog Cyswllt (Prosiect Hwyluso STEM CBSBG), Tara Lane (Rheolwr Tîm Cymunedau Cysylltiedig CBSBG) a Julie Timothy (Arweinydd Tîm Hwyluso STEM CBSBG), yn dal y wobr.  

Gwobr Rhaglen Addysgol STEM y Flwyddyn (Sector Cyhoeddus) AƬ.

        
   
O'r chwith i'r dde: Mark Langshaw , Rheolwr Gyfarwyddwr Continental Teves UK Ltd, Julie Timothy (Arweinydd Tîm Hwyluso STEM CBSBG), yn dal y wobr. Tara Lane (Rheolwr Tîm Cymunedau Cysylltiedig CBSBG) a'r Cynghorydd John C Morgan, Aelod Cabinet CBSBG dros Leoedd ac Adfywio a Datblygu Economaidd.    
]]>
/cy/newyddion/enillwyr-tim-prosiect-hwyluso-stem-blaenau-gwent-gwobrau-stem-cymru-2024/ /cy/newyddion/enillwyr-tim-prosiect-hwyluso-stem-blaenau-gwent-gwobrau-stem-cymru-2024/ Tue, 22 Oct 2024 09:02:45 GMT Alan Powell
Don’t Bin The Pumpkin please place your Pumpkins on top or to the side of your food caddy to be recycled What should I do with my pumpkins?

This Halloween, remember how powerful food recycling can be. When carving your pumpkin, don’t throw the seeds in the centre away- recycle them or, even better, reduce your waste even more by making something delicious and healthy out of the insides, like this Spicy Pumpkin Soup.

Spicy Pumpkin Soup

Preparation time – 5 mins
Cooking time - 60 minutes
Serves 1

Ingredients
Half a pumpkin
1 sweet potato
1/2 red pepper
1½ cups (375 ml) of water
1 cup (250 ml) full fat milk
1 red chilli
Pinches of salt and pepper for seasoning

Method
1. Preheat the oven to 190 degrees Celsius.
2. Remove the pumpkin flesh with a spoon, and peal the sweet potato.
3. Chop the pumpkin and sweet potato into 1 inch cubes.
4. Slice the red peppers and put all vegeta-bles on a roasting tray, with a drizzle of oil.
5. Place in the oven to roast for 30-40 minutes, until soft.
6. Allow all the vegetables to cool a little.
7. Once cool enough to handle, add the pumpkin, sweet potato and peppers to a blender with the water, milk and diced chil-li, and blend until smooth.
8. Pour into a saucepan and heat until piping hot, adding more water if you like a slightly thinner soup.
9. Season to taste with salt and pepper.

Chef’s tip: To give the soup a sweeter fla-vour, roast the pumpkin and sweet potato until they are dark and caramelised. It is im-portant to allow the veg to cool before put-ting in the blender as the pressure of the steam could create a mess in the kitchen!

Use up: Use up some uncooked veg that you may have left over from another dish.
Variations: To make this a more balanced dish, you can serve with garlic croutons or a few slices of bread and butter. You can also vary the ingredients buy using butternut squash instead of, or as an addition to, the pumpkin!

Extra flavour: Adding your own mix of herbs and spices can really enhance this dish, such as coriander, cumin, oregano or fennel seeds.

Freezer advice: It is a fantastic idea to freeze portions of this soup, which allows you to have homemade soup on future occa-sions without the prep time!
Vegan options: To adapt this dish for ve-gans, replace the milk with vegetable stock or coconut milk, both of which will create different flavours.

Allergy advice: This versatile dish is easily adapted to avoid allergens and be suitable for most diets.
Food recycling is available across Wales. Find out more about how to recycle by visit-ing www.recycleforwales.org.uk

 

]]>
/cy/newyddion/enillwyr-tim-prosiect-hwyluso-stem-blaenau-gwent-gwobrau-stem-cymru-2024/don-t-bin-the-pumpkin-please-place-your-pumpkins-on-top-or-to-the-side-of-your-food-caddy-to-be-recycled/ /cy/newyddion/enillwyr-tim-prosiect-hwyluso-stem-blaenau-gwent-gwobrau-stem-cymru-2024/don-t-bin-the-pumpkin-please-place-your-pumpkins-on-top-or-to-the-side-of-your-food-caddy-to-be-recycled/ Tue, 22 Oct 2024 14:25:33 GMT Alan Powell
Anfarwoli Arwr Lleol Efallai fod Walter Conway yn enw cyfarwydd i drigolion Tredegar ym Mlaenau Gwent ond y tu allan i’r dref dyffryn hon mae’n llai adnabyddus. Fodd bynnag, mae cyfres o ddigwyddiadau yr wythnos hon yn amcanu at newid hyn.

Mae murlun wedi cael ei beintio ar ganolfan siopa’r dref lle mae portread hardd o Walter Conway wedi’i amgylchynu gan ddelweddau o leoliadau a oedd yn bwysig iddo. Mae’r rhain yn cynnwys Pwll Rhif 1 Pochin lle bu’n gweithio dan ddaear, Eglwys Bresbyteraidd Park Place lle’r oedd yn ddiacon ac yn athro, Swyddfeydd Cymorth Meddygol Tredegar a’r Feddygfa Ganolog.

ѱ岹’r arlunydd Paul Shepherd (Walls by Paul): ‘Dyma’r pedwerydd i mi ei beintio yn y gyfres hon. Rwyf wedi dysgu cymaint am yr holl gymeriadau ac mae pob un wedi bod yn rhyfeddol yn ei rinwedd ei hun. Roedd hi’n ddifyr dod i wybod am rôl Walter yn iechyd a lles Tredegar a’r DU.’

Dadorchuddiwyd Plac Glas ar 1 Rawlinson Terrace, Tredegar, y cartref lle treuliodd Walter y rhan fwyaf o’i fywyd priodasol gyda’i deulu. Dadorchuddiwyd y plac gan Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Hen Wyresau Walter, Julie Watkin ac Allison Nutland.

Ganed Walter yn Rhymni ac roedd ganddo frawd iau. Yn drist, bu farw ei rieni’n ifanc, gan adael Walter a’i frawd yng ngofal Bwrdd y Gwarcheidwaid yn Wyrcws Bedwellte. Yma datblygodd ei gariad at lyfrau, yr oedd yn aml yn cyfeirio atynt fel ei ffrind gorau, a chafodd ei ddysgu i ‘wneud popeth yn dda’, mantra a arhosodd gydag ef trwy gydol ei fywyd.

Ar ôl gadael y wyrcws, symudodd i mewn i lety a daeth yn löwr ym Mhwll Rhif 1 Pochin. Priododd Walter â Mary Elizabeth Morgan ym 1898 ac fe gafodd y cwpl 3 merch a mab. Roedd y teulu’n addoli yn Eglwys Bresbyteraidd Park Place lle’r oedd Walter yn Ddiacon ac yn Athro Ysgol Sul.

Ym 1908 fe’i hetholwyd i Fwrdd Gwarcheidwaid Bedwellte, y sefydliad a fu’n gyfrifol am ei ofal cynnar yn y wyrcws. Roedd Walter yn aelod cynnar o’r Blaid Lafur Annibynnol, gan ymuno i ddechrau ac yna dod yn un o aelodau cychwynnol cangen Tredegar ym 1911. Roedd Walter hefyd yn fentor i’r Aneurin Bevan ifanc. Ym 1920 fe wnaeth Walter a’i ffrindiau, gan gynnwys Aneurin Bevan ifanc, ffurfio Query Club, a oedd yn gymdeithas ddadlau sosialaidd.

Ond yn fwy na dim mae’n cael ei gofio fel ysgrifennydd Cymdeithas Cymorth Meddygol Gweithwyr Tredegar. Fe’i penodwyd ym 1915 a thros y 18 mlynedd nesaf tyfodd y Gymdeithas dan ei stiwardiaeth i fod yn un o’r cymdeithasau gorau, gan ddenu aelodaeth o ardal ehangach. Roedd Cymdeithas Cymorth Meddygol Gweithwyr Tredegar yn darparu gwasanaethau meddygol ar gyfer 20,000 o bobl leol, oddeutu 95% o boblogaeth y dref. Roedd y gymdeithas yn gweithredu meddygfeydd a oedd yn cyflogi 5 meddyg, 2 ddeintydd, nyrsys a staff cymorth. 

Pan fu farw dywedodd yr AS lleol fod Walter ‘yn ymgorffori gwirionedd ac uniondeb a phopeth oedd yn dda ym mywyd Tredegar.'

ѱ岹’r Cyngh. John Morgan, yr Aelod Cabinet dros Le ac Adfywio: ‘Roedd Walter Conway yn arwr yn y dref hon. Mae cof annwyl amdano hyd heddiw. Pan sefydlodd Bevan y rhaglen adeiladu tai fwyaf yn y DU yn dilyn yr 2il Ryfel Byd, fe wnaeth y cyngor lleol enwi stryd er anrhydedd iddo – Walter Conway Avenue. Yn fwy diweddar mae Cyngor AƬ wedi gosod mainc â cherfluniau yn y cylch sy’n edrych dros swyddfeydd y Gymdeithas Cymorth Meddygol ond yn awr rydym yn coffau ei le mewn hanes yn ffurfiol gyda’r Plac Glas hwn a murlun trawiadol yng nghanol y dref. Gobeithio bod hyn nid dim ond yn coffau’r hyn a gyflawnodd ond hefyd yn annog cenedlaethau newydd i archwilio’r hyn a gyflawnodd ac yn rhoi ysbrydoliaeth iddynt i ddilyn eu breuddwydion. Yn olaf, hoffwn ddiolch i Paul am y murlun anhygoel y mae wedi’i greu yng nghanol y dref ac i Marcus a Hayley, am ganiatáu i ni osod y Plac Glas hwn ar eu cartref’.

Meddai Julie Watkin ac Allison Nutland, ei Hen Wyresau: ‘Ac yntau wedi colli ei rieni pan oedd yn fachgen bach, cafodd Walter ei leoli yn Wyrcws Bedwellte lle datblygodd ei gariad at lyfrau a’i awch am wybodaeth. Yn ddiweddarach yn ei oes byddai’n dal i gyfeirio ato’i hun fel bachgen y wyrcws. Fel ysgrifennydd Cymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar roedd yn “ymroddedig i waith y Gymdeithas” ac yn “ymgorffori popeth oedd yn dda ym mywyd Tredegar”. Mae Cymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar bellach yn cael ei chydnabod yn ffynhonnell llawer o’r syniadau newydd a radical ar gyfer gofal iechyd cyffredinol a fyddai’n esblygu’n Wasanaeth Iechyd Gwladol ryw bymtheng mlynedd ar ôl ei farwolaeth anhymig.’

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles: ‘Mae’n fraint nodi’r cyfraniad a wnaeth Walter Conway i iechyd y cyhoedd yn Nhredegar a’i rôl yn hanes ein GIG. Mae’n dda gennyf weld ei gyflawniadau’n cael eu dathlu heddiw. Roedd yn weinyddwr iechyd eithriadol a helpodd Gymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar i lwyddo, gan ysbrydoli Bevan a chenedlaethau aneirif wedi hynny.’

Cefnogwyd y murlun a’r plac gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Dylai ymwelwyr â Thredegar ymweld ag Amgueddfa Tredegar yn Llyfrgell Tredegar a Chanolfan Dreftadaeth Cymdeithas Cymorth Meddygol Gweithwyr Tredegar hefyd. Mae’r ddwy wedi’u lleoli yn Y Cylch, calon treftadaeth y dref.

 

 
Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gorwyresau Walter, Julie Watkin ac Allison Nutland yn dadorchuddio’r Plac Glas. Plac glas yn cael ei arddangos yn 1 Rawlinson Terrace, Tredegar lle’r oedd Walter yn byw.
 

 
O'r chwith i'r dde: Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, AƬ, Y Cynghorydd John C Morgan Aelod Cabinet - Lleoedd ac Adfywio a Datblygu Economaidd – Cynghorydd AƬ, Y Cynghorydd Jacqueline Thomas, Cynghorydd AƬ, Chris Smith, Aelod Llywyddol a Hyrwyddwr Cydraddoldeb a Chynghorydd AƬ, Tommy Smith.   Walter Conway - Ffotograff o Orwyresau Walter, Julie Watkin ac Allison Nutland gyda’r Plac Glas.


 
Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda’r Cynghorydd John C Morgan o Flaenau Gwent, Aelod Cabinet - Lleoedd ac Adfywio a Datblygu Economaidd o flaen murlun Walter Conway yng Nghanolfan Siopa Gwent, Tredegar. Murlun wedi'i baentio gan Paul Shepherd (Muriau gan Paul).   O’r chwith i’r dde: Prif Ferch Ysgol Gynradd Georgetown, Prif Fachgen a Phrif Ferch Ysgol Gyfun Tredegar, Prif Fachgen Ysgol Gynradd Georgetown, Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Cynghorydd John C Morgan Aelod Cabinet - Lleoedd ac Adfywio a Datblygu Economaidd.

 

]]>
/cy/newyddion/anfarwoli-arwr-lleol/ /cy/newyddion/anfarwoli-arwr-lleol/ Fri, 25 Oct 2024 12:24:11 GMT Alan Powell
Mae tân gwyllt yn dychryn anifeiliaid – helpwch i’w cadw nhw’n ddiogel Mae perchnogion anifeiliaid anwes a cheffylau ym Mlaenau Gwent yn cael eu hannog i baratoi ar gyfer y tymor tân gwyllt er mwyn helpu i leihau’r straen y mae tân gwyllt yn ei achosi i'w hanifeiliaid.

Mae’r tymor tân gwyllt yn dechrau cyn Noson Guto Ffowc/Noson Tân Gwyllt ac yn para tan ddathliadau'r Flwyddyn Newydd, ond gellir cymryd camau ymlaen llaw i helpu anifeiliaid.

Mae Swyddogion Iechyd Anifeiliaid yn cynghori perchnogion i weithredu cyn y tymor tân gwyllt i sicrhau na chaiff anifeiliaid eu dychryn gan fflachiadau sydyn o olau a chleciau uchel.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Leoedd a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Helen Cunningham: 
"Mae angen codi ymwybyddiaeth o dân gwyllt a'r effaith mae’n ei gael ar anifeiliaid anwes, ceffylau, da byw a bywyd gwyllt lleol.  Rhaid i ni beidio ag anghofio y gall cleciau uchel a fflachiadau llachar o olau achosi braw a phryder a bod yn frawychus iawn i lawer o anifeiliaid.

"Rydym yn annog perchnogion anifeiliaid anwes a cheffylau i baratoi ar gyfer y tymor tân gwyllt ac i bobl sy'n ystyried cynnal arddangosfeydd tân gwyllt ddarllen y cyngor yn ofalus ac ystyried unrhyw effaith ar anifeiliaid."

Cyngor ar sut i gadw'ch anifeiliaid anwes yn ddiogel:
• Cadwch gŵn a chathod y tu mewn bob amser yn ystod tân gwyllt.
• Caewch yr holl ffenestri a drysau a blociwch ddrysau cathod.
• Sicrhewch fod cŵn yn gwisgo rhyw fath o brawf adnabod.
• Paratowch rywle i’ch anifail anwes lle gall deimlo'n ddiogel ac yn gyfforddus.
• Gadewch i'ch anifail anwes symud o gwmpas, nadu, mewian a chuddio os yw'n dymuno.
• Ceisiwch beidio â chwtsio a chysuro anifeiliaid anwes gan y byddan nhw’n meddwl eich bod chi’n poeni hefyd.
• Peidiwch â gadael anifeiliaid anwes ar eu pennau eu hunain yn ystod tân gwyllt.
• Peidiwch â chlymu eich ci y tu allan yn ystod tân gwyllt.
• Peidiwch byth â mynd â'ch ci i arddangosfa tân gwyllt.

Cyngor i berchnogion ceffylau gan Lywodraeth Cymru:
• Dewch o hyd i amseroedd a lleoliadau digwyddiadau tân gwyllt sydd wedi’u cynllunio yn eich ardal. Ni ddylai trefnwyr digwyddiadau gynllunio tân gwyllt yn agos at geffylau mewn caeau neu stablau.
• Tendiwch i’ch ceffylau fel arfer a'u cadw mewn amgylcheddau diogel a chyfarwydd. Gallai hyn olygu eu gadael y tu allan yn ystod tân gwyllt os mai dyma eu trefn arferol. Os ydyn nhw’n arbennig o ofnus o dân gwyllt, efallai y byddwch am ystyried eu rhoi mewn stabl dros nos.
• Cadwch yn ddiogel a chadwch lygad am geffylau ofnus i osgoi cael anaf.
• Y bore ar ôl tân gwyllt, mae'n bwysig cynnal gwiriad iechyd ar eich ceffyl i sicrhau ei les ac edrych am unrhyw anafiadau gweladwy.

Am ragor o gyngor defnyddiol ewch i a chwilio am ‘tân gwyllt’ neu wefan y Groes Las a chwilio am ‘tân gwyllt ac anifeiliaid anwes’.

]]>
/cy/newyddion/mae-tan-gwyllt-yn-dychryn-anifeiliaid-helpwch-i-w-cadw-nhw-n-ddiogel/ /cy/newyddion/mae-tan-gwyllt-yn-dychryn-anifeiliaid-helpwch-i-w-cadw-nhw-n-ddiogel/ Thu, 31 Oct 2024 10:10:05 GMT Alan Powell
Penodi Pencampwr Sir Undeb Credyd Mae'r ymgyrch i wneud AƬ y 'Sir Undeb Credyd' gyntaf yng Nghymru wedi cymryd cam pwysig ymlaen.

Mae ‘Pencampwr’ Undeb Credyd newydd – y Cynghorydd Jules Gardner gyda Chyngor AƬ - wedi'i benodi, gyda’r rôl newydd yn cyd-fynd â’i frîff cyngor i fynd i'r afael â safonau byw isel. Y nod uchelgeisiol yw hybu aelodaeth yn sylweddol, ac yn y tymor hwy i gofrestru hanner oedolion y Sir yn aelodau o'r Banc Cymunedol.

Wrth i sefydliadau ariannol traddodiadol barhau i gau canghennau, mae Banciau Cymunedol ac Undebau Credyd lleol yn dod yn bwysicach, ac mae eu haelodaeth yn tyfu.

Gyda hyn mewn golwg, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol AƬ (BGCBC) a Banc Cymunedol Smart Money Cymru wedi ffurfio partneriaeth i ledaenu'r gair fod gwasanaeth bancio o ansawdd uchel ar gael i bawb, ac maen nhw’n cydweithio i gynyddu aelodaeth.

Mae gan Smart Money bresenoldeb cryf yn y Sir yn barod gyda 2055 o aelodau yn ogystal â 14,000 yn Ne a Chanolbarth Cymru, ac mae'r Cynghorydd Gardner yn hyderus y gellir cynyddu hyn yn sylweddol wrth i bobl ddod i ddeall manteision ymuno. "Dyw pobl ddim wastad yn sylweddoli y gallan nhw gynilo eu harian yn ddiogel gyda'r Banc Cymunedol a chymryd benthyciadau allan ar gyfraddau teg hefyd," meddai.

Mae hefyd yn tynnu sylw at y ffaith fod sawl busnes mawr yn symud i'r Sir gan greu niferoedd sylweddol o swyddi newydd. "Mae hyn yn gyfle i'r Banc Cymunedol ymgysylltu â'r cyflogwyr newydd hyn, gan ddarparu gwasanaeth bancio ar gyfer y gweithlu a gwasanaethau eraill fel Cynilion Cyflogres."

Ychwanegodd Alun Taylor, Cadeirydd Smart Money, fod cynnydd sylweddol eisoes wedi'i wneud o ran ehangu rôl y Banc a gwneud AƬ y 'Sir Undeb Credyd' gyntaf yng Nghymru. Sefydlwyd Canolfan Fancio yn Stiwt Glynebwy ac mae pedair arall wedi'u cynllunio mewn lleoliadau strategol, yn ogystal â rhwydwaith o glybiau cynilo ysgolion.

"Ein nod hirdymor yw cofrestru hanner oedolion AƬ fel Aelodau Undeb Credyd neu Fanc Cymunedol fel sydd wedi digwydd mewn gwledydd eraill, ac rydym yn credu bod hyn yn bosibl. Rydym ni a'r Cyngor yn cefnogi’r polisi hwn yn llawn a byddwn yn gweithio'n galed i ledaenu'r neges," ychwanegodd.

Dull gweithredu Smart Money oedd bod yn hyblyg wrth wneud penderfyniadau ar fenthyciadau a cheisiadau eraill. "Rydym yn credu mewn cynnig gwasanaeth personol ac edrych ar ystod ehangach o ffactorau pan fyddwn yn gwneud benthyciad neu benderfyniadau eraill," ychwanegodd. "Ein nod yw trin yr Aelodau mewn ffordd deg a rhesymol a chymryd agwedd hirdymor, sy'n wahanol iawn i ddull gweithredu clinigol banciau'r Stryd Fawr.

"Un gwahaniaeth pwysig rhyngom ni a nhw yw ein bod ni'n bodoli er budd yr Aelodau ac mae elw’n cael ei ailgylchu, tra bod yn rhaid i Fanciau wneud elw i'w cyfranddalwyr," meddai.

]]>
/cy/newyddion/penodi-pencampwr-sir-undeb-credyd/ /cy/newyddion/penodi-pencampwr-sir-undeb-credyd/ Mon, 11 Nov 2024 13:42:39 GMT Louise Bishop
Dysgwr Cymreig Lleol yn orchfygol yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Gyda balchder mawr, hoffwn gyflwyno Antwn Owen-Hicks o Sirhowy, Tredegar, sydd wedi cael yr anrhydedd ennill gwobr uchelgeisiol Dysgwr y Flwyddyn yng Nghymru yn Eisteddfod Genedlaethol eleni, a gynhaliwyd ym mis Awst ym Mharc Ynys Angharad, Pontypridd. Dros y 30 mlynedd diwethaf, mae ymroddiad di-dor Antwn i ddysgu'r Gymraeg wedi'i yrru gan ei angerdd am gerddoriaeth a'i rôl fel aelod sylfaenydd y band Carreg Lafar.

Yn wreiddiol o Bontllanfraith ac yn symud i Ganada, yna dychwelyd yn 7 oed, cofrestrwyd Antwn i ysgol cyfrwng Saesneg. Dechreuodd ei daith tuag at groesawu ei dreftadaeth Gymreig mewn gwirionedd wrth astudio celf yn Llundain. Gan deimlo'n anghysondeb mawr oddi wrth ei wreiddiau, troed at gerddoriaeth gwerin Gymraeg, a ysgogodd gariad dwfn a pharhaol at yr iaith.

Drwy ymdrech parhaus ac ymrwymiad i feistroli Cymraeg, mynegodd Antwn amryw o gyrsiau iaith a llwyddodd i fod yn rhugl. Cafodd ei daith ei gefnogi'n fawr gan ei gyd-bandwyr a'i wraig,

Linda, yn ogystal â'i waith proffesiynol gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, lle'r oedd yn defnyddio'r Gymraeg bob dydd.

Yn rhyfeddol, merch Antwn yw'r cyntaf yn eu teulu i siarad Cymraeg o'i enedigaeth ers ei hen-famgu, gan feithrin yr iaith a'i ddefnyddio bob dydd. Mae'n annog dysgwyr eraill i groesawu eu camgymeriadau, gan gredu bod pob darn o Gymraeg a siaradir yn gam tuag at ruglder.

Mae Antwn yn parhau i hyrwyddo diwylliant Cymru trwy ei gerddoriaeth a nifer o brosiectau celfyddydau. Ar hyn o bryd mae'n ymwneud â "can i'r Cymoedd"  prosiect sy'n anelu at greu cerddoriaeth gwerin draddodiadol newydd gyda chymunedau lleol. Mae ei ymroddiad i'r Gymraeg wedi agor nifer o ddrysau, gan gyfoethogi ei fywyd, ac mae'n dyheu i ysbrydoli eraill i gychwyn ar eu taith dysgu iaith eu hunain.

Wrth feddwl am ei daith, mae Antwn yn dweud, "Ni allaf ddychmygu pa mor wahanol fyddai fy mywyd pe na bawn i wedi dechrau dysgu Cymraeg. Mae wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol; mae wedi agor cymaint o ddrysau i mi, wedi fy nghyflwyno i ffrindiau gwych, ac wedi fy nghyfrannu i gymuned fywiog. Nid ydych chi byth yn gwybod yr effaith hyd nes i chi ddechrau."

Mae stori Antwn yn dyst pwerus i'r pŵer trawsnewidiol o groesawu ein treftadaeth a'r cyfleoedd diderfyn sy'n dod gyda dysgu iaith newydd.

]]>
/cy/newyddion/dysgwr-cymreig-lleol-yn-orchfygol-yn-yr-eisteddfod-genedlaethol/ /cy/newyddion/dysgwr-cymreig-lleol-yn-orchfygol-yn-yr-eisteddfod-genedlaethol/ Mon, 11 Nov 2024 16:14:29 GMT Carolyn Jenkins
Dyfodol Teithio ym Mlaenau Gwent Mae Cyngor AƬ ac elusen cyfranogiad y cyhoedd, Involve, yn cynnal Fforwm Dinasyddion ar Ddyfodol Teithio ym Mlaenau Gwent.

Ariennir y fforwm gan Innovate UK, asiantaeth arloesi Llywodraeth y DU. Bydd yn dod ag ystod amrywiol o drigolion ynghyd i glywed tystiolaeth, trafod y materion a chynhyrchu argymhellion am ddyfodol teithio ym Mlaenau Gwent.

Mae hon yn broses bwysig, a bydd yr argymhellion yn cael eu hystyried gan y Cyngor a phartneriaid trafnidiaeth fel rhan o waith i newid a gwella teithio lleol a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Gofynnir i grŵp o 20 o drigolion, a ddewisir trwy loteri i adlewyrchu’r gymuned, ateb y canlynol:

Sut gall AƬ ddod at ei gilydd i wneud teithio lleol yn decach, yn wyrddach ac yn well i bawb?

Mae'r Cyngor a sefydliadau partner trafnidiaeth yn awyddus i'r dyfodol teithio gael ei siapio gan drigolion a bod unrhyw newidiadau a wneir yn cefnogi anghenion y gymuned ac yn dod â buddion ehangach.

Bydd y Fforwm Dinasyddion yn dilyn proses ddemocrataidd sefydledig a ddefnyddir ledled y byd. Bydd y bobl sy'n mynychu yn dysgu am y materion ac yna'n eu trafod gyda'i gilydd.

Byddant yn llunio gweledigaeth ar gyfer dyfodol teithio ac yn gwneud argymhellion ar sut y gall y cyngor a sefydliadau partner fwrw ymlaen â hyn. Bydd canlyniad y broses hon yn llywio anghenion teithio ar draws y fwrdeistref.

Bydd y fforwm yn rhedeg dros dri dydd Sadwrn mewn lleoliad lleol hygyrch ym mis Ionawr a mis Chwefror 2025.

Cadwch lygad allan am lythyr yn y post a gwnewch gais i gymryd rhan. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol arnoch am y pynciau i gymryd rhan yn y fforwm hwn ac mae’n gyfle gwych i lunio dyfodol teithio ym Mlaenau Gwent.

Os na fyddwch yn derbyn llythyr, bydd cyfleoedd eraill hefyd i gymryd rhan, felly cadwch lygad allan am wybodaeth bellach. Byddwn yn rhannu allbynnau'r fforwm yn agored a sut mae'n llywio'r hyn a wnawn nesaf.

Os hoffech wybod mwy, anfonwch e-bost at: EVcharging@blaenau-gwent.gov.uk

 

 

]]>
/cy/newyddion/dyfodol-teithio-ym-mlaenau-gwent/ /cy/newyddion/dyfodol-teithio-ym-mlaenau-gwent/ Wed, 13 Nov 2024 13:58:29 GMT Carolyn Jenkins
Cyflwynwyd rhyddid y Fwrdeistref i deulu Ray Reardon ar ran chwaraewr snwcer diweddar (4) Rhoddwyd Rhyddid Bwrdeistref AƬ heddiw yn swyddogol i'r enwog Ray Reardon a chyflwynwyd i'w deulu gan y Cyngor.

Gwahoddwyd teulu'r chwaraewr snwcer diweddar i dderbynfa arbennig yn y Swyddfeydd Cyffredinol yng Nglynebwy heddiw lle cyflwynwyd yr anrhydedd i'w gwas John, gan aelodau eraill o'r teulu. Roedd cynghorwyr AƬ, yr Aelod Seneddol Nick Smith a'r Aelod Seneddol Alun Davies hefyd yno i weld y cyflwyniad gan yr Aelod Presiding Chris Smith.

Dywedodd John:

"Mae'n fraint wirioneddol derbyn Rhyddid y Fwrdeistref Sirol ar ran Ray, a gyda'i deulu yn bresennol i nodi'r achlysur. Mae'n ddrwg gen i nad yw gyda ni i weld hyn heddiw ond rwy'n gwybod y byddai wedi mwynhau hyn, byddai'n fyny ei stryd! Diolch i chi o ran yr holl deulu am yr anrhydedd gwych hwn."

Ganwyd Ray Reardon yn Nhredegar a gwnaeth gyfraniad mawr i fyd snwcer nid yn unig yn Nhredegar ond ledled Cymru ac yn fyd-eang. Fe feistrolodd ar chwaraeon snwcer am y rhan orau o ddegawd gan ennill chwe Phencampwriaeth Snwcer y Byd rhwng 1970 a 1978 a mwy na dwsin o deitlau proffesiynol eraill yn ystod ei yrfa.

Bu farw ym mis Gorffennaf eleni yn 91 oed.

Cyflwynodd y Cynghorydd Chris Smith, Aelod Presiding y Cyngor, y sgrôl. Mae'n dweud:

“Roeddwn yn falch iawn bod holl aelodau'r Cyngor wedi cefnogi rhoi Rhyddid y Fwrdeistref i Ray yn ôl marwolaeth, ac mae wedi bod yn fraint lwyr i fod gyda'i deulu heddiw a'u cyflwyno gyda'r anrhydedd hwn. Roedd Ray yn eilun go iawn a chymeriad mawr i'r sbort. Roedd yn benderfynol wrth y bwrdd, ond i ffwrdd o'r bwrdd roedd yn adnabyddus am ei gynhesrwydd a'i gymeriad, yn wirioneddol bonheddwr. Mae Ray yn haeddu'r anrhydedd uchaf y gallwn ei dyfarnu fel Cyngor.”

Ray yw'r ail chwaraewr snwcer i dderbyn yr anrhydedd hwn, yn dilyn Mark Williams yn 2019. Dyma'r anrhydedd uchaf y gall Awdurdod Lleol ei roi i unigolyn.

]]>
/cy/newyddion/cyflwynwyd-rhyddid-y-fwrdeistref-i-deulu-ray-reardon-ar-ran-chwaraewr-snwcer-diweddar-4/ /cy/newyddion/cyflwynwyd-rhyddid-y-fwrdeistref-i-deulu-ray-reardon-ar-ran-chwaraewr-snwcer-diweddar-4/ Fri, 22 Nov 2024 16:52:15 GMT Louise Bishop
Storm Bert: Cefnogi Ein Cymunedau gyda'ch Haelioni

Fel y mae llawer ohonoch yn ei wybod, mae Storm Bert wedi achosi difrod a chaledi sylweddol mewn sawl ardal ym Mlaenau Gwent, gan adael trigolion mewn argyfwng. Er bod y storm wedi dod â dinistr, mae ymateb calonogol pobl AƬ wedi bod yn rhyfeddol. Mae cymunedau wedi dod at ei gilydd i gynnig cymorth ymarferol yn ogystal â chefnogaeth ariannol hael i helpu'r rhai yr effeithiwyd arnynt fwyaf.

Er mwyn sicrhau bod yr holl arian a roddir yn cyrraedd y rhai sydd ei angen fwyaf, mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO) wedi cytuno'n garedig i dderbyn a phrosesu pob rhodd. Mewn partneriaeth â sefydliadau lleol allweddol eraill, bydd GAVO yn dosbarthu "taliadau caledi" bach trwy broses ymgeisio, yr ydym yn gobeithio ei lansio yn y dyddiau nesaf.

Sylwch nad yw GAVO yn gallu derbyn rhoddion arian parod. Felly, rhaid gwneud pob cyfraniad trwy drosglwyddiad banc, gan gynnwys trosglwyddo unrhyw gyfraniadau GO-FUND ME.

Sut i Roi:

Os ydych chi’n gallu ac yn barod i gefnogi, cysylltwch â Laura O'Dowd am fwy o wybodaeth am sut i wneud eich rhodd.

Manylion cyswllt: laura.odowd@gavo.org.uk

ô: 07483 128053

Info@gavo.org.uk

Mae eich haelioni a'ch caredigrwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr. Diolch am wneud gwahaniaeth i fywydau'r rhai sydd ei angen fwyaf.

]]>
/cy/newyddion/storm-bert-cefnogi-ein-cymunedau-gydach-haelioni/ /cy/newyddion/storm-bert-cefnogi-ein-cymunedau-gydach-haelioni/ Thu, 28 Nov 2024 11:26:43 GMT Carolyn Jenkins
Cynllun grant adferiad llifogydd AƬ Mae cyngor AƬ yn cael cymorth ariannol ar gael am breswylwyr sy'n cael eu heffeithio gan y llifogydd diweddar yn ystod Storm Bert.

Fel ymateb unionyrchol mae wedi'i gytuno gan y Cyngor, ar y 28ain o Dachwedd, bydd taliadau o £1000 ar gael i gartrefi ble mae pobl yn fyw sydd wedi eu heffeithio gan y llifogydd.

Cymhwyster

  • Darostyngedig i lifogydd mewnol ~(e.e. Cegin, ystafell fyw, ystafell gweli ayyb.)
  • Llifogydd digwyddwyd fel canlyniad unionyrchol o storm Bert a digwyddwyd rhwng Dydd Sadwrn y 23ain Dydd Llun y 25ain o Dachwedd, 2024.
  • Nid yw’n cynnwys garejys, gerddi, cynteddau, adeiladau allanol ac ati, neu dŵr glaw yn treiddio neu’n gollwng.
  • Ar gael am berchenogion neu denantiaid ond i nodi bod rhaid iddynt fod yn fyw yn y cartref (Bydd yna gwiriadau o’r cofnodion treth cyngor wrth ystyried eiddo gwag)
  • Dim ar gael am landlordiaid, cartrefi gwag neu ail-cartrefi.
  • Taliadau trwy BACS

Mae’r cynllun yn cau ar Ddydd Gwener y 20fed o Ragfyr, 2024.

Mae’r cynllun hwn yn ychwanegol i’r cynllun sydd wedi cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru wythnos yma (£1000 i gartrefi heb yswiriant, neu £500 i gartrefi â sicrwydd yswiriant presennol).

Er hynny, bydd ceisiadau derbyniwyd gan naill ai cynllun yn cael eu defnyddio i asesu cymhwyster am y ddau gynllun lle yw’n bosib, er mwyn uchafu hawl i breswylwyr.

Proses ar gyfer ceisiadau

Gellir creu cais trwy hunanwasanaeth ar lein.

Wyneb i wyneb yn yr hybiau cymunedol

Wrth ffôn - Canolfan cyswllt - 01495 311556

]]>
/cy/newyddion/cynllun-grant-adferiad-llifogydd-blaenau-gwent/ /cy/newyddion/cynllun-grant-adferiad-llifogydd-blaenau-gwent/ Thu, 28 Nov 2024 14:39:48 GMT Carolyn Jenkins
Arweinydd Cyngor AƬ yn ymateb i Storm Bert "Mae Storm Bert wedi dod â dinistr ar draws De Cymru, ac mae ein cymunedau ym Mlaenau Gwent wedi cael eu heffeithio'n fawr.  Roedd y tywydd yn waeth na’r holl ragolygon, gyda symiau digynsail o law mewn rhai ardaloedd yn ein bwrdeistref. Roedd hon yn her eithriadol i'n Cyngor, ein gwasanaethau brys a'n cymunedau, wrth i ni weithio'n ddiflino i ymateb i nifer o ddigwyddiadau yn yr ardal.

"Ein blaenoriaeth gyntaf oedd diogelu bywydau ein preswylwyr, diogelu eiddo lle bo hynny'n bosibl, a gwarchod seilwaith hanfodol. Er ein cynllunio a'n paratoadau yn seiliedig ar y rhagolygon a oedd ar gael, roedd dwyster ac effaith y storm yn fwy na phob disgwyliad. Mae cartrefi, busnesau, ysgolion, ffyrdd a chyfleusterau gofal plant wedi cael eu heffeithio. Roedd nifer y galwadau brys a dderbyniwyd gennym yn ddigynsail, ac ar un adeg, roedd ein llinellau ffôn y tu allan i oriau wedi'u gorlethu'n llwyr.

"Roedd ein timau rheng flaen wedi paratoi, gydag adnoddau, offer a gwiriadau ychwanegol ar waith. Fodd bynnag, roedd ffyrnigrwydd y storm yn golygu ein bod ni, fel llawer ar draws y rhanbarth, wedi wynebu heriau enfawr.

"Mae'r tirlithriad yng Nghwmtyleri wedi achosi aflonyddwch a gofid sylweddol, ond mae’r ymdrechion adfer yn mynd yn dda. Rydyn ni wedi clirio malurion ac ailgyfeirio dŵr i system ddraenio oddi ar y safle. Bydd asesiadau pellach yn penderfynu a oes angen cymryd camau ychwanegol. Mae trigolion wedi cael gwybod y gallant ddychwelyd adref.

"Wrth i ni edrych tua'r dyfodol, gwyddom fod digwyddiadau fel hyn yn dod yn fwy cyffredin oherwydd newid hinsawdd. Bydd meithrin gwytnwch yn ein cymunedau yn hanfodol, a byddwn yn gweithio'n agos gyda phartneriaid i sicrhau ein bod yn fwy parod ar gyfer yr heriau sydd o'n blaenau. Cynhelir ôl-drafodaeth ac adolygiad llawn o'n hymateb i ddysgu gwersi, ond ar hyn o bryd, mae ein ffocws ar adfer a chefnogi'r rhai yr effeithiwyd arnynt.

"Er ein bod yn teimlo rhyddhad na chollwyd unrhyw fywydau ac na chafwyd unrhyw anafiadau difrifol, gwyddom fod llawer o deuluoedd wedi wynebu dinistr yn sgil y lifogydd ac fel y dywedais, mae rhai preswylwyr wedi cael eu dadleoli o'u cartrefi. Ar ran y Cyngor, mae fy meddyliau gyda phawb yr effeithiwyd arnynt.

"Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i staff ac asiantaethau partner anhygoel y Cyngor am eu hymdrechion diflino yn ystod y digwyddiad mawr hwn. Mae eu hymrwymiad i amddiffyn a chefnogi ein cymunedau wedi bod yn rhyfeddol. Rydw i hefyd am ddiolch i’m cyd-gynghorwyr am eu presenoldeb a'u cefnogaeth weladwy ar lawr gwlad. Mae eich sicrwydd a'ch ymrwymiad yn ystod y cyfnod anodd hwn wedi bod yn amhrisiadwy.

"Yn bwysicaf oll, hoffwn ddiolch i'n cymunedau. Unwaith eto, mae AƬ wedi dangos gwytnwch ac undod aruthrol. Mae cymdogion wedi dod at ei gilydd, mae grwpiau wedi gweithredu, ac mae unigolion wedi camu i'r adwy i gefnogi'r rhai mwyaf anghenus. Mae eich tosturi a'ch penderfyniad yn ffynhonnell o ysbrydoliaeth.

"Rydyn ni’n parhau i weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, i ddarparu'r cymorth a'r adnoddau angenrheidiol i adfer. Yng Nghwmtyleri byddwn yn aros ar y safle nes bod yr holl fesurau diogelwch wedi'u cwblhau. Yn yr ardaloedd sydd wedi eu heffeithio waethaf gan y llifogydd, fel y Cwm, Llanhiledd a Thredegar, mae ein timau wedi bod yn cynorthwyo drwy lanhau, cynnig llety dros dro, a sicrhau y gall trigolion gael mynediad i’r cymorth ariannol sydd ar gael. Mae canolfannau cynghori a staff o ystod o wasanaethau yn parhau i fod wrth law i helpu.

"Mae hwn yn gyfnod o her aruthrol, ond gyda'n gilydd, gallwn adfer ac ailadeiladu. Mae AƬ wastad wedi sefyll yn gryf yn wyneb adfyd, a byddwn yn parhau i gefnogi ein gilydd wrth i ni symud ’mlaen."

Y Cynghorydd Steve Thomas
Arweinydd Cyngor AƬ

 

]]>
/cy/newyddion/arweinydd-cyngor-blaenau-gwent-yn-ymateb-i-storm-bert/ /cy/newyddion/arweinydd-cyngor-blaenau-gwent-yn-ymateb-i-storm-bert/ Fri, 29 Nov 2024 13:22:02 GMT Louise Bishop
Perfformiad ailgylchu Cyngor AƬ yn parhau i wella

Mae targedau ailgylchu blynyddol wedi'u cyrraedd eto gan Gyngor AƬ sydd wedi rhagori ar darged Llywodraeth Cymru o 64%. Mae adroddiad a gyflwynwyd i'r Cabinet ar y 4ydd o Ragfyr yn cadarnhau bod y ffigur cyfradd ailgylchu o 66.18% wedi'i gyflawni.

Mae Tîm Gwastraff ac Ailgylchu AƬ wedi gwneud cynnydd sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf drwy gynyddu faint mae'r fwrdeistref yn ei ailgylchu. Fodd bynnag, mae targed Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 yn codi i 70% a fydd yn her.

Mae Timau Gwastraff y Cyngor eisoes yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, drwy Bartneriaid Lleol a’r Rhaglen Gweithredu Gwastraff ac Adnoddau (WRAP), i ddatblygu strategaeth newydd a fydd yn cynyddu eu hailgylchu ymhellach er mwyn cyrraedd cyfradd newydd 2024-25 a thu hwnt.

ѱ岹’r Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Leoedd a’r Amgylchedd, y Cynghorydd Helen Cunningham:

“Hoffwn ddiolch i breswylwyr am barhau i ailgylchu a rhagori ar darged ailgylchu Llywodraeth Cymru eleni. Yn y dyfodol bydd disgwyl i ni ailgylchu hyd yn oed mwy, felly rydym yn parhau i weithio ochr yn ochr â chartrefi i leihau maint gwastraff bagiau du. Mae ein gwasanaeth casglu gwastraff yn esblygu’n gyson i sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o’n hadnoddau ac i wneud casgliadau’n fwy effeithlon.”

]]>
/cy/newyddion/perfformiad-ailgylchu-cyngor-blaenau-gwent-yn-parhau-i-wella/ /cy/newyddion/perfformiad-ailgylchu-cyngor-blaenau-gwent-yn-parhau-i-wella/ Wed, 04 Dec 2024 15:39:29 GMT Carolyn Jenkins
Tasglu Ymddygiad Gwrthgymdeithasol AƬ yn ennill gwobr diogelwch cymunedol genedlaethol Mae Tasglu Ymddygiad Gwrthgymdeithasol AƬ wedi ennill Gwobr Cymunedau Diogelach Cymru am ei waith partneriaeth arloesol wrth gefnogi cymunedau sydd â phryderon ynglŷn ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Cafodd y Tasglu ei sefydlu ym mis Chwefror gan y partneriaid Cyngor AƬ, Heddlu Gwent, Cartrefi Cymunedol Tai Calon a Gwasanaeth Ieuenctid AƬ. Trwy raglen ymgysylltu cyhoeddus y Cyngor, Siarad Gyda’n Gilydd, bu’n bosib i’r Tasglu gwrdd â thrigolion a busnesau i glywed eu pryderon am eu cymunedau, gan alluogi partneriaid i weithio gyda'i gilydd i nodi mannau problemus a chynnig cymorth a chyngor ar adrodd a chofnodi ymddygiad problematig.

Mae'r Tasglu’n falch iawn o fod wedi ennill y categori Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn seremoni Gwobrau Cymunedau Diogelach Cymru yn Wrecsam. Cynhelir y gwobrau bob blwyddyn i gydnabod cyfraniadau rhagorol at ddiogelwch cymunedol gan unigolion, sefydliadau neu bartneriaethau ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Roedd ceisiadau wedi cael eu hadolygu gan banel dyfarnu yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Plismona yng Nghymru a Rhwydwaith Cymunedau Diogelach Cymru.

Rhoddodd y seremoni wobrwyo sylw i’r enillwyr, cydweithwyr a gweithwyr diogelwch cymunedol proffesiynol ehangach a chydnabod bod eu gwaith caled yn cael ei werthfawrogi ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i unigolion a chymunedau ledled Cymru. Roedd cynrychiolwyr yr holl bartneriaid yno i dderbyn y wobr.

Mae'r Tasglu’n mynd o nerth i nerth ac yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod cuddwybodaeth gymunedol a chytuno ar ardaloedd problemus lle gall ganolbwyntio ei adnoddau cyfunol fel patrolau a gweithgareddau swyddogion a chefnogaeth i bobl ifanc.

Ym mis Mehefin, cyflwynwyd pedwar Warden Diogelwch Cymunedol pwrpasol i ddarparu patrolau cerdded gwelededd uchel a thawelwch meddwl mewn lleoliadau o'r fath. Mae'r Wardeiniaid yn ymgysylltu'n rhagweithiol â phreswylwyr, aelodau etholedig a busnesau lleol ac wedi arwain ar fenter Storenet sy'n grymuso busnesau cofrestredig i adrodd a mynd i'r afael â throseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig â busnes. Mae'r adborth ar y Wardeniaid wedi bod yn hynod gadarnhaol.

Trwy waith y Tasglu, mae'r Cyngor hefyd wedi gweithredu yn erbyn troseddwyr mynych drwy ei Grŵp Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, sy'n penderfynu ar y gosb fwyaf priodol pan fydd ymyriadau eraill wedi methu. Eleni, mae chwech o bobl ifanc wedi mynd gerbron y llys ac mae'r chwech yn destun gwaharddiadau, lle cânt eu gwahardd rhag mynd i mewn i'r trefi lle roedden nhw’n achosi problemau i drigolion a busnesau lleol. Mae'r parthau gwahardd yn para hyd at 8 mis.

Mae’r Gwasanaeth Ieuenctid wedi bod yn brysur yn gweithio gyda phobl ifanc allan yn y gymuned, yn enwedig y rhai sydd mewn perygl o ymddwyn yn wrthgymdeithasol, i'w dargyfeirio oddi wrth ymddygiad o'r fath, gan sianelu eu hegni trwy eu hatgyfeirio at weithgareddau cadarnhaol gan gynnwys prosiectau cymunedol, gan arddangos y ffyrdd maen nhw’n falch o le maen nhw’n byw.

Meddai'r Cynghorydd Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd Cyngor AƬ ac Aelod Cabinet dros Leoedd a'r Amgylchedd, sy'n gyfrifol am Ddiogelwch Cymunedol:

"Sefydlwyd y Tasglu fel ymateb i bocedi o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein cymunedau yma ym Mlaenau Gwent, ac i gydnabod na allai unrhyw asiantaeth neu sefydliad unigol fynd i'r afael â hyn ar eu pennau eu hunain. Mae gan y Tasglu ymrwymiad cyffredin i sicrhau newid gwirioneddol a gwneud ein cymunedau'n fwy diogel. Rydym wedi gwneud cynnydd da iawn gyda’r gwaith hwn, ac rwy'n falch bod Gwobr Cymunedau Diogelach Cymru yn cydnabod hyn ac yn canmol yr ethos partneriaeth gwirioneddol y tu ôl iddo. Mae gan y Tasglu lawer mwy o waith i'w wneud, ac mae’r holl bartneriaid yn parhau i ganolbwyntio'n llwyr ar gefnogi ein cymunedau, gwrando ar eu pryderon a gweithredu arnynt.

"Diolch i bawb sy'n ymwneud â'r gwaith hwn, gan gynnwys preswylwyr a busnesau."

Ychwanegodd y Prif Arolygydd Stevie Warden:

"Un o brif amcanion ein tasglu yw lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol ac amddiffyn preswylwyr rhag niwed a niwsans cysylltiedig.

"Mae ymddygiad afreolus o unrhyw fath yn gwbl annerbyniol, a byddwn yn defnyddio pob adnodd sydd ar gael i ni i sicrhau ei fod yn cael ei ddileu o'n cymunedau.

"Rydym yn gweithio'n rheolaidd gyda phartneriaid y tasglu mewn ysgolion lleol ac yn ymgysylltu â thrigolion i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'u gweithredoedd a'r effaith enfawr y gall ymddygiad afreolus ei chael ar eu tref a'u cymdogion, ond hefyd i ddysgu mwy am y materion sy'n effeithio'n ddifrifol arnyn nhw.

"Hoffwn ddiolch i'n partneriaid, ond hefyd ddweud bod gennym ddigon o waith i'w wneud o hyd a’n bod yn parhau i fod yn ymrwymedig i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol ar draws y fwrdeistref."

Dwedodd Rachel Rees Pennaeth Tai o Gwmni Tai calon: 

"Rydym yn falch iawn i weld Tîm Ymddygiad gwrthgymdeithasol AƬ yn cael ei gydnabod am ei waith caled ac ymroddiad. Mae'r wobr hon yn amlygu effaith anhygoel cydweithrediad rhwng partneriaid allweddol fel Tai Calon, Heddlu Gwent, Gwasanaethau Ieuenctid BG, a Gweithredu Sirol. Mae llwyddiant y bartneriaeth hon yn amlygu ein hymrwymiad i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.”

Dywedodd y beirniaid fod y Tasglu wedi dangos arfer arloesol wrth fynd i'r afael ag ymddygiad troseddol a gwrthgymdeithasol, wedi atal sefyllfaoedd rhag gwaethygu ac ailgodi, ac wedi cael effaith gadarnhaol ar drigolion a busnesau lleol yn y mannau problemus a nodwyd.  Mae'r dull partneriaeth datblygedig hwn wedi gwella ymdeimlad pobl o les ac ansawdd bywyd yn yr ardal, a ddangosir gan yr adborth hynod gadarnhaol gan drigolion, busnesau lleol ac aelodau etholedig lleol.

Ynghyd â phartneriaid, byddwn yn parhau â'r sgwrs ar Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn ein digwyddiadau Nadolig sydd ar ddod. Bydd aelodau'r Tasglu ar gael i sgwrsio am bryderon pobl a chynnig cyngor a chefnogaeth yn:

  • Digwyddiadau Nadolig Tredegar ac Abertyleri, 7 Rhagfyr, 12pm i 4pm
  •  Digwyddiad Nadolig Bryn-mawr, 14 Rhagfyr, 12pm i 4pm
  • Digwyddiad Nadolig Glynebwy, 21 Rhagfyr, 12pm i 4pm

 

 

]]>
/cy/newyddion/tasglu-ymddygiad-gwrthgymdeithasol-blaenau-gwent-yn-ennill-gwobr-diogelwch-cymunedol-genedlaethol/ /cy/newyddion/tasglu-ymddygiad-gwrthgymdeithasol-blaenau-gwent-yn-ennill-gwobr-diogelwch-cymunedol-genedlaethol/ Fri, 06 Dec 2024 06:20:59 GMT Louise Bishop
Cyngor AƬ yn cydnabod ei Chasglwyr Sbwriel am eu gwaith rhagorol Trwy gydol y flwyddyn mae Casglwyr Sbwriel o bob oed o ysgolion, cymunedau, grwpiau gwirfoddoli a phartneriaethau AƬ wedi bod yn brysur yn tacluso’r fwrdeistref.  Mae sesiynau Casglu Sbwriel, sy’n cael eu trefnu gan y Swyddog Ansawdd Amgylcheddol Lleol, John Mewett, wedi bod yn cael eu cynnal, a chasglwyd cryn dipyn o sbwriel, gan ei ailgylchu lle bo hynny'n bosibl, nid yn unig o'r stryd fawr a meysydd parcio ond hefyd o fannau lletchwith eu cyrraedd. 

I gydnabod yr holl waith caled sydd wedi digwydd, mae'r Cyngor wedi trefnu digwyddiadau i ddangos ei werthfawrogiad gyda'r nesaf i'w gynnal ar:
•   11 Rhagfyr 6pm Tŷ Bedwellte, Tredegar NP22 3XN
•   17 Rhagfyr 6pm Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy, NP23 6DN

Mae'r digwyddiadau'n anffurfiol, felly gall unrhyw un sy'n ystyried casglu sbwriel yn y dyfodol ddod draw i ddysgu mwy am y gwaith, yr offer a ddefnyddir (i gyd ar gael gennym ni) a sut y gallwch chi helpu. Mae'r digwyddiadau'n dod â phawb at ei gilydd mewn amgylchedd croesawgar am sgwrs. Mae ’na fwffe a bydd John yno i ateb unrhyw gwestiynau.

Os na allwch ddod ond eich bod yn dymuno gwirfoddoli i Gasglu Sbwriel yn y flwyddyn newydd, cysylltwch â:
John Mewett - Swyddog Ansawdd Amgylcheddol Lleol
E-bost: john.mewett@blaenau-gwent.gov.uk

John Mewett, Swyddog AALl Cyngor AƬ, yn cyflwyno mewn digwyddiad llwyddiannus diweddar yng Nghanolfan Ailgylchu a Gwastraff y Cartref (HWRC) Abertyleri. 

 

]]>
/cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-cydnabod-ei-chasglwyr-sbwriel-am-eu-gwaith-rhagorol/ /cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-cydnabod-ei-chasglwyr-sbwriel-am-eu-gwaith-rhagorol/ Fri, 06 Dec 2024 08:49:40 GMT Alan Powell
Cyngor AƬ yn Dathlu Blwyddyn Gyntaf Llwyddiannus Ymgyrch “Dewch i Fwydo ar y Fron AƬ” gyda Dathliad Nadolig Bwydo ar y Fron Flynyddol Cyntaf

Nododd Cyngor Bwrdeistref Sirol AƬ ddiwedd blwyddyn gyntaf ei ymgyrch bwydo ar y fron hynod lwyddiannus, “Dewch i Fwydo ar y Fron AƬ”, gyda’i Ddathliad Nadolig Bwydo ar y Fron cyntaf ar ddydd Llun, 2il o Ragfyr 2024, yn y Swyddfeydd Cyffredinol yng Nglynebwy.

Daeth dros 80 o famau a’u babanod ynghyd i ddathlu cyflawniadau’r rhai a oedd wedi bwydo eu babanod ar y fron yn 2024 – boed ar gyfer bwydo cychwynnol yn unig neu fel rhan o daith bwydo ar y fron hirach. Mwynhaodd y mynychwyr fwffe dathlu Nadoligaidd, te, coffi, amser chwarae, ffotograffau, a hyd yn oed ymweliad gan Siôn Corn. Cyflwynwyd tystysgrifau a phin gwobr bwydo ar y fron arbennig i bob mam i goffáu eu cerrig milltir bwydo ar y fron personol.

Meddai mam sy’n bresennol:

“Mae’r digwyddiad hwn mor hyfryd, mae’n braf dod at ein gilydd bob hyn a hyn, cael sgwrs gyda mamau eraill, a mwynhau coffi poeth. Mae’n gwneud cymaint o wahaniaeth i gael y gefnogaeth hon.”

Amlygodd Dathliad Nadolig Bwydo ar y Fron y cynnydd sylweddol a wnaed yng nghyfraddau bwydo ar y fron AƬ yn 2024. Ers lansio ymgyrch “Dewch i Fwydo ar y Fron AƬ”, mae cyfraddau bwydo ar y fron wedi codi o 40% ym mis Ionawr 2024 i 60% a dorrodd record ym mis Awst 2024 . Mae hwn yn gyflawniad mawr i ardal sydd wedi bod â rhai o'r cyfraddau bwydo ar y fron isaf yn y DU yn hanesyddol, ac o bosibl yn Ewrop.

Meddai Ceri Bird, Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Plant:

“Mae’r cynnydd mewn cyfraddau bwydo ar y fron yn ganlyniad uniongyrchol i ymrwymiad ein Cyngor, mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a’r hyrwyddwr bwydo ar y fron enwog Ferne McCann, i ddarparu mwy o ymwybyddiaeth, gwybodaeth a chymorth i rieni newydd.

“Trwy’r ymgyrch a’i gynllun gweithredu, mae’r Cyngor wedi gweithio i sicrhau bod gan rieni’r wybodaeth a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i wneud penderfyniadau gwybodus am fwydo eu babanod. Rydyn ni eisiau i’n holl rieni deimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u bod yn cael gwrandawiad hefyd.”

Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd a mam sy'n bwydo ar y fron yn dweud:

“Llongyfarchiadau i'r holl fenywod sy'n ymwneud â chynyddu cyfraddau bwydo o'r fron ym Mlaenau Gwent. Cefais fy mabi ym mis Chwefror ac fel mam sy'n bwydo ar y fron fy hun, rwy'n gwybod pa mor bwysig yw hi i gael y gefnogaeth gywir ar waith, p'un a yw am ddechrau, ei wneud am ychydig wythnosau, ychydig fisoedd neu fwy. Mae dod â mamau a'u babanod at ei gilydd fel hyn yn ffordd berffaith o ddathlu.”

Yn 2024, aeth Cyngor AƬ ati i wella canlyniadau bwydo ar y fron, gyda’r nod o sicrhau bod pob babi sy’n cael ei eni ym Mlaenau Gwent yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd. Mae’r ymgyrch wedi grymuso mamau a thadau i wneud penderfyniadau hyderus, gwybodus ynghylch bwydo babanod, gan roi’r cymorth sydd ei angen arnynt i oresgyn heriau a llwyddo ar eu taith bwydo ar y fron.

Mae Cyngor AƬ yn falch o weld y canlyniadau cadarnhaol hyn ac yn parhau i fod yn ymrwymedig i wella cymorth ac adnoddau bwydo ar y fron ymhellach ar draws yr ardal yn y blynyddoedd i ddod.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd – 01495 369610 neu e-bostiwch: FIS@blaenau-gwent.gov.uk

]]>
/cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-dathlu-blwyddyn-gyntaf-llwyddiannus-ymgyrch-dewch-i-fwydo-ar-y-fron-blaenau-gwent-gyda-dathliad-nadolig-bwydo-ar-y-fron-flynyddol-cyntaf/ /cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-dathlu-blwyddyn-gyntaf-llwyddiannus-ymgyrch-dewch-i-fwydo-ar-y-fron-blaenau-gwent-gyda-dathliad-nadolig-bwydo-ar-y-fron-flynyddol-cyntaf/ Tue, 10 Dec 2024 15:25:42 GMT Emma Bennett
Diweddariad: Tir yn Heol Porthorion, Nant-y-glo. (3) Rydym yn parhau i ddelio â materion cyfreithiol mewn perthynas â darn o dir yn Heol Porthorion, Nant-y-glo. Yn gynharach eleni, gwnaed gwaith datblygu ar dir ar y safle yn absenoldeb caniatâd cynllunio gan y Cyngor.

Mae'r Cyngor wedi derbyn Gorchymyn Gwaharddeb Derfynol gan yr Uchel Lys sy'n parhau i atal unrhyw ddatblygiad pellach o'r tir, ac sydd bellach yn cyfarwyddo'r tirfeddianwyr i wneud Gwaith Adfer Sefydlogrwydd ar y safle gan ddefnyddio cynllun gwaith a gymeradwywyd gan y Cyngor.

Mae'n rhaid i'r cynllun gwaith cymeradwy gael ei gyflawni gan Gontractwr Peirianneg Sifil cymwys a phrofiadol y mae'n rhaid i'r tirfeddianwyr roi ei fanylion yn ysgrifenedig i'r Cyngor cyn i'r gwaith ddechrau ar y safle. Mae'r holl waith i'w wneud yn unol â'r Rheoliadau Dylunio a Rheoli Adeiladu (2015) ac yn unol â'r rheoliadau iechyd a diogelwch diweddaraf. Bydd y gwaith yn cael ei oruchwylio gan beiriannydd annibynnol.

Unwaith y bydd y cloddwaith wedi'i gwblhau, mae'r safle i'w ffrwythloni a'i hydrohadu.

Mae'r Llys wedi gorchymyn y bydd y diffynyddion a enwir yn cynnal y Gwaith Adfer Sefydlogrwydd erbyn 31 Mai 2025 (neu unrhyw ddyddiad diweddarach os cytunir ar hynny yn ysgrifenedig gan y Cyngor).

Llinell amser:

5 Ebrill 2024:

Cyflwynwyd Hysbysiad Atal Dros Dro i dirfeddianwyr a phartïon â diddordeb ar 5 Ebrill 2024 gan ddefnyddio'r pwerau perthnasol o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

1 Mai 2024:

Cafodd y Cyngor Waharddeb Uchel Lys Dros Dro yn datgan na fydd y tirfeddianwyr yn:

• Cyflawni nac achosi unrhyw waith peirianneg neu weithredoedd datblygu ar y Tir heb gael caniatâd cynllunio ymlaen llaw, gan gynnwys ar ffurf codi unrhyw adeilad neu strwythur arall neu drwy newid defnydd perthnasol.

• Dod ag unrhyw garafán deithiol, cartref symudol nac unrhyw strwythur symudol arall i'r Tir, gan eithrio’r chwe charafán deithiol a oedd wedi'u lleoli ar y tir ar ddyddiad y waharddeb dros dro hon.

Roedd y Waharddeb Uchel Lys Dros Dro hefyd yn nodi na chaiff unrhyw berson ac eithrio’r tirfeddianwyr breswylio yn neu feddiannu (gan gynnwys drwy aros dros nos) unrhyw un o'r carafanau teithiol y caniateir eu cadw ar y tir. Roedd y Waharddeb Uchel Lys Dros Dro a roddwyd Ddydd Mercher 1 Mai 2024 yn orchymyn dros dro, gyda'r mater yn dychwelyd i'r Uchel Lys heddiw (Dydd Gwener 21 Mehefin 2024).

25 Mehefin:

Cafodd y Cyngor Waharddeb Uchel Lys Dros Dro bellach yn datgan:

·&Բ;&Բ;&Բ;&Բ;&Բ;&Բ; Na fydd y tirfeddianwyr yn cyflawni nac achosi na chaniatáu i unrhyw waith peirianneg gael ei wneud ar y Tir heb gael caniatâd cynllunio ymlaen llaw.

·&Բ;&Բ;&Բ;&Բ;&Բ;&Բ; Na fydd y tirfeddianwyr yn cyflawni nac yn achosi nac yn caniatáu i unrhyw weithred ddatblygu arall gael ei chyflawni ar y Tir (gan gynnwys datblygiad gweithredol ar ffurf codi unrhyw adeilad neu strwythur arall neu drwy newid defnydd perthnasol) heb gael caniatâd cynllunio ymlaen llaw.

·&Բ;&Բ;&Բ;&Բ;&Բ;&Բ; Y bydd y tirfeddianwyr, heb fod yn hwyrach na 18:00 Ddydd Sul 23 Mehefin 2024 yn peidio â meddiannu, byw a/neu gysgu neu achosi neu ganiatáu i unrhyw berson feddiannu, byw a/neu gysgu mewn unrhyw garafán deithiol, cartref symudol neu unrhyw strwythur symudol arall ar y tir.

·&Բ;&Բ;&Բ;&Բ;&Բ;&Բ; Y bydd y tirfeddianwyr yn symud o'r tir erbyn 17:00 Ddydd Llun 24 Mehefin 2024 bob carafán deithiol, y Portaloo, trelar a'r holl baraffernalia preswyl arall.

·&Բ;&Բ;&Բ;&Բ;&Բ;&Բ; Na fydd y tirfeddianwyr wedi hynny yn achosi na chaniatáu i unrhyw garafán deithiol, cartref symudol, neu unrhyw strwythur symudol arall gael ei leoli ar y tir heb gael caniatâd cynllunio ymlaen llaw.

·&Բ;&Բ;&Բ;&Բ;&Բ;&Բ; Na fydd y tirfeddianwyr wedi hynny yn achosi nac yn caniatáu parcio neu storio unrhyw gerbyd, peiriant neu beirianwaith ar y tir heb gael caniatâd cynllunio ymlaen llaw.

4 Rhagfyr 2024:

Cafodd y Cyngor Orchymyn Gwaharddeb Derfynol. Mae hyn yn atgyfnerthu amodau'r gorchmynion blaenorol ar 25 Mehefin ac yn ogystal yn cyfarwyddo'r tirfeddianwyr i wneud gwaith adfer.

]]>
/cy/newyddion/diweddariad-tir-yn-heol-porthorion-nant-y-glo-3/ /cy/newyddion/diweddariad-tir-yn-heol-porthorion-nant-y-glo-3/ Wed, 11 Dec 2024 15:08:46 GMT Louise Bishop
500 o bobl ifanc yn mynychu digwyddiad STEAM
Mae tua 500 o fyfyrwyr o Flaenau Gwent yn mynychu ein Digwyddiad Ysbrydoliaeth STEAM heddiw. Mae STEAM yn sefyll am wyddoniaeth, technoleg, peirianneg, y celfyddydau a mathemateg.
Gwahoddwyd myfyrwyr o ysgolion uwchradd y fwrdeistref sy'n dewis eu hopsiynau y flwyddyn academaidd hon i'r digwyddiad ym Mharth Dysgu AƬ. Yno, mae ganddynt gyfle i gwrdd â 30 o fusnesau lleol sydd yno i ymgysylltu ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o weithwyr STEAM trwy dynnu sylw at lwybrau gyrfaoedd a gofynion sgiliau, yn ogystal â chwblhau tasg/her fach yn ystod eu hymweliad.
Mae tîm Hwyluso STEM BG y Cyngor yn gweithio gyda phob un o'r 29 ysgol ar draws y fwrdeistref i ddarparu rhaglen gydlynol o gymorth STEM / STEAM sy'n canolbwyntio ar ddiwydiant. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda 28 o fusnesau lleol i bennu anghenion sgiliau yn y dyfodol ac rydym yn gweithio gyda dros 60 o ddarparwyr STEM sy'n mynd i mewn i ysgolion ac yn cyflwyno sesiynau, gweithgareddau a gweithdai STEM amrywiol sy'n cysylltu â'r anghenion hynny yn y diwydiant.
Mae ymyriadau busnes mewn ysgolion yn canolbwyntio ar yrfaoedd STEM / llwybrau gyrfa. Mae gan bob ysgol gynllun datblygu STEM pwrpasol a grëwyd gan eu Swyddog Cyswllt BG STEM ymroddedig sy'n cyd-fynd â chwricwlwm yr ysgol.
Mae Prosiect Hwyluso STEM AƬ yn cael ei ariannu drwy raglen Cymoedd Technoleg Llywodraeth Cymru.
]]>
/cy/newyddion/500-o-bobl-ifanc-yn-mynychu-digwyddiad-steam/ /cy/newyddion/500-o-bobl-ifanc-yn-mynychu-digwyddiad-steam/ Thu, 12 Dec 2024 14:17:51 GMT Louise Bishop
Cwmni plymio ym Mlaenau Gwent yn croesawu cyllid Grant Datblygu Busnes. Mae busnes plymio a gwresogi newydd ym Mlaenau Gwent wedi gallu agor ystafell arddangos newydd a gwella ei farchnata ar-lein diolch i Grant Datblygu Busnes.

Mae Valley Plumbing Supplies Ltd wedi defnyddio'r arian a roddwyd iddynt i agor safle yn Ystâd Ddiwydiannol Rising Sun yn y Blaenau, sy'n cynnwys ystafell arddangos newydd. Mae'r grant wedi helpu gyda’r costau o osod ystafell arddangos newydd a siop ar gyfer cyflenwadau ystafell ymolchi a phlymio, yn ogystal ag arwyddion a byrddau hysbysebu a gwefan.

Sefydlwyd Valley Plumbing Supplies gan Joel Fleming a Jonathan Ayears, a oedd, drwy gydweithio drwy eu busnesau presennol, wedi nodi cyfle i sefydlu cwmni ar y cyd i lenwi bwlch yn y farchnad yn lleol. Mae VPS yn cyflenwi'r holl nwyddau a deunyddiau plymio, gan gynnwys boeleri, ategolion boeler, pibelli, ffitiadau pibelli ac offer llaw sy’n gysylltiedig â phlymio, ac maent hefyd yn cyflenwi unrhyw ddodrefn ystafell ymolchi o dapiau i faddonau sy’n addas i bob cyllideb. Sefydlwyd y busnes i ddechrau i werthu i fyd masnach yn bennaf ond ers agor maent hefyd wedi gweld gwerthiant uchel o ddodrefn ystafell ymolchi yn uniongyrchol i'r cyhoedd, a dyna pam maent yn ehangu i'r unedau cyfagos i sefydlu ystafelloedd arddangos.

Meddai Jonathan: "Fel cwmni newydd, mae’r grant yma wedi helpu'n aruthrol, ry'n ni mor falch gyda sut mae pethau'n edrych yn yr ystafell arddangos newydd - dewch i gael golwg!"

Mae Grant Datblygu Busnes AƬ yn cael ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ac yn cael ei reoli gan y Tîm Busnes ac Arloesi yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol AƬ. Nod y Grant Datblygu Busnes yw cefnogi twf a datblygiad busnesau newydd a phresennol ym Mlaenau Gwent.

Mae'r newyddion da yn parhau gan fod y cwmni wedi cyflogi gweithiwr newydd yn ddiweddar. Mae Ben Carpenter wedi cael ei gyflogi gan y cwmni yn dilyn lleoliad chwe mis ar gynllun QuickStart*, a ariennir gan Gyllid Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Meddai'r Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet y Cyngor dros Adfywio a Datblygu Economaidd:

"Mae'n bwysig bod busnes yn gallu marchnata ei hun yn effeithiol a rhoi gwybod i ddarpar gwsmeriaid beth mae'n ei gynnig, felly rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi Valleys Plumbing Supplies drwy hwyluso'r grant hwn ar gyfer ystafell arddangos newydd. Mae hefyd wedi creu cyfle cyflogaeth, sy'n wych. Fel Cyngor, rydyn ni wedi ymrwymo i barhau i gefnogi busnesau lleol i greu cymunedau gwydn ac economi ffyniannus, gan sicrhau y gall pobl aros yn lleol a siopa'n lleol ar gyfer eu holl anghenion."

Mae'r rhaglen QuickStart yn cynnig lleoliadau gwaith cyflogedig chwe mis ym Mlaenau Gwent i unrhyw un 16+ oed sy'n ddi-waith neu'n economaidd anweithgar, i gael profiad gwerthfawr a gwella sgiliau cyflogadwyedd i gynyddu eu siawns o ddod o hyd i waith llawn-amser ar ôl i'r lleoliad ddod i ben.

]]>
/cy/newyddion/cwmni-plymio-ym-mlaenau-gwent-yn-croesawu-cyllid-grant-datblygu-busnes/ /cy/newyddion/cwmni-plymio-ym-mlaenau-gwent-yn-croesawu-cyllid-grant-datblygu-busnes/ Mon, 16 Dec 2024 15:55:48 GMT Louise Bishop
Arweinydd datblygu economaidd y Cyngor wedi'i benodi i Fwrdd IED Mae Moe Forouzan, Rheolwr Tîm – Busnes ac Arloesi yng Nghyngor AƬ, wedi cael ei ethol i Fwrdd y Sefydliad Datblygu Economaidd (IED), corff proffesiynol mwyaf blaenllaw'r DU ar gyfer ymarferwyr datblygu economaidd ac adfywio.

Gyda 19 mlynedd o brofiad mewn llywodraeth leol, mae Moe yn arwain Uned Datblygu Economaidd AƬ, gan arbenigo mewn sbarduno twf busnes, mynd i'r afael â heriau cadw, a rheoli safleoedd diwydiannol a swyddfeydd, gan gynnwys tir cyflogaeth. Mae ei oruchwyliaeth strategol yn cwmpasu datblygu a rheoli swyddogaethau busnes ac economaidd y Cyngor, yn canolbwyntio ar weithredu mentrau sbarduno economaidd, a meithrin rhwydweithiau cydweithredol sy'n gwella cadwyni cyflenwi lleol a chymorth cymheiriaid.

Mae Moe yn arbennig o angerddol am gefnogi busnesau newydd, busnesau bach a chanolig a phrosiectau adleoli busnes, gan eu helpu i ffynnu mewn amgylcheddau deinamig a chystadleuol. Ac yntau’n Feistr-Hwylusydd Mentrau Hyfforddedig, ef yw'r unig ymarferydd ardystiedig yn y DU o'r model Sirolli o Hwyluso Mentrau, wedi’i hyfforddi’n bersonol gan Dr Ernesto Sirolli. Mae'r dull arloesol hwn yn darparu cymorth busnes cyfrinachol am ddim i entrepreneuriaid a mentrau cymdeithasol, gan rymuso cymunedau lleol trwy entrepreneuriaeth. Mae arbenigedd sector cyhoeddus Moe wedi’i adeiladu ar radd israddedig a Meistr mewn Datblygu Busnes a Menter a enillwyd ym Mhrifysgol De Cymru, a phrofiad o reoli busnesau teuluol.

Gyda'i benodiad i'r Bwrdd IED a gyhoeddwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Sefydliad ar 4 Rhagfyr, datgelodd Moe fod ei ymrwymiad i ddatblygu economaidd yn "broffesiynol a phersonol, gan fy ysgogi i fireinio fy ngwybodaeth yn barhaus a sicrhau canlyniadau effeithiol" ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. Dywedodd fod y profiad hwn yn ei wneud yn "hynod hyblyg ac yn addas iawn ar gyfer rolau arweinyddiaeth mewn cyd-destunau busnes amrywiol".

Meddai Moe: "Rwy'n gyffrous iawn am y cyfle hwn i ymuno â'r Bwrdd IED, ac i weithio gyda phobl sy'n angerddol dros ddatblygu economaidd. Rwy'n falch iawn o fod yn rhan o sefydliad sydd ag uchelgais gyffredin amlwg, ac sy'n cael ei ystyried yn enw mawr yn ei faes. Mae'r IED yn cael ei gydnabod fel chwaraewr pwysig a chredadwy iawn mewn datblygu economaidd, gan gynnig cyfleoedd DPP heb eu hail a gweithredu ar gyfer y proffesiwn, ac fel aelod rydw i eisoes yn gweld gwerth ei weithgareddau. Mae'r datblygiad proffesiynol rydw i wedi'i brofi wedi bod yn anhygoel, bob amser yn heriol, ac yn canolbwyntio ar helpu ymarferwyr i wella. Mae bod ar y Bwrdd yn gyfle i mi roi rhywbeth yn ôl hefyd, gan gynnwys trwy gymorth mentora. Dyma'r lle gorau i mi fod fel ymarferydd a dweud y gwir.

"Fel sefydliad mae cyfle i ddatblygu ein cysylltiadau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond mae tyfu aelodaeth yng Nghymru yn bwysig iawn i mi. Rydw i am helpu i hyrwyddo manteision yr IED, ac annog mwy a mwy o ymarferwyr i fod yn rhan o'r mudiad datblygu economaidd cenedlaethol, a fydd yn ei dro yn cefnogi arfer gorau mewn cymunedau lleol a rhanbarthol yng Nghymru. Rydw i wedi gweld cyni mewn datblygiad economaidd, a sut i'w ailsbarduno, a nawr yw'r amser i wthio ’mlaen.

"Mae gennym lywodraeth yng Nghymru/y DU sy’n siarad am dwf. Mae twf yn bwnc llosg, ac mae'n rhaid i ni gefnogi datblygiad economaidd gan ei fod yn cysylltu popeth. Os gallwn fuddsoddi mewn datblygu economaidd, a sianelu ein huchelgais, gallwn dyfu’r economi."

Dywedodd Ellie Fry, Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol Cyngor AƬ: "Mae hwn yn benodiad cyffrous iawn i Moe yn bersonol ac i'r Cyngor yn broffesiynol. Mae Moe yn angerddol am ddatblygu economaidd a chefnogi busnesau o bob maint i ffynnu a thyfu ym Mlaenau Gwent a gwn y bydd yn dod â'r brwdfrydedd a'r ymrwymiad hwn i'w rôl newydd ar Fwrdd IED. Da iawn Moe."

Dywedodd Tom Stannard, Cadeirydd IED: "Hoffwn groesawu Moe yn ffurfiol i Fwrdd Cyfarwyddwyr IED, ac edrychaf ymlaen at weithio gydag ef wrth i ni geisio cyflawni ein cenhadaeth ymhellach a gwthio amcanion ein maniffesto Tyfu’n Lleol, Tyfu’n Genedlaethol ledled y DU."

]]>
/cy/newyddion/arweinydd-datblygu-economaidd-y-cyngor-wedii-benodi-i-fwrdd-ied/ /cy/newyddion/arweinydd-datblygu-economaidd-y-cyngor-wedii-benodi-i-fwrdd-ied/ Tue, 17 Dec 2024 09:50:15 GMT Louise Bishop
Cyngor AƬ yn erlyn y nifer fwyaf o bobl am dipio anghyfreithlon yng Nghymru (2) Mae Cyngor AƬ yn arwain y ffordd yng Nghymru am ddod â thipwyr anghyfreithlon o flaen eu gwell, yn ôl ffigyrau newydd. Mae'r ardal hefyd yn parhau i weld gostyngiad yn nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon, mewn cyferbyniad â thueddiadau cenedlaethol sy'n dangos eu bod yn dal i godi mewn mannau eraill.

Mae gwaith tîm gorfodi penodedig a gyflwynwyd yn 2021 yn parhau i gael effaith wirioneddol ar fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon. Cafodd y ffigyrau diweddaraf ar gyfer tipio anghyfreithlon eu rhyddhau gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar. Gellir dod o hyd i'r holl ddata

Mae Cyngor AƬ wedi gweld gostyngiad o 21% yn nifer y digwyddiadau a gofnodwyd rhwng 2022/23 a 2023/24, o 1,200 i 950, a gostyngiad o 43% ers i'r tîm gorfodi newydd gael ei greu yn 2021 (o 1,650 i 950). Yn genedlaethol, mae tipio anghyfreithlon wedi cynyddu o 39,853 yn 2022/23 i 42,171 yn 2023/24, cynnydd o 6%.

Mae’r Cyngor yn yr ail safle o blith awdurdodau Cymru o ran nifer yr hysbysiadau cosb benodedig a roddwyd, gyda 170 o hysbysiadau tipio anghyfreithlon a dyletswydd gofal masnachol wedi'u cyhoeddi yn 2023/24. Wrth edrych ar hyn fesul pen o'r boblogaeth, mae AƬ ymhell ar y blaen.

O ran erlyniadau, AƬ sy'n arwain y ffordd, gyda 44 o droseddau gwastraff yn cael eu herlyn yn llwyddiannus drwy'r llysoedd yn 2023/24. Mae naw person arall wrthi’n aros am wrandawiadau am 16 trosedd wastraff arall, a nifer o erlyniadau ychwanegol yn dechrau ar y broses gyfreithiol.                                         

Dywedodd y Cynghorydd Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Leoedd a'r Amgylchedd:

"Mae hyn yn waith gwych gan bawb sy'n cyfrannu at y frwydr yn erbyn tipio anghyfreithlon, o'r tîm ei hun i'r trigolion sy'n gweithio gyda ni i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell. Ni fyddwn yn goddef tipio anghyfreithlon yn ein bwrdeistref, ac rydym yn sefyll yn gadarn gyda thrigolion y mae’r ymddygiad hwn yn eu ffieiddio. Mae digwyddiadau tipio anghyfreithlon yn parhau i ostwng, ac mae troseddwyr yn dysgu y bydd y Cyngor yn gweithredu’n llym yn erbyn y rhai sy'n cyflawni'r drosedd wrthgymdeithasol ac amgylcheddol hon."

Fel bob amser, hoffem atgoffa pobl mai nhw sy’n gyfrifol am unrhyw wastraff sy'n gadael eu heiddo, hyd yn oed os ydych chi wedi talu rhywun i'w waredu. Dysgwch fwy am ddyletswydd gofal eich cartref yma.

]]>
/cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-erlyn-y-nifer-fwyaf-o-bobl-am-dipio-anghyfreithlon-yng-nghymru-2/ /cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-erlyn-y-nifer-fwyaf-o-bobl-am-dipio-anghyfreithlon-yng-nghymru-2/ Thu, 19 Dec 2024 13:09:44 GMT Louise Bishop
Canolfan Golff Dan Do Newydd i Bawb o Bob Oedran a Gallu (1) Mae The Drop Zone Golf (TDZG), canolfan golff dan do newydd sy'n addas i'r teulu, wedi lansio'n swyddogol yn Nhredegar, AƬ. Cynhaliodd y lleoliad lansiad meddal llwyddiannus yr wythnos diwethaf ar gyfer teulu a ffrindiau cyn croesawu'r cyhoedd ar 2 Rhagfyr. Mae'r cyfleuster modern yn cynnig adloniant drwy gydol y flwyddyn gydag efelychwyr golff, ardal pytio maint llawn, a siop golff gynhwysfawr - y cyfleuster cyntaf o'i fath yng Nghymru.

Wedi'i sefydlu gan y golffwyr angerddol Christian Lee Prosser a Gareth James, ynghyd â’r cyn-olffiwr proffesiynol uchel ei barch, Craig Evans, mae TDZG wedi'i gynllunio i fod yn lleoliad cwbl gynhwysol i bobl o bob oedran a gallu. Mae'r cyfleuster yn cynnwys tri efelychwr golff datblygedig, gan gynnwys bae VIP ar gyfer ffitio clybiau, gwersi a sesiynau gapio. Gall gwesteion hefyd fwynhau bar a chegin sy'n cynnig lluniaeth poeth ac oer.

Cefnogir The Drop Zone Golf gan Dîm Busnes ac Arloesi Cyngor AƬ, a ddarparodd gymorth cychwyn busnes, gan gynnwys Grant Datblygu Busnes ac arweiniad drwy'r rhaglen Hwyluso Menter.

Mae Christian a Gareth wedi canmol cefnogaeth y tîm drwy gydol y broses, gan ddweud:

"Rydyn ni’n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth a gawsom gan Dîm Busnes ac Arloesi AƬ," meddai Gareth James, Cyd-berchennog The Drop Zone Golf.

"Ni fyddai'r daith hon wedi bod yn bosibl heb gymorth y tîm, ac mae'r anogaeth gan ein teulu a'n ffrindiau wedi bod yn amhrisiadwy."

Mae TDZG yn targedu ystod eang o gwsmeriaid, o blant oed ysgol i bensiynwyr, a'u nod yw creu gofod sy'n hyrwyddo iechyd, lles ac ymgysylltiad cymunedol trwy golff. Bydd y busnes hefyd yn cefnogi mentrau lleol ar gyfer cyn-filwyr y lluoedd arfog a rhaglenni iechyd meddwl, gan ei wneud yn lleoliad sy'n cynnig mwy na dim ond golff - mae'n lle i gysylltu, ymlacio, a gwella'n gorfforol ac yn feddyliol.

Dywedodd y Cynghorydd John C Morgan, Aelod Cabinet dros Leoedd ac Adfywio:

"Mae hwn yn gyfleuster gwych lle gall pobl ymarfer, chwarae a mwynhau golff. Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi'r perchnogion Christian a Gareth i ddewis a buddsoddi yma ym Mlaenau Gwent."

Mae The Drop Zone Golf yn cynnig system archebu ar-lein i helpu cwsmeriaid i gadw amser ar yr efelychwyr a sicrhau gwersi neu offer. Mae cynlluniau'r dyfodol yn cynnwys creu cyfleoedd gwaith ac ehangu arlwy'r lleoliad.

Ynglŷn â The Drop Zone Golf:

Mae The Drop Zone Golf yn gyfleuster golff dan do yn Nhredegar, AƬ, sydd wedi'i gynllunio i gynnig lle hwyl a chynhwysol i golffwyr o bob gallu ymarfer, chwarae a mwynhau'r gêm. Mae'r lleoliad yn cynnwys efelychwyr golff modern a bar a chegin, gyda chynlluniau i gynnwys siop golff gynhwysfawr ac ardal pytio a tsipio yn y dyfodol.  Gellir defnyddio'r efelychwyr golff hefyd ar gyfer gemau parti ffair, gan gynnwys Dartiau, Bowlio, Oriel Saethu a mwy. Dyma'r unig fusnes o'i fath yng Nghymru, sy'n ymroddedig i gynnig adloniant drwy gydol y flwyddyn a hyrwyddo lles cymunedol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i neu dilynwch nhw ar y cyfryngau cymdeithasol.

 

 

]]>
/cy/newyddion/canolfan-golff-dan-do-newydd-i-bawb-o-bob-oedran-a-gallu-1/ /cy/newyddion/canolfan-golff-dan-do-newydd-i-bawb-o-bob-oedran-a-gallu-1/ Fri, 20 Dec 2024 15:07:57 GMT Louise Bishop
Cwmni peirianneg rhyngwladol yw'r cyntaf i gytuno ar les ar safle diwydiannol ‘Gradd A’ Llywodraeth Cymru Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans mai cwmni peirianneg rhyngwladol yw'r cwmni cyntaf i arwyddo les yn Rhyd y Blew, safle diwydiannol ‘Gradd A’ Llywodraeth Cymru ym Mlaenau Gwent.

Bydd Halton Flamgard yn lesio'r uned RYB1 sydd newydd ei chwblhau ar y safle yng Nglynebwy, yn dilyn buddsoddiad o £8.9m gan Lywodraeth Cymru yn y cyfleuster carbon isel 52,582 troedfedd sgwâr.

Bydd y cwmni, sy'n gweithgynhyrchu unedau damper ar gyfer cwsmeriaid mewn sectorau diwydiannol arbenigol, yn adleoli ei weithrediad presennol ym Mhont-y-pŵl i'r safle modern mwy.

Yn rhan o'r gwaith ehangu a gynlluniwyd, bydd nifer y gweithwyr yn codi yn Halton Flamgard o 70 i 168 erbyn 2028.

RYB1 yw'r unig uned ddiwydiannol ar raddfa fawr a ddatblygwyd yn hapfasnachol i gael ei datblygu yng Nghymru yn 2024.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

“Rydym wedi ymrwymo i ysgogi cyfleoedd cyflogaeth o ansawdd uchel a datblygu sgiliau ar gyfer cymunedau lleol ledled Cymru.

“Mae ein buddsoddiad sylweddol yn Rhyd y Blew, sydd wedi'i leoli'n strategol yn Ardal Fenter Glyn Ebwy, yn ategu ein gweledigaeth ar gyfer ardal y Cymoedd Technoleg i gael ei chydnabod yn fyd-eang am dechnolegau newydd a'r sector gweithgynhyrchu uwch.

“Mae denu gweithrediad rhyngwladol fel Halton Flamgard i RYB1 yn tynnu sylw at lwyddiant ein strategaeth eiddo masnachol i sbarduno twf economaidd yn y dyfodol.

“Rwy'n dymuno'n dda iddynt gyda'u cynlluniau twf uchelgeisiol ac edrychaf ymlaen at weld busnesau, cymunedau a chadwyni cyflenwi lleol yn elwa.”

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Halton Flamgard, Lucy Newman:

“Rydym yn gyffrous i gychwyn ar y bennod newydd hon wrth i ni symud i'n cyfleuster o'r radd flaenaf. Mae'r trawsnewidiad hwn yn garreg filltir arwyddocaol i'n tîm, ac rydym yn llawn cyffro am y posibiliadau di-ben-draw a ddaw yn ei sgil. Bydd ein lle newydd nid yn unig yn gwella ein galluoedd ond hefyd yn ysbrydoli arloesedd a chydweithio.

“Yn ogystal, mae'r cam hwn yn cynnig potensial sylweddol i dyfu swyddi, gan ein galluogi i ehangu ein gweithlu a chreu cyfleoedd newydd yn y gymuned. Rydym yn edrych ymlaen at gyflawni pethau gwych gyda'n gilydd yn yr amgylchedd dynamig hwn.”

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol AƬ dros Le ac Adfywio:

“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael prosiect gweithgynhyrchu penigamp yma ym Mlaenau Gwent. Mae hyn yn newyddion anhygoel i'n cymuned ac yn dyst i'r partneriaethau cryf yr ydym wedi'u hadeiladu gyda Thîm Rheoli Halton.

“Hoffem ddiolch i'n partneriaid yn Llywodraeth Cymru am eu gweledigaeth wrth ddatblygu safle Rhyd y Blew. Mae'r prosiect hwn yn cyd-fynd yn berffaith â'n gweledigaeth o ddenu mewnfuddsoddiad (gan gynnwys prosiectau adleoli) a chefnogi twf busnesau lleol.

“Credwn fod buddsoddi mewn datblygu economaidd, grantiau busnes, rhwydweithio, safleoedd ac adeiladau, sgiliau a datblygu STEM sy'n arwain at greu swyddi, cyfleoedd ehangach yn y gadwyn gyflenwi ac, yn bwysicaf oll, yn sbarduno twf economaidd ledled y fwrdeistref.

“Rydym yn falch ein bod wedi gweithio mor agos gyda'r busnes hwn i wireddu hyn, ac edrychwn ymlaen at eu gweld yn cael effaith gadarnhaol ar gyfer ein trigolion a'r economi busnesau lleol.”

Asiant marchnata Rhyd y Blew yw Knight Frank.

Dywedodd Neil Francis, pennaeth Diwydiannol a Logisteg Knight Frank yng Nghaerdydd:

“Mae'r hyder a ddangoswyd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu'r adeilad hwn yn hapfasnachol er mwyn darparu llety Gradd A mawr ei angen wedi talu ar ei ganfed.

“Roedd dyluniad modern, nodweddion gwyrdd a lleoliad rhagorol RYB1 yn agos at ffordd Blaenau'r Cymoedd yn ddeniadol iawn i nifer o ddarpar feddianwyr ac rydym wrth ein bodd bod Halton Group wedi cymryd les ar y lle.”

Mika Halttunen, Cadeirydd y Bwrdd Cyfarwyddwyr, grwp Halton gyda Aelod Cabinet Cyngor AƬ ar gyfer Lle a'r Amgylchedd Cllr John Morgan a AS Alun Davies, AƬ.

]]>
/cy/newyddion/cwmni-peirianneg-rhyngwladol-ywr-cyntaf-i-gytuno-ar-les-ar-safle-diwydiannol-gradd-a-llywodraeth-cymru/ /cy/newyddion/cwmni-peirianneg-rhyngwladol-ywr-cyntaf-i-gytuno-ar-les-ar-safle-diwydiannol-gradd-a-llywodraeth-cymru/ Wed, 08 Jan 2025 12:05:59 GMT Louise Bishop
Y cam cyntaf tuag at Ffederasiwn Llywodraeth Leol Wythnos nesaf, gofynnir i gynghorwyr ym Mlaenau Gwent a Torfaen gymeradwyo penodi Stephen Vickers fel Prif Weithredwr am y ddau gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a AƬ. Gofynnir i gynghorwyr Torfaen gymeradwyo ar ddydd Mawrth, y 21ain o Ionawr, a chynghorwyr AƬ ar ddydd Iau, y 231in Ionawr.

Mae'r adroddiad i'r ddau gyngor yn dilyn 'cyfnod darganfod' o 7 mis pan gytunodd y ddau gyngor i rannu rôl y Prif Weithredwr, tra bod gwaith archwilio’n digwydd i ddeall y cyfleoedd a'r peryglon o weithio'n agosach.

Mae'r adolygiad a gefnogir gan Bartneriaethau Lleol bellach wedi dod i ben yn dilyn ymgysylltiad â chynghorwyr, uwch swyddogion a staff, yn ogystal â chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Undebau Llafur.

Mae'r adroddiad yn argymell penodi Prif Weithredwr ar y cyd yn barhaol, sefydlu tîm arwain ar y cyd a gwaith pellach i edrych ar y cyfleoedd a'r manteision i wasanaethau. Mae hefyd yn pwysleisio awydd cryf a brwdfrydig ymhlith cynghorwyr am weithio'n agosach a chydweithio.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, y Cynghorydd Anthony Hunt:

"Nid yw'r drefn bresennol quo yn opsiwn synhwyrol na deniadol os ydym am wella canlyniadau i drigolion a chynnal gwasanaethau lleol hanfodol.

"Mae'r adroddiad hwn yn cefnogi ffederasiwn o ddau gyngor o statws cyfartal. Rydyn ni eisiau cael ein sefydliadau i gyd-fynd ble mae'n synnwyr gwneud hynny, a sicrhau effeithlonrwydd sy'n dechrau ar y brig, gan gynnwys costau cyflog cyffredin tîm arwain ffederal – fel y gallwn ganolbwyntio adnoddau ar reng flaen darpariaeth gwasanaethau lleol yn ein cymunedau."

Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol AƬ, y Cynghorydd Steve Thomas:

"Mae arbedion effeithlonrwydd yn syth, ond mae'r cynnig hwn hefyd yn cynnal ein hunaniaeth ariannol a gwleidyddol a'n trefniadau llywodraethu.

"Bydd hefyd yn agor y drws i rannu arfer gorau a sgiliau arbenigol a gwella gwytnwch timau bach, gwella recriwtio, a lleihau costau rheoli a gweinyddu.

"Mae'r dull arloesol hwn yn cael ei groesawu'n eang gan gynghorwyr, staff a phartneriaid, yn rhannol gan nad yw'n cael ei orfodi arnom ac yn rhannol oherwydd bod gennym lawer iawn yn gyffredin eisoes. Dyma ddau gyngor yn cefnogi dull rhagweithiol, graddol tuag at gyd-dynnu cryfach ac mae'n helpu i osgoi amhariad a chost uno’r cynghorau."

Os bydd cynghorwyr yn cytuno i benodi Prif Weithredwr ar y cyd yn barhaol, bydd Partneriaethau Lleol sy'n fenter ar y cyd rhwng y Gymdeithas Llywodraeth Leol, Trysorlys EF a Llywodraeth Cymru, yn cymryd rhan i ddatblygu achos amlinellol strategol gan gynnwys model ariannol a meini prawf ar gyfer tynnu ynghyd a blaenoriaethu gwasanaethau. 

Stephen Vickers

]]>
/cy/newyddion/y-cam-cyntaf-tuag-at-ffederasiwn-llywodraeth-leol/ /cy/newyddion/y-cam-cyntaf-tuag-at-ffederasiwn-llywodraeth-leol/ Wed, 15 Jan 2025 10:07:13 GMT Louise Bishop
Ysgol Gyfun Tredegar yn Ennill Gwobrau Uchel Eu Parch Mae Ysgol Gyfun Tredegar wedi cael ei chydnabod yn ddiweddar gyda thair gwobr uchel eu parch sy’n tynnu sylw at ei hymrwymiad i greu amgylchedd diogel a chynhwysol i'w myfyrwyr sy’n eu galluogi i gyflawni.

Gwobr Aur Marc Ansawdd Gwrth-Fwlio

Mae Ysgol Gyfun Tredegar wedi llwyddo i gyflawni gwobr Aur Marc Ansawdd Gwrth-Fwlio. Hi yw'r ysgol gyntaf yng Nghymru a'r drydedd yn y DU i ennill yr anrhydedd hon. Mae'r wobr hon yn adlewyrchu ymrwymiad diwyro'r ysgol i greu amgylchedd diogel a chynhwysol i bob dysgwr. Diolch yn arbennig i Mrs. Lloyd, Mr. King, a Miss Yates, sydd wedi gweithio ochr yn ochr â'r Llysgenhadon Gwrth-Fwlio dros y blynyddoedd diwethaf i sicrhau'r cyflawniad gwych hwn i gymuned yr ysgol.

Mwy o wybodaeth yma:

Gwobr Aur Ysgolion sy'n Parchu Hawliau

Ym mis Mai, derbyniodd Ysgol Gyfun Tredegar Wobr Aur Ysgolion sy'n Parchu Hawliau gan UNICEF UK. Mae'r wobr hon yn cydnabod ysgolion sy'n sicrhau bod plant yn cael eu haddysgu am eu hawliau fel yr amlinellir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a'u bod yn cael manteisio ar yr hawliau hyn. Dathlodd yr ysgol y cyflawniad hwn gyda sesiwn ffotograffau gyda myfyrwyr o bob grŵp blwyddyn. Ar hyn o bryd Ysgol Gyfun Tredegar yw'r unig ysgol uwchradd ym Mlaenau Gwent i gael ei chydnabod fel ysgol aur ac mae’n un o ddim ond chwe ysgol uwchradd aur yng Nghymru.

Mwy o wybodaeth ar wefan yr ysgol yma

A gwefan UNICEF yma

Ailachrediad NACE

Mae Ysgol Gyfun Tredegar wedi cael ei hailachredu fel ysgol NACE. Mae NACE yn gweithio gydag ysgolion, arweinwyr addysg ac ymarferwyr i wella'r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr mwy abl ac yn cydnabod ysgolion sy'n herio ac yn cefnogi dysgwyr mwy abl i gyrraedd eu llawn botensial.

Canmolodd asesydd NACE waith y disgyblion, a ddangosodd yn glir fod yr her a'r disgwyliadau uchel yn gyson ar draws y cwricwlwm, ac roedd yn amlwg bod disgyblion wedi ymateb drwy’r ansawdd a'r balchder a ddangoson nhw yn eu gwaith. Mwynhaodd wrando ar ddisgyblion a staff yn siarad mor angerddol a chadarnhaol am ba mor dda mae dysgwyr yn cyflawni a sut maen nhw’n cael eu cefnogi i sicrhau eu bod yn cael eu hymestyn a'u herio i gyflawni eu llawn botensial.

Mae'r gwobrau hyn yn dyst i waith caled ac ymroddiad cymuned gyfan yr ysgol. Mae Ysgol Gyfun Tredegar yn parhau i ymdrechu am ragoriaeth a sicrhau bod pob dysgwr yn cael y gefnogaeth a'r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i lwyddo.

Mwy o wybodaeth yma:

Dywedodd y Pennaeth, Mrs Leave, 'Rydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn cydnabyddiaeth o'r fath. Mae pob gwobr yn dathlu sut mae cymuned ein hysgol yn gweithio gyda'i gilydd i lwyddo, ac yn dangos yn glir ymroddiad ac ymrwymiad ein staff i sicrhau bod pob disgybl yn cael y cyfleoedd gorau posibl i ddysgu.'  

]]>
/cy/newyddion/ysgol-gyfun-tredegar-yn-ennill-gwobrau-uchel-eu-parch/ /cy/newyddion/ysgol-gyfun-tredegar-yn-ennill-gwobrau-uchel-eu-parch/ Wed, 22 Jan 2025 15:15:17 GMT Carolyn Jenkins
Cynghorwyr AƬ a Thorfaen yn cymeradwyo penodi Prif Weithredwr ar y Cyd Heddiw, yn unfrydol, mae cynghorwyr AƬ wedi cymeradwyo penodi Stephen Vickers yn Brif Weithredwr parhaol ar y Cyd ar gyfer Cynghorau Bwrdeistref Sirol AƬ a Thorfaen.

Daw hyn yn sgil cymeradwyaeth cynghorwyr yn Nhorfaen yn gynharach yr wythnos hon.

Mae'r adroddiadau a gyflwynwyd gerbron y ddau gyngor yn dilyn 'cyfnod darganfod' o 7 mis. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cytunodd y ddau gyngor i rannu rôl y Prif Weithredwr, tra bod gwaith archwilio ar y gweill er mwyn deall y cyfleoedd a'r risgiau a fyddai’n amlygu wrth weithio'n agosach.

Daeth yr adolygiad, a gefnogwyd gan Bartneriaethau Lleol, i fwcl ar ôl ymgysylltu â chynghorwyr, uwch-swyddogion a staff, yn ogystal â chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Undebau Llafur.

Argymhellai’r adroddiadau benodi Prif Weithredwr ar y cyd yn barhaol, sefydlu tîm arwain ar y cyd a gwneud gwaith pellach i archwilio’r cyfleoedd a’r buddion i wasanaethau. Amlygodd yr adroddiadau hefyd yr awydd cryf a brwdfrydig ymhlith cynghorwyr i gydweithio’n agosach.

Meddai Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol AƬ, y Cynghorydd Steve Thomas:

"Mae'r cydweithio hwn yn arwydd o’n hymrwymiad i ddod o hyd i ffyrdd arloesol o reoli pwysau ariannol, a sicrhau cynaliadwyedd hirdymor gwasanaethau hanfodol ar yr un pryd. Trwy rannu arbenigedd ac adnoddau, rydym mewn sefyllfa well i wasanaethu ein cymunedau.

"Bydd cael Prif Weithredwr parhaol ar y Cyd yn cryfhau arweinyddiaeth y ddau gyngor, gan ddarparu gweledigaeth unedig a sicrhau ein bod yn parhau i ddiwallu anghenion ein preswylwyr yn effeithlon ac yn effeithiol.

"Mae'r fenter hon yn golygu bod dau gyngor yn cydweithio fel partneriaid cyfartal, gan rannu adnoddau ac arbenigedd i fynd i'r afael â heriau cyffredin. Nid yw'n golygu uno. Yn hytrach, mae'n sicrhau bod penderfyniadau lleol yn parhau'n gadarn yn nwylo pob awdurdod unigol, gan ddiogelu annibyniaeth a hunaniaeth unigryw AƬ a Thorfaen a chyflawni targedau cyffredin er budd ein trigolion."

Meddai Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, y Cynghorydd Anthony Hunt:

"Dydy’r sefyllfa fel ag y mae ddim yn opsiwn synhwyrol na deniadol os ydyn ni eisiau gwella canlyniadau i breswylwyr a chynnal gwasanaethau lleol hanfodol.

"Mae ein penderfyniad yn cefnogi ffederasiwn o ddau gyngor sydd â statws cyfartal. Rydyn ni eisiau alinio ein sefydliadau lle mae'n gwneud synnwyr i ni wneud hynny, a sicrhau arbedion effeithlonrwydd sy'n dechrau ar y brig, gan gynnwys rhannu costau cyflogau tîm arwain ffederal. Bydd hyn yn ein galluogi i ffocysu adnoddau ar dalcen y gwasanaethau lleol yn ein cymunedau a chynnal ein sofraniaeth ariannol a gwleidyddol a'n trefniadau llywodraethu ar yr un pryd.

"Mae hefyd yn agor y drws i rannu arfer gorau a sgiliau arbenigol, a bydd yn gwella cydnerthedd timau bach, yn ein helpu i recriwtio, ac yn lleihau costau rheoli a gweinyddu."

Yn dilyn y penderfyniadau, bydd y cynghorau nawr yn ymgysylltu â Phartneriaethau Lleol, sy'n fenter ar y cyd rhwng Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Trysorlys EF a Llywodraeth Cymru, er mwyn datblygu achos amlinellol strategol gan gynnwys model ariannol a meini prawf ar gyfer alinio gwasanaethau a’u blaenoriaethu.

]]>
/cy/newyddion/cynghorwyr-blaenau-gwent-a-thorfaen-yn-cymeradwyo-penodi-prif-weithredwr-ar-y-cyd/ /cy/newyddion/cynghorwyr-blaenau-gwent-a-thorfaen-yn-cymeradwyo-penodi-prif-weithredwr-ar-y-cyd/ Thu, 23 Jan 2025 15:09:49 GMT Louise Bishop
Cynghorwyr yn cytuno ar Ryddid Bwrdeistref Sirol AƬ i athletwr a dor-rodd recordiau Pleidleisiodd cynghorwyr AƬ yn unfrydol i roi Rhyddid y Fwrdeistref i'r athletwr Steve Jones MBE.

Nododd y llynedd 40 mlynedd ers buddugoliaeth aruthrol Steve Jones ym Marathon Chicago ym 1984, buddugoliaeth a hoeliodd sylw’r byd a chadarnhau ei le yn hanes athletau. Ar y diwrnod hwnnw ym 1984, gwnaeth Jones o Lynebwy nid yn unig groesi’r llinell derfyn yn gyntaf ond hefyd chwalu recordiau, gan ddangos cyfuniad rhyfeddol o ddyfalbarhad, penderfyniad, ac ewyllys pur.

Mae'r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â Chlwb Rhedeg Parc Bryn Bach i goffáu llwyddiannau Steve a rhoi sylw i’w fuddugoliaethau.

Y nod yw sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn cael eu hysbrydoli gan ei daith ryfeddol a bod ei etifeddiaeth yn parhau i ysgogi darpar athletwyr.

Pan gipiodd Steve y teitl ym Marathon Chicago, gwnaeth fwy na dim ond ennill ras; gosododd record byd newydd, gan gwblhau'r cwrs mewn 2 awr, 8 munud a 5 eiliad.

Mae'r Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet y Cyngor dros Bobl ac Addysg ac aelod ward dros Dde Glynebwy, wedi bod yn rhan o'r cynlluniau i anrhydeddu Steve. Meddai:

"Rwy'n falch iawn bod cynghorwyr heddiw wedi rhoi eu cefnogaeth lawn i ddyfarnu Rhyddid Bwrdeistref Sirol AƬ i'r rhyfeddol Steve Jones. Mae taith Steve o'n tref Glynebwy i lwyfan y byd yn dyst i'w ymroddiad a'i angerdd diwyro am y gamp. Gwnaeth Glynebwy, tref sy'n adnabyddus am ei threftadaeth ddiwydiannol gyfoethog, siapio Jones yn unigolyn gwydn a gweithgar. Mae ei stori yn parhau i daro tant, gan ein hatgoffa bod cyflawniadau eithriadol o fewn cyrraedd gydag angerdd, ymroddiad a gwaith caled.

"Ein gobaith yw adeiladu teyrnged addas i chwedl go iawn ac ysbrydoli llawer mwy i ddilyn eu breuddwydion gyda'r un egni a phenderfyniad a ddangosodd Steve trwy gydol ei yrfa ddisglair."

Meddai Lee Aherne, o Glwb Rhedeg Parc Bryn Bach:

"Rwy'n falch iawn y bydd Cyngor AƬ yn anrhydeddu Steve fel hyn. Mae Steve yn arwr chwaraeon Cymreig go iawn a ddaeth, gyda gwaith caled, yn rhedwr marathon gorau'r byd, i gyd tra’n gwasanaethu yn yr RAF."

 

]]>
/cy/newyddion/cynghorwyr-yn-cytuno-ar-ryddid-bwrdeistref-sirol-blaenau-gwent-i-athletwr-a-dor-rodd-recordiau/ /cy/newyddion/cynghorwyr-yn-cytuno-ar-ryddid-bwrdeistref-sirol-blaenau-gwent-i-athletwr-a-dor-rodd-recordiau/ Thu, 23 Jan 2025 16:22:17 GMT Louise Bishop
Meithrinfa Acorns yn dathlu adroddiad arolygu


Mae’n bleser gan y Cyngor longyfarch Meithrinfa Acorns yn Rasa am yr adroddiad ar y cyd a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dilyn arolygiad ym mis Tachwedd 2024 gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Estyn. Derbyniodd y feithrinfa farnau da ar draws yr holl feysydd, gan adlewyrchu ymroddiad a gwaith caled ei staff a’i harweinyddiaeth.

Amlygodd yr adroddiad arolygu nifer o gryfderau allweddol Meithrinfa Acorns.

  • Mae gan bron bob plentyn ym Meithrinfa Acorns lais cryf, gan wneud dewisiadau a phenderfyniadau am eu gweithgareddau yn hyderus.
  • Mae ymarferwyr y feithrinfa yn garedig, gofalgar a meithringar, gan greu awyrgylch cadarnhaol, hapus a deniadol. Maent yn darparu amgylchedd dysgu croesawgar sy'n ysbrydoli chwilfrydedd ac ymgysylltiad plant.
  • Mae'r adnoddau a'r gosodiad yn hybu annibyniaeth y plant a chwarae pwrpasol. Mae'r ddarpariaeth dysgu awyr agored yn arbennig o gryf, gan gefnogi datblygiad cyfannol y plant.

Nododd yr adroddiad fod y tîm arwain ym Meithrinfa Acorns yn dangos gweledigaeth glir ac angerdd dros ddarparu gofal ac addysg o ansawdd uchel. Maent wedi datblygu ethos tîm cryf, gyda'r holl staff yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u gwerthfawrogi.

Mynegodd Melanie Madden a Leanna Hodgkins, y personau cofrestredig a'r personau â gofal, eu balchder yng nghyflawniadau'r feithrinfa, gan ddweud:

"Rydym wrth ein bodd gyda'r adborth cadarnhaol gan Estyn ac AGC. Mae'r adroddiad hwn oherwydd gwaith caled ac ymroddiad ein tîm cyfan. Rydym wedi ymrwymo i barhau i ddarparu amgylcheddau anogol ac ysgogol i'n holl blant."

Llongyfarchodd yr Aelod Cabinet, y Cynghorydd Trollope – Pobl a Gwasanaethau Cymdeithasol –y tîm yn Acorns, gan ddweud:

“Rydw i wrth fy modd ar ran y tîm - maen nhw wedi gweithio mor galed i gofleidio’r cwricwlwm a dilyn diddordebau’r plant, ac mae eu gwaith caled wedi talu ar ei ganfed.”

“Fel rhan o flaenoriaethau ein Cynllun Corfforaethol, ein nod yw gwneud y mwyaf o ddysgu a sgiliau i bawb er mwyn creu AƬ lewyrchus, ffyniannus a mwy cydnerth, gan ddarparu cyfleoedd addysgol a sgiliau o ansawdd uchel i bawb, ac mae Acorns wedi arddangos hyn yn berffaith gyda’r adroddiad arolygu hwn.”

Mae Meithrinfa Acorns yn lleoliad meithrin a ariennir, nas cynhelir ac mae’n cynnig addysg gynnar, Dechrau’n Deg, a chynnig gofal plant. Edrychant ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant hwn a pharhau i ddarparu gofal ac addysg i blant Glynebwy. Darllenwch yr adroddiad llawn yma:

]]>
/cy/newyddion/meithrinfa-acorns-yn-dathlu-adroddiad-arolygu/ /cy/newyddion/meithrinfa-acorns-yn-dathlu-adroddiad-arolygu/ Mon, 27 Jan 2025 14:01:42 GMT Emma Bennett
Sylw ar Jade Forbes: Hybu Gwaith Cymdeithasol Gwrth-Hiliol Fel rhan o Wythnos Cydraddoldeb Hiliol (3ydd–9fed o Chwefror 2025), rydym yn falch o dynnu sylw at Jade Forbes, gweithiwr cymdeithasol a Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy, y mae ei gwaith ar flaen y gad o ran hyrwyddo gwaith cymdeithasol gwrth-hiliol yng Nghymru.

Mae ymroddiad Jade i greu cymdeithas fwy cynhwysol a theg yn ysbrydoledig. Mae'n pwysleisio pwysigrwydd dathlu diwylliant Duon, yn enwedig yn ystod Wythnos Cydraddoldeb Hiliol ond hefyd drwy gydol y flwyddyn, y tu hwnt i'r ffocws ar hiliaeth a brwydrau hanesyddol.

Mae Jade yn adlewyrchu: "Rwyf wrth fy modd yn dathlu Pobl Dduon yn ystod wythnos Cydraddoldeb Hil a Mis Hanes Pobl Dduon, ond mae'n bwysig cofio bod hiliaeth yn ymddangos mewn sawl ffurf. Mae cyfoeth i'w ddathlu mewn diwylliant ac mae diwylliant du yn cynnwys mwy na hanes negyddol caethwasiaeth yn unig. Mae cymaint mwy i'w ddathlu, a dylem godi pob agwedd o ddiwylliant Du, Cymreig."

Mae ei hagwedd tuag at waith cymdeithasol wedi'i wreiddio yn y gred nad gyrfa yn unig sydd. Mae'r llwyfan i herio gwahaniaethu, mynd i'r afael â gormes, a chreu cyfleoedd ar gyfer iachâd a thwf. Mae hi'n ein hatgoffa'r pŵer i gyd sydd gan weithwyr cymdeithasol i gael effaith gadarnhaol:

"Mae gennym y pŵer i gefnogi, gwrando, annog iachâd, ac yn bwysicaf oll, i sicrhau newid."

Bydd Jade yn ymuno â Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer podlediad, sydd yn dod i ddathlu Wythnos Gwaith Cymdeithasol 2025, sy'n cael ei chynnal ym mis Mawrth. Bydd y bennod arbennig hon hefyd yn cynnwys Bardd Cenedlaethol Cymru, Hanan Issa, wrth iddynt drafod cyfraniadau pwysig gwaith cymdeithasol a'i effaith.

Mae ymrwymiad Jade i waith cymdeithasol gwrth-hiliol yn paratoi'r ffordd ar gyfer Cymru fwy cynhwysol a thosturiol, ac rydym yn ddiolchgar am ei chyfraniadau.

Gadewch i ni dynnu ysbrydoliaeth o waith Jade wrth i ni barhau i adeiladu cymuned well, fwy cynhwysol gyda'n gilydd.

Darllenwch fwy am stori ysbrydoledig Jade yma: Jade Forbes – My Story – Fy Stori

 

]]>
/cy/newyddion/sylw-ar-jade-forbes-hybu-gwaith-cymdeithasol-gwrth-hiliol/ /cy/newyddion/sylw-ar-jade-forbes-hybu-gwaith-cymdeithasol-gwrth-hiliol/ Fri, 31 Jan 2025 10:33:35 GMT Louise Bishop
Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff yn dathlu adroddiad Estyn Llongyfarchiadau i Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff yn Nhredegar ar eu hadroddiad ardderchog gan Estyn. Disgrifiwyd Sant Joseff fel ysgol hapus, gynhwysol sy'n rhoi pwys mawr ar les disgyblion a staff.

Tynnwyd sylw at y berthynas gref rhwng disgyblion a staff fel un o gryfderau’r ysgol gyda'r staff yn adnabod disgyblion yn dda. Mae gan yr ysgol ddarpariaeth gref ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol ac mae'n cynnig cwricwlwm sy'n ennyn diddordeb ac yn darparu cyfleoedd dysgu diddorol i ddisgyblion feithrin eu gwybodaeth a'u sgiliau. Mae'r trefniadau diogelu yn gadarn, ac mae plant yn teimlo'n hapus ac yn ddiogel yn ôl yr adroddiad.

Dywedodd y Pennaeth, John McMorrow:

"Rwy'n hynod falch bod Estyn wedi cydnabod gwaith caled ac ymroddiad ein staff a'n disgyblion, gyda lles wrth wraidd popeth a wnawn. Fel ysgol rydym yn ymdrechu i sicrhau bod ein disgyblion yn ddysgwyr gydol oes gwydn a brwdfrydig. Mae staff a disgyblion yn cydweithio'n agos i hyrwyddo ein gwerthoedd Catholig i greu ysgol groesawgar a chynhwysol sydd ar agor i bob plentyn. Rydym yn cynnig Meithrinfa lawn-amser ac mae lleoedd ar gael ar gyfer Medi 2025."

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Bobl ac Addysg

"Mae hwn yn adroddiad gwirioneddol wych i Sant Joseff ac i gymuned gyfan yr ysgol - da iawn i bawb dan sylw."

Darllenwch yr adroddiad yn llawn yma.

]]>
/cy/newyddion/ysgol-gynradd-gatholig-sant-joseff-yn-dathlu-adroddiad-estyn/ /cy/newyddion/ysgol-gynradd-gatholig-sant-joseff-yn-dathlu-adroddiad-estyn/ Thu, 06 Feb 2025 11:33:44 GMT Louise Bishop
Y Dirprwy Brif Weinidog yn clywed yn uniongyrchol gan gyfranogwyr Fforwm Dyfodol Teithio AƬ Ymwelodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS â Sefydliad Glowyr Llanhiledd, AƬ i glywed yn uniongyrchol gan gyfranogwyr Fforwm Dyfodol Teithio AƬ.

Yn ystod ei ymweliad, clywodd y Dirprwy Brif Weinidog am sesiynau diweddar y Fforwm Dinasyddion a gynhaliwyd ar 18 Ionawr a 1 Chwefror ac roedd ganddo ddiddordeb yn rhesymau’r bobl sy'n cymryd rhan yn y fforwm dros wneud cais, eu profiadau o'r broses hyd yma a'r hyn y gobeithiwn y bydd y fforwm yn ei gyflawni.

Roedd y Dirprwy Brif Weinidog yn ystyried y Fforwm yn enghraifft weithredol dda o gynnwys dinasyddion mewn ymarfer ymgynghorol i gynorthwyo gyda phenderfyniadau, a bydd clywed gan y cyfranogwyr am eu profiad yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar y rheswm dros – a’r gwerth o – greu mwy o gyfleoedd fel yr un yma ar gyfer ymgysylltu â chymunedau a gwneud penderfyniadau yn y dyfodol.   

Mae Llywodraeth Cymru yn credu y dylai Cymru fod yn uchelgeisiol wrth greu diwylliant democrataidd cadarn ac mae'n awyddus i ddod o hyd i ffyrdd newydd i bobl ymgysylltu â'r sefydliadau sy'n effeithio ar eu bywydau. Mae'r Dirprwy Brif Weinidog yn arwain y gwaith o sefydlu Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth newydd gyda Llywodraeth Cymru, sydd ar hyn o bryd yn recriwtio aelodau. Ei rôl fydd archwilio ac arloesi yn y maes hwn.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Leoedd a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Helen Cunningham: 
"Mae Cyngor AƬ yn cydnabod difrifoldeb yr argyfwng hinsawdd ac ar y cyd â'n partneriaid wedi creu Fforwm Dinasyddion Dyfodol Teithio i helpu i ddeall sut y gellir gwella teithio ledled y fwrdeistref dros y pum mlynedd nesaf. Bydd ymgysylltu â barn cymunedau yn ein helpu i ddeall beth sydd ei angen i wneud y newidiadau ymarferol angenrheidiol."

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies:
"Y fforwm dinasyddion ym Mlaenau Gwent yw’r math o waith rydyn ni am ei annog ledled Cymru. Mae'n ffordd wych o ddod â phobl ynghyd i drafod materion pwysig fel trafnidiaeth leol, fel y gall pobl gael mwy o lais yn eu cymunedau eu hunain.
"Mae ein Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth, dan gadeiryddiaeth Dr Anwen Elias, yn archwilio ffyrdd o annog mwy o bobl i ddweud eu dweud ar sut mae ein cymunedau'n cael eu rhedeg. Rydyn ni nawr yn chwilio am aelodau i ymuno drwy broses recriwtio agored. Os oes gennych ddiddordeb, byddem yn awyddus iawn i glywed gennych chi."

Bydd y Fforwm Dinasyddion Dyfodol Teithio yn cytuno ar 10 argymhelliad yn y drydedd sesiwn ar 15 Chwefror y gall y cyngor a'r partneriaid trafnidiaeth eu cynnwys mewn gwaith yn y dyfodol ar sut y dylid gwella teithio ym Mlaenau Gwent yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Gweithiodd y Cyngor gyda'r Sortition Foundation i ddewis trigolion drwy loteri, mewn ffordd sy'n cynrychioli poblogaeth ehangach AƬ. Mae’r Fforwm Dinasyddion Dyfodol Teithio yn cynnwys 21 aelod a ddewiswyd ar ôl i 6,500 o lythyrau gael eu hanfon allan ar hap yn y fwrdeistref. O'r 164 o bobl a ymatebodd cafodd unigolion eu dewis ar hap i adlewyrchu poblogaeth AƬ. Mae'r fforwm, a gyflwynwyd gan Involve, yn rhan o brosiect Innovate UK (Asiantaeth Arloesi Llywodraeth y DU) y cyngor o dan y Rhaglen Byw Net Sero sy'n edrych ar y rhwystrau an-technegol i Drafnidiaeth Net Sero ym Mlaenau Gwent.

Y Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies yn rhyngweithio ag aelodau Fforwm Dyfodol Teithio AƬ yn Sefydliad y Glowyr Llanhiledd.

 

]]>
/cy/newyddion/y-dirprwy-brif-weinidog-yn-clywed-yn-uniongyrchol-gan-gyfranogwyr-fforwm-dyfodol-teithio-blaenau-gwent/ /cy/newyddion/y-dirprwy-brif-weinidog-yn-clywed-yn-uniongyrchol-gan-gyfranogwyr-fforwm-dyfodol-teithio-blaenau-gwent/ Tue, 11 Feb 2025 10:19:59 GMT Alan Powell
Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol yn ymweld â Llyfrgell a Chanolfan Dysgu Oedolion yn y Gymuned newydd Abertyleri Heddiw, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant AS, wedi ymweld â Llyfrgell a Chanolfan Dysgu Oedolion yn y Gymuned Abertyleri yn ei gartref newydd yng Nghapel y Drindod, AƬ.

Mae'r hen gapel yn y dref wedi cael ei adfywio gan ddefnyddio cyllid gan Lywodraeth Cymru - cyllid Trawsnewid Trefi, Grant Trawsnewid Llyfrgelloedd, a'r Grant Di-garbon. Cafwyd hefyd Gyllid Ffyniant Gyffredin (Llywodraeth y DU) ar gyfer y prosiect.

Mae'r llyfrgell newydd wrth galon y gymuned leol ac yn darparu mynediad hawdd i ystod eang o wasanaethau a gweithgareddau, gan gynnwys Hyb Cymunedol Cyngor AƬ, mynediad am ddim i gyfrifiaduron a chymorth digidol, a Chyngor ar Bopeth. Dyma hefyd y lleoliad newydd ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned, gan gynnig ystod eang o gyrsiau a dosbarthiadau. Mae'r Llyfrgell fodern newydd yn cynnig Wi-Fi am ddim, ac mae pob llawr yn cynnig mynediad hawdd gyda lifft i gynorthwyo'r rhai sydd ei angen. Rheolir y llyfrgell gan Aneurin Leisure Trust.

Gwnaeth y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet y Cyngor dros Leoedd ac Adfywio; Arweinydd y Cyngor, Steve Thomas a Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgelloedd AƬ, Tracey Jones, gwrdd â Jayne Bryant AS cyn iddi gael taith dywys o amgylch yr adeilad a sgwrsio â'r rhai fu’n gweithio ar y prosiect ac aelodau o'r gymuned sy'n elwa o'r gwasanaethau.

Croesawodd Ysgrifennydd y Cabinet y cyfle i weld yr holl wasanaethau hyn a'r hyn maen nhw’n ei gynnig gan hefyd gwrdd â grŵp cymdeithasol Cymraeg a oedd yn mwynhau eu digwyddiad cymdeithasol rheolaidd.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant:

"Mae Capel y Drindod yn adeilad pwysig iawn i Abertyleri ac rydw i mor falch ein bod wedi gallu cefnogi ei drawsnewidiad drwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi, gan wneud ystod eang o wasanaethau'n fwy hygyrch i'r gymuned leol. Mae dod ag adeiladau gwag a segur yn ôl i ddefnydd gweithredol yn un o gonglfeini ein strategaeth adfywio ac mae'n wych gweld bod y buddsoddiad hwn eisoes yn cael effaith gadarnhaol."

Meddai'r Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet Cyngor AƬ dros Leoedd ac Adfywio a Datblygu Economaidd:

"Roeddwn yn falch iawn o groesawu Ysgrifennydd y Cabinet, Jayne Bryant AS i Abertyleri heddiw i ddangos sut mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi cael ei ddefnyddio i adfywio Capel y Drindod a rhoi gwasanaethau hanfodol wrth galon y gymuned. Gan weithio gyda'n partneriaid yn Aneurin Leisure Trust rydyn ni’n gwneud Capel y Drindod yn ganolfan ffyniannus i'r dref, gan feithrin cefnogaeth ar gyfer addysg, mentrau cymunedol a gweithgareddau canol y dref. Mae hefyd yn cynnig lleoliad gwych i’n Hyb Cymunedol, gan roi mynediad hawdd i breswylwyr at ystod o wasanaethau’r cyngor, a ffynhonnell o gyngor ar garreg eu drws.

"Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Abertyleri ac mae ailddatblygu Capel y Drindod yn rhan o Gynllun Creu Lleoedd parhaus ehangach ar gyfer yr ardal ac yn ategu cynlluniau eraill sy'n gysylltiedig ag adfywio sydd wedi'u cyflawni yng nghanol y dref yn ddiweddar."

Dywedodd Tracy Jones, Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgell Llyfrgelloedd AƬ:

"Mae'r gofod llyfrgell newydd yn anhygoel, ac mae fy nhîm a minnau wedi gweithio'n galed i sicrhau bod ein holl aelodau yn mwynhau defnyddio’r amgylchedd newydd. Rydym yn gobeithio y bydd y gofod newydd yn ysbrydoli hyd yn oed mwy o bobl i ddefnyddio'r adnodd gwerthfawr rydyn ni’n ei ddarparu."

Dywedodd Phill Sykes, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Aneurin Leisure Trust:

"Credwn fod y gofod newydd yn ychwanegiad gwych i ganol tref Abertyleri. Mae’r ddarpariaeth dysgu oedolion yn y gymuned yn cynnig cyfleusterau gwych. Rydyn ni’n gwerthfawrogi bod lleoliad blaenorol y ganolfan ar dir ysgol yn rhwystr i nifer o bobl rhag ymgysylltu â dysgu, felly trwy ddarparu adnodd gyda chyfleusterau eithriadol rydyn ni’n gobeithio annog mwy o bobl i roi cynnig ar gyrsiau newydd."

Mae Llyfrgell a Chanolfan Addysg Gymunedol Abertyleri yng Nghapel y Drindod, Stryd yr Eglwys, Abertyleri NP13 1DB.

Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau llyfrgell AƬ ar gael yn:

]]>
/cy/newyddion/ysgrifennydd-y-cabinet-dros-dai-a-llywodraeth-leol-yn-ymweld-a-llyfrgell-a-chanolfan-dysgu-oedolion-yn-y-gymuned-newydd-abertyleri/ /cy/newyddion/ysgrifennydd-y-cabinet-dros-dai-a-llywodraeth-leol-yn-ymweld-a-llyfrgell-a-chanolfan-dysgu-oedolion-yn-y-gymuned-newydd-abertyleri/ Wed, 12 Feb 2025 06:50:47 GMT Louise Bishop
Dal i weini cinio ysgol yn 80 – Pen-blwydd Hapus Gill a Sonia! (1) Dymuniadau gorau i ddwy o'n cynorthwywyr arlwyo ysgolion, sy'n dathlu eu pen-blwydd yn 80 oed y mis hwn, tra’n parhau i weini cinio i blant ym Mlaenau Gwent.

Mae Sonia Blanchard a Gillian Morris ill dwy’n cyrraedd y garreg filltir hon fis yma, a dydyn nhw ddim yn barod i hongian eu ffedogau i fyny eto! Mae'r ddwy ohonyn nhw'n dal i garu'r swydd sydd, yn eu barn nhw, yn eu cadw nhw’n iach a hapus. Maen nhw wrth eu bodd yn gweld wynebau hapus y plant a chlywed eu straeon bob dydd.

Cafodd nain Gillian Morris ei geni a'i magu yn Nant-y-glo ac mae'n gweithio yn Ysgol Gymraeg Bro Helyg. Cyn hynny, bu'n gweithio yn hen Ysgol Gyfun Nant-y-glo ychydig i fyny'r ffordd.

Mae Sonia Blanchard, sy’n hen fam-gu, wedi gweithio yn Ysgol Gynradd y Cwm yn ei phentref genedigol ers dros 40 mlynedd.

Mae'r ddwy ddynes yn disgrifio'r ysgolion lle maen nhw'n gweithio fel 'un teulu mawr' sydd i gyd yn gefnogol iawn i'w gilydd.

Ar ôl 33 mlynedd yn y swydd, mae Gillian yn dal i fwynhau dawnsio roc a rôl o gwmpas y gegin ac yn troi'r radio i fyny’n slei bach wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer amser cinio. Pan ofynnwyd iddi pam ei bod hi’n dal i weithio yn 80 oed, dywedodd: "Rydw i wrth fy modd ac mae'n fy nghadw'n heini ac yn iach! Mae mor werth chweil, ac rydw i wrth fy modd yn gweld wynebau'r plant a rhannu straeon a jôcs gyda nhw."

Mae Gillian hefyd yn dysgu rhai ymadroddion Cymraeg gan ddisgyblion yn yr ysgol Gymraeg, "Mae'n anhygoel eu clywed nhw’n siarad yn Gymraeg," meddai.

Gill Morris

Dywed Sonia, sydd hefyd yn dathlu 60 mlynedd o briodas i’w gŵr Idris yn yr un mis, ei bod hi wrth ei bodd yn dod i'r gwaith bob dydd. "Dwi wastad yn hoffi bod yn brysur a chael nod. I fi, dyna beth yw gwaith, a helpu allan gyda fy ngorwyrion wrth gwrs," meddai. "Dwi wir yn mwynhau cwmni hyfryd y merched yn y gegin a’r plant. Mae wedi bod yn wych gweld cenedlaethau o deuluoedd yn dod drwodd."

Sonia Blanchard

Bydd Sonia a Gillian yn dathlu eu diwrnodau mawr gyda'u teuluoedd, ac rydyn ni’n siŵr fod ambell sypréis ar y gweill.

Dymunwn y gorau iddynt a diolch iddyn nhw am eu gwasanaeth i'n plant a'n pobl ifanc yma ym Mlaenau Gwent.

Gill Morris

Sonia Blanchard

]]>
/cy/newyddion/dal-i-weini-cinio-ysgol-yn-80-pen-blwydd-hapus-gill-a-sonia-1/ /cy/newyddion/dal-i-weini-cinio-ysgol-yn-80-pen-blwydd-hapus-gill-a-sonia-1/ Thu, 13 Feb 2025 08:51:56 GMT Louise Bishop
Blackwood Engineering Limited: Gwella Gweithrediadau a Chefnogi Cyflogaeth Leol Mae Blackwood Engineering Limited (BWE), sy’n arwain y farchnad ym maes cynhyrchu a chyflenwi castiau metel a gwrthbwysau, yn falch o gyhoeddi datblygiadau sylweddol yn ei weithrediadau a chefnogaeth barhaus i gyflogaeth leol yng Nghymoedd De Cymru, yn dilyn ei gais llwyddiannus am grant gan Gyngor AƬ.

Wedi’i sefydlu 75 mlynedd yn ôl fel ffowndri yn Aber-big, mae Blackwood Engineering wedi esblygu i fod yn chwaraewr allweddol yn y sector gweithgynhyrchu adeiladu, gan gyflenwi enwau byd-eang fel Caterpillar, JCB, a Nifty. Mae Blackwood Engineering yn parhau i fod ym mherchnogaeth breifat y Teulu Connor ac mae’n gyflogwr lleol pwysig yng Nghymoedd De Cymru. Rhan o lwyddiant cudd Coed Duon fel busnes teuluol cynnes a chyfeillgar yng Nghymru yw darparu gwasanaeth cwsmeriaid gwych, cynnyrch gwych, a chynnig amrywiaeth o wasanaethau 'gwerth ychwanegol' ochr yn ochr â chyflenwi castiau a gwrthbwysau i gwsmeriaid.

Mae’r tîm yn Blackwood Engineering bellach yn cynnig ateb llawn i gwsmeriaid sy’n golygu y gall reoli’r broses beirianneg dechnegol a dod o hyd i gynnyrch crai ar brosiectau a delio â logisteg, prosesu, storio a chyflenwi i safleoedd gweithgynhyrchu cyfatebol yn y DU neu Ewrop.

Gyda chymorth arian grant, mae Blackwood Engineering wedi gwneud buddsoddiadau strategol i wella ei weithrediadau. Defnyddiwyd yr arian i ddatblygu sgiliau datrys problemau aelodau'r tîm ac i brynu a gosod adlenni i ddiogelu'r cynnyrch gorffenedig sy'n cael ei storio ar yr iard. Disgwylir i'r buddsoddiad hwn leihau costau ail-weithio a achosir gan amodau tywydd garw, a thrwy hynny wella ansawdd y cynnyrch ac effeithlonrwydd gweithredol.

Meddai llefarydd ar ran y cwmni, Vivienne Compton: “Rydym ni yn Blackwood Engineering wrth ein bodd i fod yn fuddiolwr y cynllun hwn mewn hinsawdd economaidd anodd i lawer o gyflogwyr.

Mae'r buddsoddiad hwn wedi ein helpu i gadw swyddi presennol, gwella ansawdd cynnyrch, a chyflogi pobl ifanc i rolau datblygu. Rydym yn ddiolchgar i Gyngor AƬ am eu cefnogaeth i adeiladu a chadw busnes llwyddiannus sy’n gallu darparu cyflogaeth leol bwysig i lawer o unigolion ar wahanol adegau yn eu bywyd gwaith.”

Yn 2024 yn unig, cefnogodd Blackwood Engineering amrywiol fentrau, gan gynnwys interniaethau gyda Phrifysgol Caerdydd, prentisiaethau gradd israddedig gyda Phrifysgol De Cymru, a rolau graddedigion peirianneg o Brifysgol Oxford Brookes. Darparodd y cwmni hefyd gyfleoedd cyflogaeth i ymadawyr coleg ac unigolion di-waith dros 50 oed.

ѱ岹’r Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet - Lleoedd ac Adfywio a Datblygu Economaidd, “Mae Blackwood Engineering wedi bod yn aelod gwerthfawr o’r gymuned fusnes ers blynyddoedd lawer ac mae’n dda clywed eu bod yn cefnogi cenedlaethau’r dyfodol gyda phrentisiaethau gradd ac yn darparu cyfleoedd ailhyfforddi i’r gymuned leol.”

Ariennir Grant Datblygu Busnes AƬ gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a’i reoli gan Dîm Busnes ac Arloesi Cyngor AƬ. Nod y Grant Datblygu Busnes yw cefnogi twf a datblygiad busnesau newydd a phresennol ym Mlaenau Gwent. Mae’r cynllun bellach ar gau ond mae busnesau sydd angen cymorth ariannol yn cael eu hannog i lenwi’r Ffurflen Mynegi Diddordeb ar-lein yn y ddolen isod ac os daw rhagor o arian ar gael o fis Ebrill 2025 ymlaen, byddwn yn cysylltu â busnesau sydd ar y rhestr aros.

 

]]>
/cy/newyddion/blackwood-engineering-limited-gwella-gweithrediadau-a-chefnogi-cyflogaeth-leol/ /cy/newyddion/blackwood-engineering-limited-gwella-gweithrediadau-a-chefnogi-cyflogaeth-leol/ Thu, 13 Feb 2025 08:57:56 GMT Carolyn Jenkins
Able Touch Joinery Holdings Ltd yn Sicrhau Grant Datblygu Busnes Mae Able Touch Joinery Holdings Ltd, cwmni sydd wedi hen ennill ei blwyf yn arbenigo mewn gwasanaethau saernïaeth, gwaith saer, ac adeiladu wedi derbyn Grant Datblygu Busnes gan Gyngor AƬ.

Bydd y grant, sy'n dod i gyfanswm o £26,963.60, yn cael ei ddefnyddio i wella diogelwch a chynhyrchiant gweithdy'r cwmni trwy gaffael systemau awyru newydd a gwyntyllau echdynnu llwch.

Mae gan Able Touch Joinery Ltd, sydd wedi’i leoli yn Nhredegar, bron i dri degawd o brofiad ac mae wedi ennill enw da am ragoriaeth a dibynadwyedd, yn enwedig yn y farchnad arbenigol o saernïaeth bwrpasol ar gyfer adeiladau treftadaeth. Mae'r cwmni hefyd yn gwasanaethu bariau, bwytai, siopau, a chleientiaid preswyl, gan ddarparu gwaith adeiladu o ansawdd uchel a saernïaeth wedi'i deilwra i ddiwallu anghenion penodol pob prosiect.

Mae'r buddsoddiad mewn systemau awyru newydd a gwyntyllau echdynnu llwch yn hanfodol ar gyfer cynnal safonau uchel o grefftwaith tra'n sicrhau amgylchedd gwaith diogel i weithwyr. Mae'r gwelliannau hyn yn arbennig o allweddol wrth i'r cwmni anelu at gwrdd â'r galw cynyddol am ei wasanaethau, yn enwedig ar ôl dyfarnu contract sylweddol yn ymwneud ag adfer adeilad rhestredig treftadaeth mawr, y Bwrdd Glo Cenedlaethol (NCB).

Mynegodd Stephen Williams, Cyfarwyddwr Able Touch Joinery Ltd, ei ddiolchgarwch am y gefnogaeth a dderbyniwyd. Meddai: "Bydd y grant hwn yn ein galluogi i barhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i'n cleientiaid tra'n sicrhau diogelwch a lles ein gweithwyr. Rydym yn gyffrous am y cyfleoedd a ddaw yn sgil y buddsoddiad hwn ac yn edrych ymlaen at gyfrannu ymhellach i'r gymuned leol".

ѱ岹’r Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet y Cyngor dros Leoedd ac Adfywio:

“Mae Able Touch Joinery yn gwmni hirsefydlog hynod bwysig yn Nhredegar, ac rwy’n falch iawn o weld eu bod yn parhau i flaenoriaethu diogelwch a lles eu gweithlu wrth gynhyrchu’r gwaith o ansawdd uchel a welwn mewn cymaint o’n hadeiladau lleol yn gyson.”

Ariennir Grant Datblygu Busnes AƬ gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a’i reoli gan Dîm Busnes ac Arloesi Cyngor Bwrdeistref Sirol AƬ. Nod y Grant Datblygu Busnes yw cefnogi twf a datblygiad busnesau newydd a phresennol ym Mlaenau Gwent. Mae’r cynllun bellach ar gau ond mae busnesau sydd angen cymorth ariannol yn cael eu hannog i lenwi’r Ffurflen Mynegi Diddordeb ar-lein yn y ddolen isod ac os daw rhagor o arian ar gael o fis Ebrill 2025 ymlaen, byddwn yn cysylltu â busnesau sydd ar y rhestr aros.

 

 

]]>
/cy/newyddion/able-touch-joinery-holdings-ltd-yn-sicrhau-grant-datblygu-busnes/ /cy/newyddion/able-touch-joinery-holdings-ltd-yn-sicrhau-grant-datblygu-busnes/ Tue, 18 Feb 2025 08:44:55 GMT Carolyn Jenkins
Manteisiwch ar y cynllun ECO4 wrth i Gyngor AƬ bartneru gyda City Energy ac EDF Mae Cyngor AƬ yn gweithio mewn partneriaeth â City Energy Dinas a’r cyflenwr ynni EDF fel rhan o gynllun rhanbarthol gyda'r nod o wella effeithlonrwydd ynni yng nghartrefi trigolion tlotaf y fwrdeistref o ran tanwydd.

Bydd y cynllun ECO4 yn nodi eiddo domestig sydd angen mesurau gwella ynni. Bydd cartrefi cymwys perchnogion eiddo a thenantiaid sy'n rhentu'n breifat yn cael eu hôl-ffitio ag ystod o inswleiddio a nodweddion gwella defnydd ynni.

• Rydych chi’n derbyn cymorth lles, neu
• Mae incwm eich cartref o dan £31,000, neu
• Mae gennych gyflwr iechyd cymwys, e.e. cardiofasgwlaidd, anadlol, imiwnoataliedig neu symudedd cyfyngedig

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Leoedd a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Helen Cunningham: 
"Mae croeso mawr i'r cynllun partneriaeth hwn gan fod pris ynni wedi cynyddu'n ddramatig yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae’r argyfwng costau byw wedi gwthio mwy o deuluoedd i dlodi tanwydd. Bydd sicrhau bod cymorth ar gael i bobl sy'n byw mewn eiddo sydd â’r graddfeydd ynni isaf yn helpu i wella cynhesrwydd ac effeithlonrwydd ynni eu cartref, a gallai ddod â manteision iechyd a lles.
 Gyda'r argyfwng hinsawdd a natur, mae'r Cyngor yn cefnogi cynlluniau sy'n ymateb iddynt. Dylai'r cynllun hwn helpu i leihau allyriadau carbon cartrefi sy'n derbyn mesurau gwella.

I weld a ydych chi'n gymwys i gael cyllid, sganiwch y cod QR i gwblhau arolwg cyflym, cyflwyno eich cais a chymryd cam tuag at gartref mwy cynnes a chlyd! 

Bydd y daflen isod y gellir ei lawrlwytho yn eich helpu i ddeall mwy am beth sydd ei angen.

ow will help you to further understand what is required.

Trawsnewidiwch eich cartref gyda thaflen ECO4 (i’w lawrlwytho).

]]>
/cy/newyddion/manteisiwch-ar-y-cynllun-eco4-wrth-i-gyngor-blaenau-gwent-bartneru-gyda-city-energy-ac-edf/ /cy/newyddion/manteisiwch-ar-y-cynllun-eco4-wrth-i-gyngor-blaenau-gwent-bartneru-gyda-city-energy-ac-edf/ Wed, 19 Feb 2025 14:03:27 GMT Alan Powell
Cyngor AƬ yn Cyflawni Statws Caru Gwenyn

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol AƬ yn falch o gyhoeddi ei fod wedi llwyddo i ennill statws Caru Gwenyn, fel y cydnabyddir gan Dasglu’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Peillwyr. Mae'r ardystiad mawreddog hwn yn tanlinellu ymrwymiad y Cyngor i wella bioamrywiaeth a chefnogi poblogaethau pryfed peillio yn y rhanbarth.

Mae’r cynllun Caru Gwenyn yn fenter sy’n hyrwyddo creu amgylcheddau sy’n ffafriol i iechyd a lles peillwyr, sy’n hanfodol i’n hecosystemau ac amaethyddiaeth. Mae ymdrechion y Cyngor yn hyn o beth wedi'u cydnabod trwy ddyfarnu'r dystysgrif a'r logo Caru Gwenyn, y gellir eu defnyddio bellach ar gylchlythyrau a deunyddiau hyrwyddo.

Dywedodd Nadine Morgan, Ecolegydd Cyngor Bwrdeistref Sirol AƬ, “Mae cydnabyddiaeth gynyddol bod angen cymryd camau gweithredu i atal dirywiad peillwyr, oherwydd yr angen i ddiogelu’r gadwyn fwyd a chynefinoedd lleol.

Yn draddodiadol mae peillwyr yn dibynnu ar amrywiaeth o gynefinoedd megis dolydd, gwrychoedd, ymylon coetir, glaswelltiroedd sy’n gyfoethog mewn meillion a pherllannau. Mae newid i arferion amaethyddol, newid defnydd tir a dwysáu wedi arwain at ddirywiad yn y cynefinoedd traddodiadol hyn. Gellir darparu cynefinoedd amgen mewn gerddi, parciau, mannau agored ac ymylon ffyrdd.

Mae gan Gyngor AƬ y gallu i wneud newidiadau sylweddol drwy newid trefniadau plannu a thorri gwair gan hyrwyddo creu cynefin sy’n deall peillwyr. Bydd gweithredu newidiadau i arferion rheoli tir yn hybu mwy o amrywiaeth blodau a fydd hefyd yn hybu gwell strwythur pridd a chynyddu’r gallu i storio carbon.

Y weledigaeth hirdymor yw sicrhau bod ein rhwydweithiau glaswelltir wedi’u cysylltu’n dda, bod ganddynt amrywiaeth rhagorol o flodau ac mewn cyflwr da i allu cynnal amrywiaeth o fywyd gwyllt gan gynnwys pryfed peillio. Felly, rydym yn falch o dderbyn y wobr hon i gydnabod y camau gweithredu rydym wedi’u cymryd i gefnogi ein peillwyr lleol a bywyd gwyllt arall, sy’n cyfrannu at fynd i’r afael ag argyfyngau natur a hinsawdd. Rydym yn gyffrous iawn i barhau â’r gwaith hwn i’r dyfodol gan wella gofodau i greu ecosystemau gwydn.”

Mae’r Cyngor yn annog rhannu arferion gorau i wella cyfleoedd i beillwyr ac yn gwahodd y gymuned i gymryd rhan yn y fenter hon. Gellir rhannu lluniau a diweddariadau ar weithgareddau Caru Gwenyn ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #CaruGwenynCymru, ac mae’r Cyngor yn awyddus i roi cyhoeddusrwydd i’r ymdrechion hyn drwy ei rwydweithiau cyfryngau cymdeithasol.

Er mwyn cynnal statws Caru Gwenyn, bydd y Cyngor yn cyflwyno cais adnewyddu ar ôl blwyddyn a fydd yn manylu ar gyflawniadau a chynlluniau ar gyfer y dyfodol.

]]>
/cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-cyflawni-statws-caru-gwenyn/ /cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-cyflawni-statws-caru-gwenyn/ Wed, 19 Feb 2025 14:03:52 GMT Carolyn Jenkins
Pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal/gofalwyr maeth ym Mlaenau Gwent yn croesawu cynllun i ddileu elw o ofal plant Y Diwrnod Gofalu hwn (21 Chwefror), mae Maethu Cymru AƬ yn ymuno â chymuned Maethu Cymru i dynnu sylw at fanteision gofal awdurdodau lleol wrth i Fil Iechyd a Gofal Cymdeithasol nodedig Llywodraeth Cymru ddechrau’r broses o ddileu elw o’r system gofal plant.

Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i ddeddfu i ddileu elw o ofal preswyl a gofal maeth i blant.

Nod ymgyrch Aros yn Lleol Maethu Cymru, a arweinir gan bobl sydd â phrofiad o ofal a gofalwyr maeth awdurdodau lleol, yw dangos sut y bydd y polisi’n cefnogi pobl ifanc mewn gofal i aros yn gysylltiedig â’u hardal leol, eu cymuned, eu ffrindiau a’u hysgol.

Y llynedd, arhosodd 85 y cant o bobl ifanc â gofalwyr maeth awdurdod lleol yn eu hardal. Fodd bynnag, dim ond 31 y cant o bobl ifanc sy'n derbyn gofal gan asiantaethau maethu masnachol a arhosodd yn lleol, gyda 7 y cant yn cael eu symud y tu allan i Gymru yn gyfan gwbl.*

Dechreuodd y gofalwyr maeth, Bev a Mel, o Flaenau Gwent, faethu gydag asiantaeth faethu fasnachol yn 2018. Fe wnaethant benderfynu trosglwyddo i Faethu Cymru AƬ yn 2024 – a ddisgrifiwyd ganddynt fel “cam cadarnhaol gwirioneddol”.

Esboniodd Mel: “Yn flaenorol, gydag asiantaeth annibynnol fe gymerodd amser hir i ddod o hyd i berson ifanc a oedd yn addas i ni.

Ond y llynedd fe ddechreuon ni faethu gyda’n hawdurdod lleol ac o fewn wythnosau cawsom ein cyflwyno i berson ifanc o’r ardal leol yr oedd ein gweithiwr cymdeithasol yn meddwl y byddai’n cyd-fynd yn dda â’n profiad.”

Aethom ni yn bendant i mewn gyda syniad o sut beth fyddai maethu gydag awdurdod lleol, ond rydym mor falch o ddweud bod ein profiad wedi bod yn wych. Mae’r gefnogaeth yn wych ac mae yna ymdeimlad gwirioneddol o gymuned gyda gofalwyr maeth eraill.”

Dywed Bev: “Rydyn ni'n gofalu am dri o blant, ac maen nhw wrth eu bodd yma. Maen nhw'n mynd i'w hysgol leol, yn gweld eu ffrindiau a'u teuluoedd genedigol. Mae’r cysylltiad hwnnw mor bwysig. Er efallai na fydd y plant hyn gyda ni am eu bywydau cyfan, fe fyddan nhw bob amser mewn lle sy’n teimlo fel cartref. A dyna hanfod maethu.”

Yng Nghymru, mae mwy na 7,000 o blant yn y system ofal, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth. Mae Maethu Cymru wedi gosod y nod beiddgar o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth newydd erbyn 2026 i ddarparu cartrefi croesawgar i blant a phobl ifanc lleol.

Ar hyn o bryd mae 96 o blant mewn gofal maeth a 70 o ofalwyr maeth ym Mlaenau Gwent, ond mae angen mwy o ofalwyr bob amser.

I gael rhagor o wybodaeth am faethu, neu i wneud ymholiad, ewch i: e-bost fostering@blaenau-gwent.gov.uk neu ffoniwch ein Llinell Ymholiadau: 01495 369620

]]>
/cy/newyddion/pobl-ifanc-sydd-a-phrofiad-o-ofalgofalwyr-maeth-ym-mlaenau-gwent-yn-croesawu-cynllun-i-ddileu-elw-o-ofal-plant/ /cy/newyddion/pobl-ifanc-sydd-a-phrofiad-o-ofalgofalwyr-maeth-ym-mlaenau-gwent-yn-croesawu-cynllun-i-ddileu-elw-o-ofal-plant/ Wed, 19 Feb 2025 14:54:41 GMT Emma Bennett
Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr yn ennill Gwobr Aur Siarter Iaith Rhanbarthol Mae Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr (cyfnod uwchradd) wedi’i hanrhydeddu â gwobr aur fawreddog y Siarter Iaith Rhanbarthol am ei hymdrechion rhagorol i ddatblygu dwyieithrwydd. Mae'r anrhydedd hwn yn cydnabod ymrwymiad yr ysgol i hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig ar draws ei chymuned.

Mae’r ysgol wedi cyflawni’r garreg filltir hon trwy flaenoriaethu dwyieithrwydd fel menter ysgol gyfan a chefnogi gweithgareddau sy’n adeiladu ar gyflawniadau’r wobr arian. Mae’r gymuned ysgol gyfan, gan gynnwys staff a myfyrwyr, yn llysgenhadon dros y Gymraeg, gan gymryd rhan weithredol mewn cynllunio cyfleoedd ar gyfer ymwybyddiaeth iaith a diwylliant.

Mae uchafbwyntiau allweddol ymdrechion yr ysgol yn cynnwys:

  • Cydnabod cyfleoedd i atgyfnerthu diwylliant Cymru ar draws gwahanol feysydd dysgu a phrofiad (MDPh)
  • Sicrhau bod yr holl staff yn ymwybodol o weledigaeth yr ysgol ar gyfer y Gymraeg ac yn cymryd cyfrifoldeb am eu taith bersonol a phroffesiynol
  • Hyrwyddo naws Gymreig trwy ddylanwad y Criw Cymraeg gydag ystod eang o fentrau
  • Dangos ymrwymiad i wneud defnydd o'r Gymraeg yn weladwy ac yn glywadwy y tu allan i'r dosbarth ac i'r gymuned ehangach

Mae’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA) wedi mynegi ei ddiolchgarwch i’r ysgol am fanteisio ar y cyfle hwn a chydnabod y rôl ganolog y mae dwyieithrwydd yn ei chwarae yn y Cwricwlwm i Gymru. Mae’r GCA yn edrych ymlaen at gefnogi’r ysgol ymhellach wrth iddi barhau i ymgorffori a mireinio ei harferion i gynnal gofynion y wobr aur.

Dywedodd y Pennaeth, Melanie Thomas: “Fel ysgol rydym wrth ein bodd gyda’r wobr hon, mae’n cydnabod y gwaith caled a’r ymroddiad a wneir gan fyfyrwyr a staff i gofleidio’r Gymraeg. Edrychwn ymlaen at barhau â’n taith i gofleidio’r diwylliant Cymreig a’r iaith Gymraeg.”

 

]]>
/cy/newyddion/cymuned-ddysgu-ebwy-fawr-yn-ennill-gwobr-aur-siarter-iaith-rhanbarthol/ /cy/newyddion/cymuned-ddysgu-ebwy-fawr-yn-ennill-gwobr-aur-siarter-iaith-rhanbarthol/ Wed, 19 Feb 2025 15:51:09 GMT Carolyn Jenkins
Cyngor yn cymeradwyo cyllideb yng nghanol pwysau difrifol ar ysgolion a gwasan-aethau hamdden Heddiw, mae Cyngor AƬ wedi cymeradwyo ei gyllideb ar gyfer 2025/26, gan ddarparu hwb ariannol mawr-ei-angen i ysgolion a gwasanaethau hamdden, y mae'r ddau dan straen ariannol eithafol.

Er gwaethaf cynnydd yng nghyllid Llywodraeth Cymru o 4.8%—ychydig yn uwch na chyfartaledd Cymru—mae'r Cyngor yn dal i wynebu heriau ariannol enfawr. Mae costau cynyddol o chwyddiant, biliau ynni, a gofynion cynyddol ar wasanaeth yn parhau i ymestyn adnoddau i'r eithaf.

Mewn cyfarfod arbennig heddiw, cytunodd y cynghorwyr ar gyllideb sy'n amddiffyn gwasanaethau rheng flaen hanfodol ac yn sicrhau buddsoddiad sylweddol i addysg ein pobl ifanc gyda'r cynnydd mwyaf erioed mewn cyllid ysgolion, ochr yn ochr â chefnogaeth ychwanegol i wasanaethau hamdden a gynhelir gan Aneurin Leisure Trust.

Treth Gyngor i godi 4.95%—ymhlith yr isaf yng Nghymru, gyda chymorth i aelwydydd incwm isel

Bydd y Dreth Gyngor yn codi 4.95%, sy'n cyfateb i £1.22 yr wythnos ar gyfer cartref Band A a £1.42 i Fand B—sy'n cwmpasu dros 83% o eiddo ym Mlaenau Gwent.  Er gwaethaf y cynnydd, mae hyn yn parhau i fod yn un o'r isaf yng Nghymru.

Yn bwysig, mae 91% o gartrefi ym Mlaenau Gwent yn is na'r eiddo Band D cyffredin, sy'n golygu na fydd y cynnydd blynyddol o £95 a ddyfynnir yn eang ar gyfer Band D yn berthnasol i fwyafrif helaeth ein preswylwyr. Bydd yr aelwydydd hyn yn gweld cynnydd llai.

Yn hanfodol, ni fydd llawer o aelwydydd incwm isel yn gweld unrhyw gynnydd o gwbl, diolch i'r Cynllun Gostyngiad y Dreth Gyngor, sy'n cefnogi'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd talu eu biliau. Mae'r Cyngor yn diogelu'r cynllun hwn yn llawn gyda £10.5 miliwn, gan sicrhau cefnogaeth barhaus i'r rhai sydd ei angen fwyaf. Mae trigolion hefyd yn cael eu hannog i wirio a ydynt yn gymwys ar gyfer cynlluniau consesiynol eraill.

Dewisiadau Anodd i Gadw Gwasanaethau i Redeg

Mae misoedd o gynllunio ariannol gofalus ac ymgysylltu cyhoeddus wedi llywio’r gyllideb hon, sy'n blaenoriaethu mynd i'r afael ag anghydraddoldebau a chefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed drwy Egwyddorion Marmot. Mae'r Cyngor hefyd wedi nodi £1.9 miliwn mewn arbedion a ffynonellau incwm newydd o dan saith thema allweddol, gan gynnwys:

  • Cwtogi ac adolygu adeiladau
  • Moderneiddio gwasanaethau drwy arloesi digidol
  • Cynhyrchu incwm
  • Prosiectau effeithlonrwydd ynni

Datganiad Arweinydd y Cyngor: ‘Gwasanaethau Ysgolion a Hamdden ar Fin Torri’

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Steve Thomas:

"Dyma un o'r cyllidebau anoddaf i ni orfod ei gosod erioed. Mae ein hysgolion a'n gwasanaethau hamdden ar fin torri oherwydd pwysau ariannol o ganlyniad i'r argyfwng costau byw, ac rydym yn gwneud popeth posibl i'w cefnogi. Y cynnydd mewn cyllid i ysgolion yw'r uchaf erioed, oherwydd rydym yn gwybod pa mor hanfodol yw addysg ar gyfer dyfodol ein plant.

"Rydym hefyd wedi cadw’r Dreth Gyngor mor isel â phosibl tra'n sicrhau ein bod yn dal i allu darparu'r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt. Nid oes modd osgoi penderfyniadau anodd, gyda chyllid Llywodraeth Cymru ond yn cynrychioli tua 80% o'n cyllideb. Fodd bynnag, rydym yn parhau i ddiogelu'r Cynllun Gostyngiad y Dreth Gyngor yn llawn, sy'n golygu y bydd llawer o aelwydydd incwm isel yn cael eu diogelu rhag y cynnydd hwn, ac ni fydd y rhan fwyaf o'r rhain yn talu unrhyw gynnydd o gwbl. Rydym yn annog preswylwyr i wirio a ydynt yn gymwys i gael cymorth. Darganfod mwy yma.

Gweithio gyda Chyngor Torfaen

Yn ddiweddar, cymeradwyodd AƬ gydweithio agosach gyda CBS Torfaen, gan gynnwys rhannu Prif Weithredwr ar y cyd.

Ychwanegodd y Cynghorydd Thomas:

“Nid yw cydweithio â Thorfaen ond yn ymwneud ag arbed costau—mae'n ymwneud â sicrhau dyfodol ein gwasanaethau hanfodol. Trwy gyfuno adnoddau ac arbenigedd, gallwn wneud gwasanaethau'n fwy cynaliadwy a sicrhau y gallwn barhau i ddarparu ar gyfer ein cymunedau.”

]]>
/cy/newyddion/cyngor-yn-cymeradwyo-cyllideb-yng-nghanol-pwysau-difrifol-ar-ysgolion-a-gwasan-aethau-hamdden/ /cy/newyddion/cyngor-yn-cymeradwyo-cyllideb-yng-nghanol-pwysau-difrifol-ar-ysgolion-a-gwasan-aethau-hamdden/ Thu, 20 Feb 2025 11:36:14 GMT Louise Bishop
Cadw Croeso Cynnes Mae Roseland Bed and Breakfast newydd dderbyn Grant Datblygu Twristiaeth i leihau eu hôl troed carbon. Mae'r busnes, sydd wedi'i leoli mewn lleoliad diarffordd yn Nhredegar wedi bod yn croesawu gwesteion ers 22 mlynedd. Arferai’r tŷ fod yn gartref i ŵr bonheddig a oedd yn eiddo i’r gwaith haearn ac roedd yn gartref i feddyg y gwaith haearn. Yn ôl y chwedl, roedd bonyn coeden yn yr ardd gyda 2 ddolen pres, a ddefnyddiwyd gan Dr Smith i dynnu dannedd! Roedd adeilad o'r hanes a'r tarddiad hwn yn gofyn am ateb sensitif ond ymarferol a gyflawnwyd gyda ffenestri llithro upvc, ffenestri gwydr dwbl gyda bariau addurngylch a chyrn codi.

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet dros Leoedd, Adfywio a Datblygu Economaidd, ‘Mae Susy yn westeiwr bendigedig gyda chroeso hael ond mae treftadaeth a hanes yr eiddo hefyd yn bwysig i ymwelwyr. Mae'r ffenestri newydd yn cadw cymeriad yr adeilad ac yn lleihau ôl troed carbon y busnes. Mae hon yn enghraifft wych o sut mae’r Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi helpu busnesau lleol sy’n cyfrannu at wella ein harlwy twristiaeth.”

Dywedodd y perchennog Susy Arnold, ‘Mae’r tŷ cyn 1800 ac roedd yn perthyn i Waith Haearn Sirhywi cyn cael ei drosglwyddo yn 1840 i gwmni haearn a glo Glynebwy, a dim ond yn 1926 y dychwelodd i ddwylo preifat. Hwn oedd preswylfa a meddygfa’r hen feddyg. Mae’r grant wedi fy ngalluogi i uwchraddio a diogelu fy musnes at y dyfodol, bod yn garedig â’r amgylchedd drwy leihau’r defnydd o ynni ac mae gan fy ystafelloedd reolaeth gwres llawer gwell ar gyfer gwesteion.’

Mae Grant Twristiaeth a Lletygarwch AƬ ar gael i fusnesau cymwys ym Mlaenau Gwent trwy ddarpariaeth Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

 

]]>
/cy/newyddion/cadw-croeso-cynnes/ /cy/newyddion/cadw-croeso-cynnes/ Thu, 27 Feb 2025 10:37:56 GMT Carolyn Jenkins
Cyngor Bwrdeistref Sirol AƬ y Cyntaf i Lansio ei Gynllun ‘Croesawu Bwydo ar y Fron’

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol AƬ yn falch o gyhoeddi ei fod y sir gyntaf yng Ngwent i lansio’r cynllun ‘Croesawu Bwydo ar y Fron’, gan ei gyflwyno ar draws wyth hyb Dechrau’n Deg a Chanolfan Plant Integredig Blaenau. Dyma'r cam cyntaf mewn menter ehangach a fydd yn gweld sawl busnes lleol hefyd yn ymuno i gefnogi mamau sy'n bwydo ar y fron.

Mae Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron Gwent yn bartneriaeth ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a phum ardal Gwent. Ei nod yw hyrwyddo, amddiffyn a chefnogi hawliau rhieni i fwydo ar y fron mewn mannau cyhoeddus, gan helpu i normaleiddio bwydo ar y fron a chynyddu ei dderbynioldeb o fewn y gymuned.

Gyda chymorth Arweinydd Croesawu Bwydo ar y Fron ymroddedig, gall busnesau lleol ddod yn aelodau achrededig o'r cynllun, gan nodi eu hadeiladau fel sefydliadau croesawgar sy'n croesawu bwydo ar y fron. I gofrestru, mae'n ofynnol i fusnesau lenwi holiadur byr ac addo cefnogi'r pedwar pwynt Polisi Croesawu Bwydo ar y Fron Gwent a ganlyn:

  • Rydym yn croesawu ac yn cefnogi bwydo ar y fron unrhyw le o fewn ardaloedd cyhoeddus yr adeilad hwn
  • Rydym yn darparu staff cymwynasgar a chyfeillgar sy'n deall anghenion mamau sy'n bwydo ar y fron a'u babanod
  • Os yn bosibl, byddwn yn darparu cyfleusterau cyfforddus, priodol ar gyfer mamau sy'n bwydo ar y fron
  • Mae pob man cyhoeddus yn fannau DIM YSMYGU

Yn ogystal, cynhelir adolygiadau ar y marc 3 mis ac yn flynyddol wedi hynny i sicrhau llwyddiant ac ymrwymiad parhaus y cynllun.

Trwy gymryd rhan, mae busnesau'n helpu i greu amgylchedd lle mae mamau sy'n bwydo ar y fron yn teimlo'n ddiogel, yn cael eu cefnogi a’u croesawu. Mae'r fenter hon yn gam hollbwysig i sicrhau bod AƬ yn dod yn fan lle gall pob rhiant fwydo eu plant ar y fron yn hyderus mewn mannau cyhoeddus.

Meddai Carla Baldwin, Ymwelydd Iechyd ac Arweinydd Bwydo Babanod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:

“Diben y cynllun ‘Croesawu Bwydo ar y Fron’ yw grymuso rhieni i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac yn hyderus wrth fwydo eu babi ar y fron yn eu cymuned leol. Ein nod yw creu partneriaeth â busnesau lleol a lleoliadau cymunedol i gynnig amgylchedd cyfeillgar, croesawgar i rieni sy'n bwydo ar y fron. Trwy wreiddio’r cynllun hwn yn ein cymunedau, rydym yn helpu i normaleiddio bwydo ar y fron ac yn cefnogi rhieni i fwydo ar y fron yn hirach, gan wella canlyniadau iechyd i’r fam a’r plentyn.”

Mae Paula Adams, Arweinydd Gofal Plant Dechrau’n Deg a mam i fab 17 oed, yn rhannu ei phrofiad personol, gan ddweud:

“Rwy’n cefnogi’r rhaglen yn llwyr oherwydd pan gafodd fy mab ei eni’n gynamserol, ni chefais ddigon o gefnogaeth gan staff gofal iechyd, ac nid oedd bwydo ar y fron yn gweithio i ni, gan fy ngwneud yn siomedig. Mae’r profiad hwn wedi fy ngwneud yn angerddol dros gefnogi mamau heddiw, gan fod bwydo ar y fron yn ffordd mor naturiol o fwydo babi. Mae bod yn rhan o’r cynllun hwn yn helpu mamau a allai ei chael hi’n anodd ac yn darparu man diogel a chroesawgar iddynt.”

ѱ岹’r Cynghorydd Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd a mam sy’n bwydo ar y fron:

“Mae’n wych gweld mamau AƬ sy’n bwydo ar y fron yn cael eu cefnogi gan eu cymuned fusnes lleol. Mae'r cyngor, ynghyd â'n partneriaid iechyd, yn cydnabod pwysigrwydd darparu amgylchedd cyfforddus a chroesawgar i famau sy'n bwydo ar y fron yn eu bywydau bob dydd. Mae gweld mamau a babanod mewn amgylchedd cyfeillgar yng Nghanolfan Plant Integredig Blaenau yn dyst i effaith gadarnhaol y cynllun hwn.”


Meddai Ceri Bird, Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Plant:

“Rwyf wrth fy modd yn gweld lansio ein Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron Gwent ar ôl blwyddyn o ddatblygiad ac fel rhan o’n hymgyrch “Bwydo ar y Fron AƬ”. Fe wnes i fwydo fy mab ar y fron 21 mlynedd yn ôl ac roedd hi mor anodd ceisio dod o hyd i safle bwydo ar y fron pan oddi cartref - byddwn yn aml yn mynd yn ôl i'r car i'w fwydo a hyd yn oed yn cael fy nghyfarwyddo i ddefnyddio toiledau merched mewn rhai bwytai.

Byddwn yn annog busnesau lleol ym Mlaenau Gwent i gofrestru ac ymuno â’n hymgyrch, mae’n hawdd a bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i iechyd ein cymuned wrth i ni normaleiddio a hybu bwydo ar y fron.”

Yn 2024, aeth Cyngor AƬ ati i wella canlyniadau bwydo ar y fron ar draws y rhanbarth, gan anelu at sicrhau bod pob babi yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd. Daeth hyn i fodolaeth ar ôl i arolwg cenedlaethol a gynhaliwyd yn 2023 amlygu mai AƬ oedd â’r cyfraddau isaf ar gyfer bwydo ar y fron yn y DU. Mae’n bleser gennym gyhoeddi fel rhan o’n hymgyrch barhaus fod cyfraddau’n cynyddu o fis i fis wrth i fwy o’n rhieni gydnabod bod bwydo ar y fron yn rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i fabanod. Mae'r Cyngor yn parhau i gefnogi mamau a thadau i wneud penderfyniadau gwybodus am fwydo babanod, gan eu grymuso i ymdopi â heriau a llwyddo ar eu taith bwydo ar y fron.

Os ydych yn fusnes lleol sydd â diddordeb mewn ymuno â’r cynllun a dechrau’r broses achredu, cysylltwch ag arweinydd eich Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron lleol drwy gysylltu â’r Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd ar 01495 369610 neu anfon e-bost atom yn FIS@blaenau-gwent.gov.uk Rydym hefyd yn chwilio am fwy o gefnogwyr cymheiriaid bwydo ar y fron a gwirfoddolwyr rhieni yn ein hybiau Dechrau’n Deg, plis helpwch ni i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i holl fabanod AƬ.

]]>
/cy/newyddion/cyngor-bwrdeistref-sirol-blaenau-gwent-y-cyntaf-i-lansio-ei-gynllun-croesawu-bwydo-ar-y-fron/ /cy/newyddion/cyngor-bwrdeistref-sirol-blaenau-gwent-y-cyntaf-i-lansio-ei-gynllun-croesawu-bwydo-ar-y-fron/ Fri, 28 Feb 2025 11:30:12 GMT Emma Bennett
Cynllun gwaith ieuenctid yn hybu presenoldeb mewn ysgolion ym Mlaenau Gwent Mae partneriaeth rhwng darpariaeth gwaith ieuenctid ac ysgolion uwchradd ym Mlaenau Gwent yn cymryd camau cadarnhaol i wella presenoldeb disgyblion yn yr ysgol.

Gyda Gweithwyr Ieuenctid penodedig ym mhob ysgol uwchradd yn y fwrdeistref, mae tîm Gwasanaeth Ieuenctid 11-16 oed AƬ yn darparu cymorth un-i-un a chymorth grŵp hanfodol, wedi'i deilwra i anghenion unigolion. Maent yn gwneud cynnydd sylweddol o ran gwella presenoldeb pobl ifanc a gyfeiriwyd at y prosiect.

Yn ystod y gwyliau hanner tymor yr wythnos hon mae grŵp o bobl ifanc 11-16 oed wedi bod yn mwynhau cwrs preswyl yn Summit Centre, Treharris, gan gymryd rhan mewn gweithgareddau codi hyder fel dringo a byw yn y gwyllt.

Mae Summer, sy'n 15 oed ac yn mynd i Ysgol Sylfaenol Brynmawr, yn aelod o'r grŵp ieuenctid ac yn dysgu sut i ddringo creigiau yng y Summit Centre.

Dywedodd: "Cyn i mi ddechrau yn y clwb ieuenctid roedd dyddiau pan nad oeddwn i eisiau mynd i'r ysgol oherwydd pobl neu bynciau. Roedd fy nghanran presenoldeb lawr yn yr 80au.

"Ond mae mynd i'r clwb ieuenctid ar nos Lun wedi helpu gyda fy hyder a'm hymddygiad ac wrth siarad â'r gweithwyr ieuenctid sylweddolais ei bod hi'n bwysig mynd i'r ysgol ar gyfer fy nyfodol, nid dim ond ar gyfer fy addysg."

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:

"Mae gwaith ieuenctid yn darparu llawer mwy na gweithgareddau yn unig - mae'n creu mannau diogel lle gall pobl ifanc ffynnu go iawn a chyrraedd eu llawn botensial.

"Rwy'n falch iawn o weld yr effaith y mae'r cynllun hwn yn ei chael ym Mlaenau Gwent, nid yn unig o ran gwella presenoldeb mewn ysgolion, ond hefyd gwella lles a hyder pobl ifanc. Mae'n rhoi llais i bobl ifanc ac yn eu helpu i wneud dewisiadau cadarnhaol a manteisio ar gyfleoedd a fydd yn llywio eu dyfodol."

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet Cyngor AƬ dros Bobl ac Addysg:

"Rydym ar daith, yn gweithio gyda'n hysgolion a'n partneriaid, i wella presenoldeb yma ym Mlaenau Gwent. Mae rôl gweithwyr ieuenctid yn ein hysgolion yn gwbl sylfaenol o ran helpu pobl ifanc i fynychu a chyflawni, yn ogystal â bod yn unigolyn dibynadwy fel clust i wrando a darparu cefnogaeth a chyngor."

Mae gwaith ieuenctid yn chwarae rhan allweddol yn y sector addysg ehangach. Yn ogystal â helpu i wella presenoldeb yn yr ysgol, gall sicrhau bod pobl ifanc yn hapus ac yn fodlon, yn cael eu cefnogi ac yn ddiogel, a'u bod yn gallu cael gafael ar gymorth pan fydd ei angen arnynt gan oedolyn dibynadwy.

Mae gweithwyr ieuenctid mewn sefyllfa unigryw i ymgysylltu â phobl ifanc mewn trafodaethau ynghylch ymddygiad peryglus ac yn aml yn gweithredu fel y cyswllt i gefnogaeth fwy arbenigol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu dros £11.4m i awdurdodau lleol drwy'r Grant Cymorth Ieuenctid yn 2025-26 i gefnogi darpariaeth gwaith ieuenctid ledled Cymru.

]]>
/cy/newyddion/cynllun-gwaith-ieuenctid-yn-hybu-presenoldeb-mewn-ysgolion-ym-mlaenau-gwent/ /cy/newyddion/cynllun-gwaith-ieuenctid-yn-hybu-presenoldeb-mewn-ysgolion-ym-mlaenau-gwent/ Mon, 03 Mar 2025 09:32:22 GMT Louise Bishop
Camtronics Limited yn Sicrhau Grant Datblygu Busnes i Wella Effeithlonrwydd Gweithredol Mae Camtronics Limited, Tredegar, Gwneuthurwr Contractau Electronig blaenllaw yn y DU, yn falch o gyhoeddi ei fod wedi derbyn Grant Datblygu Busnes. Mae'r grant wedi cefnogi prynu offer a pheiriannau newydd, gan wella effeithlonrwydd gweithredol a chynhyrchiant y cwmni'n sylweddol.

Mae'r grant wedi galluogi Camtronics Limited i leihau'r amser sydd ei angen ar gyfer tasg gritigol o 3.5 munud i ddim ond 10 eiliad. Bydd y gwelliant hwn yn arwain at arbedion effeithlonrwydd sylweddol mewn siopau, prynu a'r broses cydosod arwyneb, gan ganiatáu i'r cwmni ganolbwyntio mwy ar swyddogaethau craidd a gwella cynhyrchiant busnes ymhellach.

Mae gan Camtronics Limited, a sefydlwyd yn wreiddiol ym 1993 fel Novaspec Ltd, hanes cyfoethog o ddarparu Gwasanaethau Gweithgynhyrchu Electronig (EMS) cynhwysfawr i ystod amrywiol o bartneriaid diwydiant. Cafodd y cwmni ei brynu gan reolwyr yn 2018, sydd ers hynny wedi arwain at dwf refeniw trawiadol o £1.7m i £4.2m.

“Rydym wrth ein bodd i dderbyn y grant hwn, a fydd yn chwarae rhan hanfodol yn ein hymdrechion parhaus i wella ein galluoedd gweithgynhyrchu a chefnogi ein cynlluniau twf,” meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Camtronics Limited. “Bydd y buddsoddiad hwn nid yn unig yn gwella ein cynhyrchiant ond hefyd yn ein galluogi i barhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i’n cwsmeriaid.”

I gael rhagor o wybodaeth am Camtronics Limited a'i wasanaethau, ewch i'w gwefan neu cysylltwch â'u swyddfa yn Uned 1, Adeilad y Porth, Parc Busnes Tredegar, Tredegar, Gwent NP22 3EL.

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet - Lleoedd ac Adfywio a Datblygu Economaidd:

“Mae Camtronics Limited wedi mynd o nerth i nerth ers y pryniant gan y rheolwyr yn 2018. Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu cefnogi Camtronics Limited i wella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd. Fel Cyngor, rydym wedi ymrwymo i barhau i gefnogi busnesau lleol i greu cymunedau gwydn ac economi ffyniannus, gan sicrhau bod pobl yn gallu gweithio’n hyderus yn lleol.”

Ariennir Grant Datblygu Busnes AƬ gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a’i reoli gan Dîm Busnes ac Arloesi Cyngor AƬ. Nod y Grant Datblygu Busnes yw cefnogi twf a datblygiad busnesau newydd a phresennol ym Mlaenau Gwent. Mae’r cynllun bellach ar gau ond mae busnesau sydd angen cymorth ariannol yn cael eu hannog i lenwi’r ffurflen Mynegi Diddordeb ar-lein yn y ddolen isod ac os daw rhagor o arian ar gael o fis Ebrill 2025 ymlaen, byddwn yn cysylltu â busnesau sydd ar y rhestr aros.

 

]]>
/cy/newyddion/camtronics-limited-yn-sicrhau-grant-datblygu-busnes-i-wella-effeithlonrwydd-gweithredol/ /cy/newyddion/camtronics-limited-yn-sicrhau-grant-datblygu-busnes-i-wella-effeithlonrwydd-gweithredol/ Wed, 05 Mar 2025 11:26:14 GMT Carolyn Jenkins
Teuluoedd yn Gyntaf yn cyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau Gofal Cymdeithasol 2025

Da iawn i Dîm Teuluoedd yn Gyntaf Cyngor AƬ ar gyrraedd rownd derfynol categori Gwobrau Adeiladu Dyfodol Mwy Disglair Gofal Cymdeithasol Cymru yng Ngwobrau Gofal Cymdeithasol 2025 eleni.

Roedd y tîm yn falch o dderbyn llythyr oddi wrth Dawn Bowden AS, Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, yn rhannu ei llongyfarchiadau gyda’r tîm ar eu gwaith rhagorol a’u hymroddiad i’r rhai ym Mlaenau Gwent sy’n derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant.

Mae’r Gwobrau yn cydnabod, dathlu a rhannu gwaith nodedig ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Mae’r gwobrau’n cydnabod gwaith grwpiau, timau a sefydliadau, yn ogystal â gweithwyr o bob rhan o’r sectorau cyhoeddus, preifat, gwirfoddol a chydweithredol yng Nghymru.

Fel cyngor, hoffem ddymuno'r gorau i'r tîm sy'n mynd i'r gwobrau terfynol.

Cynhelir y gwobrau ar y 1af  o Fai yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.

]]>
/cy/newyddion/teuluoedd-yn-gyntaf-yn-cyrraedd-y-rhestr-fer-yng-ngwobrau-gofal-cymdeithasol-2025/ /cy/newyddion/teuluoedd-yn-gyntaf-yn-cyrraedd-y-rhestr-fer-yng-ngwobrau-gofal-cymdeithasol-2025/ Thu, 06 Mar 2025 14:22:49 GMT Emma Bennett
Plant ysgol yn dathlu Cerddoriaeth Gymreig trwy greu Anthem i Flaenau Gwent Dathlon ni Diwrnod Cerddoriaeth y Gymraeg ym mis Chwefror ac mae'n anrhydeddu sbectrwm bywiog cerddoriaeth Gymraeg. Ond nid dyma'r unig ddiwrnod y gallwch ddathlu cerddoriaeth Gymreig!

O indie a roc i werin a hip hop, mae yna gyfoeth o gerddoriaeth Gymraeg i'w harchwilio.

Mae gan Gymru dreftadaeth gerddorol gyfoethog, o'r anthem genedlaethol mewn gemau rygbi i restrau chwarae poblogaidd Spotify. Ar Dachwedd 27ain, 2024, gwahoddodd y Cyngor, fel rhan o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, Aelodau Cyngor Ysgolion Cynradd i greu anthem ar gyfer AƬ. Gydag arweiniad y cerddor dawnus Mei Gwynedd, fe wnaeth y plant lunio geiriau'r anthem, gan ddal hanfod eu cymuned.

Ar Ionawr 31ain, dychwelodd y plant ar gyfer sesiwn y cyngor mawreddog i ffilmio fideo cerddoriaeth unigryw. Fe wnaethon nhw berfformio gyda brwdfrydedd, gan fwynhau eu moment fel sêr pop. Roedd y diwrnod yn cynnwys perfformiad llawen o "Sosban Fach," wedi'i ganu gyda lleisiau ffyniannus a gwên llachar.

Bydd yr anthem hon yn etifeddiaeth barhaol i ysgolion, gan ddathlu ein plant a'n cymuned. Mae'n cynnig allfa greadigol a thraddodiad i drosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol. Wrth anrhydeddu ein hanes cyfoethog, edrychwn ymlaen at ddyfodol cyffrous.

Mwynhewch y fideo llawn

Darganfyddwch rhestri chwarae cerddoriaeth Gymreig gwych yma .

]]>
/cy/newyddion/plant-ysgol-yn-dathlu-cerddoriaeth-gymreig-trwy-greu-anthem-i-flaenau-gwent/ /cy/newyddion/plant-ysgol-yn-dathlu-cerddoriaeth-gymreig-trwy-greu-anthem-i-flaenau-gwent/ Mon, 17 Mar 2025 06:48:04 GMT Louise Bishop
Sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru yn addo defnyddio dull gweithredu newydd sy'n canolbwyntio ar oroeswyr a'r bobl sy'n dioddef profedigaeth drwy drasiedïau cyhoeddus Ymunwyd Cyngor AƬ â dros 50 o sefydliadau yng Nghymru i lofnodi'r Siarter ar gyfer y rhai sydd mewn profedigaeth, sy'n ymrwymo i ymateb i drychinebau cyhoeddus gyda didwylledd, tryloywder ac atebolrwydd.

Mae'r Siarter ar gyfer Teuluoedd sydd wedi Dioddef Profedigaeth drwy Drasiedi Gyhoeddus yn galw am newid diwylliannol yn y ffordd y mae cyrff cyhoeddus yn ymgysylltu â theuluoedd mewn profedigaeth, gan sicrhau bod y gwersi o drychineb Hillsborough 1989 a'r hyn a ddigwyddodd wedi hynny yn cael eu dysgu er mwyn atal pobl rhag cael yr un profiad yn y dyfodol.

Mae sefydliadau ledled Cymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, heddluoedd, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a gwasanaethau tân ac achub wedi ymrwymo i gynnig cymorth i deuluoedd sy'n dioddef profedigaeth a'r gymuned ar ôl digwyddiad mawr, gydag ymrwymiad clir i bobl ac i ddarparu gwasanaethau sy'n diwallu eu hanghenion cyn, yn ystod ac ar ôl digwyddiad.

Caiff digwyddiad lansio ei gynnal ym Merthyr Tudful ddydd Mawrth (18 Mawrth) ac yn bresennol yn y digwyddiad fydd yr Esgob James Jones KBE a ysgrifennodd y siarter fel rhan o'i adroddiad ar y gwersi i'w dysgu o drasiedi Hillsborough. Yn y digwyddiad hefyd fydd goroeswyr a phobl sydd wedi dioddef profedigaeth drwy drasiedïau cyhoeddus, gan gynnwys Hillsborough, Tŵr Grenfell, Arena Manceinion ac Aberfan, sydd ond dafliad carreg i ffwrdd o leoliad y lansiad.

Dywedodd yr Esgob Jones:

“Heddiw, mae Cymru yn arwain y ffordd gyda mwy na 50 o'i chyrff cyhoeddus yn llofnodi'r siarter. Wrth wneud hynny, mae diwylliant y sefydliadau wedi dechrau newid ac mae ymrwymiad o'r newydd i wasanaeth cyhoeddus ac i barchu dynoliaeth y rhai rydym yn cael ein galw i wasanaethu.

“Mae'r siarter yn cynrychioli addewid na chaiff unrhyw un ei gadael i lywio'i daith galaru a goroesi ar ei ben ei hun. Ni fydd neb yn dioddef 'tueddfryd nawddoglyd pŵer anesboniadwy' eto.

“Mae hyn yn foment allweddol ym mywyd y genedl wrth i ni groesawu egwyddorion y siarter ac addo parchu dynoliaeth pob un o'i dinasyddion a ddylai fod wrth galon pob gwasanaeth cyhoeddus.”

Dywedodd Dawn Docx, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, a chadeirydd y Cyd-grŵp Gwasanaethau Brys yng Nghymru:

 “Rydym yn cydnabod bod cydweithio wrth gefnogi teuluoedd y mae trasiedi gyhoeddus wedi effeithio arnynt yn hanfodol er mwyn sicrhau llesiant a gwydnwch ein cymunedau.

“Drwy gydweithio, gallwn ddefnyddio ein harbenigedd a'n hadnoddau cyfunol i roi cymorth ystyrlon i'r rhai mewn angen yn ystod argyfwng a thu hwnt.”

Ychwanegodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Mark Travis:

"Drwy lofnodi'r siarter, mae pob sefydliad yn gwneud datganiad cyhoeddus i ddysgu'r gwersi o drychineb Hillsborough a thrasiedïau eraill i sicrhau nad ydym byth yn anghofio am bersbectif teuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth ac i sicrhau eu bod yn cael eu trin â gofal a thosturi, nid yn unig yn ystod yr argyfwng a'r drasiedi ond yn ystod yr wythnosau, y misoedd a'r blynyddoedd sy'n dilyn.

"Er bod heddiw yn garreg filltir, yr her wirioneddol yw ymgorffori'r siarter yn ein hyfforddiant a'n diwylliant i sicrhau ei bod yn dod yn rhan annatod o'n hymateb i drasiedi gyhoeddus.

"Mae cyfraniad goroeswyr a phobl sydd wedi dioddef profedigaeth drwy drasiedïau cyhoeddus wedi bod yn hollbwysig i'r cam pwysig ymlaen rydym yn ei gymryd heddiw."

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Stephen Thomas:

"Mae'r Siarter ar gyfer Profedigaeth wedi'i sefydlu yn dilyn y gwersi a ddysgwyd o sawl trasiedi cyhoeddus proffil uchel ledled y DU. Mae llofnodi'r Starter yn atgyfnerthu ein hymrwymiad fel sefydliad cyhoeddus i drin teuluoedd mewn profedigaeth â'r urddas y maent yn ei haeddu ar ôl colli anwyliaid o ganlyniad i drasiedi gyhoeddus, ac ymateb iddynt yn agored a thryloyw, gan eu rhoi yn gyntaf."

]]>
/cy/newyddion/sefydliadau-cyhoeddus-yng-nghymru-yn-addo-defnyddio-dull-gweithredu-newydd-syn-canolbwyntio-ar-oroeswyr-ar-bobl-syn-dioddef-profedigaeth-drwy-drasiediau-cyhoeddus/ /cy/newyddion/sefydliadau-cyhoeddus-yng-nghymru-yn-addo-defnyddio-dull-gweithredu-newydd-syn-canolbwyntio-ar-oroeswyr-ar-bobl-syn-dioddef-profedigaeth-drwy-drasiediau-cyhoeddus/ Mon, 17 Mar 2025 10:30:29 GMT Louise Bishop
Diwrnod Rhyngwladol Dileu Gwahaniaethu ar sail Hil Wrth nodi Diwrnod Rhyngwladol Dileu Gwahaniaethu ar sail Hil, 21 Mawrth 2025, rydym yn dymuno taflu goleuni ar ymgyrch ‘Heart Work’ Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr. Wedi'i hariannu gan dîm Cydlyniad Cymunedol Gorllewin Gwent, cododd yr ysgol ymwybyddiaeth o ragfarn a gwahaniaethu hiliol trwy nifer o brosiectau.

Dechreuodd y prosiect ym mis Hydref 2024, i ddathlu a choffáu Hanes Pobl Dduon. Cynyddodd yr ysgol ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o hiliaeth a rhagfarn ymhlith aelodau'r ysgol a'r gymuned trwy amrywiaeth o weithgareddau gydol y mis. Cyflwynodd disgyblion ysgol wasanaeth i gymheiriaid a oedd yn hyrwyddo ymwybyddiaeth ddiwylliannol, yn dathlu cysylltiadau lleol â AƬ fel Paul Robeson ynghyd ag unigolion arwyddocaol eraill sydd wedi darparu effaith a chyfraniadau byd-eang. Gweithdai eraill y bu disgyblion yn cymryd rhan ynddynt drwy gydol y mis yn cynnwys creu mygydau wedi’u hysbrydoli gan Affrica, ‘sgwrs bwrdd’ gwrth-hiliaeth Dydd Mawrth: Sut i Fod yn Gynghreiriad, paentio arlliwiau croen amrywiol wedi’u hysbrydoli gan waith Kehinde Wiley, ynghyd â gweithdy clai lle bu disgyblion yn creu pabïau clai, a oedd yn caniatáu iddynt gysylltu â hanes ac anrhydeddu’r aberth a wnaed gan unigolion. Roedd hyn yn cynrychioli thema’r cofio yn ein hanes.

Er mwyn sicrhau llais y disgybl a’r cyfle i arwain, bu’r ysgol yn cydweithio â’i myfyrwyr-lysgenhadon a grwpiau ysgol megis amrywiaeth ddiwylliannol, hawliau’r plentyn a grwpiau gwrth-fwlio drwy gydol y prosiect hwn.

Creodd yr ysgol Gert Celf symudol pwrpasol fel gorsaf adnoddau gweithredol i gynnig gweithdy rhyngweithiol yn yr ysgol ac yn y gymuned.

Yn ystod eu stondin grefftau Gaeaf, roedd myfyrwyr mewn rolau arwain yn gallu cymryd rhan mewn sgyrsiau gydag ymwelwyr, ateb cwestiynau a rhannu gwybodaeth am y crefftau oedd ar gael a’u gwreiddiau diwylliannol oedd ag ystyr symbolaidd dwfn. Rhannodd myfyrwyr hefyd wybodaeth am yr hanes a'r symbolaeth y tu ôl i'r crefftau, gan feithrin dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o ddiwylliannau eraill a'u galluogodd i gymryd safiad tyner yn erbyn hiliaeth.

Er bod cymuned yr ysgol bob amser wedi ymgorffori gwerthoedd Cymreig o ysbryd cymunedol a charedigrwydd, roedd yn bwysig iddynt agor eu drysau i aelodau o'r gymuned nad oeddent efallai wedi cael profiad uniongyrchol o ethos yr ysgol.  Croesawodd Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr y gymuned leol i’w Strafagansa Gaeaf, a welodd ddisgyblion yn cynnig cymorth i ymwelwyr wrth greu celf a chrefft sy’n cael eu dathlu ledled y byd. Aeth disgyblion a staff allan i’r gymuned hefyd drwy ymweld â Chartref Gofal Bank House a chynnal digwyddiad llythrennedd a chrefft yn y Ganolfan Chwaraeon i rieni a phlant bach, lle bu iddynt roi cyflwyniad tyner i’r cysyniad o wrth-hiliaeth mewn ffordd gyfeillgar a chreadigol.

Cefnogodd y prosiectau tua 300 o aelodau'r gymuned trwy amrywiol ddigwyddiadau. Roedd pob gweithdy yn canolbwyntio ar werthoedd cyffredinol fel tegwch, cyfiawnder, empathi a pharch. Trwy grefftio, roedd yr ysgol yn gallu amlygu'r pethau sy'n ein cysylltu fel bodau dynol, gwaeth beth fo'n gefndir.  O adborth cadarnhaol a diddordeb a dderbyniwyd gan y gymuned, mae'r ysgol bellach yn gweithio ar ddatblygu'r prosiect hwn ymhellach.

Yn fwyaf diweddar, mae myfyrwyr wedi gweithio gyda'r artist Matt Joyce yn barod ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Ffoaduriaid sy'n cael ei choffau ar 16 – 22 Mehefin 2025. Yn ystod y gwaith hwn, cyflwynwyd disgyblion i grefft animeiddio trwy greu GIF. Cafodd y disgyblion hefyd gyfle i greu eu motiffau eu hunain (meme addurniadol) i hybu eu ‘hagwedd’ ar wrth-hiliaeth drwy gydol y flwyddyn

Antonia Lane – Dywedodd arweinydd y prosiect yn Gymuned Ddysgu Ebwy Fawr, fod y prosiect wedi cadarnhau eu hymrwymiad i greu diwylliant gwrth-hiliaeth.

Mae wedi amlygu sut y gallwch frwydro yn erbyn anghyfiawnder mewn ffordd dyner a meithringar heb ddieithrio pobl.  Mae wedi ein harwain i ganolbwyntio ar ddelfrydau cyffredinol fel goddefgarwch a pharch.  Daeth ein gweithdai yn fwy na dim ond lle i greu a phrynu crefftau; trawsnewidiodd yn gyfleoedd ar gyfer cyfnewid diwylliannol. Mae wedi dyrchafu ein safle yn y gymuned fel lloches i’r rhai sy’n ceisio noddfa, bod Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr yn lle cynhwysol i bawb ac wedi amlygu y gall cymunedau ddefnyddio mynegiant creadigol i hyrwyddo gwrth-hiliaeth a dealltwriaeth ryngddiwylliannol’.

 

]]>
/cy/newyddion/diwrnod-rhyngwladol-dileu-gwahaniaethu-ar-sail-hil/ /cy/newyddion/diwrnod-rhyngwladol-dileu-gwahaniaethu-ar-sail-hil/ Tue, 18 Mar 2025 09:12:55 GMT Carolyn Jenkins
Cacennau wedi'u Gwneud â Llaw Clam’s yn Derbyn Grant Datblygu Busnes Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol AƬ yn falch o gyhoeddi bod Clam’s Handmade Cakes (CHC), busnes teuluol bach yng Nglynebwy, wedi derbyn dau Grant Datblygu Busnes. Mae'r grantiau hyn yn cefnogi CHC i wella enw da eu busnes a gwella effeithlonrwydd cynhyrchu.

Mae CHC wedi bod yn cyflenwi caffis, bwytai a neuaddau bwyd o fri ar draws y DU yn llwyddiannus ers dros 20 mlynedd. Mae ganddyn nhw dros 100 o gwsmeriaid annibynnol, gan gynnwys cyfanwerthwyr bwyd wedi rhewi, cadwyni siopau coffi cenedlaethol, prifysgolion, clybiau pêl-droed yr uwch gynghrair, ac archfarchnadoedd.

Bydd y grant cychwynnol yn cefnogi dau brosiect allweddol:

Galluogodd Grant Datblygu Busnes cyntaf CHC i osod lloriau newydd mewn dwy ran o'r becws. Bydd hyn yn helpu gyda hylendid bwyd, gan eu galluogi i gyflenwi cyfrifon allweddol a darparu amgylchedd mwy diogel a glanach i staff.

Defnyddiwyd y grant ychwanegol i ddiweddaru'r becws gydag arwyddion newydd i wella enw da eu busnes gyda brandio newydd ac arwyddion clir. Hefyd, digideiddio cynhyrchu trwy fuddsoddi mewn technoleg fodern i wella effeithlonrwydd cynhyrchu trwy ddigideiddio, gan ddefnyddio sgriniau ac iPads.

Sylw gan Clam’s Handmade Cakes:

"Rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol AƬ. Mae'r grant hwn wedi ein galluogi i wella ein heffeithlonrwydd cynhyrchu a chynnal y safonau uchel o ansawdd a diogelwch bwyd y mae ein cwsmeriaid wedi dod i'w disgwyl. Rydym yn gyffrous i barhau i dyfu ein busnes a chyfrannu at y gymuned leol."

ѱ岹’r Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet dros Leoedd, Adfywio a Datblygu Economaidd, “Rydym wrth ein bodd yn cefnogi Clam’s Handmade Cakes yn eu hymdrechion i dyfu a gwella eu busnes. Edrychwn ymlaen at weld eu llwyddiant parhaus a’u cyfraniad i’r economi leol.”

Ariennir Grant Datblygu Busnes AƬ gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a’i reoli gan Dîm Busnes ac Arloesi Cyngor AƬ. Nod y Grant Datblygu Busnes yw cefnogi twf a datblygiad busnesau newydd a phresennol ym Mlaenau Gwent. Mae’r cynllun bellach ar gau ond mae busnesau sydd angen cymorth ariannol yn cael eu hannog i lenwi’r ffurflen Datganiad o ddiddordeb ar-lein yn y ddolen isod ac os daw rhagor o arian ar gael o fis Ebrill 2025 ymlaen, byddwn yn cysylltu â busnesau sydd ar y rhestr aros.

]]>
/cy/newyddion/cacennau-wediu-gwneud-a-llaw-clam-s-yn-derbyn-grant-datblygu-busnes/ /cy/newyddion/cacennau-wediu-gwneud-a-llaw-clam-s-yn-derbyn-grant-datblygu-busnes/ Thu, 20 Mar 2025 15:49:05 GMT Carolyn Jenkins
Ysgol Gynradd Rhos-y-Fedwen yn cychwyn twymyn dwtio i Gymru Da iawn i ddisgyblion Ysgol Gynradd Rhos-y-Fedwen yng Nglynebwy sydd wedi bod yn casglu sbwriel yn eu parc chwarae lleol heddiw.

Ar ddechrau Cadw Cymru'n Glân Cadwch Gymru'n Daclus, ymunodd grŵp Eco Rhyfelwyr yr ysgol a'u hathrawes Miss Bogue gan y cynghorwyr a'r Llywodraethwyr lleol, y Cynghorydd Gareth Davies a'r Cynghorydd David Wilkshire a'r Llywodraethwr Jackie Stephens. Roedd ein Swyddog Ansawdd Amgylcheddol Lleol, John Mewett hefyd wrth law i helpu gydag offer a chasglu'r bagiau.

Dywedodd y Cynghorwyr Davies a Wilkshire: "Rydym yn falch iawn o'r disgyblion heddiw. Mae mor bwysig cefnogi ein plant i allu ymfalchïo yn lle maen nhw'n byw ac yn dysgu, ac i feithrin ynddynt yr angen i ofalu am ein hamgylchedd."

]]>
/cy/newyddion/ysgol-gynradd-rhos-y-fedwen-yn-cychwyn-twymyn-dwtio-i-gymru/ /cy/newyddion/ysgol-gynradd-rhos-y-fedwen-yn-cychwyn-twymyn-dwtio-i-gymru/ Fri, 21 Mar 2025 16:33:05 GMT Louise Bishop
Penaethiaid yn dod ynghyd mewn digwyddiad ymwybyddiaeth Gwrth-Hiliaeth Mae Penaethiaid o bob rhan o Flaenau Gwent wedi mynychu Diwrnod Ymwybyddiaeth Gwrth-Hiliaeth yng Nghymuned Ddysgu Abertyleri.

Roedd y diwrnod yn gydweithrediad rhwng Cyngor AƬ, DARPL (Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-Hiliol) a Chymuned Ddysgu Abertyleri.

Cymerodd y Penaethiaid ran mewn sesiwn dysgu proffesiynol gyda DARPL, sy'n cefnogi arweinwyr ysgol ar draws system Addysg Cymru sydd wedi gwneud cyfraniadau rhagorol at Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Gwnaethant gyflwyniad ar sut y gellir cefnogi arweinwyr ysgol i wella ac ymgorffori gwrth-hiliaeth ar draws yr ysgol a'r cwricwlwm cyfan. Mwy am DARPL

Cafwyd cyflwyniadau gan ysgolion ar y gwaith da maen nhw wedi bod yn ei wneud ar wrth-hiliaeth gan Gymuned Ddysgu Abertyleri; Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr ac Ysgol Gynradd Coed-y-Garn ar waith ysgolion clwstwr yn ardal Brynmawr/Nant-y-glo.

Mae holl ysgolion AƬ yn gweithio'n agos gyda'r Cyngor ac yn cael eu cefnogi gan y Cyngor gyda'u cyfrifoldebau gwrth-hiliaeth a chydraddoldeb a rhoddodd y diwrnod ddiweddariadau ar Gynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor a'r Cynllun Gweithredu Gwrth-Hiliaeth ar gyfer Addysg, sydd wrthi’n cael ei ddatblygu, sy'n cefnogi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Bobl ac Addysg yn y Cyngor:

"Mae Cyngor AƬ a'n harweinwyr ysgol wedi eu huno yn y neges na fydd hiliaeth neu ragfarn o unrhyw fath yn cael eu goddef yn ein hysgolion nac yn ein cymunedau, ac rydyn ni’n gweithio'n agos gyda'n gilydd i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant fel na fydd casineb yn ennill.

"Mae gwrth-hiliaeth yn symud y tu hwnt i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a 'pheidio â bod yn hiliol' i wrthwynebu hiliaeth yn ei holl ffurfiau, herio, a bod yn eiriolwyr dros newid. Gall datblygu dull gwrth-hiliol gymryd amser, myfyrdod ac ymrwymiad ac rwy'n gwybod bod ein hysgolion yn ymrwymedig i feithrin dull ysgol gyfan i sicrhau'r profiadau gorau i'n plant a'n pobl ifanc."

Meddai Lisa Thomas, Pennaeth Ysgol Gynradd Georgetown a Chadeirydd y Grŵp Penaethiaid Cynradd ym Mlaenau Gwent:

"Mae polisi gwrth-hiliaeth, sydd wedi'i ymgorffori yn arfer pob ysgol ac sy’n gyson ar draws yr awdurdod lleol, yn sylfaen i system addysg gynhwysol. Roedd mor ddefnyddiol gweithio gyda staff o DARPL a chydweithwyr o bob rhan o'r Cyngor i fyfyrio ar ein polisïau presennol, i rannu arferion effeithiol a gweithio ar y cyd tuag at adeiladu Cymru Wrth-Hiliol."

]]>
/cy/newyddion/penaethiaid-yn-dod-ynghyd-mewn-digwyddiad-ymwybyddiaeth-gwrth-hiliaeth/ /cy/newyddion/penaethiaid-yn-dod-ynghyd-mewn-digwyddiad-ymwybyddiaeth-gwrth-hiliaeth/ Mon, 24 Mar 2025 09:51:05 GMT Louise Bishop
Mae CBS AƬ yn gwahodd ceisiadau cyllid gan bartïon yn y trydydd sector i gefnogi’r cyngor i gyflawni amcanion Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (y Gronfa) yn biler canolog o agenda Ffyniant Bro uchelgeisiol Llywodraeth y DU ac yn elfen sylweddol o’i chefnogaeth i leoedd ar draws y DU.

Prif nod y Gronfa yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU.

Mae’r Gronfa wedi’i rhannu’n dri maes blaenoriaeth:

• Cymuned a Lle
• Cefnogi Busnesau Lleol
• Pobl a Sgiliau

Mae’r grant hwn o dan y ddarpariaeth Cymuned a Lle ac mae ganddo ddau amcan, fel a ganlyn:

• Cryfhau ein gwead cymdeithasol a meithrin ymdeimlad o falchder a pherthyn lleol, trwy fuddsoddi mewn gweithgareddau sy’n gwella cysylltiadau ac amwynderau ffisegol, diwylliannol a chymdeithasol, megis seilwaith cymunedol a mannau gwyrdd lleol, a phrosiectau a arweinir gan y gymuned.

• Adeiladu cymdogaethau gwydn, diogel ac iach, trwy fuddsoddi mewn lleoedd o safon y mae pobl eisiau byw, gweithio, chwarae a dysgu ynddynt, trwy welliannau wedi’u targedu i’r amgylchedd adeiledig a dulliau arloesol o atal troseddu.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol AƬ yn gwahodd partïon yn y trydydd sector i wneud cais am gyllid i gefnogi’r cyngor i gyflawni amcanion y Gronfa.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm, 7 Ebrill 2025.

Dychwelwch ffurflenni cais i regeneration-projects@blaenau-gwent.gov.uk

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â regeneration-projects@blaenau-gwent.gov.uk

]]>
/cy/newyddion/mae-cbs-blaenau-gwent-yn-gwahodd-ceisiadau-cyllid-gan-bartion-yn-y-trydydd-sector-i-gefnogi-r-cyngor-i-gyflawni-amcanion-cronfa-ffyniant-gyffredin-y-du/ /cy/newyddion/mae-cbs-blaenau-gwent-yn-gwahodd-ceisiadau-cyllid-gan-bartion-yn-y-trydydd-sector-i-gefnogi-r-cyngor-i-gyflawni-amcanion-cronfa-ffyniant-gyffredin-y-du/ Mon, 24 Mar 2025 16:32:33 GMT Alan Powell
Tŷ Bedwellty yn cynnal noson fythgofiadwy wedi'i gwerthu allan gyda band Paid Gofyn Ar yr 21ain o Chwefror, gosododd Tŷ Bedwellty yn Nhredegar y llwyfan ar gyfer noson fythgofiadwy wrth groesawu Paid Gofyn, y band dwyieithog Cymraeg gyfoes enwog, i berfformio i dorf orlawn a brwdfrydig.

Band Paid Gofyn, sy'n enwog am eu dehongliadau modern o ganeuon gwerin glasurol Cymru a'u cyfansoddiadau eu hunain, wedi bod gyda'i gilydd ers tair blynedd yn diddanu miloedd ledled Cymru. Maent wedi addurno llwyfannau mawreddog, o'r Eisteddfod ym Mhontypridd i wyliau poblogaidd fel y Sioe Frenhinol a Ffiliffest yng Nghaerffili. Mae eu talent hefyd wedi croesi ffiniau, gan ennill gwahoddiadau iddynt i'r Ŵyl Pan Geltaidd yn Iwerddon, lle gwnaethant berfformio chwe chig trawiadol mewn dim ond tri diwrnod - i gyd ag adolygiadau gwych.

Gwelodd tŷ Bedwellty y band yn perfformio ochr yn ochr â band 10 Glyn Ebwy, gan swyno eu cynulleidfa gyda set fywiog o ffefrynnau newydd a hen. Roedd y mynychwyr ar eu traed yn dawnsio, yn canu ynghyd â chlasuron Cymreig fel 'Calon Lân' ac 'Yma o Hyd', ac yn y pen draw yn cyflwyno clap mawreddog gyda galwadau am encore.

Yn nodedig, ymddangosodd Paid Gofyn am y tro cyntaf ym Mlaenau Gwent yn 2023 yn Neuadd Ddawns Beaufort, perfformiad gyda chefnogaeth Menter Iaith a oedd yn garreg filltir wrth ddod â cherddoriaeth draddodiadol Gymraeg i gynulleidfaoedd Saesneg yn bennaf. Mae eu heffaith wedi tyfu ers hynny, ac maen nhw eisoes yn bwriadu dychwelyd i Theatr Beaufort ym mis Medi - digwyddiad sy'n addo noson arall i'w gofio.

Mae'r band yn ymfalchïo gyda cherddorion talentog: Eleri Darkins ar y delyn, Dafydd Roberts a Paul Snook ar y gitarau, Rob Dutt ar yr ukulele, Huw Blainey ar yr allweddellau a'r llais, Mered Dutt ar y drymiau, Frank Blackmore ar y bas, a llais syfrdanol Elin Haf Edwards.

Os nad ydych wedi gweld hud Paid Gofyn eto, peidiwch â cholli'ch cyfle! Mae tocynnau ar gyfer eu sioeau sydd ar ddod yn gwerthu allan yn gyflym - gwnewch yn siŵr eich bod yn eu dilyn ar Facebook neu ymweld â'u gwefan am y diweddariadau diweddaraf. Sicrhewch eich sedd a pharatowch i gael eich swyno gan draddodiadau cyfoethog cerddoriaeth Gymraeg sy'n dod yn fyw mewn ffyrdd newydd cyffrous.

Dewch o hyd i Paid Gofyn ar-lein: Gwefan: Paid Gofyn Facebook:  

Peidiwch â cholli—ymunwch â phrofiad Paid Gofyn heddiw!

]]>
/cy/newyddion/ty-bedwellty-yn-cynnal-noson-fythgofiadwy-wedii-gwerthu-allan-gyda-band-paid-gofyn/ /cy/newyddion/ty-bedwellty-yn-cynnal-noson-fythgofiadwy-wedii-gwerthu-allan-gyda-band-paid-gofyn/ Tue, 25 Mar 2025 16:05:13 GMT Carolyn Jenkins
Cyngor AƬ yn cymeradwyo gwaith i ddiogelu cymunedau rhag llifogydd Mae gwaith atal llifogydd wedi'i gymeradwyo ar gyfer y cymunedau ym Mlaenau Gwent yr effeithiwyd arnynt waethaf gan stormydd y llynedd.

Heddiw, mae Cyngor AƬ wedi cymeradwyo cynlluniau gwerth cyfanswm o £800,000, sy'n cynnwys gwaith ar gwlfer yn y Cwm ynghyd â draeniau gwell ac ailbroffilio'r lôn fynediad yng nghefn Stryd y Brenin; ailosod a gwella cwlfer yn Llanhiledd a mesurau amddiffyn rhag llifogydd ar gyfer eiddo yn Stryd yr Eglwys, Tredegar.

Gwnaeth y Cyngor y penderfyniad i symud ymlaen ar frys i sicrhau'r arbenigedd sydd ei angen ac i recriwtio contractwyr cyn gynted â phosibl.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer gwaith cychwynnol i'r domen lo yng Nghwmtyleri a brofodd dirlithriad fis Tachwedd diwethaf. Mae ymchwiliadau ar y safle bellach wedi dod i ben a byddant yn llywio'r rhaglen waith yn y dyfodol sydd ei hangen er diogelwch tymor hwy y domen.

ѱ岹’r Cynghorydd Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Leoedd a'r Amgylchedd:

"Rwy'n falch bod cynghorwyr yn unfrydol wedi cefnogi'r penderfyniad brys i wneud gwaith atal llifogydd yn yr ardaloedd a darwyd galetaf gan ddigwyddiadau tywydd diweddar. Rydw i wedi gweld gyda’m llygaid fy hun y dinistr a achoswyd i gartrefi a chymunedau yn ystod Storm Bert. Mae angen i ni weithredu'n gyflym i roi mesurau ar waith i amddiffyn y llefydd mwyaf agored i niwed."

Dioddefodd dros 100 o gartrefi ym Mlaenau Gwent lifogydd yn ystod glaw digynsail Storm Bert fis Tachwedd diwethaf. Gwnaeth y Cyngor gynnig cefnogaeth gyda glanhau a mynediad at gymorth ariannol, gan gynnwys ei gynllun grant adfer llifogydd ei hun a sefydlwyd yn gyflym i helpu trigolion ar y pryd.

Bydd gwaith ar y cwlfer yn y Cwm yn cynyddu'r capasiti yn ystod cyfnodau hir o law trwm ac yn caniatáu mynediad diogel i beiriannau at ddibenion glanhau. Yn Stryd y Brenin, bydd draenio gwell yn cael ei ddatblygu, yn ogystal â chwlfer cario dŵr wyneb newydd, a bydd wyneb y lôn yn cael ei ailbroffilio i ddargyfeirio dŵr i ffwrdd o eiddo.

Yn Llanhiledd, bydd y gwaith yn cynnwys ailosod ac uwchraddio'r cwlfer presennol o arglawdd y rheilffordd ger Stryd y Rheilffordd i lawr i'r afon. Bydd y cwlfer yn cael ei wneud yn fwy i gynyddu capasiti ac yn gollwng i'r afon mewn lleoliad newydd i lawr yr afon o'r orsaf bwmpio.

Yn Stryd yr Eglwys, Tredegar, bydd y gwaith yn cynnwys mesurau amddiffyn rhag llifogydd a mesurau ategol eraill i amddiffyn rhag llifogydd yn y dyfodol. Mae'r eiddo hyn wedi cael eu heffeithio gan lifogydd sawl gwaith.

]]>
/cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-cymeradwyo-gwaith-i-ddiogelu-cymunedau-rhag-llifogydd/ /cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-cymeradwyo-gwaith-i-ddiogelu-cymunedau-rhag-llifogydd/ Thu, 27 Mar 2025 10:48:27 GMT Louise Bishop
Cyngor AƬ yn cyflawni statws cyflogwr hyderus i bobl anabl lefel 2

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol AƬ yn falch o gyhoeddi ei fod wedi cyflawni statws Cyflogwr Hydarus Lefel 2: Anabledd, gan ailddatgan ei ymrwymiad i feithrin gweithle cynhwysol a chefnogol. Daw'r gydnabyddiaeth hon fel rhan o fenter Disability Confident Llywodraeth y DU, sy'n annog cyflogwyr i recriwtio, cadw a datblygu unigolion talentog ag anableddau a chyflyrau iechyd.

Mae'r cynllun Disability Confident yn cynnwys tair lefel sydd wedi'u cynllunio i gefnogi sefydliadau:

1.                       Lefel 1: Anabledd Hyderus Ymrwymedig

2.                       Lefel 2: Cyflogwr Hyderus i Anabledd

3.                       Lefel 3: Arweinydd Hyderus i Bobl Anabledd

Ar ôl ennill statws Lefel 1 o'r blaen, mae ailasesiad diweddar y Cyngor wedi cadarnhau ei gynnydd i Lefel 2. Mae'r cyflawniad hwn yn tanlinellu ein hymroddiad i greu gweithle lle mae pawb yn cael y cyfle i ffynnu.

Er mwyn cryfhau ein dealltwriaeth o arferion cyflogaeth cynhwysol ymhellach, ymwelodd ein Hyrwyddwr Aelodau Cydraddoldeb, y Cynghorydd Chris Smith â busnes lleol yn ddiweddar, ELITE Clothing Solutions, sydd wedi'i leoli yng Nglyn Ebwy. Wedi'i sefydlu o dan gynllun Gwell Swyddi yn Agosach at Gartref Llywodraeth Cymru yn 2019, mae Elite Clothing Solutions yn darparu cyfleoedd cyflogaeth ystyrlon, gyda 50% o'i weithlu yn cynnwys unigolion ag anableddau. Treuliodd y Cynghorydd Chris Smith, ein Hyrwyddwr Aelodau Cydraddoldeb, amser gyda'r tîm yn Elite, yn dysgu am eu gweithrediadau ysbrydoledig a'u dull cynhwysol.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Smith: "Mae cyflawni statws Cyflogwr Hyderus i'r Anabledd Lefel 2 yn adlewyrchu ein hymrwymiad dwfn i adeiladu gweithle lle gall pawb, waeth beth fo'u gallu, lwyddo a chyfrannu. Roedd ein hymweliad ag ELITE Clothing Solutions yn wirioneddol ysbrydoledig, ac roeddwn i'n ostyngedig o weld y gwaith anhygoel maen nhw'n ei wneud i greu cyfleoedd i unigolion ag anableddau. Mae'r garreg filltir hon yn atgyfnerthu ein gweledigaeth o gydraddoldeb a chynhwysiant fel egwyddorion craidd ar gyfer AƬ."

Rhoddodd yr ymweliad hwn fewnwelediadau gwerthfawr, gan arddangos yr effaith drawsnewidiol y gall systemau cymorth effeithiol ei chael ar unigolion a sefydliadau. Mae ECS yn enghraifft o'r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd cynhwysiant yn dod yn flaenoriaeth.

Wrth i ni ddathlu cyflawni statws Lefel 2, rydym yn estyn ein diolch o galon i Elite Clothing Solutions am eu croeso cynnes ac am fod yn enghraifft ragorol o arferion gorau mewn cyflogaeth gynhwysol. Rydym yn annog pawb i archwilio eu gwaith anhygoel ymhellach ar eu gwefan:

]]>
/cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-cyflawni-statws-cyflogwr-hyderus-i-bobl-anabl-lefel-2/ /cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-cyflawni-statws-cyflogwr-hyderus-i-bobl-anabl-lefel-2/ Wed, 02 Apr 2025 11:34:20 GMT Carolyn Jenkins
AƬ yn Cyflwyno Gwiriwr Cwmpas Symudol Chwyldroadol

Mewn ymateb i adborth gan staff a phreswylwyr am faterion darpariaeth symudol, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol AƬ wedi partneru â Streetwave gan ddefnyddio cyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU i lansio gwiriwr darpariaeth symudol arloesol. O ganlyniad i'r bartneriaeth hon, mae Cyngor AƬ yn falch iawn o gyhoeddi ei fod bellach yn gallu sicrhau bod y data hwn ar gael trwy wiriwr darpariaeth symudol newydd.

Gan ddechrau ym mis Tachwedd 2024, dechreuodd Cyngor AƬ weithio gyda Streetwave i fesur ac asesu ansawdd signal symudol ledled y fwrdeistref. Nod y prosiect hwn yw cynorthwyo trigolion a busnesau i ddewis y rhwydweithiau symudol gorau ar gyfer eu hanghenion. Mae’n golygu, pan fyddwn yn gwneud penderfyniadau rhwydwaith symudol yn y dyfodol, y gallwn sicrhau ein bod yn gallu dewis y rhwydwaith sy’n gweddu orau i’n hanghenion beunyddiol.

Mae ansawdd rhwydweithiau symudol yn cael ei fonitro’n barhaus ar draws y pedwar darparwr mawr yn y DU:

EE, O2, Three, a Vodafone.

Yn wahanol i wirwyr darpariaeth traddodiadol, sy’n dibynnu ar fodelau mathemategol ac arolygon cyfyngedig, mae gwiriwr darpariaeth AƬ yn defnyddio data byd go iawn a gesglir y tu allan i bron bob cyfeiriad yn y fwrdeistref. Mae hyn yn rhoi darlun clir o ba rwydweithiau symudol sy'n cynnig y cyflymderau cyflymaf a'r ddarpariaeth orau.

Gall preswylwyr ddefnyddio'r dolenni isod i wirio'r union gyflymder i lawrlwytho a lanlwytho gan EE, Vodafone, Three, ac O2 . Mae'r gwiriwr darpariaeth yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio ac mae ar gael ar gyfer cyfeiriadau o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol AƬ.

Yn ogystal, mae map rhyngweithiol sy'n dangos cwmpas ar draws y fwrdeistref gyfan.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi gyda’r darparwr cywir ar gyfer yr hyn sydd ei angen arnoch chi! Yn syml, rhowch eich cod post a dewiswch eich cyfeiriad i weld y canlyniadau.

Cliciwch ar y ddolen isod i wirio’r cwmpas

Dysgwch fwy am fethodoleg Streetwave yma:

 

©2025 Streetwave Ltd - Cedwir pob hawl. Mae Streetwave Ltd yn cadw perchnogaeth ar y mewnwelediad hwn, gan gynnwys yr holl hawliau eiddo deallusol, data, cynnwys, graffiau a dadansoddiad. Ni cheir dyfynnu, atgynhyrchu, dosbarthu na chyhoeddi adroddiadau a mewnwelediadau a gynhyrchir gan Streetwave Ltd at unrhyw ddiben masnachol (gan gynnwys eu defnyddio mewn hysbysebion neu gynnwys hyrwyddo arall) heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw. Anogir newyddiadurwyr i ddyfynnu gwybodaeth sydd wedi'i chynnwys mewn adroddiadau a mewnwelediadau Streetwave, ar yr amod eu bod yn cynnwys priodoliad ffynhonnell clir. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â press@streetwave.co

]]>
/cy/newyddion/blaenau-gwent-yn-cyflwyno-gwiriwr-cwmpas-symudol-chwyldroadol/ /cy/newyddion/blaenau-gwent-yn-cyflwyno-gwiriwr-cwmpas-symudol-chwyldroadol/ Fri, 04 Apr 2025 08:04:34 GMT Carolyn Jenkins
Cefnogi plant i fod yn iach ym Mlaenau Gwent – digwyddiad yn dathlu gwaith par-tneriaeth Mae Cyngor AƬ wedi cynnal digwyddiad i ddathlu'r gwaith partneriaeth sy'n cefnogi ysgolion a lleoliadau gofal plant i ddatblygu arferion iach ymhlith plant ifanc.

Mae'r agwedd Iechyd a Lles ar y Cwricwlwm i Gymru yn cynnwys cefnogi plant a phobl ifanc i ofalu am eu lles corfforol ac emosiynol, a rhan ohono yw hyrwyddo a darparu cyfleoedd ar gyfer bwyta'n iach a hydradu’n dda. Mae ysgolion a lleoliadau gofal plant yn cael eu cefnogi gyda hyn drwy gydweithio rhwng y Cyngor, Rhwydwaith Ysgolion Hybu Iechyd Cymru, y Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy, Tai Cymunedol Tai Calon a gweithwyr proffesiynol allweddol eraill. Y nod yw darparu arferion ac arweiniad enghreifftiol i leoliadau/ysgolion y gellid eu gweithredu i hyrwyddo dull ysgol gyfan/lleoliad cyfan o ran ffyrdd iach o fyw.

Mae Cynllun Gweithredu wedi'i gytuno ar gyfer ysgolion a lleoliadau gofal plant i ddilyn arfer gorau ac arweiniad ar gyfer darparu bwyd a diod trwy gydol y dydd.

Roedd y digwyddiad dathlu yng Nglynebwy yn gyfle i arddangos y prosiectau pontio llwyddiannus rhwng sefydliadau cyn-ysgol ac ysgolion sydd wedi datblygu ac esblygu ers mis Medi 2024. Mae'r trawsnewidiad yn helpu plant i ofalu am eu lles corfforol ac emosiynol, tra'n dysgu am bwysigrwydd bwyta'n iach. Mynychodd Sefydliad Maeth Prydain y digwyddiad hefyd.

Meddai'r Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet y Cyngor dros Bobl ac Addysg:

"Mae'r bwyd a'r diod a gynigir mewn ysgolion a lleoliadau gofal plant yn chwarae rhan bwysig yn iechyd plant a gall helpu i ddatblygu arferion bwyta da i'w paratoi ar gyfer y dechrau gorau mewn bywyd, sy'n flaenoriaeth i ni fel Cyngor Marmot. Mae amseroedd byrbrydau hefyd yn gyfle gwych i blant ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu, annibyniaeth a rhifedd.

"Roedd yn wych gweld yr holl waith da sy'n digwydd gyda phlant a theuluoedd ym Mlaenau Gwent, gyda phawb yn canolbwyntio ar helpu plant a theuluoedd i ddechrau a chynnal ffordd iach o fyw."

]]>
/cy/newyddion/cefnogi-plant-i-fod-yn-iach-ym-mlaenau-gwent-digwyddiad-yn-dathlu-gwaith-par-tneriaeth/ /cy/newyddion/cefnogi-plant-i-fod-yn-iach-ym-mlaenau-gwent-digwyddiad-yn-dathlu-gwaith-par-tneriaeth/ Fri, 04 Apr 2025 08:32:00 GMT Louise Bishop
ICAX Limited yn Derbyn Grant Datblygu Busnes i Wella Atebion Ynni Adnewyddadwy Mae ICAX Limited, cwmni arloesi technoleg glân blaenllaw sy’n arbenigo mewn dylunio systemau adnewyddadwy a phympiau gwres, yn falch o gyhoeddi derbyn Grant Datblygu Busnes gan Gyngor Bwrdeistref Sirol AƬ. Bydd y grant hwn yn cefnogi ymdrechion ICAX i ddilysu ac ardystio ei gynhyrchion arloesol, gan gadarnhau ymhellach ei safle yn y farchnad ynni adnewyddadwy.

Bydd y grant yn cael ei ddefnyddio i ariannu ymgynghoriaeth allanol ar gyfer dilysu perfformiad cynnyrch trydydd parti, yn benodol ar gyfer y Cynllun Ardystio Microgynhyrchu (MCS). Mae MCS yn darparu ardystiad annibynnol o gynhyrchion carbon isel, gan sicrhau eu hansawdd a'u diogelwch. Bydd ennill ardystiad MCS ar gyfer Pwmp Gwres ICAX Seren 10 yn dangos ei ansawdd a'i ddiogelwch uchel i gwsmeriaid, gan alluogi masnacheiddio cyflymach a chyrhaeddiad marchnad cynyddol.

Mae cyfleuster ICAX yn Blaenau yn cynhyrchu ystod o gynhyrchion Seren, gan gynnwys pwmp gwres ffynhonnell aer Seren 10 (ASHP), uned hydrolig Seren Hub, a rheolydd pad cyffwrdd Seren Slate. Mae'r cynhyrchion hyn wedi'u datblygu'n ofalus ar gyfer y farchnad ôl-osod domestig trwy brosesau Ymchwil a Datblygu systematig. Mae'r cwmni hefyd wedi creu technoleg ThermalBankTM, sy'n galluogi gwresogi ac oeri cynaliadwy trwy ailgylchu ynni gwres yn rhyng-dymhorol.

“Rydym wrth ein bodd i dderbyn y grant hwn, sydd wedi ein helpu i ddilysu ac ardystio ein datrysiadau pwmp gwres arloesol,” meddai Mark Hewitt, Prif Swyddog Gweithredol, ICAX Limited[GA1] . "Bydd y gefnogaeth hon yn ein galluogi i ddangos ansawdd a diogelwch uchel ein cynnyrch, gan sefydlu ICAX ymhellach fel arweinydd yn y farchnad ynni adnewyddadwy."

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet dros Leoedd, Adfywio a Datblygu Economaidd, "Rydym yn hynod falch o gefnogi ICAX yn eu hymdrechion i ddod ag Ateb Ynni Adnewyddadwy mor arloesol i'r farchnad a mwy o gyflogaeth i'r ardal gyfagos. Edrychwn ymlaen at eu llwyddiant parhaus a'u cyfraniad i'r economi leol."

Ariennir Grant Datblygu Busnes AƬ gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ac fe’i rheolir gan Dîm Busnes ac Arloesi Cyngor AƬ. Nod y Grant Datblygu Busnes yw cefnogi twf a datblygiad busnesau newydd a phresennol ym Mlaenau Gwent. Mae’r cynllun bellach ar gau ond mae busnesau sydd angen cymorth ariannol yn cael eu hannog i lenwi’r ffurflen Datganiad o Ddiddordeb ar-lein yn y ddolen isod ac os daw rhagor o arian ar gael o fis Ebrill 2025 ymlaen, byddwn yn cysylltu â busnesau sydd ar y rhestr aros.

]]>
/cy/newyddion/icax-limited-yn-derbyn-grant-datblygu-busnes-i-wella-atebion-ynni-adnewyddadwy/ /cy/newyddion/icax-limited-yn-derbyn-grant-datblygu-busnes-i-wella-atebion-ynni-adnewyddadwy/ Tue, 08 Apr 2025 09:58:07 GMT Carolyn Jenkins
Yr athletwr a dorrodd recordiau, Steve Jones MBE, OLY yn derbyn Rhyddid y Fwrdeistref Heddiw, mae'r marathonwr Steve Jones MBE, OLY wedi derbyn Rhyddid Bwrdeistref Sirol AƬ yn swyddogol am ei gyfraniad eithriadol at y byd rhedeg.

Rhoddodd cynghorwyr yr anrhydedd mewn cyfarfod ar-lein – gyda'r torrwr recordiau Steve (sy’n cael ei nabod fel 'Jonesy') yn mynychu’n fyw o'i gartref yn Colorado, yr Unol Daleithiau. Gwnaeth ei deulu a’i ffrindiau hefyd ymuno ar gyfer yr achlysur pwysig.

Nododd y llynedd 40 mlynedd ers buddugoliaeth aruthrol Steve Jones ym Marathon Chicago ym 1984, buddugoliaeth a ddaliodd sylw’r byd a chadarnhau ei le yn hanes athletau. Ar y diwrnod hwnnw ym 1984, gwnaeth Jones o Lynebwy nid yn unig groesi’r llinell derfyn yn gyntaf ond hefyd chwalu recordiau, gan ddangos cyfuniad rhyfeddol o ddyfalbarhad, penderfyniad, ac ewyllys pur. Gosododd record byd newydd, gan gwblhau'r cwrs mewn 2 awr, 8 munud a 5 eiliad, sy’n amser rhyfeddol.

Mae'r mis hwn hefyd yn nodi 40 mlynedd ers i Steve gipio teitl Marathon Llundain. Mae ei restr o gyflawniadau rhedeg yn drawiadol a gellir dod o hyd iddi yma:

Mae record Steve hefyd yn cynnwys ennill Marathonau Efrog Newydd a Toronto.

Cyflawnodd Steve hyn i gyd wrth wasanaethu'n falch yn yr Awyrlu Brenhinol. Roedd Swyddog Awyr Cymru, y Comodor Awyrlu Rob Woods, hefyd ar yr alwad a siaradodd am wasanaeth Steve fel Technegydd Cyrff Awyrennau, gan weithio ar y C130 Hercules a'r F4 Phantoms.

O dras ddiymhongar, mae Steve, sy'n troi'n 70 eleni, bob amser wedi cadw ei draed ar y ddaear mewn perthynas â’i gyflawniadau anhygoel ar lwyfan y byd. Dywedodd unwaith, "Rwy'n rhedeg gyda fy mhen, fy nghalon a'm perfedd, oherwydd yn gorfforol, dydw i ddim yn credu bod gen i lawer o dalent neu allu. Dechreuais ar y gwaelod a gweithiais fy ffordd i fyny."

Daliodd Steve record marathon Prydain (2:07:13) am 33 mlynedd nes i Mo Farah ei thorri yn 2018!

Dechreuodd redeg fel rhan o dîm o'r Corfflu Hyfforddiant Awyr yng Nglynebwy. Gofynnwyd iddo gymryd rhan mewn pencampwriaeth traws gwlad yn Ynys y Barri ar ôl i gadet arall dynnu allan. Daeth yn 5ed y diwrnod hwnnw yn ei sgidiau ‘Woolworth's’ ac mae’r gweddill (yn llythrennol!) yn hanes.

Llun: Mike Powell

Wrth dderbyn yr anrhydedd heddiw, dywedodd Steve:

"Mae'n anrhydedd enfawr derbyn Rhyddid Bwrdeistref Sirol AƬ, fy man geni a’m cyn-gartref, lle mae gen i lawer o deulu a ffrindiau. Mae'n deimlad anhygoel ac rwy'n dychmygu mai dim ond y bobl sydd wedi ei dderbyn o'm blaen all ddeall yn iawn. Cefais fy magu fel llawer o blant a phobl ifanc bryd hynny heb lawer, ond rydyn ni ddosbarth gweithiol Cymru yn oroeswyr, ac rwy'n hynod falch o’m gwreiddiau! Doedd gen i ddim cit rhedeg soffistigedig, dim ond pâr o siorts a chrys-t a’m sgidiau Woolworth's, felly byddwn i'n dweud wrth unrhyw un, gyda gwaith caled, penderfyniad a chred ynoch chi’ch hun, y gallwch chi gyflawni unrhyw beth. Diolch i bawb sydd wedi fy nghefnogi trwy gydol fy ngyrfa redeg, rwy'n eich gwerthfawrogi chi i gyd yn fawr."

Mae Steve, sy’n ddyn teulu, yn byw gyda'i wraig Annette, sydd hefyd o Lynebwy. Mae'n dal i ymwneud â rhedeg, bellach yn hyfforddi pobl sy'n gadael y coleg lle mae'n byw – mae’n rhaid eu bod nhw’n teimlo’n lwcus iawn i gael hyfforddwr o'r fath.

Mae'r Cyngor yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Chlwb Rhedeg Parc Bryn Bach i goffáu cyflawniadau Steve ac arddangos ei fuddugoliaethau yn yr ardal leol. Y nod yw sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn cael eu hysbrydoli gan ei daith ryfeddol a bod ei etifeddiaeth yn parhau i ysgogi darpar athletwyr.

Dywedodd Arweinydd Cyngor AƬ, Steve Thomas:

"Mae Steve Jones yn arwr go iawn, ac mae ei stori yn ymgnawdoli ysbryd AƬ! Mae'n parhau’n ddiymhongar hyd heddiw, sy’n dyst i’w gymeriad o ystyried ei gyflawniadau, a ryfeddodd lawer yn y byd rhedeg. Mae Steve nid yn unig yn eicon rhedeg byd-eang ond hefyd yn un ohonon ni - dyn y mae ei daith anhygoel o galon Glynebwy i enwogrwydd rhyngwladol mor ysbrydoledig ag y mae'n rhyfeddol. Mae ei gyflawniadau’n brawf o'r hyn y gellir ei gyflawni trwy benderfyniad pur, ymdrech, ac angerdd diwyro. Mae ei stori’n dangos i ni nad yw mawredd yn dibynnu ar fraint, ond ar ddyfalbarhad, gwaith caled, a chred ddiysgog ynoch chi’ch hun.

"Mae anrhydeddu Steve gyda'r wobr fawreddog hon yn fwy na chydnabod ei ragoriaeth athletaidd, mae'n ymwneud â dathlu ei rôl fel symbol o ddyfalbarhad, rhagoriaeth a balchder i Flaenau Gwent.

"Mae'n deyrnged i ŵr sy'n ein hatgoffa bod hyd yn oed y breuddwydion mwyaf uchelgeisiol o fewn cyrraedd, ac mae'n alwad i ysbrydoli ein hieuenctid i estyn at fawredd. Gadewch i ni sicrhau bod stori Steve yn parhau i fod yn gonglfaen i'n treftadaeth gyffredin, gan ein hatgoffa am byth o bŵer gwytnwch a balchder ein cymuned."

Mae Lee Aherne, Cadeirydd Clwb Rhedeg Parc Bryn Bach, wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r Cyngor ar y cynlluniau i anrhydeddu Steve. Meddai:

"Fel Cadeirydd Clwb Rhedeg Parc Bryn Bach, roedd yn anrhydedd fawr fod Steve wedi derbyn ein gwahoddiad i ddod ein haelod anrhydeddus cyntaf yn 2017. Mae gweld Steve yn mynd ymlaen i dderbyn MBE a nawr Ryddid AƬ yn dyst i'w yrfa athletaidd ragorol."

]]>
/cy/newyddion/yr-athletwr-a-dorrodd-recordiau-steve-jones-mbe-oly-yn-derbyn-rhyddid-y-fwrdeistref/ /cy/newyddion/yr-athletwr-a-dorrodd-recordiau-steve-jones-mbe-oly-yn-derbyn-rhyddid-y-fwrdeistref/ Tue, 08 Apr 2025 12:11:42 GMT Louise Bishop
Ymrwymiad parhaus i gefnogi Cymuned Lluoedd Arfog AƬ Mae Cyngor AƬ a'i bartneriaid wedi ailddatgan eu hymrwymiad i gefnogi aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog.

Yn ddiweddar, ail-lofnododd y Cyngor Gyfamod y Lluoedd Arfog yn ei fformat newydd fel dogfen genedlaethol sengl. Mae hwn yn addewid gan y genedl i’r rhai sydd yn neu wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, a'u teuluoedd, gael eu trin yn deg.

Gwahoddodd Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog ar gyfer y Cyngor, y Cynghorydd Derrick Bevan, gynghorwyr a chynrychiolwyr o Gymuned y Lluoedd Arfog i'r Swyddfeydd Cyffredinol i nodi'r ail-lofnodi.

Meddai: "Rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid i gefnogi ein cymuned lluoedd arfog yma ym Mlaenau Gwent. Rydym wedi adolygu polisïau allweddol, gan gynnwys addysg a thai, i adlewyrchu ein hymrwymiad o dan y Cyfamod i ddileu unrhyw anfanteision i bobl wrth gael mynediad at wasanaethau sy'n deillio o'u haelodaeth bresennol neu flaenorol o'r lluoedd arfog.

"Mae llawer o ddynion a menywod o Flaenau Gwent wedi gwasanaethu'n falch.  Mae coffáu'r gwasanaeth hwn hefyd yn rhan bwysig o'n gwaith. Rwy'n gwybod bod llawer o sefydliadau a gwirfoddolwyr lleol eisoes yn gweithio'n galed ar ddigwyddiadau i nodi 80 mlwyddiant VE a VJ eleni."

Mae nifer sylweddol o fusnesau ym Mlaenau Gwent hefyd wedi llofnodi'r Cyfamod. Mae ein hymrwymiad yn adlewyrchu cefnogaeth gref cymunedau yma ym Mlaenau Gwent i'n lluoedd arfog.  Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am ein cefnogaeth i'r Lluoedd Arfog yma:

]]>
/cy/newyddion/ymrwymiad-parhaus-i-gefnogi-cymuned-lluoedd-arfog-blaenau-gwent/ /cy/newyddion/ymrwymiad-parhaus-i-gefnogi-cymuned-lluoedd-arfog-blaenau-gwent/ Thu, 10 Apr 2025 05:41:49 GMT Louise Bishop
Copner Biotech Ltd yn sicrhau Grant Datblygu Busnes Mae Copner Biotech Ltd, cwmni biotechnoleg arloesol sydd wedi’i leoli yng Nglynebwy, wrth ei fodd i gyhoeddi ei fod wedi derbyn tri Grant Datblygu Busnes. Bydd y grantiau hyn yn allweddol wrth uwchraddio eu bioargraffydd allwthio presennol, y GRAPE-S1, i gynnwys amgylchedd ystafell lân adeiledig a nodweddion meddalwedd newydd. Yn ogystal, bydd y cyllid yn ehangu eu portffolio eiddo deallusol i gynnwys patentau Ewropeaidd ac UDA, gan hwyluso lansiad Ewropeaidd y cwmni yn Medica 2023.

Wedi'i sefydlu yn 2020 mae Copner Biotech wedi datblygu fformat perchnogol ar gyfer modelu 3D, gan arwain at greu a dilysu sgaffaldiau meithriniad celloedd a thechnoleg bioargraffu. Mae'r cwmni sydd wedi'i leoli yng Nghanolfan Arloesedd Glynebwy wedi derbyn gwobrau arloesi lluosog, gan gynyddu nifer ei staff i dri. Ar hyn o bryd mae Copner Biotech yn dal pedwar patent y DU a ganiatawyd, gyda phedwar cais arall yn y DU ar waith, sydd ynghyd â cheisiadau patent cyfatebol gan y Swyddfa Gymreig yn llunio portffolio eiddo deallusol sylweddol.

Mae amcanion tymor byr y busnes yn cynnwys sicrhau’r holl eiddo deallusol yn y DU, Ewrop, a’r Unol Daleithiau, a datblygu methodoleg LEAN i gynhyrchu offer bioargraffu cenhedlaeth nesaf. Mae nodau hirdymor yn cynnwys ehangu i farchnadoedd tramor ac agor safleoedd newydd yn Ewrop a'r Unol Daleithiau, tra'n cynnal eu pencadlys yng Nglynebwy.

Mae'r Grant Datblygu Busnes hefyd wedi cefnogi prynu offer TG ar gyfer swyddi newydd a grëwyd drwy'r cynllun Quickstart, gyda'r nod o gadw'r swyddi hyn yn llawn amser ar ôl y lleoliad. Bydd y gallu newydd hwn yn gwella ymchwil a datblygu cyffredinol ar safle Glynebwy ac yn helpu i gynhyrchu bioargraffwyr wrth symud ymlaen.

Mae Copner Biotech wedi ymrwymo i wella cynhyrchiant mewn ymchwil hanfodol a lleihau’r defnydd o anifeiliaid mewn ymchwil, gyda gweledigaeth o fynd i mewn i’r farchnad meddygaeth adfywiol yn y ddwy flynedd nesaf trwy gydweithio â chwmnïau fferyllol ar draws Ewrop.

Dywedodd Alan Copner, Prif Swyddog Technoleg, Copner Biotech, "Rydym yn hynod ddiolchgar am y Grantiau Datblygu Busnes hyn, a fydd yn ein galluogi i gymryd camau breision yn ein cenhadaeth i chwyldroi'r diwylliant celloedd 3D a'r gofod bio-wneuthuriad. Bydd y cyllid hwn nid yn unig yn gwella ein galluoedd technolegol ond hefyd yn ehangu ein cyrhaeddiad i farchnadoedd newydd, yn y pen draw o fudd i ymchwilwyr a chleifion ledled y byd."

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet - Lleoedd ac Adfywio a Datblygu Economaidd, “Mae Copner Biotech Limited wedi mynd o nerth i nerth ers eu dechreuadau diymhongar ac rydym yn falch iawn o allu eu cefnogi wrth iddynt wella eu galluoedd technolegol, ehangu i farchnadoedd tramor a chreu cyfleoedd cyflogaeth yn ein hardal.

Fel Cyngor, rydym wedi ymrwymo i barhau i gefnogi busnesau lleol i greu cymunedau gwydn ac economi ffyniannus, gan sicrhau bod pobl yn gallu gweithio’n lleol yn hyderus.”

Ariennir Grant Datblygu Busnes AƬ gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a’i reoli gan Dîm Busnes ac Arloesi Cyngor AƬ. Nod y Grant Datblygu Busnes yw cefnogi twf a datblygiad busnesau newydd a phresennol ym Mlaenau Gwent. Mae’r cynllun bellach ar gau ond mae busnesau sydd angen cymorth ariannol yn cael eu hannog i lenwi’r ffurflen Mynegi Diddordeb ar-lein yn y ddolen isod ac os daw rhagor o arian ar gael o fis Ebrill 2025 ymlaen, byddwn yn cysylltu â busnesau sydd ar y rhestr aros.

]]>
/cy/newyddion/copner-biotech-ltd-yn-sicrhau-grant-datblygu-busnes/ /cy/newyddion/copner-biotech-ltd-yn-sicrhau-grant-datblygu-busnes/ Thu, 10 Apr 2025 13:17:00 GMT Carolyn Jenkins
Cefnogi dyfodol hufen iâ llaeth moethus Mae B Sidoli & Sons Ltd, Glynebwy, wedi derbyn dau Grant Datblygu Busnes sydd wedi eu helpu i brynu peiriant llenwi hufen iâ cylchdro. Bydd y peiriant newydd yn creu mwy o effeithlonrwydd a chynnal a chadw gan arwain at lai o amser segur ar gyfer atgyweiriadau a mwy o amser yn llenwi pecynnau gyda hufen iâ, gan alluogi Sidoli i gyflawni pob archeb ar amser a denu cwsmeriaid newydd. Bydd y peiriant newydd yn cynyddu allbwn bob awr tra hefyd yn lleihau eu defnydd o ynni ac ôl troed carbon.

 Defnyddiwyd yr ail Grant Datblygu Busnes i helpu i ariannu'r gwaith o adnewyddu cerbydau dosbarthu sy'n heneiddio. Bydd y cerbydau newydd yn cydymffurfio ag ULEZ gydag allyriadau isel iawn. Mae'r corff rheweiddiedig modern hefyd yn defnyddio llawer llai o ynni i weithredu na'r cyrff rydyn ni'n eu defnyddio ar hyn o bryd.

Mae Sidoli’s yn cynnig ateb cyflawn i fusnesau sydd am werthu hufen iâ o fewn eu busnes. Mae'r cwmni'n cynhyrchu hufen iâ llaeth moethus Sidoli yn eu pencadlys yng Nglynebwy ac yna'n storio ac yn dosbarthu hufen iâ i'w cwsmeriaid ynghyd ag eitemau hufen iâ amrywiol. Mae gan y busnes ystod eang o gwsmeriaid, gan gynnwys siopau cyfleus, tafarndai, bariau, bwytai, caffis, mannau gwerthu pwdinau, safleoedd hamdden (parciau lleol, safleoedd twristiaeth, safleoedd glan môr), theatrau, cyrtiau blaen garejys, a’r cyhoedd.

Yr amcanion tymor byr yw cadw cwsmeriaid presennol a pharhau i dyfu'n organig tra'n uwchsgilio a datblygu eu gweithlu. Mae amcanion hirdymor yn cynnwys adleoli i adeiladau newydd i ddod yn fwy effeithlon a chanolbwyntio ar ddod yn garbon niwtral. Byddai hyn yn cael ei gyflawni trwy ddefnyddio ystafelloedd oer mwy effeithlon a chael y gallu i gynhyrchu eu hynni gwyrdd eu hunain.

“Rydym wrth ein bodd yn derbyn y grant hwn, a fydd yn chwarae rhan hanfodol yn ein hymdrechion parhaus i ddod yn garbon niwtral a chefnogi ein cynlluniau twf,” meddai Stefano Sidoli, Rheolwr Gyfarwyddwr B Sidoli & Sons Ltd. “Bydd y buddsoddiad hwn nid yn unig yn gwella ein cynhyrchiant ond hefyd yn ein galluogi i barhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i’n cwsmeriaid.”

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet - Lleoedd ac Adfywio a Datblygu Economaidd, "Rydym yn hynod falch o B Sidoli & Sons Ltd am eu cyflawniadau a'u hymrwymiad i gynaliadwyedd ac arloesi. Mae eu hymroddiad i wella effeithlonrwydd a lleihau eu hôl troed carbon i'w ganmol, ac edrychwn ymlaen at weld eu llwyddiant parhaus yn y diwydiant."

Hoffem hefyd longyfarch B Sidoli & Sons Ltd am gyrraedd rhestr fer Cynhyrchydd Bwyd y Flwyddyn yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru 2025. Cyhoeddir y canlyniadau ar yr 22ain o Fai, da iawn i bawb a gymerodd ran.”

Ariennir Grant Datblygu Busnes AƬ gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a’i reoli gan Dîm Busnes ac Arloesi Cyngor AƬ. Nod y Grant Datblygu Busnes yw cefnogi twf a datblygiad busnesau newydd a phresennol ym Mlaenau Gwent. Mae’r cynllun bellach ar gau ond mae busnesau sydd angen cymorth ariannol yn cael eu hannog i lenwi’r ffurflen Datganiad o Ddiddordeb ar-lein yn y ddolen isod ac os daw rhagor o arian ar gael o fis Ebrill 2025 ymlaen, byddwn yn cysylltu â busnesau sydd ar y rhestr aros.

 

]]>
/cy/newyddion/cefnogi-dyfodol-hufen-ia-llaeth-moethus/ /cy/newyddion/cefnogi-dyfodol-hufen-ia-llaeth-moethus/ Wed, 16 Apr 2025 12:47:03 GMT Carolyn Jenkins
Dyfarniad arwyddocaol yn erbyn salon gwelyau haul yng Nghymru am droseddau rheoleiddio gwelyau haul lluosog yn dilyn erlyniad gan Gyngor AƬ Mae cwmni wedi cael ei ddedfrydu i dalu £15,500 am droseddau o dan Reoliadau Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 2010 (Cymru) 2011, yn dilyn erlyniad gan Gyngor AƬ.

Cafodd Tantastic Blackwood Ltd ei erlyn yn Llys Ynadon Casnewydd ar ôl i'r cyfarwyddwr, David Bryn Williams, bledio'n euog i bum trosedd.

Ym mis Mawrth 2024, derbyniodd Tîm Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor gŵyn gan aelod o'r cyhoedd yn honni eu bod wedi cael llosgiadau sylweddol ar ôl defnyddio gwely haul pwysedd uchel yn Tantastic yn Commercial Street, Tredegar.

Yn ystod ymchwiliad, nododd y swyddogion ymweld sawl methiant yn y safle o dan Reoliadau Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 2010 (Cymru) 2011. Yn ogystal â'r dystiolaeth a ddarparwyd gan y parti a anafwyd, gwelodd swyddogion hefyd fod staff yn methu â chydymffurfio â'r gofynion o dan y rheoliadau hyn wrth wasanaethu cwsmeriaid a oedd yn bresennol yn ystod eu hymweliad.

Cadarnhaodd y Barnwr Rhanbarth llywyddol yn ei chrynodeb sawl pwynt allweddol yr oedd hi wedi'u hystyried wrth benderfynu ar ddedfryd briodol. Yn gryno, roedd y rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Bod Mr Williams mewn sefyllfa freintiedig o ymddiriedaeth ac y byddai'n cael ei ystyried yn arbenigwr yn ei faes gyda dros 10 mlynedd fel cyfarwyddwr y cwmni Cyfyngedig,
  • Bod gan ei dîm ac ef ei hun gyfrifoldeb i gwsmeriaid, yn enwedig pobl ifanc, a allai fod yn bryderus am eu delwedd i’r graddau fod hynny’n eu rhoi mewn cyflwr o fregusrwydd ychwanegol,
  • Mae'r Rheoliadau ar waith i amddiffyn unigolion a defnyddwyr o'r fath ac adlewyrchir difrifoldeb diffyg cydymffurfiaeth o ganlyniad i hynny yn y ddedfryd

Rhoddwyd rhywfaint o liniaru yn amddiffyniad Mr Williams oherwydd y canlynol:

  • Cafodd ple euog gynnar ei chyflwyno i un cyhuddiad
  • Roedd rhywfaint o dystiolaeth o ymdrechion i gydymffurfio mewn perthynas â rhai o'r troseddau ond ei bod yn amlwg bod Mr Williams wedi bod yn esgeulus, a bod safonau wedi llithro
  • Nid oedd unrhyw euogfarnau blaenorol i'w nodi o fewn y cyfnod ystyried perthnasol, dim ond rhybuddion ysgrifenedig oedd wedi'u cyhoeddi

Gorchmynnodd y Barnwr i Tantastic Blackwood Ltd dalu cyfanswm o £15,500. Dirwy o £8,500, Gordal Dioddefwr o £2,000 a chostau o £5,000.

Dywedodd y Cynghorydd Helen Cunningham, Aelod Cabinet y Cyngor dros Leoedd a'r Amgylchedd:

"Mae'n hanfodol i unrhyw un sy'n dewis defnyddio gwely haul mewn salon allu gwneud hynny gan wybod bod y rheoliadau'n cael eu bodloni’n llawn. Mae hyn yn cynnwys atal defnydd gan blant, sicrhau bod gwybodaeth iechyd ragnodedig yn cael ei rhoi i gwsmeriaid a bod rheolaethau eraill ar waith i atal gor-amlygiad i belydrau UV. Diolch i'n timau Iechyd yr Amgylchedd a Chyfreithiol am gynnal ymchwiliad trylwyr a dod â'r achos pwysig hwn i'r llys. Maen nhw wedi cyflawni canlyniad pwysig yn y defnydd diogel a chyfreithlon o welyau haul."

Yn ogystal â'r erlyniad, yn ystod yr ymchwiliad cyhoeddodd y Cyngor hysbysiad gwahardd i'r cwmni o dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974 (HASAWA) mewn perthynas â'r gwely haul sy'n gysylltiedig â'r gŵyn. Mae'r hysbysiad gwahardd wedi cael ei dynnu'n ôl ers hynny ar ôl datgomisiynu a gwaredu’r gwely. Cyhoeddwyd Hysbysiad Gwella i'r cwmni hefyd, hefyd o dan HASAWA, i sicrhau gwelliannau i asesiadau risg a rheolaethau cysylltiedig i atal perygl i ddefnyddwyr a gweithwyr. Mae'r cwmni wedi darparu tystiolaeth yn ddiweddar i ddangos bod gwelliannau bellach wedi'u sicrhau a bod gofynion yr hysbysiad wedi'u bodloni.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon ynglŷn â safle sy'n cynnig gwelyau haul i aelodau o'r cyhoedd, cysylltwch ag Iechyd yr Amgylchedd ar environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk neu 01495 311556.

Mae llawer o sylw wedi’i roi i’r risgiau i iechyd a achosir gan or-amlygiad i belydrau uwchfioled (UV) o olau haul a'r defnydd o welyau haul. Mae nifer yr achosion o ganser y croen yn cynyddu. Prif achos canser y croen yw gor-amlygiad i belydrau uwchfioled (UV). Gall hyn fod o olau haul naturiol neu belydrau artiffisial o'r defnydd o welyau haul a lampau haul. Cadarnhawyd hefyd fod y risgiau’n uwch i'r rhai sy'n cael eu gor-amlygu i belydrau UV yn ifanc. Am y rheswm hwn y cyflwynwyd Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 2010 a'r Rheoliadau cysylltiedig. Mae canser y croen fel arfer yn cymryd degawdau i ddatblygu, felly efallai na fydd yn dod yn amlwg tan flynyddoedd ar ôl yr amlygiad niweidiol.

Os hoffech ddysgu mwy am gadw'ch croen yn ddiogel a lleihau'r risg o ganser y croen, mae GIG y DU a Cancer Research UK yn cynnig cyngor defnyddiol sydd ar gael drwy'r dolenni isod:

]]>
/cy/newyddion/dyfarniad-arwyddocaol-yn-erbyn-salon-gwelyau-haul-yng-nghymru-am-droseddau-rheoleiddio-gwelyau-haul-lluosog-yn-dilyn-erlyniad-gan-gyngor-blaenau-gwent/ /cy/newyddion/dyfarniad-arwyddocaol-yn-erbyn-salon-gwelyau-haul-yng-nghymru-am-droseddau-rheoleiddio-gwelyau-haul-lluosog-yn-dilyn-erlyniad-gan-gyngor-blaenau-gwent/ Thu, 24 Apr 2025 15:06:19 GMT Louise Bishop
Cyngor Bwrdeistref Sirol AƬ yn Cyflawni Statws Caru Gwenyn I gydnabod bod Cyngor Bwrdeistref Sirol AƬ wedi llwyddo i ennill statws Caru Gwenyn, fel y cydnabyddir gan Dasglu’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Pryfed Peillio, cynhaliwyd seremoni wobrwyo fawreddog yn y Swyddfeydd Cyffredinol.

Mae’r cynllun Caru Gwenyn yn fenter sy’n hyrwyddo creu amgylcheddau sy’n ffafriol i iechyd a lles pryfed peillio, sy’n hanfodol i’n hecosystemau a’n hamaethyddiaeth.

Cyflwynwyd y wobr ardystio fawreddog hon i Gyngor Bwrdeistref Sirol AƬ gan Bleddyn Lake o Gyfeillion y Ddaear Cymru a Kathleen Caroll o Lywodraeth Cymru, i gydnabod ymrwymiad y cyngor i gefnogi pryfed peillio lleol a gwella bioamrywiaeth.

Dywedodd Bleddyn Lake, ar ran Cyfeillion y Ddaear, “Rydym yn falch iawn o fod yn dyfarnu’r statws Caru Gwenyn i Gyngor AƬ, i gydnabod y camau y maent wedi ymrwymo i’w cyflawni i helpu i gefnogi pryfed peillio a mynd i’r afael â’r pwysau niferus y mae ein pryfed peillio yn eu hwynebu.”

Dywedodd y Cynghorydd Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Le a’r Amgylchedd ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol AƬ, “Rydym yn cydnabod ein bod mewn argyfwng bioamrywiaeth a hinsawdd ar hyn o bryd a’i bod yn hanfodol bwysig ein bod yn dangos ein hymrwymiad i geisio mynd i’r afael â’r heriau hyn gan y bydd colli mwy o fioamrywiaeth yn cynyddu newid hinsawdd gan fod y ddau yn gynhenid gysylltiedig. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn cynnal ac yn gwella cynefinoedd ar gyfer pryfed peillio a bywyd gwyllt arall ond hefyd yn creu gwydnwch ecosystemau. Felly, rydym yn falch iawn ein bod wedi ennill statws Caru Gwenyn.”

]]>
/cy/newyddion/cyngor-bwrdeistref-sirol-blaenau-gwent-yn-cyflawni-statws-caru-gwenyn/ /cy/newyddion/cyngor-bwrdeistref-sirol-blaenau-gwent-yn-cyflawni-statws-caru-gwenyn/ Tue, 29 Apr 2025 10:14:19 GMT Carolyn Jenkins
Diwrnod VE Dathlu 80 Mlynedd Digwyddiadau AƬ

Dydd Sadwrn 3 Mai

12 noon Sgwâr, y Farchnad, Brynmawr.

Cyngor y Dref Brynmawr Dathliad Diwrnod VE yn 80 oed.

Adloniant, Peintiwr wynebau, Balŵns, Cerbydau Milwrol, Tryciau Bwyd, Teisennau Cwpan a mwy.

10.30-12.00 Diwrnod VE 80 Bore Coffi Neuadd Les y Glowyr Heol Beaufort. Croeso i bawb

12:30 Cofeb Ryfel Beaufort

Dydd Iau 8th Mai

11am Gwasanaeth Coffa.

●Sgwâr, y Farchnad, Brynmawr, Gofeb Rhyfel.

●Parc Canolog, Blaenau.

●Gofeb Rhyfel Glyn Ebwy.

11:00yb RBL Abertyleri. Dodwy torchau.

2pm Gofeb Rhyfel, Cwm.

6.30pm Canu’r clychau i Ddathlu. Eglwys San Siôr, Tredegar yn canu clychau’r eglwys.

7pm Parc Bedwellty, Tredegar.

Gorymdaith o Gatiau’r Gofeb Rhyfel i’r Senotaff ar gyfer gwasanaeth coffa.

9.30pm Meini Coffa Aneurin Bevan Cyngor Tref Tredegar Ffaglau a Lampau Goleuadau Heddwch.

Canu ‘I vow to thee my country’, dewch â’ch llusern neu’ch cannwyll eich hun.

Dydd Sadwrn 10th Mai

6pm Theatr Fach Tredegar Dathlu 80 mlynedd Diwrnod VE. Artist byw a disgo karaoke. Gwisg ffansi 1940au. Tocynnau £10, cysylltwch â: tredegarhmafvg@gmail.com

Dydd Sul 11th Mai

11am Eglwys Crist, Glynebwy Gwasanaeth Coffadwriaeth.

Dydd Iau 8fed o Fai

Hilltop Fish Bar, Glynebwy, yn cynnig Pysgod a Sglodion ar gyfer Diwrnod VE.

Bydd Caffi'r AƬstead, Brynmawr, yn cynnig y canlynol:

Cawl cennin a thatws, Cinio pastai Cig Eidion o gartref Neu Sglodion pysgod a phys 

Trifle Neu Pastai afal gyda chwstard

Prif - £6.95 2 gwrs £9.95 3 cwrs £11.75.

8 – 11 Mai

Angel's Delights, Tredegar

Dewch i fwynhau Te Prynhawn traddodiadol blasus, bydd ein hystafell fwyta thematig yn mynd â chi yn ôl mewn amser i'r 1940au, yn gweini Te Prynhawn Trwy'r dydd.

Nid oes angen archebu cyn belled â bod bwrdd yn rhydd. Dim bwrdd rhydd? Dim problem mae gennym bocs Te blasus i chi mwynhau gartref neu yn parti gardd eich hun.

 

Cefnogir gan aelodau Grŵp Llywio Cyfamod y Lluoedd Arfog AƬ.

]]>
/cy/newyddion/diwrnod-ve-dathlu-80-mlynedd/ /cy/newyddion/diwrnod-ve-dathlu-80-mlynedd/ Wed, 30 Apr 2025 14:57:20 GMT Carolyn Jenkins
Mae Sêr Soffryd yn disgleirio yn arolygiad Estyn Llongyfarchiadau i Ysgol Gynradd Soffryd ar eu hadroddiad arolygu diweddar Estyn. Mae gan yr ysgol 'wrth galon ei chymuned' ddiwylliant cynhwysol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, yn gallu llwyddo a disgyblion yn dysgu ac yn ffynnu gyda'r gofal a'r gefnogaeth gywir.

Canfu'r arolygiad fod perthnasoedd yn yr ysgol yn gadarnhaol ac yn seiliedig ar barch i'r ddwy ochr ac mae disgyblion yn falch o'u hysgol. Mae'r cwricwlwm yn dathlu treftadaeth leol ac yn cefnogi disgyblion i ddatblygu eu dyheadau i ymgysylltu â'r byd ehangach.

Dywed y pennaeth Helen Hickinbottom: "Rydw i mor falch o'n plant a'n cymuned gyfan. Ein nod bob amser yw darparu'r cyfleoedd gorau i'n dysgwyr ac i weithio gyda'i gilydd â staff, rhieni a'r gymuned i sicrhau ein bod yn parhau â'n taith ddysgu a gwella. Rydym yn falch iawn o'n holl Sêr Sofrydd ac yn falch iawn o adroddiad mor gadarnhaol."

Da iawn i bawb 😊

Darllenwch yr adroddiad arolygu llawn

]]>
/cy/newyddion/mae-ser-soffryd-yn-disgleirio-yn-arolygiad-estyn/ /cy/newyddion/mae-ser-soffryd-yn-disgleirio-yn-arolygiad-estyn/ Tue, 06 May 2025 15:02:37 GMT Louise Bishop
Teuluoedd yn Gyntaf yn Dathlu Ail Wobr Gofal Cymdeithasol

Mae Teuluoedd yn Gyntaf AƬ wrth eu bodd yn cyhoeddi eu bod wedi ennill eu hail Wobr Gofal Cymdeithasol, y tro hwn yn y categori 'Adeiladu Dyfodol Disglair i Blant a Theuluoedd'. Mae'r wobr fawreddog hon yn cydnabod yr ymdrechion cynhwysfawr i gefnogi plant a theuluoedd trwy amrywiol fentrau a gwasanaethau.

Amlygodd y cais waith cyfunol gweithwyr cymorth ymroddedig, gofalwyr ifanc, yr elfen anabledd, cyfryngu, Datrysiadau y Tu Allan i’r Llys (OOCD), a gweithwyr cymdeithasol mewn ysgolion. Gan gystadlu yn erbyn 27 o geisiadau eraill yn y categori hwn, safodd Teuluoedd yn Gyntaf allan am eu dull effeithiol a chyfannol o ofal cymdeithasol.

Gwnaethpwyd argraff arbennig ar y beirniaid gan y nifer llethol o deuluoedd a ddaeth ymlaen i rannu eu profiadau cadarnhaol gyda Teuluoedd yn Gyntaf. Nodasant ei bod yn brin i wasanaethau gael mwy nag un rhiant yn fodlon cwrdd â nhw, ond roedd gan Teuluoedd yn Gyntaf giw o deuluoedd yn awyddus i fynegi eu diolchgarwch. Canmolodd y beirniaid hefyd y perthnasoedd a'r cysylltiadau cryf rhwng y staff a'r teuluoedd y maent yn eu cefnogi.

Mynychodd chwe aelod o staff y seremoni wobrwyo yng Ngwesty Mercure Caerdydd, gyda llawer mwy yn ymuno yn ddiweddarach i ddathlu'r cyflawniad arwyddocaol hwn. Cawsant longyfarchiadau calonog hefyd gan awdurdodau lleol eraill, gan gynnwys Casnewydd, a ganmolodd Teuluoedd yn Gyntaf am eu gwaith adnabyddus a chanmoladwy.

ѱ岹’r Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Bobl ac Addysg:

"Mae arfer da, ymrwymiad a gwaith rhagorol y tîm yn cael eu cyflawni ar bwynt mor hanfodol wrth atal uwchgyfeirio i wasanaethau statudol. Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn rhan annatod o'n darpariaeth gwasanaeth, ac rydym mor falch o'r canlyniadau a gyflawnwyd i blant a theuluoedd ym Mlaenau Gwent. Da iawn i'r gwasanaeth ac i'ch holl ymarferwyr am eu gwaith trawiadol!"

Meddai Nicola Dawson, Rheolwr Tîm Teuluoedd yn Gyntaf:

“Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn parhau i fod wedi ymrwymo i adeiladu dyfodol disglair i blant a theuluoedd, ac mae’r anrhydedd hon yn dyst i waith caled ac ymroddiad y tîm cyfan. Edrychwn ymlaen at barhau â’n cenhadaeth a chael effaith gadarnhaol yn ein cymuned.”

]]>
/cy/newyddion/teuluoedd-yn-gyntaf-yn-dathlu-ail-wobr-gofal-cymdeithasol/ /cy/newyddion/teuluoedd-yn-gyntaf-yn-dathlu-ail-wobr-gofal-cymdeithasol/ Wed, 07 May 2025 17:25:12 GMT Emma Bennett
Gofalwr maeth o AƬ yn annog eraill i faethu yn ystod y Pythefnos Gofal Maeth hwn Mae gofalwyr maeth yn annog eraill i ystyried maethu plentyn a chreu cysylltiadau oes yn AƬ.

Cynhelir Pythefnos Gofal Maeth, ymgyrch faethu fwyaf y flwyddyn, rhwng Mai 12 a Mai 25 eleni, gyda thema sy’n dathlu pŵer perthnasoedd.

Boed yn gyswllt clós rhwng gofalwr a phlentyn, y berthynas sy’n cael ei chreu gyda gweithwyr cymdeithasol cefnogol, neu’r cyfeillgarwch sy’n datblygu gyda gofalwyr maeth eraill o fewn cymuned, mae perthnasoedd cryf yn llinyn aur sy’n rhedeg trwy’r holl straeon maethu.

Yng Nghymru, mae dros 7,000 o blant mewn gofal, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth. Mae Maethu Cymru yn bwriadu recriwtio 800 o ofalwyr ychwanegol erbyn 2026.

Rhannodd Liz a Joe ei stori am y perthnasoedd parhaol a ffurfiodd o ganlyniad i faethu trwy Faethu Cymru AƬ.

Mae Liz a Joe yn mwynhau maethu plant hŷn a phobl ifanc yn yr arddegau. Maent yn teimlo fod maethu’r grŵp oedran yma wedi gweithio’n dda iddynt ac mae’n flin ganddynt nad oes digon o ofalwyr maeth a hoffai faethu pobl ifanc yn eu harddegau.

“Rwyf wedi bod yn maethu am dros 18 mlynedd ac mae’n rhywbeth roeddwn i bob amser eisiau ei wneud; rwy’n wirioneddol mwynhau fod yn fam.

“Wnaethon ni ddim dewis yn benodol i feithrin yr arddegau, dim ond digwydd wnaeth o, ond roedd o yn gweithio’n dda iawn i ni. Mae gennym grwt sy’n awr yn 17 ac mae wedi byw gyda ni ers ei fod yn 4; rydyn ni wedi ei weld drwy bob cyfnod o’i fywyd hyd yma. Ein crwt ni yw e ac mae fel mab i ni. Ond mae gennym ni hefyd ferch yn ei harddegau, a ddaeth atom pan oedd yn 12 oed.

“Pan fyddwch yn gweld y newid ynddyn nhw ac yn eu gweld yn gwneud yn dda, dyna lle’r ydych chi’n teimlo fod y cyfan yn werth chweil.

Mae angen mawr i Mathu Cymru recriwtio mwy o ofalwyr maeth ar gyfer plant yng Nghymru, sydd angen amgylchedd diogel, cefnogol a chariadus. Mae Liz a Joe yn annog mwy o bobl i gysylltu a holi am faethu gyda thîm Maethu Cymru yr awdurdod lleol.

I ddarganfod mwy am ddod yn ofalwr maeth yng Maethy Cymru AƬ ewch i

Bydd eich tîm lleol Maeth Cymru AƬ yn brysur allan yn y gymuned drwy'r wythnos yn gwneud gollyngiadau taflenni, yn ogystal â Digwyddiad Gwerthfawrogi Gofalwyr Maeth, barbeciw yn y parc i'n teuluoedd gydag Anifeiliaid Rhyngweithiol, stondin wybodaeth yn Digwyddiad Pride AƬ a gwneud taith gerdded 'Lap y Llyn' i godi ymwybyddiaeth o faethu.

]]>
/cy/newyddion/gofalwr-maeth-o-blaenau-gwent-yn-annog-eraill-i-faethu-yn-ystod-y-pythefnos-gofal-maeth-hwn/ /cy/newyddion/gofalwr-maeth-o-blaenau-gwent-yn-annog-eraill-i-faethu-yn-ystod-y-pythefnos-gofal-maeth-hwn/ Thu, 08 May 2025 14:55:37 GMT Emma Bennett
Estyn yn cyhoeddi adroddiad ar Gymuned Ddysgu Abertyleri Mae Estyn wedi cyhoeddi eu hadroddiad ar Gymuned Ddysgu 3 – 16 Abertyleri yn dilyn arolygiad diweddar. Tynnodd yr adroddiad sylw at lawer o bethau positif a chydnabod y gwelliannau sylweddol a wnaed gan gynnwys arweinyddiaeth gref a medrus; cynnydd sylweddol yn nifer y disgyblion sy'n mynychu'r ysgol yn rheolaidd, a phwyslais ar les disgyblion a staff.

Nodwyd bod agweddau ar addysgu yn dal i ddatblygu mewn nifer o feysydd a bod angen gwella ansawdd addysgu a dysgu a'r her i ddysgwyr, yn enwedig yn y cyfnod uwchradd, i sicrhau bod pawb yn gwneud cynnydd. Mae Estyn wedi argymell bod yr ysgol yn cael ei gosod yn eu categori Gwella Ysgol ac mae Cynllun Gweithredu Ôl-Arolwg wedi'i lunio fel blaenoriaeth i fynd i'r afael â'r meysydd i'w gwella.

Roedd yr adroddiad yn dangos hyder ym Mhennaeth ac uwch arweinyddiaeth yr ysgol i barhau i arwain ac adeiladu ar y gwaith da presennol i wneud y gwelliannau pellach sydd eu hangen.

Meddai Pennaeth Cymuned Ddysgu Abertyleri, Tracey Jarvis:

"Rydym yn derbyn canfyddiadau Estyn a'r argymhellion yn llawn a byddwn yn gweithio'n agos gyda'r Awdurdod Lleol, ein partneriaid gwella ysgol a chymuned gyfan yr ysgol i wneud cynnydd pellach. Mae Cynllun Gweithredu Ôl-Arolwg wedi'i lunio fel blaenoriaeth, a fydd yn nodi sut y byddwn yn mynd i'r afael â'r argymhellion ac yn gweithio i wneud gwelliannau i sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o’r dysgu ac yn sicrhau’r cyfleoedd gorau i'n holl blant a phobl ifanc. 

"Rwy'n falch bod uwch arweinyddiaeth wedi cael ei chydnabod fel cryfder gan Estyn, a bod hyn yn arwain at ddisgwyliadau uchel, gweledigaeth glir a newidiadau cadarnhaol i les, diogelu a phresenoldeb. Rydym wir yn ymrwymedig i gyflawni gwelliannau pellach ac adeiladu ar ein llwyddiannau hyd yn hyn, ac rwy'n hyderus y gallwn wneud hyn gan weithio mewn partneriaeth â chymuned gyfan yr ysgol.

"Mae gwella presenoldeb wedi bod yn brif flaenoriaeth i ni ac rwy'n falch bod y gwaith hwn wedi cael ei gydnabod. Ni all dysgwyr wneud cynnydd a chyrraedd eu llawn botensial heb fod yn yr ysgol yn gyntaf. Cydnabuwyd newidiadau sylweddol a wnaed yn yr ysgol i reoli ymddygiad hefyd a bod hyn wedi arwain at welliant sylweddol yn ymddygiad disgyblion a’u hagweddau at ddysgu.

"Rydym wedi ymrwymo i roi ein dysgwyr wrth wraidd y gwaith hwn yn y dyfodol; mae eu lles, hapusrwydd, potensial a chyflawniad yn hollbwysig."

Canfu Estyn fod cefnogaeth a darpariaeth dda i ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn yr ysgol, ac mae hyn yn parhau i ddatblygu. Barnwyd bod y darpariaethau hyn yn creu amgylchedd tawel a gofalgar i ddisgyblion, gyda staff yn canolbwyntio ar les cymdeithasol ac emosiynol disgyblion, gan arwain at ymddygiad ac agwedd gadarnhaol ymysg disgyblion cynradd ac uwchradd.

Canfu Estyn hefyd fod gan ddisgyblion lais a'u bod yn cymryd rhan weithredol mewn penderfyniadau; bod gan staff berthynas gadarnhaol â disgyblion sy'n hyrwyddo amgylcheddau gwaith tawel, cadarnhaol, a bod cefnogaeth ac arweiniad ar gael i ddysgwyr sy'n dymuno symud ymlaen i addysg bellach neu hyfforddiant, gan arwain at bron pob disgybl yn llwyddo i sicrhau cyfle wrth adael yr ysgol.

Gwnaeth yr adroddiad yr argymhellion canlynol:

  • Gwella ansawdd yr addysgu fel bod disgyblion o bob gallu yn gwneud cynnydd priodol, yn enwedig yn y cyfnod uwchradd
  • Darparu cyfleoedd herio ystyrlon i ddisgyblion ddatblygu eu sgiliau llythrennedd a rhifedd
  • Sicrhau bod arweinwyr yn nodi camau gweithredu clir a phenodol wrth gynllunio ar gyfer gwella, yn enwedig mewn perthynas â gwella addysgu
  • Sicrhau bod yr ysgol yn bodloni'r gofyniad statudol i ddisgyblion astudio'r Gymraeg hyd at 16 oed  

 

 

]]>
/cy/newyddion/estyn-yn-cyhoeddi-adroddiad-ar-gymuned-ddysgu-abertyleri/ /cy/newyddion/estyn-yn-cyhoeddi-adroddiad-ar-gymuned-ddysgu-abertyleri/ Thu, 15 May 2025 12:38:02 GMT Louise Bishop
Cadw'n Ddiogel rhag Heintiau wrth Ymweld â Ffermydd Mae ffermydd yn cynnig hwyl i'r teulu cyfan. Fodd bynnag, mae anifeiliaid yn cario germau a all achosi salwch (dolur rhydd, chwydu, ac ati). Mae risg uwch i bobl mewn grwpiau agored i niwed (plant ifanc, menywod beichiog, yr henoed, imiwnedd gwan). Gall germau gael eu lledaenu trwy gyswllt ag anifeiliaid, eu gwastraff, neu ardaloedd halogedig.

Mae Cyngor AƬ yn atgoffa pobl i edrych ar y cyngor sydd ar gael isod wrth ymweld â fferm.

Yn bwysicaf oll, sicrhewch hylendid dwylo da.

Camau Diogelwch Allweddol:

  • Golchwch eich dwylo'n drylwyr gyda sebon a dŵr cynnes ar ôl dod i gysylltiad ag anifeiliaid ac arwynebau, yn enwedig cyn bwyta neu gyffwrdd â'ch wyneb. Mae diheintwyr dwylo yn annigonol o gymharu â golchi dwylo.
  • Os nad oes digon o gyfleusterau golchi ar gael ar y fferm, peidiwch â chyffwrdd ag unrhyw anifeiliaid. Ystyriwch godi unrhyw bryderon ynghylch cyfleusterau annigonol gyda'ch tîm Iechyd Amgylcheddol lleol.
  • Goruchwyliwch blant pan fyddan nhw’n golchi eu dwylo.
  • Peidiwch â chyffwrdd â'ch wyneb, bwyta, neu yfed ger anifeiliaid.
  • Peidiwch â chusanu neu roi eich wyneb yn agos at yr anifeiliaid.
  • Bwytwch mewn ardaloedd penodol ar y fferm yn unig a pheidiwch â bwyta (gan gynnwys losin neu gwm cnoi) wrth symud o gwmpas y safle.
  • Gwisgwch esgidiau caeedig a glanhewch nhw ar ôl eich ymweliad.
  • Golchwch ddillad sy'n cael eu gwisgo o amgylch anifeiliaid ar 60°C neu boethach (os yn bosibl) am 30 munud, gyda hylif glanhau da.
  • Dilynwch ganllawiau staff y fferm.

Os yn sâl:

  • Os ydych chi'n datblygu symptomau o fewn pythefnos (dolur rhydd, chwydu, ac ati) o ddyddiad eich ymweliad, cysylltwch â'ch meddyg teulu i drefnu i ddarparu sampl ysgarthion.
  • Ceisiwch sylw meddygol ar unwaith ar gyfer dolur rhydd gwaedlyd.
  • Peidiwch â dychwelyd i'r gwaith, i'r ysgol, neu'r feithrinfa nes eich bod wedi bod yn rhydd o symptomau am 48 awr. Efallai y bydd angen profion ychwanegol ar rai achosion cyn dychwelyd.
  • Dylai pobl sy’n trin bwyd, plant dan 5 oed, a phobl sy'n gweithio gyda phoblogaethau bregus ymgynghori â'u meddyg teulu ar unwaith.
  • Os ydych chi'n amau bod gennych chi Cryptosporidium, neu os cadarnhawyd hynny, rhaid i chi osgoi nofio neu ddefnyddio cyfleusterau ymdrochi cymunedol am o leiaf 14 diwrnod.

Cyngor i Drefnwyr Digwyddiadau:

  • Dylech wella ymwybyddiaeth a chydymffurfiaeth â chanllawiau hylendid ymhlith staff ac ymwelwyr.
  • Darparwch gyfleusterau golchi dwylo hygyrch gyda dŵr poeth ac oer, sebon hylif, a thywelion papur.
  • Ystyriwch gadw ŵyn mewn corlan, gan ganiatáu i ymwelwyr eu bwydo o ochr arall y ffens.
  • Sicrhewch fod ŵyn sy’n sgwrio (diarëig) yn cael eu rhoi mewn cwarantîn a bod ardaloedd lle ceir cyswllt ag anifeiliaid yn cael eu diheintio'n rheolaidd.
  • Defnyddiwch systemau archebu ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo cyngor iechyd y cyhoedd ac argymhellion hylendid.

]]>
/cy/newyddion/cadwn-ddiogel-rhag-heintiau-wrth-ymweld-a-ffermydd/ /cy/newyddion/cadwn-ddiogel-rhag-heintiau-wrth-ymweld-a-ffermydd/ Fri, 16 May 2025 11:11:59 GMT Louise Bishop
Dyfarnu £250,000 i Gyngor AƬ i fynd i'r afael â heriau ecolegol Mae'r Gronfa Rhwydweithiau Natur wedi dyfarnu grant o £250,000 i Gyngor AƬ a fydd yn ariannu prosiect i helpu i ddeall gwerth a chysylltedd ecosystemau ledled Gwent a'r manteision y maent yn eu darparu i bobl a natur.

Mae’r Gronfa Rhwydweithiau Natur yn rhaglen gydweithredol rhwng y Gronfa Dreftadaeth, Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru, a sefydlwyd i fynd i’r afael â heriau ecolegol.

Mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru ac mewn cydweithrediad â sefydliadau ledled y rhanbarth, bydd y Cyngor yn gweithio i greu cynlluniau ar gyfer rhwydweithiau ecolegol gwydn. Bydd y cynlluniau hyn yn llywio sut a ble i wella cynefinoedd, yn mynd i’r afael â chamau adfer natur ac yn amlinellu pam mae lles amgylcheddol yn bwysig. 

Meddai Helen Cunningham, yr Aelod Cabinet dros Leoedd a'r Amgylchedd:

"Rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur a ddatganwyd gan y Cyngor. Bydd y gefnogaeth hon gan y Gronfa Rhwydweithiau Natur, a ddosbarthwyd gan y Gronfa Dreftadaeth mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ein galluogi i weithio mewn partneriaeth i wneud newidiadau cadarnhaol i bobl a natur yma ym Mlaenau Gwent ac ar draws y rhanbarth."

Meddai Steve Morgan, Pennaeth Gweithrediadau De-ddwyrain Cymru yn Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Bydd y prosiect hwn yn ein galluogi i gyflymu’n gyflym y gwaith ar adeiladu gwytnwch ecosystemau trwy ddull Rhwydweithiau Ecolegol Gwydn (RENs) ledled Gwent, gan ein helpu i ddeall a gwneud y mwyaf o rôl a gwerth sylfaenol natur a gwasanaethau ecosystemau sy'n sail i'n lles, ein ffyniant, ein diwylliant a'n hunaniaeth ar draws ein tirweddau a'n cynefinoedd gwahanol.

 “Mae’r prosiect hefyd yn tynnu sylw at yr ymrwymiad yng Ngwent i weithio ar y cyd ac mewn partneriaeth i gefnogi adferiad natur, cyfrannu tuag at fodloni Gweledigaeth a Nodau Lles ein Cynllun Corfforaethol, lle mae bioamrywiaeth yn cael ei amddiffyn, ei werthfawrogi, ei adfer a’i ddefnyddio’n ddoeth fel bod natur a phobl wir yn ffynnu gyda’i gilydd mewn ffordd sy’n gynaliadwy i genedlaethau’r dyfodol.

"Edrychaf ymlaen at weld cynnydd llwyddiannus y prosiect hwn wrth iddo ddatblygu a chyfrannu at ein hymdrechion ar y cyd i gymryd camau brys i atal a gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth ar y cyflymder a'r raddfa sydd eu hangen, gan adeiladu gwytnwch ecosystemau fel dull datrysiadau ar sail ar natur i newid hinsawdd a llygredd, yn ogystal â gwella cyfleoedd a manteision i iechyd, lles a gwytnwch natur a phobl yn deg ac yn gynhwysol yng Ngwent."

Nod y Gronfa Rhwydweithiau Natur yw cryfhau gwytnwch rhwydwaith Cymru o safleoedd tir a morol gwarchodedig, gan gefnogi adferiad natur tra'n annog ymgysylltiad cymunedol yn weithredol.

Bydd gwella cyflwr y safleoedd gwarchodedig a chysylltiedig hyn yn eu galluogi i weithredu'n well fel rhwydweithiau natur. Mae rhwydweithiau natur yn ardaloedd hanfodol, gwydn lle gall cynefinoedd a rhywogaethau ffynnu ac ehangu. Bydd adfer cysylltedd yn y rhwydweithiau hyn yn:

  • atal dirywiad pellach mewn rhywogaethau a chyflwr cynefinoedd
  • cefnogi adferiad natur
  • gwella'r gallu i addasu i'r argyfwng hinsawdd

Bydd y gronfa hon hefyd yn cefnogi cyfranogiad gweithredol cymunedau mewn ac o amgylch safleoedd gwarchodedig. Mae cryfhau ymgysylltiad â natur yn dod â manteision uniongyrchol i iechyd a lles pobl, yn ogystal â gwella gwytnwch y safleoedd eu hunain.

Mae'r rhwydwaith safleoedd gwarchodedig yn cwmpasu Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGAau) eraill.

I gael rhagor o wybodaeth am ardaloedd gwarchodedig o dir a môr ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru:

 

]]>
/cy/newyddion/dyfarnu-250-000-i-gyngor-blaenau-gwent-i-fynd-ir-afael-â-heriau-ecolegol/ //Աɲ徱Dz/ڲԳ-250-000--Բǰ-Բ-ɱԳ--ڲԻ--ڲ-â--𳦴DZ𲵴DZ/ Tue, 20 May 2025 09:46:49 GMT Louise Bishop
Penodiadau'r Cyngor yn y Cyfarfod Blynyddol Rydym yn adeiladu rhywbeth cryfach, mwy gwydn ac yn fwy ymatebol i anghenion y bobl rydyn ni'n eu gwasanaethu' - Arweinydd y Cyngor Stephen Thomas wedi'i ailethol yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor heddiw.  

Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Cadarnhawyd penodiadau gwleidyddol allweddol i Gabinet y cyngor, pwyllgorau a chyrff allanol y cyngor ar gyfer y flwyddyn i ddod. 

Penodwyd y Cynghorydd Chris Smith yn Aelod Llywyddol a bydd yn cadeirio cyfarfodydd y cyngor, gyda'r Cynghorydd David Wilkshire wedi'i benodi'n Ddirprwy Lywydd.

Cafodd y Cynghorydd Steve Thomas ei ailethol fel Arweinydd y Cyngor a bydd hefyd yn gyfrifol am Adnoddau Corfforaethol.

Cafodd y Cynghorydd Helen Cunningham ei hailethol yn Ddirprwy Arweinydd y Cyngor a bydd hefyd yn dal y portffolio ar gyfer Oedolion a Chymunedau.

Y rhestr lawn o benodiadau cabinet yw:

  • Aelod Cabinet dros Oedolion a Chymunedau – Y Cynghorydd Helen Cunningham
  • Aelod Cabinet Adnoddau Corfforaethol – Y Cynghorydd Steve Thomas
  • Aelod Cabinet Economi a Lleoedd – Y Cynghorydd John Morgan
  • Aelod Cabinet Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd – Y Cynghorydd Sue Edmunds
  • Aelod Cabinet dros Gymdogaethau a Gwasanaethau'r AmgylcheddY Cynghorydd Tommy Smith

Penodwyd y cadeiryddion canlynol i'r Pwyllgorau Craffu:

  • Oedolion, Cymunedau a Lles – Y Cynghorydd Haydn Trollope (Cadeirydd) a'r Cynghorydd Ellen Jones (Is-gadeirydd)
  • Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd – Y Cynghorydd Wayne Hodgins (Cadeirydd) a’r Y Cynghorydd Derrick Bevan (Is-gadeirydd)
  • Datblygu Economaidd a Rheoli Amgylcheddol – Y Cynghorydd Jacqueline Thomas (Cadeirydd) Y Cynghorydd Chris Smith (Is-gadeirydd)
  • Llywodraethu Corfforaethol ac Adnoddau – Y Cynghorydd Joanna Wilkins (Cadeeirydd) a’r Y Cynghorydd Dean Woods (Is-gadeirydd)

Penodwyd aelodau hefyd i gadeirio'r pwyllgorau statudol canlynol:

  • Y Pwyllgor Cynllunio – Y Cynghorydd Lisa Winnett (Cadeirydd) Y Cynghorydd Peter Baldwin (Is-gadeirydd)
  • Pwyllgorau Trwyddedu Statudol a Chyffredinol – Y Cynghorydd Lisa Winnett (Cadeirydd) Y Cynghorydd Peter Baldwin (Is-gadeirydd)
  • Y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd – Y Cynghorydd John Hill (Cadeirydd) a’r Y Cynghorydd Ellen Jones (Is-gadeirydd)

Wrth dderbyn ei benodiad fel Arweinydd Cyngor AƬ, dywedodd y Cynghorydd Steve Thomas:

"Mae'n anrhydedd i mi gael fy ailethol fel Arweinydd ac rwy’n ddiolchgar iawn am yr ymddiriedaeth a'r gefnogaeth a ddangoswyd ar draws y siambr. Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi dod â chynnydd gwirioneddol a heriau sylweddol – rydyn ni’n gweithio'n galed i sicrhau ein bod yn gynaliadwy ac yn ariannol ddiogel, ac rydyn ni wedi bod yn delio ag effeithiau dinistriol Storm Bert a'r tirlithriad yng Nghwmtyleri.  Trwy'r cyfan, mae staff ein cyngor wedi mynd yr ail filltir i'n cymunedau.

"Rydw i hefyd yn falch o'r ffordd y mae ein partneriaeth â Chyngor Torfaen yn datblygu - mae'r hyn a ddechreuodd drwy rannu Prif Weithredwr yn datblygu'n gydweithrediad aeddfed rhwng ein huwch swyddogion, gyda photensial gwirioneddol i sicrhau canlyniadau gwell i Flaenau Gwent.

"Mae ’na waith i'w wneud o hyd, ond rwy'n credu ein bod ni'n adeiladu rhywbeth cryfach, mwy gwydn a mwy ymatebol i anghenion y bobl rydyn ni'n eu gwasanaethu."

Gwnaeth y cyngor hefyd enwebiadau i gyrff allanol gan gynnwys Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (Y Cynghorydd Peter Baldwin); Heddlu Gwent (Y Cynghorydd Jen Morgan) a Bwrdd Tai Cymunedol Tai Calon (y Cynghorydd Sonia Behr a'r Cynghorydd Ellen Jones).

]]>
/cy/newyddion/penodiadaur-cyngor-yn-y-cyfarfod-blynyddol/ /cy/newyddion/penodiadaur-cyngor-yn-y-cyfarfod-blynyddol/ Thu, 22 May 2025 12:52:06 GMT Louise Bishop
Dysgwyr Brynmawr yn disgleirio yn nathliad Diwrnod Dylan Thomas Diolch i brosiectau Cyllid Ffyniant a Rennir y cyngor ar gyfer y Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth, cynhaliodd Ysgol Sefydliad Brynmawr ddathliad trydanol ar gyfer Diwrnod Cenedlaethol Dylan Thomas, gan ddod â llenyddiaeth yn fyw i genhedlaeth newydd o feddyliau ifanc.

Arweiniodd y bardd, awdur a darlledwr enwog o Gymru, Aneirin Karadog, gyfres ysbrydoledig o weithdai, gan ymgolli myfyrwyr yn nhraddodiadau barddonol cyfoethog Cymru a hud bythol geiriau Dylan Thomas. O rhythm telynegol Under Milk Wood i emosiwn amrwd Do Not Go Gentle Into That Good Night, archwiliodd dysgwyr bŵer adrodd straeon a hunan-fynegiant mewn ffyrdd a daniodd eu creadigrwydd a'u hangerdd.

🔥 Rhyddhau Creadigrwydd Trwy Rap a Barddoniaeth 🔥 Cofleidiodd myfyrwyr eu bardd mewnol trwy greu cerddi rap hunan-ysgrifenedig, gan fanteisio ar eu sgiliau rhythm ac iaith i arddangos eu hunaniaethau trwy air llafar. Roedd eu talent eithriadol yn ddiamheuol yn profi bod traddodiadau barddonol hynafol Cymru yn dal i guro'n gryf yng nghalonnau ei hieuenctid!

🎨 Paentio Lluniau gyda Geiriau 🎨 Wedi'i ysbrydoli gan ddelweddau byw Dylan Thomas, arbrofodd dysgwyr gydag iaith, gan greu disgrifiadau hudolus fel Du Cosmig a Pinc Neapolitan. Roedd eu geiriau yn dawnsio ar y dudalen, gan ddod ag emosiynau a gweledigaethau yn fyw gyda chreadigrwydd syfrdanol.

💥&Բ;Channeling Their Rage into Poetry 💥 Mewn ymarfer sy'n adleisio egni amrwd penillion llawn dicter Thomas, ysgrifennodd myfyrwyr eu cerddi dicter eu hunain—gan fynegi popeth o faterion cyfiawnder cymdeithasol i rwystredigaethau bob dydd. P'un a oedd yn galaru am bris cynyddol bwyd Greggs neu'n eirioli dros newid, roedd eu barddoniaeth yn feiddgar, di-ofn, ac yn hynod bersonol.

Diolch i ymrwymiad y cyngor i iaith a diwylliant, roedd y dathliad hwn yn fwy na dim ond digwyddiad - roedd yn wreichionen o ysbrydoliaeth sy'n ein hatgoffa o bŵer geiriau i lunio syniadau, mynegi emosiynau, a chreu cysylltiadau parhaol.

Mae etifeddiaeth Dylan Thomas yn byw yn y meddyliau ifanc rhyfeddol hyn - y genhedlaeth nesaf o storïwyr, beirdd ac artistiaid! 🖋

Dywedodd Pennaeth Ysgol Sylfaen Brynmawr, Gerard McNamara:

"Cafodd ein disgyblion amser gwych yn creu rapiau, geiriau disgrifiadol newydd a pherfformio'r rapiau hefyd. Roedd hyder disgyblion trwy'r to erbyn diwedd y sesiwn. Roedd yn bleser gweithio gydag Aneurin; roedd yn caru llenyddiaeth Gymraeg, ac roedd hyn yn heintus gan ein disgyblion. Cafodd y sesiwn effaith barhaol ar ein disgyblion. Diolch"

"Roeddwn i'n gweld y sesiynau yn ddiddorol iawn ac roedd y disgyblion (a'r staff) wrth eu bodd yn creu eu rapiau eu hunain!" - Vicki Price (Pennaeth Cynorthwyol)

Dyma rai sylwadau gan y myfyrwyr a fwynhaodd y sesiynau yn fawr:

"Roeddwn i'n teimlo fy ysbrydoli i fynd i ffwrdd ac ysgrifennu mwy o fy marddoniaeth fy hun" - SM

"Rwy'n teimlo'n fwy hyderus i fynegi sut rwy'n teimlo am rywbeth nawr" - AB

"Roeddwn i'n meddwl bod y bardd yn ddoniol iawn ac roeddwn i wrth fy modd yn gwrando arno yn adrodd barddoniaeth gan Dylan Thomas" - NS

"Rwy'n falch iawn o'r gerdd ysgrifennais a bod Aneirin yn meddwl ei bod yn dda iawn" – ON

Pa bynnag y gwnaethoch chi ddewis mynegi eich hun, boed yn gerdd rage neu dim ond rap am eich ardal chi neu eich hoff gweithgaredd, rhowch gynnig arni a phaentio eich lluniau eich hun gyda geiriau.

]]>
/cy/newyddion/dysgwyr-brynmawr-yn-disgleirio-yn-nathliad-diwrnod-dylan-thomas/ /cy/newyddion/dysgwyr-brynmawr-yn-disgleirio-yn-nathliad-diwrnod-dylan-thomas/ Wed, 28 May 2025 10:27:26 GMT Carolyn Jenkins
Gwahodd ceisiadau am grantiau cydlyniant cymunedol (1) Mae Grant Cydlyniant Cymunedol Gorllewin Gwent bellach ar agor i dderbyn ceisiadau a bydd yn cau ar 18 Gorffennaf 2025.

Os ydych chi'n rhan o grŵp cymunedol, sefydliad y trydydd sector, neu ysgol leol ym Mlaenau Gwent a bod gennych brosiect sy'n dod â phobl at ei gilydd neu'n ennyn ysbryd cymunedol, gallech dderbyn cyllid o rhwng £500 a £2,000.

P'un a ydych chi'n dechrau rhywbeth newydd neu'n ystyried datblygu prosiect presennol, gall y grant hwn helpu i’w wireddu.

Gwnewch gais nawr a dysgu mwy

Bydd pob cais yn cael ei adolygu ar ôl y dyddiad cau, a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael gwybod ym mis Medi 2025.

Ysbrydoliaeth o'r llynedd

Defnyddiodd Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr y grant ar gyfer ei ymgyrch ‘Heart Work’, i fynd i'r afael â rhagfarn a gwahaniaethu ar sail hil, trwy gyfres o brosiectau creadigol.

Dechreuodd y prosiect yn ystod Mis Hanes Pobl Dduon y llynedd ac mae'r ysgol wedi gweithio mewn partneriaeth i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o hiliaeth a rhagfarn ymhlith disgyblion a'r gymuned leol.

Roedd digon o weithgareddau ac roeddent yn hynod amrywiol. Yn eu plith, cafwyd gwasanaethau arbenigol chyfleoedd i ddathlu cysylltiadau lleol â AƬ, fel Paul Robeson, ynghyd ag unigolion arwyddocaol eraill sydd wedi creu effaith a chyfraniad byd-eang. Ochr yn ochr â hyn cynhaliwyd gweithdai i ddisgyblion yn cynnwys creu masgiau a ysbrydolwyd gan Affrica; ‘sgwrs bwrdd’ gwrth-hiliaeth Dydd Mawrth: Sut i fod yn gyfaill; paentio’r croen mewn lliwiau amrywiol, a ysbrydolwyd gan waith Kehinde Wiley, a chreu pabïau o glai i gynrychioli Dydd y Cofio.

Cydweithiodd yr ysgol â'u llysgenhadon a grwpiau ysgol, sef y grŵp amrywiaeth ddiwylliannol, grŵp hawliau'r plentyn a grwpiau gwrth-fwlio, i archwilio cyfleoedd ar gyfer arweinyddiaeth ac ehangu llais y disgybl.

Gwahoddwyd y gymuned leol i Ddathliad y Gaeaf, lle gwelwyd disgyblion yn cynnig cefnogaeth i ymwelwyr wneud celf a chrefft sy’n cael eu dathlu o amgylch y byd. Aeth disgyblion a staff allan i'r gymuned hefyd i ymweld â Chartref Gofal Bank House a chynnal digwyddiad llythrennedd a chrefft yn y ganolfan chwaraeon i rieni a phlant bach. Yma cawsant gyflwyniad syml i gysyniad wrth-hiliaeth mewn ffordd gyfeillgar a chreadigol.

Meddai Mel Thomas, Pennaeth Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr:

“Fe wnaethom ddefnyddio'r grant i lansio menter gwrth-hiliaeth bwerus, gan ddefnyddio nifer o brosiectau creadigol i godi ymwybyddiaeth am ragfarn, a hyrwyddo cynhwysiant. Mae ymgyrch ‘Heart Work’ wedi grymuso ein disgyblion i arwain newid, dathlu amrywiaeth, a meithrin cysylltiadau cryfach ar draws ein hysgol 3–16 oed a'n cymuned leol. Mae ein disgyblion yn sicr yn arwain y newid yn erbyn hiliaeth ac yn llwyr ddathlu amrywiaeth. Gadewch i ni adeiladu dyfodol mwy cynhwysol gyda'n gilydd!”

]]>
/cy/newyddion/gwahodd-ceisiadau-am-grantiau-cydlyniant-cymunedol-1/ /cy/newyddion/gwahodd-ceisiadau-am-grantiau-cydlyniant-cymunedol-1/ Wed, 28 May 2025 15:54:11 GMT Louise Bishop
Gwirfoddolwyr yn Estyn yn Ddwfn i’w Pocedi i Ddod â Phrosiect Garddio Tŷ Augusta yn Fyw Mae gardd Tŷ Augusta, Gwasanaeth Seibiant Anabledd Dysgu AƬ ym Mharc Fictoria, wedi cael ei gweddnewid yn llwyr diolch i gefnogaeth gan sefydliadau, ysgolion a gwirfoddolwyr lleol.

Gan gychwyn yn gynnar fore dydd Llun, cyrhaeddodd tîm penderfynol o wirfoddolwyr brwdfrydig, yn barod i wireddu’r weledigaeth. Gyda rhawiau a thryweli, fe rannon nhw’n grwpiau, pob un â'r dasg o ailwampio gwahanol rannau o'r ardd. Roedd eu cenhadaeth yn syml; creu gofod croesawgar ac ysgogol i breswylwyr a'u teuluoedd ei fwynhau.

Gwnaed y prosiect trawsnewidiol yn bosibl trwy gyfraniadau hael gan gynnwys ffensys, compost, planhigion, planwyr, clychau gwynt, a chyffyrddiadau addurniadol eraill, i gyd gyda'r nod o greu gofod awyr agored gwych i drigolion a'u teuluoedd ei rannu. Derbyniodd y prosiect gefnogaeth frwdfrydig gan 'Gyfeillion Augusta', Nwy Prydain, disgyblion Ysgol Pen-y-Cwm, Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair a llawer o aelodau staff ymroddedig AƬ, i gyd yn awyddus i roi help llaw.

O dan yr heulwen lachar roedd yr ardd yn fwrlwm o weithgarwch wrth i wirfoddolwyr weithio ochr yn ochr i ddod â'r gofod yn fyw. Gwnaeth Nwy Prydain gyflenwi paneli metel addurniadol tra bod Able Touch Joinery o Dredegar wedi rhoi planwyr a chlychau gwynt. Prynodd Cyfeillion Augusta ffens newydd sbon, a osodwyd gan David Ingram. Cyfrannodd Tîm Gwasanaethau Cymdogaeth y Cyngor gyda llwyth o gompost a sglodion pren o Ddyffryn Distaw, lle maen nhw’n cynnal eu prosiect gwastraff gwyrdd cynaliadwyedd, a chafwyd cyfraniadau hefyd gan drigolion Byw â Chymorth a theuluoedd y rhai sy'n cael mynediad at seibiant - i gyd yn ychwanegu at ysbryd cymunedol y digwyddiad.

Daeth garddwyr ifanc o flwyddyn 6 Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair â rhagor o ysbrydoliaeth drwy rannu eu llwyddiant diweddar, ar ôl cyrraedd y rhestr fer mewn cystadleuaeth genedlaethol am yr ardd ysgol orau. Mae eu hymroddiad at arddwriaeth yn eithriadol, ac mae tîm Tŷ Augusta yn dymuno'r gorau iddynt yn y rowndiau terfynol yr haf hwn.

Darparwyd cinio bwffe i bob gwirfoddolwr a dŵr potel am ddim gan staff Tŷ Augusta.

Yn ogystal â bod o fudd i drigolion, mae'r ardd newydd yn hafan i fywyd gwyllt lleol – mae’n cynnwys gwestai pryfed, cartrefi i wenyn unig, a blychau adar ac ystlumod, a roddwyd yn hael gan Dîm Bioamrywiaeth y Cyngor i gyfoethogi profiad yr ardd synhwyraidd.

Gyda chwerthin, gwaith tîm, a gwir ymdeimlad o gymuned, mae gan Dŷ Augusta bellach fan gwyrdd llewyrchus a fydd yn dod â llawenydd a chysylltiad i'w drigolion a'r gymuned ehangach am flynyddoedd i ddod.

ѱ岹’r Aelod Cabinet dros Oedolion a Chymunedau, y Cynghorydd Helen Cunningham:

"Mae Prosiect Garddio Tŷ Augusta yn enghraifft wych o sut y gall ysbryd cymunedol a chydweithrediad greu newid ystyrlon. Mae gweld gwirfoddolwyr, ysgolion lleol a sefydliadau yn dod at ei gilydd i drawsnewid y gofod hwn yn wirioneddol ysbrydoledig. Bydd yr ardd hon yn dod yn etifeddiaeth barhaol i drigolion ei gwerthfawrogi, ac rydw i am estyn fy niolch i bawb a roddodd o’u hamser, eu hegni a'u hadnoddau i wneud iddo ddigwydd."

Dywedodd Rheolwr Gwasanaeth Tŷ Augusta, Helen Beecham:

"Mae’r haelioni, y caredigrwydd a'r ysbryd cymunedol a ddangoswyd gan bawb a gyfrannodd at Brosiect Garddio Tŷ Augusta wedi ein cyffwrdd. Mae gweld gwirfoddolwyr, ysgolion a sefydliadau lleol yn dod at ei gilydd i greu gofod mor hardd wedi bod yn hynod galonogol. Bydd yr ardd hon nid yn unig yn dod â llawenydd i'n trigolion ond bydd hefyd yn atgof parhaol o'r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd pobl yn dod ynghyd gyda phwrpas cyffredin. O waelod ein calonnau, diolch am wireddu'r freuddwyd hon!"

Dywedodd Cheryl a Suzanne o Gyfeillion Augusta:

"Allwn ni ddim diolch i chi i gyd ddigon. Mae gweld cymaint yn camu ’mlaen i'n helpu i gyflawni'r weledigaeth ar gyfer ein gardd wedi ein cyffwrdd. Rwy'n credu ein bod ni wedi rhagori ar bob disgwyliad ar ba mor wych mae wedi troi allan. Mae'n edrych mor lliwgar a chroesawgar. Rydyn ni’n lwcus iawn i gael pobl mor feddylgar a hael yn ein cymuned."

Dywedodd disgyblion o Ysgol Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair:

"Diolch yn fawr am adael i ni eich helpu chi i wneud yr ardd yn lle mwy prydferth a llawen. Gwnaethom ni fwynhau plannu blodau, trefnu'r gwelyau blodau a thynnu'r chwyn. Rydym yn gobeithio y bydd yr ardd yn parhau i flodeuo gyda charedigrwydd, lliw a gofal."

Meddai Ross Kirwan, Pennaeth Nyth, sy'n rhan o Raglen Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru:

''Rydym yn falch iawn o fod wedi gallu rhoi cefnogaeth i Dŷ Augusta. Yn Nyth, mae ein staff yn ymfalchïo mewn prosiectau gwirfoddoli lleol ac mae ein perthynas â thîm Gwasanaethau Cymdeithasol AƬ yn bartneriaeth wych i alluogi'r cyfleoedd hyn i barhau.  Mae'r ardd synhwyraidd yn edrych yn wych, da iawn i bawb a gymerodd ran."

Rhestr lawn o Wirfoddolwyr:

Disgyblion Blwyddyn 6 Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair, Brynmawr

James O'Connell a disgyblion Ysgol Pen y Cwm 16+

Sam Jones - Nwy Prydain

Michelle Symonds – Nwy Prydain

Cheryl Jones - Cyfeillion Augusta

Suzanne Cadwallader - Cyfeillion Augusta

Rebecca Morris - CBSBG

Victoria Taylor - CBSBG

Dominic Dickson - CBSBG

Karen Smith - CBSBG

Ian Robbins - CBSBG

Sian Hughes - CBSBG

Paul Fry - CBSBG

Garrod Fry - CBSBG

Ian Thomas - CBSBG

Lee Jenkins - CBSBG

John Mewett - CBSBG Tîm Gwasanaethau Cymdogaeth

Craig Blunsdon - CBSBG

Lisa Jones - CBSBG

Matthew Stent - CBSBG

Noel Chard - CBSBG

David Ingram - CBSBG

Nadine Morgan – CBSBG

Staff Dyffryn Distaw

Able Touch Carpentry & Joinery, Tredegar

Ken Sullivan

 

]]>
/cy/newyddion/gwirfoddolwyr-yn-estyn-yn-ddwfn-i-w-pocedi-i-ddod-a-phrosiect-garddio-ty-augusta-yn-fyw/ /cy/newyddion/gwirfoddolwyr-yn-estyn-yn-ddwfn-i-w-pocedi-i-ddod-a-phrosiect-garddio-ty-augusta-yn-fyw/ Fri, 30 May 2025 10:26:31 GMT Louise Bishop
Prosiectau eisiau help i ymgysylltu ag unigolion economaidd anweithgar ledled AƬ Mae Cyngor AƬ yn chwilio am bartneriaid i'w helpu i gyflawni ei gynllun peilot Trailblazer.

Mae Cymru yn un o naw lle sy'n derbyn cymorth drwy raglen arloesi anweithgarwch economaidd Llywodraeth y DU gwerth £125 miliwn, sy'n targedu ardaloedd â'r lefelau uchaf o anweithgarwch.

Bydd arweinwyr lleol ym Mlaenau Gwent, Sir Ddinbych a Chastell-nedd Port Talbot yn dylunio cynlluniau cymorth cyflogaeth wedi'u teilwra i heriau unigryw eu cymuned. Bydd y cynlluniau peilot yn cael eu dylunio a'u cyflwyno gan bartneriaid Awdurdodau Lleol i ddatblygu a phrofi dulliau lleol o leihau anweithgarwch economaidd.

Mae'r Cyngor yn gofyn am Fynegi Diddordeb ar gyfer prosiectau i helpu i gyflawni'r cynllun. Mae angen i brosiectau sicrhau bod y cyfranogwyr targed yn breswylwyr economaidd anweithgar ym Mlaenau Gwent sy'n 16+ o ran oedran gyda ffocws ar yr unigolion hynny sy'n anabl, sydd â chyflyrau iechyd hirdymor a/neu sydd â chyfrifoldebau gofalu.

Er y gall prosiectau wella'r ddarpariaeth bresennol, byddai'r Cyngor yn croesawu'n arbennig technegau newydd ac arloesol i wella a chynyddu ymgysylltiad.

Mae angen i brosiectau hefyd fod yn ymwybodol o'r angen am ddyddiad cychwyn cyflym y prosiect a'r amserlen fer (dyddiad gorffen Mawrth 2026) i gyflawni. Dylai lefel y wybodaeth a ddarperir ar gyfer y cais fod yn gymesur â maint y prosiect a gynigir.

Uchafswm dyraniadau cyllid fydd £60,000 fesul prosiect.

Y dyddiad cau ar gyfer Mynegiadau o Ddiddordeb yw dydd Mawrth, 10 Mehefin 2025.

Mae'r Ffurflen Mynegi Gwybodaeth i'w gweld yma.

Dychwelwch ffurflenni wedi'u cwblhau i'r cyfeiriad e-bost canlynol Trailblazer@blaenau-gwent.gov.uk erbyn dydd Mawrth 10 Mehefin 2025.

]]>
/cy/newyddion/prosiectau-eisiau-help-i-ymgysylltu-ag-unigolion-economaidd-anweithgar-ledled-blaenau-gwent/ /cy/newyddion/prosiectau-eisiau-help-i-ymgysylltu-ag-unigolion-economaidd-anweithgar-ledled-blaenau-gwent/ Fri, 30 May 2025 13:11:33 GMT Carolyn Jenkins
Gwaith atal llifogydd yng nghymunedau AƬ yn symud ymlaen yn dda (1) Mae gwaith wedi dechrau ar fesurau atal llifogydd yn Llanhiledd. Yn gynharach eleni, cymeradwyodd y Cyngor raglenni gwaith ar gyfer y cymunedau a gafodd eu taro waethaf gan ddigwyddiadau llifogydd diweddar yn Llanhiledd, Cwm a Thredegar.

Mae contractwyr wedi dechrau disodli'r rhan o gwlfer Nant Cyffin o ffin y rheilffordd i'r afon ac mae disgwyl i'r gwaith gymryd tua 18 wythnos i'w gwblhau. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd gwyriad traffig ar waith, a bydd y ffordd ochr sy'n arwain at Stryd y Rheilffordd ar gau dros dro.

Yn y Cwm, mae'r gwaith yn mynd rhagddo'n dda. Disgwylir i'r gwaith ar y prif gwlfer orffen yng nghanol mis Mehefin yn ôl y disgwyl, a bydd contractwyr yn dechrau yng nghefn Stryd y Brenin yr wythnos nesaf.

Yng Nghwmtyleri, lleoliad y tirlithriad yn ystod Storm Bert, mae'r ymchwiliadau safle bellach wedi'u cwblhau, ac mae'r Cyngor yn y broses o ddatblygu rhaglen waith a fydd yn cael ei rhannu â thrigolion yr effeithir arnynt cyn bo hir.

Yn Nhredegar mae'r gwaith o osod gatiau llifogydd a chynnal a chadw coed wedi'i gwblhau, ac mae mesurau eraill yn parhau i geisio darparu amddiffyniad rhag llifogydd ac atal llifogydd rhag digwydd eto.

ѱ岹’r Cynghorydd Tommy Smith, yr Aelod Cabinet dros Gymdogaethau a'r Amgylchedd:

"Mae gwaith atal llifogydd a diogelwch tomenni yn y cymunedau hyn yn brif flaenoriaeth i ni. Mae llifogydd a digwyddiadau tywydd eithafol yn cael effaith ddinistriol ar gymunedau, ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i nodi problemau ac atal y tebygolrwydd o ddigwyddiadau yn y dyfodol gobeithio, yn ogystal â chefnogi cymunedau gyda gwytnwch a pharodrwydd lleol."

]]>
/cy/newyddion/gwaith-atal-llifogydd-yng-nghymunedau-blaenau-gwent-yn-symud-ymlaen-yn-dda-1/ /cy/newyddion/gwaith-atal-llifogydd-yng-nghymunedau-blaenau-gwent-yn-symud-ymlaen-yn-dda-1/ Wed, 04 Jun 2025 08:29:05 GMT Louise Bishop
Plant ysgol yn helpu i agor pont a llwyfan pysgota wedi'u hadnewyddu yng nghanol gwarchodfa natur y cymoedd (1) Mae gwaith adnewyddu pont a llwyfan pysgota ym Mhwll Cwmcelyn ym Mlaina wedi'i ddadorchuddio'n swyddogol.

Nododd ymgynghoriad â'r gymuned leol fod angen uwchraddio'r ardal i ddiogelu'r strwythurau i bobl eu mwynhau am flynyddoedd i ddod! Mae'r bont yn darparu llwybr uniongyrchol i gymunedau y naill ochr a'r llall; yn llwybr teithio llesol i'r ysgol gyfagos ac yn nodwedd ddeniadol ar gyfer mwynhau Gwarchodfa Natur Cwmcelyn a golygfeydd o'r dyffryn. Mae pobl hefyd yn stopio i wylio’r llawer o fywyd gwyllt sy'n byw ar ac o amgylch y pwll.

Nododd a sicrhaodd y Cyngor gyllid drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU (piler Cymunedau a Lleoedd) a Grant Gwella Mynediad Llywodraeth Cymru, sy'n anelu at wella mynediad i gefn gwlad, mannau gwyrdd a thir mynediad agored.

Heddiw, ymunodd cynrychiolwyr Cyngor AƬ â disgyblion o Ysgol Gynradd Ystruth, Cymdeithas Tenantiaid a Phresgolion Cwmcelyn, pysgotwyr lleol a chontractwyr Horizon Civil Engineering Ltd i ddathlu ailagor y cyfleusterau.

 Meddai'r Cynghorydd Tommy Smith, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gymdogaethau a Gwasanaethau Amgylcheddol:

"Fe wnaethon ni ymgynghori â Chymdeithas Tenantiaid a Phreswylwyr Cwmcelyn, Clwb Pysgotwyr Cwmcelyn a'r gymuned ehangach i ddysgu beth oedd yn bwysig iddyn nhw ac roedd cefnogaeth aruthrol i'r warchodfa natur a'r awydd i'w gweld yn cael ei gwella a'i gwarchod i'w defnyddio nawr ac yn y dyfodol. Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu gwneud i hyn ddigwydd, trwy weithio mewn partneriaeth, ac mae wedi bod yn wych bod yma yn yr agoriad a gweld faint mae'n ei olygu i'r gymuned. Diolch i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth ariannol i helpu'r cynlluniau hyn i ddod yn fyw. Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw bod yn yr awyr agored a bod ym myd natur ar gyfer lles corfforol a meddyliol, ac rydym wedi ymrwymo i weithio i ddarparu amgylcheddau sy'n hyrwyddo hyn ac sy'n cysylltu cymunedau."

Meddai'r Cynghorydd Lisa Winnett, sy'n cynrychioli ward y Blaenau:

"Hoffwn ddiolch i'r holl swyddogion o'r Cyngor am eu help yn gweithio gyda mi a'r gymuned i adfer yr ased cymunedol gwerthfawr hwn. Mae trigolion yn gwerthfawrogi'r bont hon yn fawr fel cysylltiad cerdded rhwng ystadau a’r ysgol leol, ac i sefyll i wylio natur a mwynhau’r dirwedd hyfryd o amgylch y warchodfa natur."

Meddai Ross Townley, Ysgrifennydd Clwb Pysgota Cwmcelyn:

"Rydym yn ddiolchgar iawn am y gwaith o safon uchel sydd wedi’i wneud ar y bont a'r llwyfan ym Mhwll Cwmcelyn. Mae'r canlyniadau’n werth yr aros, a dylai'r deunyddiau gwydn sydd wedi’u defnyddio sicrhau bod y strwythur yn gwasanaethu'r gymuned yn dda am flynyddoedd lawer. Mae'r gwelliannau hyn eisoes wedi gwneud gwahaniaeth ystyrlon – cefnogi plant ar eu ffordd i'r ysgol, gwella'r profiad i'r rhai sy'n cerdded ar lannau’r pwll bob dydd, ac annog mwy o ddefnydd o'r ardal yn gyffredinol. Mae'r llwyfan newydd hefyd yn darparu gofod diogel, pwrpasol i ni gyflwyno pobl ifanc i bysgota – rhywbeth rydyn ni’n falch o'i gefnogi. Diolch yn fawr i bawb a helpodd i gyflawni'r prosiect gwerthfawr hwn."

Er mwyn sicrhau hirhoedledd y bont a'r llwyfan pysgota, defnyddiwyd plastig cyfansawdd wedi'i ailgylchu. Mae hwn yn ddeunydd cynaliadwy hirhoedlog nad yw’n gofyn am lefel uchel o gynnal a chadw, ac mae ganddo hyd oes o 75 mlynedd.

]]>
/cy/newyddion/plant-ysgol-yn-helpu-i-agor-pont-a-llwyfan-pysgota-wediu-hadnewyddu-yng-nghanol-gwarchodfa-natur-y-cymoedd-1/ /cy/newyddion/plant-ysgol-yn-helpu-i-agor-pont-a-llwyfan-pysgota-wediu-hadnewyddu-yng-nghanol-gwarchodfa-natur-y-cymoedd-1/ Wed, 04 Jun 2025 13:13:23 GMT Louise Bishop
vGŵyl Fwyd Canol y Dref, Brynmawr, 14eg o Fehefin Cynhelir Gŵyl Fwyd Canol y Dref, Brynmawr ar y 14eg o Fehefin, o 10am i 5pm. Gall ymwelwyr fanteisio ar y gwasanaeth Parcio a Theithio am ddim, gan sicrhau mynediad hawdd i ganol y dref.

Mae'r Ŵyl Fwyd yn cynnwys cerddoriaeth fyw, gyda pherfformiadau gan The Kiltics, Laura Jasmin, The Valli Boys, a chyflwynwyr radio cymunedol BGFM, gan greu awyrgylch bywiog drwy gydol y dydd. Gall ymwelwyr fwynhau ystod eang o ddanteithion gan werthwyr bwyd a diod, a fydd yn gweini bwydydd blasus a diodydd. Gall teuluoedd fwynhau amrywiaeth o adloniant i blant, gan wneud hwn yn ddigwyddiad llawn hwyl i bob oed.

Gyda chymysgedd cyffrous o fwyd gwych, cerddoriaeth fyw wych, a gweithgareddau i bawb, mae Gŵyl Fwyd Canol y Dref, Brynmawr yn addo bod yn brofiad bythgofiadwy. Mae'r digwyddiad hwn wedi'i drefnu gan Gyngor AƬ ac wedi'i ariannu trwy Lywodraeth Cymru.

Bydd Kiersten Ward, awdur Mindful Monster, yn llofnodi llyfrau yn yr ŵyl fwyd. Gyda dros 20,000 o gopïau wedi'u gwerthu mewn ychydig dros 6 mis, mae llyfrau Kiersten yn cyrraedd teuluoedd ar draws y DU. Mae'r storïau bywiog a pherthnasol hyn yn archwilio teimladau a phryderon cyffredin mewn ffordd chwareus a hygyrch, gan helpu plant i ddeall a mynegi eu hemosiynau.

Mynegodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet dros yr Economi a Lleoedd, ei frwdfrydedd dros y digwyddiad, gan ddatgan:

"Mae Gŵyl Fwyd Canol y Dref, Brynmawr yn gyfle gwych i'n cymuned ddod ynghyd a dathlu'r talentau coginio amrywiol sydd gennym yma ym Mlaenau Gwent. Rwy'n annog pawb i ddod draw a mwynhau'r diwrnod."

]]>
/cy/newyddion/vgwyl-fwyd-canol-y-dref-brynmawr-14eg-o-fehefin/ /cy/newyddion/vgwyl-fwyd-canol-y-dref-brynmawr-14eg-o-fehefin/ Thu, 05 Jun 2025 09:36:26 GMT Louise Bishop
Wythnos Anabledd Dysgu – 16eg – 22ain o Fehefin 2025 Y thema eleni yw "Ydych chi'n fy ngweld i?" sy'n ymwneud â phobl ag anabledd dysgu yn cael eu gweld, eu clywed a'u gwerthfawrogi.

Yn aml, caiff anabledd dysgu ei gymysgu ag anawsterau dysgu fel dyslecsia, dyscalcwlia ac ADHD. Gallu deallusol is yw anabledd dysgu, a nodir fel arfer yn fuan ar ôl genedigaeth neu yn y blynyddoedd cynnar, a bydd yn para oes gyfan berson.

Er bod anabledd dysgu yn barhaol, gall llawer o bobl ddatblygu sgiliau newydd drwy gydol eu bywydau ac, wrth gwrs, gall cymdeithasau a chymunedau newid i fod yn fwy cynhwysol.

Gallwch ddysgu mwy am beth yw anabledd dysgu a chlywed gan bobl ag anabledd dysgu drwy ymweld â

Mae Cyngor AƬ yn cydweithio â Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Llywodraeth Cymru i ddyfnhau ei ddealltwriaeth o'r Model Cymdeithasol o Anabledd. Mae'r model hwn yn tynnu sylw at y ffaith bod unigolion yn cael eu hanablu gan rwystrau ac agweddau cymdeithasol, sy'n eu hatal rhag byw bywydau hapus ac iach. O ganlyniad, rydym wedi symud ymlaen i ddod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd Lefel 2, gan ailddatgan ein hymrwymiad i feithrin gweithle cynhwysol a chefnogol. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn rhan o fenter Hyderus o ran Anabledd Llywodraeth y DU, sy'n annog cyflogwyr i recriwtio, cadw a datblygu unigolion talentog ag anableddau a chyflyrau iechyd.

Mae cynllun Hyderus o ran Anabledd yn cynnwys tair lefel a gynlluniwyd i gefnogi sefydliadau:

Lefel 1: Ymrwymedig o ran Hyderus o ran Anabledd

Lefel 2: Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd

Lefel 3: Arweinydd Hyderus o ran Anabledd

Ar ôl cyflawni statws Lefel 1 yn flaenorol, mae ailasesiad diweddar y Cyngor wedi cadarnhau ei gynnydd i Lefel 2. Mae'r cyflawniad hwn yn tanlinellu ein hymroddiad i greu gweithle lle mae gan bawb y cyfle i ffynnu.

Mynychwch Weminar yr Wythnos hon!

Manylion y Gweminar

Dyddiad ac amser

Linc Cofrestru

 

Gweminar Mencap - Interniaethau â Chymorth a gweithio gyda phobl ag Anghenion Addysgol Arbennig yn y gweithle

 

18/06/2025

14:00 - 15:00

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ymgynghoriad ar y Cynllun Hawliau Pobl Anabl

Lansiwyd Cynllun Hawliau Pobl Anabl drafft Llywodraeth Cymru ar gyfer ymgynghori ar 15 Mai. Bydd yr ymgynghoriad yn para am 12fed  wythnos ac yn dod i ben ar 7fed  Awst 2025. 

Cynllun Hawliau Pobl Anabl Drafft | LLYW.CYMRU

Mae'r Cynllun yn nodi uchelgais 10 mlynedd traws-lywodraethol a'r canlyniadau hirdymor y mae'n gweithio tuag atynt i sicrhau y gall pobl anabl ffynnu fel aelodau cyfartal o gymdeithas Cymru, ac i herio gwahaniaethu a rhagfarn. Fe'i cynhyrchwyd ar y cyd â Phobl Anabl ledled Cymru.

Dim ond os yw sefydliadau a phobl ledled Cymru yn cydweithio i'w gyflawni y gall y cynllun hwn lwyddo.

 

]]>
/cy/newyddion/wythnos-anabledd-dysgu-16eg-22ain-o-fehefin-2025/ /cy/newyddion/wythnos-anabledd-dysgu-16eg-22ain-o-fehefin-2025/ Mon, 16 Jun 2025 10:15:28 GMT Carolyn Jenkins
Cyngor AƬ yn sicrhau £40,000 i gefnogi gofalwyr di-dâl Mae Cyngor AƬ wedi croesawu cyllid o £40,000 i'w helpu i barhau â'u gwaith hanfodol yn cefnogi gofalwyr di-dâl o bob oedran.

Mae'r arian wedi'i sicrhau unwaith eto drwy Gronfa Gymorth i Ofalwyr Llywodraeth Cymru, y mae'r Cyngor wedi ei defnyddio i gefnogi bron i 400 o ofalwyr dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae hyn wedi cynnwys dyfarnu grantiau uniongyrchol, cynnal sesiynau cymorth ar ystod o bynciau gwahanol a threfnu gweithgareddau i ofalwyr ifanc.

Mae gofalwyr di-dâl wedi cael cymorth gyda chyllidebu personol, eu lles emosiynol a chorfforol, cymorth cyflogaeth, cyngor budd-daliadau a mynediad at dechnolegau newydd i helpu gyda'u rôl ofalu. Mae'r arwyr cudd hyn wedi elwa o grantiau i'w gwario ar eitemau hanfodol gan gynnwys bwyd, dillad ac eitemau trydanol, sydd wedi cael ei groesawu ar adeg pan mae costau byw wedi cynyddu'n ddramatig.

Mae gofalwyr ifanc wedi cymryd rhan mewn nifer o ddiwrnodau gweithgareddau ac yn y flwyddyn gyntaf cwblhaodd pedwar person ifanc eu Gwobr Dug Caeredin Efydd diolch i'r gronfa gan ddysgu sgiliau newydd, gwneud ffrindiau newydd a meithrin hyder, hunan-barch a gwytnwch emosiynol.

Ers 2022, mae'r Gronfa Gymorth i Ofalwyr wedi cynnig cyllid grant i sefydliadau lleol ac wedi cynorthwyo bron i 30,000 o ofalwyr di-dâl ledled Cymru. Mae'r cynllun yn cael ei reoli gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a, diolch i’r penderfyniad i adnewyddu cyllid Llywodraeth Cymru, bydd yn rhedeg am flwyddyn arall tan fis Mawrth 2026, gan gefnogi 8,000 o ofalwyr ychwanegol.

Meddai'r Cynghorydd Helen Cunningham, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Oedolion a Chymunedau yng Nghyngor AƬ:

"Mae gofalwyr di-dâl o bob oed yn rhan hanfodol o'n cymunedau - yn dawel ac anhunanol yn cefnogi anwyliaid bob dydd. Mae eu gwytnwch a'u hymroddiad yn haeddu cydnabyddiaeth. Rwy'n falch iawn y gallwn barhau i gynnig y gefnogaeth hon i ofalwyr drwy'r Gronfa Gymorth i Ofalwyr am flwyddyn arall. Mae'n caniatáu i ni roi ychydig o gymorth i helpu i leddfu peth o'r pwysau sy'n dod gyda bod yn ofalwr."

Meddai Kate Cubbage, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru:

"Mae gofalwyr di-dâl ledled Cymru yn cynnig gofal amhrisiadwy i aelodau o'r teulu, ffrindiau ac anwyliaid, sydd yn aml yn aberth personol mawr. Rydym wedi clywed gan ofalwyr di-dâl fod y Gronfa Gymorth i Ofalwyr wedi bod yn hanfodol yn eu helpu i gadw bwyd ar y bwrdd a gwres yn eu cartrefi. Mae'r rhaglen hon yn helpu i gynnal gofalwyr trwy rai o'r amseroedd anoddaf.

"Bydd y cyllid parhaus o £1.5 miliwn sy’n cael ei ddosbarthu ledled Cymru drwy Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn galluogi sefydliadau gofalwyr lleol a phartneriaid darparu i gyrraedd miloedd yn fwy o ofalwyr di-dâl i’w hamddiffyn rhag tlodi i mewn i 2026.

"Rydym wrth ein bodd fod Cyngor AƬ wedi llwyddo i wneud cais am gyllid am flwyddyn arall i helpu'r gofalwyr y mae'n eu cefnogi. Gyda'n gilydd, rydym yn cynnig achubiaeth i ofalwyr di-dâl a'r cyfle iddynt gael cefnogaeth werthfawr."

Ynglŷn ag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru:

Nod Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, sy'n rhan o’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr, yw llunio dyfodol gwell gydag ac i ofalwyr yng Nghymru drwy godi ymwybyddiaeth, grymuso gofalwyr a dylanwadu ar newid. Mae wedi ymrwymo i sicrhau bod pob gofalwr yn derbyn y gydnabyddiaeth a'r gefnogaeth y mae’n ei haeddu. Mae'n gweithio'n agos ac ar y cyd â Phartneriaid Rhwydwaith - elusennau annibynnol lleol a rhanbarthol sy'n darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ymarferol i ofalwyr di-dâl yng Nghymru. 

Mae dros 310,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru - bydd 3 o bob 5 ohonon ni’n dod yn ofalwr ar ryw adeg yn ein bywydau. Mae ein Partneriaid Rhwydwaith yn cefnogi mwy na 36,000 o ofalwyr yng Nghymru.

Ynglŷn â'r Gronfa Gymorth i Ofalwyr:

Nod y Gronfa Gymorth i Ofalwyr, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yw darparu gwasanaethau hanfodol a chyllid grant i gefnogi gofalwyr di-dâl sy'n wynebu caledi ariannol, yn enwedig oherwydd costau byw cynyddol.

Ers ei sefydlu yn 2022, mae'r gronfa wedi darparu cyllid grant i sefydliadau lleol a chynorthwyo bron i 30,000 o ofalwyr di-dâl ledled Cymru. Mae'r grantiau hyn yn cynnig rhyddhad hanfodol i unigolion sy'n gofalu am anwyliaid mewn angen, gan helpu i leddfu pwysau ariannol. Diolch i gyllid parhaus gan Lywodraeth Cymru, mae bellach yn rhedeg tan 2026 a bydd yn cefnogi 8,000 o ofalwyr ychwanegol.

 

]]>
/cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-sicrhau-40-000-i-gefnogi-gofalwyr-di-dâl/ //Աɲ徱Dz/Բǰ-Բ-ɱԳ--󲹳-40-000--ڲԴDz-Ǵڲɲ-徱-â/ Tue, 17 Jun 2025 09:04:29 GMT Louise Bishop
Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr yn cael ei henwi'n Ysgol Noddfa (2) Mae Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr wedi derbyn statws Ysgol Noddfa yn swyddogol i gydnabod ei hamgylchedd dysgu diogel a chroesawgar.

Mae'r ysgol wedi gweithio'n agos gydag Ysgolion Noddfa a sefydliadau eraill i roi gwell dealltwriaeth i ddisgyblion o'r amrywiaeth a geir yn eu cymunedau lleol, ac o'r profiadau a'r heriau sy'n wynebu'r rhai sy'n ceisio noddfa. Mae dysgwyr o'r ysgol 3 – 16 oed yng Nglynebwy wedi cymryd rhan yn y prosiectau a'r gweithgareddau canlynol:

  • Wythnos Ffoaduriaid. Wythnos bwrpasol o ddysgu, myfyrio a dathlu sy'n codi ymwybyddiaeth o brofiadau a chyfraniadau ffoaduriaid.
  • Prosiect Cart Celf Symudol: Mewn cydweithrediad â'r elusen MOC, daeth y fenter hon â mynegiant creadigol ac ymgysylltiad cymunedol yn fyw, gan gynnig platfform symudol i fyfyrwyr archwilio themâu hunaniaeth, perthyn, a noddfa.
  • Llyfr Croeso i Ffoaduriaid: Prosiect pwerus dan arweiniad yr artist Matt Joyce, lle cyfrannodd myfyrwyr negeseuon a gwaith celf i gynnig croeso twymgalon i ffoaduriaid sy'n ymuno â'n cymuned.
  • Arferion Cynhwysiant Ysgol Gyfan: Ar draws pob grŵp blwyddyn ac adran, rydym wedi ymgorffori gwerthoedd o groeso a chynhwysiant yn ein cwricwlwm, gofal bugeiliol, a rhyngweithiadau dyddiol, gan sicrhau bod pob myfyriwr yn teimlo cydnabyddiaeth, diogelwch a chefnogaeth.

Dywed y Pennaeth Mel Thomas:

"Mae hon yn gydnabyddiaeth wirioneddol fawreddog, ac mae'n dyst i ymroddiad, tosturi a gwaith caled gwych pob aelod o gymuned ein hysgol. Mae bod yn Ysgol Noddfa yn golygu ein bod wedi creu amgylchedd sy'n hyrwyddo cynhwysiant, dealltwriaeth a chefnogaeth yn weithredol i ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae'n ymwneud ag adeiladu diwylliant o garedigrwydd, empathi a dinasyddiaeth fyd-eang - gwerthoedd sydd wrth wraidd popeth a wnawn. Mae'r wobr hon yn ein gosod ymhlith grŵp dethol o ysgolion yng Nghymru ac mae'n enghraifft arall o sut rydym yn parhau i osod y safon ar gyfer rhagoriaeth a thosturi mewn addysg.

"Rhaid talu teyrnged arbennig i Antonia Lane, yr oedd ei hymdrechion diflino a'i hymrwymiad diwyro yn allweddol wrth gyflawni'r wobr hon. Mae ei harweinyddiaeth a'i hangerdd wedi bod yn ddim llai nag ysbrydoledig!"

Meddai'r Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet Cyngor AƬ dros faterion Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:

"Da iawn i Gymuned Ddysgu Ebwy Fawr ar ddod yn Ysgol Noddfa. Diolch i bawb a gymerodd ran am eu gwaith caled ac i'r dysgwyr, eu teuluoedd a chymuned gyfan yr ysgol am gofleidio a bod yn rhan o'r daith hon. Fel Cyngor, rydym yn gweithio mewn partneriaeth i wneud AƬ yn lle diogel a chroesawgar i bawb ac mae cael plant a phobl ifanc wrth wraidd hyn yn allweddol. Llongyfarchiadau."

Mwy am fod yn Ysgol Noddfa

]]>
/cy/newyddion/cymuned-ddysgu-ebwy-fawr-yn-cael-ei-henwin-ysgol-noddfa-2/ /cy/newyddion/cymuned-ddysgu-ebwy-fawr-yn-cael-ei-henwin-ysgol-noddfa-2/ Wed, 18 Jun 2025 10:41:04 GMT Louise Bishop
Pennod newydd gyffrous ar gyfer gofal plant cyfrwng Cymraeg ym Mlaenau Gwent Cyrhaeddwyd carreg filltir hir-ddisgwyliedig ym maes addysg cyfrwng Cymraeg a gofal plant, yn gynharach eleni gydag agoriad Tŷ Chwarae,

meithrinfa ddydd newydd sbon yn Ebwy Fawr. Fel y feithrinfa gyfrwng Cymraeg gyntaf ym Mlaenau Gwent, mae ei lansiad yn gam balch a blaengar ymlaen - un sydd eisoes yn creu galwadau am fwy o leoliadau o'r fath ledled y sir.

Dechreuodd y daith gydag Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant 2017, a ddatgelodd fwlch dybryd mewn gofal plant cyfrwng Cymraeg yn y rhanbarth. Ar y pryd, dim ond tair o'r pedair ardal cynllunio cymunedol oedd â darpariaeth gofal plant yng Nghymru— doedd dim yn Ebwy Fawr. Cyfeiriodd rhieni at ddiffyg opsiynau Cymraeg lleol ac oriau meithrin cyfyngedig fel rhwystrau mawr i ddewis llwybr cyfrwng Cymraeg i'w plant.

Er mai dim ond 1% o blant lleol oedd o aelwydydd Cymraeg eu hiaith yn bennaf, a 6% o gartrefi dwyieithog, mynegodd 55% o rieni a ymatebodd i'r arolwg digonolrwydd gofal plant, awydd i'w plant ddod yn ddwyieithog. Fodd bynnag, dim ond 8% oedd yn bwriadu cofrestru eu plant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg—gan dynnu sylw at yr angen am ddarpariaeth blynyddoedd cynnar hygyrch i gefnogi'r dyhead hwnnw.

Dechreuodd cynllunio ar gyfer Tŷ Chwarae o ddifrif yn 2018. Daeth y feithrinfa yn rhan o weledigaeth ehangach i gymryd lle ysgol Glyncoed ac alinio â nod Llywodraeth Cymru i gyd-leoli lleoliadau addysg a gofal plant. Gyda chais cyllid cyfalaf llwyddiannus, ac er gwaethaf oedi sy'n gysylltiedig â Covid, cwblhawyd adeiladau'r ysgol a'r feithrinfa erbyn Hydref 2024.

Yn dilyn proses ddethol drylwyr, dewiswyd darparwr cyfrwng Saesneg uchel ei barch yn Ebwy Fawr i redeg y gwasanaeth, yn seiliedig ar eu hanes profedig a'u hymrwymiad cryf i ddatblygu meithrinfa cyfrwng Cymraeg cwbl. Gyda chefnogaeth gan y Mudiad Meithrin a'r awdurdod lleol, buddsoddodd y darparwr i hyfforddi staff sy'n siarad Cymraeg ac uwchsgilio eraill, gan gynnwys ymweld â lleoliad Torfaen a oedd wedi trosglwyddo o'r Saesneg i'r Gymraeg.

Ers agor ei ddrysau, mae Tŷ Chwarae wedi ffynnu - croesawu nifer cynyddol o deuluoedd a meithrin sgiliau Cymraeg plant mewn amgylchedd ymgolli, cefnogol. Mae'r llwyddiant wedi bod mor amlwg, mae staff Cymraeg newydd eisoes wedi'u recriwtio i ateb y galw cynyddol.

Mae lansiad y feithrinfa wedi'i amseru'n berffaith ag agoriad Ysgol Gymraeg Tredegar ym mis Hydref, gan ymuno ag Ysgol Bro Helyg fel un o ddwy gynradd cyfrwng Cymraeg y sir—gyda darpariaeth uwchradd ar y gorwel. Mae'n gyfnod ysbrydoledig i addysg Gymraeg a gofal plant ym Mlaenau Gwent. 

Llongyfarchiadau i bawb sy'n cymryd rhan—mae eich ymroddiad yn llunio dyfodol bywiog, dwyieithog i'r genhedlaeth nesaf.

I gael rhagor o wybodaeth am addysg cyfrwng Cymraeg, dilynwch y dolenni isod:

 

Ty Chwarae:

 

Mudiad Meithrin:

 

Gwybodaeth o'n tudalen Cyngor:

/cy/preswylwyr/ysgolion-a-dysgu/bod-yn-ddwyieithog-1/

]]>
/cy/newyddion/pennod-newydd-gyffrous-ar-gyfer-gofal-plant-cyfrwng-cymraeg-ym-mlaenau-gwent/ /cy/newyddion/pennod-newydd-gyffrous-ar-gyfer-gofal-plant-cyfrwng-cymraeg-ym-mlaenau-gwent/ Wed, 25 Jun 2025 11:04:54 GMT Carolyn Jenkins
Goleuo'r Ffordd: Joe Nash, ein Pencampwr Cymraeg Cyntaf

Wrth i ni ddadorchuddio ein Rhestr Anrhydeddau Pencampwyr Cymraeg—teyrnged i unigolion sy'n dathlu, siarad ac yn rhannu cyfoeth yr iaith Gymraeg—rydym yn falch o gyflwyno ein hanrhydeddwr cyntaf: y nodedig Joe Nash o Frynmawr.

Yn ddim ond 22, mae Joe yn ymgorffori'r angerdd, y dyfalbarhad a'r pwrpas sy'n diffinio gwir hyrwyddwr iaith. Wedi'i eni i deulu nad oedd yn siarad Cymraeg, dechreuodd taith Joe yn Ysgol Gynradd Ystruth ac Ysgol Sefydledig Brynmawr, lle sbardunodd athrawes Ffrangeg ysbrydoledig, Joanne Morgan, ei gariad at ieithoedd am y tro cyntaf. Fe wnaeth y wreichionen honno danio llwybr tanbaid.

Aeth ei daith academaidd ag ef o Barth Dysgu AƬ, lle dilynodd Safon Uwch mewn Bioleg, Sbaeneg a Chymraeg Ail Iaith, i Brifysgol Abertawe, lle dyfnhaodd ei rhuglder drwy radd arloesol mewn ieithoedd tramor a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg. Dywedodd, "Mae ymgolli yn yr iaith wedi fy helpu i gyflawni rhuglder - ac rydw i wedi cwrdd â phobl wirioneddol anhygoel ac ysbrydoledig ar hyd y ffordd."

Arweiniodd syched Joe am ddiwylliant a chysylltiad ef i Sbaen, lle nid yn unig roedd yn meistroli Sbaeneg ond hefyd yn dysgu mewn ysgolion lleol, gan rannu ei gariad at iaith ar draws ffiniau. "Byddwn i'n byw bywyd hollol wahanol pe na bawn i wedi dysgu siarad Cymraeg," meddai - yn dyst i'r pŵer trawsnewidiol o gofleidio iaith newydd.

Bellach yn siapio meddyliau ifanc yn Ysgol Sefydledig Brynmawr wrth gwblhau ei TAR, nid yn unig y mae Joe yn dysgu iaith - mae'n meithrin hyder, hunaniaeth a balchder diwylliannol yn ei fyfyrwyr.

Gyda thân yn ei galon a'i weledigaeth yn ei gam, mae Joe Nash yn fwy na'n hanrhydeddwr cyntaf—mae'n ymgorfforiad o'r hyn y gall yr iaith Gymraeg ei gyflawni pan gaiff ei rannu gyda dewrder, caredigrwydd ac ymrwymiad.

Rydym yn llongyfarch Joe ar ddod yn Bencampwr Cymraeg cyntaf. Mae'r dyfodol yn fwy disglair i bob myfyriwr sy'n dilyn y llwybr y mae wedi'i danio.

I enwebu eich pencampwr Cymreig eich hun ychwanegwch eich manylion a'ch enwebiad or ddolen hon:

]]>
/cy/newyddion/goleuor-ffordd-joe-nash-ein-pencampwr-cymraeg-cyntaf/ /cy/newyddion/goleuor-ffordd-joe-nash-ein-pencampwr-cymraeg-cyntaf/ Thu, 26 Jun 2025 14:09:49 GMT Carolyn Jenkins
Anrhydeddwyd Nathan Wyburn gyda Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig Wrth i Fis Balchder ddod i ben, mae AƬ yn dathlu un o'i ffigurau mwyaf ysbrydoledig — yr artist a fagwyd yng Nglynebwy, Nathan Wyburn — a gyflwynwyd heddiw â Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig gan yr Aelod Hyrwyddwr Cydraddoldeb, a'r Aelod Llywyddol, y Cynghorydd Chris Smith.

Mae Nathan wedi bod yn ffynhonnell ysbrydoliaeth a balchder i bobl AƬ ers tro byd. Denodd sylw cenedlaethol am y tro cyntaf ar Britain’s Got Talent yn 2011, gan synnu cynulleidfaoedd gyda phortread o Simon Cowell wedi’i greu’n gyfan gwbl o Marmite ar dost. Ers hynny, mae wedi parhau i wthio ffiniau artistig, gan ddefnyddio deunyddiau anghonfensiynol fel saws tomato, gliter, te, plu, a melysion i greu gweithiau pwerus ac ysgogol.

Ond mae Nathan yn fwy na dim ond artist mae’n eiriolwr angerddol dros gydraddoldeb, ymwybyddiaeth o iechyd meddwl, a hawliau LGBTQ+. Mae ei gelf yn aml yn adlewyrchu ei daith bersonol ac yn gwasanaethu fel goleudy gobaith a gwelededd i eraill sy’n llywio profiadau tebyg.

Er gwaethaf clod rhyngwladol, mae Nathan wedi parhau i fod wedi’i gysylltu’n ddwfn â’i wreiddiau ym Mlaenau Gwent. O arwain sesiynau celf ysgol i greu murluniau cyhoeddus fel ei deyrnged i eicon Tredegar, Aneurin Bevan mae ei ymrwymiad i ymgysylltu â’r gymuned yn ddiysgog.

“Mae’n anrhydedd i mi dderbyn y gydnabyddiaeth hon. Rwy’n hynod falch o fod wedi cael fy magu yn yr ardal hon ac rwy’n teimlo’n fawr ei fod wedi rhoi sail gref i mi ar gyfer pwy rwyf wedi dod fel person ac artist. Rwy’n ymdrechu i barhau â’m gwaith celf a’m heiriolaeth yn y dyfodol ac rwy’n gobeithio bob amser y byddaf yn derbyn yr alwad i ddod adref a helpu gyda phrosiectau a mentrau yn yr ardal yn y dyfodol. Diolch!” meddai Nathan.

Yn fwyaf diweddar, chwaraeodd Nathan ran ganolog yn llwyddiant digwyddiad Pride cyntaf un AƬ. Roedd ei greadigrwydd, ei egni a'i arweinyddiaeth yn allweddol wrth ddod â'r dathliad yn fyw. Nid yn unig y cydlynodd y rhestr gyfan o artistiaid a berfformiodd ar y diwrnod, ond fe agorodd y digwyddiad hefyd a chyd-gyflwynodd ochr yn ochr â'i gyd-eiriolwr Wayne Courtney. Ychwanegodd ei arddangosfa "Eiconau Hoyw" elfen weledol bwerus at y diwrnod, gan ddathlu diwylliant a hanes LGBTQ+.

“Fel Hyrwyddwr Cydraddoldeb Aelodau, mae cynnal ei ddigwyddiad Balchder ei hun ym Mlaenau Gwent yn rhywbeth rydw i wedi bod yn awyddus i’w gychwyn ers peth amser,” meddai’r Cynghorydd Chris Smith. “Gyda chysylltiadau, gwaith caled a brwdfrydedd cyffredinol Nathan, roedden ni’n gallu cyflwyno digwyddiad gwirioneddol gofiadwy a oedd yn foment nodedig gan feithrin ymdeimlad o undod, parch a llawenydd ymhlith cynghreiriaid ac unigolion LHDT+.”

Mae dathliad Balchder y fwrdeistref yn dyst i bŵer cymuned a phwysigrwydd cynrychiolaeth. Mae hefyd yn cyd-fynd â mudiadau ehangach dros gydraddoldeb, gan adleisio gwaddol Terfysgoedd Stonewall 1969 a'r frwydr fyd-eang barhaus dros hawliau LGBTQ+.

Y penwythnos diwethaf, ymunodd AƬ yn falch â pharêd Balchder Cymru fel rhan o Rwydwaith Cynghorau Balch, gan ailddatgan ei ymrwymiad i gynhwysiant a chydraddoldeb.

]]>
/cy/newyddion/anrhydeddwyd-nathan-wyburn-gyda-gwobr-cydnabyddiaeth-arbennig/ /cy/newyddion/anrhydeddwyd-nathan-wyburn-gyda-gwobr-cydnabyddiaeth-arbennig/ Mon, 30 Jun 2025 15:14:55 GMT Louise Bishop
Dynes o Dredegar wedi'i gwahardd rhag cadw cŵn am bum mlynedd Mae dynes o Dredegar wedi cael ei gwahardd rhag cadw cŵn am bum mlynedd ar ôl cyfaddef nifer o droseddau lles anifeiliaid.

Mewn erlyniad a ddygwyd gan Gyngor AƬ, dywedwyd wrth Ynadon Casnewydd fod ymchwiliad gan Swyddogion Iechyd Anifeiliaid wedi darganfod 15 o gŵn mewn cewyll a llociau ar ôl gweithredu gwarant a bod y cŵn wedi'u cadw mewn modd a oedd yn torri'r Ddeddf Lles Anifeiliaid, a bod yr holl gŵn wedi'u symud i le diogel.

Roedd y cŵn a atafaelwyd yn destun gwrandawiad llys blaenorol ym mis Mai 2025, lle arweiniodd cais a wnaed gan y Cyngor at y diffynnydd yn trosglwyddo perchnogaeth o’r anifeiliaid i'r awdurdod lleol. Mae'r anifeiliaid bellach wedi cael eu hailgartrefu.

Gwnaeth Bonnie Thomas, 28 oed, o Laburnam Avenue, Tredegar, 'fethu â darparu diet addas na cheisio triniaeth filfeddygol' ar gyfer un ci y canfuwyd ei fod yn sylweddol o dan bwysau heb fwyd na dŵr ar gael ar yr adeg y gweithredwyd y warant. Cyfaddefodd y diffynnydd i fethu â diogelu'r cŵn eraill rhag 'poen, dioddefaint, anaf a chlefyd,' a oedd yn cynnwys methu â darparu gwely addas, bwyd, dŵr a chyfleoedd cymdeithasu.

Cafodd Thomas ei dedfrydu i orchymyn cymunedol 12 mis ar ôl iddi bledio'n euog i naw trosedd ar wahân. Roedd hyn yn cynnwys 96 awr o waith di-dâl, a gafodd ei ostwng o 120 awr am ble euog cynnar.

Cafodd Thomas hefyd ei gwahardd rhag cadw neu fod yn berchen ar gŵn am bum mlynedd oherwydd amodau’r llety a chreulondeb a rhaid iddi aros o leiaf bedair blynedd cyn iddi allu gwneud cais i ddileu’r gwaharddiad.

Gorchmynnwyd cyfraniad o £1,000 at gostau, a gosodwyd Gordal Dioddefwr o £114.

]]>
/cy/newyddion/dynes-o-dredegar-wedii-gwahardd-rhag-cadw-cwn-am-bum-mlynedd/ /cy/newyddion/dynes-o-dredegar-wedii-gwahardd-rhag-cadw-cwn-am-bum-mlynedd/ Tue, 01 Jul 2025 09:23:14 GMT Louise Bishop
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn Ymweld â Phrosiect Ieuenctid AƬ i Fynd i'r Afael â Heriau Presenoldeb Ysgol Yn ddiweddar, ymwelodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg, Lynne Neagle AS, â chlwb ieuenctid ym Mlaenau Gwent i weld â’i llygaid ei hun sut mae menter gydweithredol rhwng Gwasanaeth Ieuenctid y Cyngor ac ysgolion uwchradd lleol yn helpu i chwalu'r rhwystrau i bresenoldeb rheolaidd yn yr ysgol.

Yn ystod ei hymweliad â Chanolfan Ieuenctid a Chymunedol y Cwm sydd newydd ei hadnewyddu, cyfarfu Ms Neagle â phobl ifanc, gweithwyr ieuenctid a sefydliadau partner i ddysgu mwy am effaith gadarnhaol gwaith y Gwasanaeth Ieuenctid.

Wrth i Wythnos Gwaith Ieuenctid yng Nghymru ddod i ben, tynnodd yr ymweliad sylw at ymdrechion tîm 11–16 oed y Gwasanaeth Ieuenctid, sy'n cefnogi pobl ifanc i ail-ymgysylltu ag addysg, gwella eu lles, ac adeiladu dyfodol mwy disglair. Mae gweithwyr ieuenctid ymroddedig wedi’u sefydlu ym mhob ysgol uwchradd ar draws y fwrdeistref, gan gynnig cymorth un-i-un a grŵp pwrpasol i fodloni anghenion unigol.

Mae un person ifanc, Summer Morris, a gefnogwyd gan y Gwasanaeth Ieuenctid ers yn 14 oed, bellach yn rhoi rhywbeth ’nôl fel gwirfoddolwr.

Dywed Summer: "Wrth fynd trwy'r ysgol es i trwy gyfnod anodd, ond diolch i'r gweithwyr ieuenctid a’m cefnogodd drwy'r cyfnod hwn a hyd yn oed drwy'r coleg, rydw i nawr eisiau bod y person hwnnw sy'n cefnogi pobl ifanc. Mae gwneud y cwrs gwaith ieuenctid Lefel 2/3 yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth i mi wneud hynny. Helpodd gweithwyr ieuenctid fi pan roedd angen help arna i, felly nawr rydw i eisiau rhoi rhywbeth ’nôl trwy gefnogi pobl ifanc!"

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:

"Mae gwaith ieuenctid yn llawer mwy na dim ond gweithgareddau; mae'n creu mannau diogel lle gall pobl ifanc ffynnu a chyrraedd eu llawn botensial.

"Rwy'n falch iawn o weld yr effaith y mae'r cynllun hwn yn ei chael ym Mlaenau Gwent, nid yn unig drwy wella presenoldeb mewn ysgolion, ond hefyd drwy wella lles a hyder pobl ifanc. Mae'n rhoi llais i bobl ifanc ac yn eu helpu i wneud dewisiadau cadarnhaol a manteisio ar gyfleoedd a fydd yn siapio eu dyfodol."

Meddai'r Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet Cyngor AƬ dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:

 “Rydyn ni’n gweithio'n agos gyda'n hysgolion a'n partneriaid i wella presenoldeb ar draws AƬ. Mae gweithwyr ieuenctid yn chwarae rhan hanfodol yn yr ymdrech hon - maen nhw'n ffigurau dibynadwy sy'n cefnogi pobl ifanc i fynychu'r ysgol, cyflawni eu nodau, a byw bywydau diogel, hapus ac iach.”

]]>
/cy/newyddion/ysgrifennydd-y-cabinet-dros-addysg-yn-ymweld-a-phrosiect-ieuenctid-blaenau-gwent-i-fynd-ir-afael-a-heriau-presenoldeb-ysgol/ /cy/newyddion/ysgrifennydd-y-cabinet-dros-addysg-yn-ymweld-a-phrosiect-ieuenctid-blaenau-gwent-i-fynd-ir-afael-a-heriau-presenoldeb-ysgol/ Tue, 01 Jul 2025 10:17:24 GMT Louise Bishop
Cyflwyno Tîm Pêl-droed Merched AƬ cyn Taith Cwpan y Byd Street Child Roedd Theatr y Metropole yn Abertyleri yn llawn dathlu a balchder neithiwr wrth i Wasanaeth Ieuenctid AƬ gyflwyno eu Tîm Pêl-droed Merched yn swyddogol, a fydd yn cynrychioli Cymru yng Nghwpan y Byd Street Child yn Ninas Mecsico y flwyddyn nesaf.

Cyflwynodd y digwyddiad, a gynhaliwyd gan y Gwasanaeth Ieuenctid, 10 merch ifanc arbennig, rhwng 14 a 17 oed, sydd wedi'u dewis i gymryd rhan yn y twrnament rhyngwladol sy’n cael ei drefnu gan Street Child United. Daeth y noson â theuluoedd, cefnogwyr, arweinwyr lleol a chynrychiolwyr ynghyd i ddathlu taith y tîm a'r neges bwerus y tu ôl i'r ymgyrch: 'mae pob plentyn yn haeddu llais, tîm a dyfodol.'

"Mae hyn yn fwy na phêl-droed - mae'n ymwneud â grymuso, cydraddoldeb, a rhoi'r platfform maen nhw'n ei haeddu i bobl ifanc," meddai'r Cynghorydd Sue Edmunds, yr Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd. "Mae'r merched hyn yn llysgenhadon dros Flaenau Gwent a thros hawliau plant ledled y byd."

Mae Cwpan y Byd Street Child yn cyfuno chwaraeon, celf ac eiriolaeth, gan roi cyfle i bobl ifanc o amrywiaeth o gefndiroedd ddisgleirio ar lwyfan byd-eang. Bydd tîm AƬ nid yn unig yn cystadlu mewn gemau pêl-droed ond hefyd yn cymryd rhan mewn gŵyl celfyddydau a Chyngres dan arweiniad pobl ifanc sy'n canolbwyntio ar hawliau plant.

Yn ystod y lansiad, rhannodd y tîm eu gobeithion, eu breuddwydion a'u cynlluniau i godi arian ar gyfer y daith sydd o'u blaenau. Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn darparu nawdd o £5,000 ond mae'r tîm yn chwilio am fwy o gyfleoedd noddi. Os oes gennych chi ddiddordeb, cysylltwch â Kristian Gay yn kiristian.gay@blaenau-gwent.gov.uk neu ffoniwch 07412 614067.

Meddai Aelod o'r Tîm, Lilly-May York: "Mae hwn yn gyfle unwaith-mewn-oes i ni. Rydyn ni'n falch, rydyn ni'n barod, ac allwn ni ddim aros i gynrychioli ein cymuned yn Ninas Mecsico."

Mae Neville Southall, cyn-gôl-geidwad Cymru ac Everton, sy'n gweithio i Gyngor AƬ fel Llysgennad Cyflogadwyedd Chwaraeon, Iechyd a Lles, yn un o gefnogwyr mawr y tîm ac yn fentor iddynt.

Meddai: "Rwy'n falch iawn bod Gwasanaeth Ieuenctid AƬ wedi llwyddo i ennill lle yng nghwpan y byd Street Child yn Ninas Mecsico, dyma'r tro cyntaf dwi’n meddwl i dîm benywaidd o Gymru gyrraedd cwpan byd! I'r 10 merch a'r staff, bydd yn brofiad anhygoel ac yn creu hanes i'n hardal a'n gwlad. Mae'n rhaid i'r tîm godi rhywfaint o'r arian eu hunain, felly mae croeso mawr i unrhyw roddion. Mae ’na gyfleoedd nawdd, felly cefnogwch ein merched sy'n creu hanes."

Y tîm a fydd yn cystadlu yw:

Sienna-Mae Cripps
Darcy Gallier-Morgan
Lexi Hamer
Emily Brown
Ayva Batkin
Alexandra Carpe
Peyton Ayears
Ruby Jarett
Lilly-May York
Phoebe Lane  

Lluniau gan Seren Friel.

]]>
/cy/newyddion/cyflwyno-tim-pel-droed-merched-blaenau-gwent-cyn-taith-cwpan-y-byd-street-child/ /cy/newyddion/cyflwyno-tim-pel-droed-merched-blaenau-gwent-cyn-taith-cwpan-y-byd-street-child/ Thu, 10 Jul 2025 11:55:16 GMT Louise Bishop
Cyffro mawr am HiVE – Campws Peirianneg Gwerth Uchel newydd ym Mlaenau Gwent Mae'r gwaith o adeiladu Campws Peirianneg Gwerth Uchel (HiVE) gwerth miliynau o bunnoedd ym Mlaenau Gwent wedi'i gwblhau, yn barod i groesawu dysgwyr STEM o bob cwr o'r wlad ym mis Medi.

Heddiw, trosglwyddodd Cyngor AƬ, a arweiniodd y prosiect, y cyfleuster yn swyddogol i Goleg Gwent, a fydd yn treulio'r haf yn gosod y gofod gyda roboteg o'r radd flaenaf, technolegau gweithgynhyrchu uwch, ac offer digidol ymdrochol.

Bydd y campws 21,808 troedfedd sgwâr yn cynnig hyfforddiant ac addysg uwch-dechnoleg i bobl ifanc a busnesau mewn roboteg, a gweithgynhyrchu uwch mewn meysydd fel moduro, awyrofod, a thechnoleg gwybodaeth.

Sicrhaodd y Cyngor £10.8 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU (£9.3 miliwn o Gyllid Ffyniant Bro a £1.5 miliwn o Gyllid CFfG) a £4.8 miliwn gan raglen Cymoedd Technoleg Llywodraeth Cymru i drawsnewid hen safle ffatri Monwel Hankinson yng Nglynebwy.

Mae'r cyfleoedd y bydd HiVE yn eu cynnig o ran addysg leol a datblygu sgiliau yn cyd-fynd â blaenoriaeth y Cyngor i 'wneud y mwyaf o ddysgu a sgiliau i bawb i greu Blaenau Gwent lewyrchus, ffyniannus, wydn,' yn ogystal ag Egwyddorion Marmot i 'alluogi pob plentyn, person ifanc ac oedolyn i wneud y mwyaf o'u galluoedd' a 'chreu cyflogaeth deg a gwaith da i bawb.'

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

"Mae'r cyfleuster newydd gwych hwn yn rhan allweddol o'n gweledigaeth i drawsnewid Cymoedd De Cymru yn ganolfan a gydnabyddir yn fyd-eang ar gyfer arloesi, gweithgynhyrchu uwch a thechnolegau cynaliadwy.

"Bydd yn helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o beirianwyr, chwalu rhwystrau i ddysgu STEM, a chreu cyflenwad o bobl ifanc dalentog sydd â'r sgiliau sydd eu hangen gyfer gyrfaoedd sy’n talu’n dda yn niwydiannau'r dyfodol."

Meddai'r Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet Economi a Lleoedd Cyngor AƬ:

"Rwy'n falch iawn o gyhoeddi bod Campws HiVE wedi’i gwblhau. Mae'r cyfleuster uwch-dechnoleg hwn yn mynd i newid y gêm o ran y cyfleoedd y bydd yn eu rhoi i bobl ifanc hyfforddi yn niwydiannau heddiw ac yfory, ac i ddenu busnesau sydd angen gweithlu medrus i'r ardal leol, gan arwain at fewnfuddsoddiad.

"Mae Hive wedi wynebu rhai heriau yn ystod y gwaith adeiladu, ac rydw i am ganmol pawb dan sylw am eu hymrwymiad a'u gweledigaeth wrth gyflawni'r prosiect hynod bwysig hwn. Diolch i Lywodraethau Cymru a’r DU am ddyfarnu'r cyllid i wireddu hyn. Rydw i mor falch bod hwn ym Mlaenau Gwent, ac edrychaf ymlaen at weld sêr STEM y dyfodol ar waith."

Dywedodd Nicola Gamlin, Pennaeth Coleg Gwent:

"Rydym yn falch o gymryd perchnogaeth o'r cyfleuster HiVE modern; datblygiad pwysig ar gyfer addysg a sgiliau ym Mlaenau Gwent a thu hwnt. Dros yr haf, byddwn ni’n gweithio'n galed i osod technoleg arloesol yn HiVE i greu amgylchedd ysbrydoledig, ymarferol ar gyfer dysgu STEM. Rydym yn edrych ’mlaen i groesawu ein carfan gyntaf o ddysgwyr ym mis Medi."

Wedi'i leoli'n agos at ganol tref Glynebwy a Pharth Dysgu AƬ Coleg Gwent, bydd y cyfleuster ar gael i holl drigolion Cymru yn ogystal â myfyrwyr yng Ngholeg Gwent sy'n astudio cyrsiau sy’n gysylltiedig â pheirianneg, gan helpu i hwyluso a chynyddu nifer yr ymwelwyr yng nghanol y dref gan gefnogi busnesau manwerthu lleol.

Ond mae'r dysgu’n dechrau cyn HiVE, gyda'r Rhaglen Canolfannau HiVE mewn ysgolion lleol. Wedi'i hariannu gan Gymoedd Technoleg Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ac mewn partneriaeth â Choleg Gwent, mae hon yn rhaglen arloesol o addysg beirianneg sy'n canolbwyntio ar ddiwydiant mewn ysgolion a hwyluso STEM. Mae'r rhaglen yn creu cysylltiadau ystyrlon a chynaliadwy rhwng y coleg ac ysgolion AƬ i gefnogi profiadau dysgu ysbrydoledig o ansawdd uchel; wedi'u halinio â chyfleoedd dilyniant yn y dyfodol yn HiVE.

Nod HiVE yw

  • Darparu cymwysterau perthnasol, cyfoes ar gyfer y chwyldro diwydiannol nesaf.
  • Codi ymwybyddiaeth ymysg ysgolion, disgyblion, a'r gymuned ehangach.
  • Codi uchelgais ac ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol.
  • Gwella hygyrchedd.
  • Codi lefelau cyrhaeddiad mewn STEM.
  • Alinio â phartneriaid/rhanddeiliaid i ddatblygu pecyn/darpariaeth sgiliau; a
  • Mynd i'r afael â'r anghydbwysedd rhwng y rhywiau mewn Peirianneg.

Bydd y Campws yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth a sgiliau gyda hyfforddiant, gan ganiatáu i fyfyrwyr brofi'r byd gwaith a rhoi cymwysterau iddynt fel BTEC, HNC neu HND. Bydd yn ganolfan ragoriaeth academaidd ar gyfer cymwysterau peirianneg perthnasol hyd at lefel 6 ac felly'n ymateb i'r diwydiant a'i anghenion. Bydd yr amgylchedd busnes yn cael ei atgyfnerthu gan y nifer cynyddol o drigolion medrus, gan ychwanegu at gystadleurwydd yr ardal.

Bydd datblygu'r Ganolfan yn diogelu'r ardal at y dyfodol trwy allu ymateb i gwmnïau sy'n lleoli eu hunain yn y Cymoedd Technoleg trwy gael trigolion sydd â’r setiau sgiliau priodol. Bydd y set sgiliau briodol yn arwain at ostyngiad yn nifer y bobl ifanc sydd wedi'u dosbarthu o dan statws NEET, a thrwy hynny gynyddu cyflogaeth a gweithgarwch economaidd yn yr ardal.

Bydd HiVE yn sicrhau y bydd gan bobl ifanc yr hyfforddiant a'r sgiliau perthnasol i wneud cais am swyddi yn y Sector Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch a'r Technolegau Digidol a Galluogi. Bydd myfyrwyr yn cael eu hyfforddi yn y sgiliau STEM y mae cyflogwyr lleol yn eu gwerthfawrogi.

Cymoedd Technoleg

Mae Cymoedd Technoleg yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy'n canolbwyntio ar drawsnewid Cymoedd De Cymru yn ganolfan a gydnabyddir yn fyd-eang ar gyfer arloesi, gweithgynhyrchu uwch, a thechnolegau cynaliadwy. Trwy fuddsoddi mewn sgiliau, seilwaith a thwf busnes, nod y Cymoedd Technoleg yw galluogi swyddi o ansawdd uchel, denu buddsoddiad, a meithrin twf economaidd cynhwysol ledled y rhanbarth.

I gael rhagor o wybodaeth am y Cymoedd Technoleg, anfonwch e-bost at: CymoeddTechnoleg@llyw.cymru

 

]]>
/cy/newyddion/cyffro-mawr-am-hive-campws-peirianneg-gwerth-uchel-newydd-ym-mlaenau-gwent/ /cy/newyddion/cyffro-mawr-am-hive-campws-peirianneg-gwerth-uchel-newydd-ym-mlaenau-gwent/ Mon, 14 Jul 2025 13:49:44 GMT Louise Bishop
Ehangu Ysgol Pen-y-Cwm yn llwyddiant i ddysgwyr a theuluoedd (1) Mewn cam pwysig ymlaen ar gyfer addysg gynhwysol, mae darpariaeth ôl-16 newydd wedi'i sefydlu'n llwyddiannus yn Vision House i gefnogi dysgwyr o Ysgol Pen-y-Cwm. Daw'r datblygiad hwn mewn ymateb i heriau digonolrwydd ar brif safle'r ysgol ac mae'n adlewyrchu ymrwymiad cryf gan Gyngor AƬ i ddiwallu anghenion dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Gwnaeth y ddarpariaeth, a agorodd ym mis Mehefin 2025 ar gyfer tymor olaf blwyddyn academaidd 2024/25, groesawu dros 20 o ddysgwyr i ddechrau. Disgwylir i'r nifer hwn godi i fwy na 35 o ddysgwyr ym mis Medi 2025, gan dynnu sylw at y galw cynyddol am amgylcheddau addysgol o ansawdd uchel, wedi'u teilwra ar gyfer pobl ifanc ag ADY.

Wedi'i ariannu drwy Gyllideb ADY y Cyngor, mae'r prosiect wedi trawsnewid Vision House ar safle Festival Park, Glynebwy, yn ofod dysgu bywiog a chefnogol. Mae’r cyfleuster nawr yn cynnwys:

  • Dwy ystafell ddosbarth fodern
  • Ystafell synhwyraidd
  • Ardal Byw'n Annibynnol
  • Ystafell gyffredin groesawgar
  • Lolfa gyfrifiadurol lawn
  • Cyfleusterau bwyta

Mae'r mannau hyn wedi'u cynllunio'n feddylgar i helpu dysgwyr i ffynnu'n academaidd, yn gymdeithasol ac yn emosiynol, gan eu grymuso i gyrraedd eu llawn botensial mewn amgylchedd meithringar.

Mae gwelliannau pellach wedi'u trefnu ar gyfer gwyliau'r haf, gan gynnwys creu ystafell ddosbarth ychwanegol ar y llawr cyntaf. Mae'r datblygiadau hyn nid yn unig yn mynd i'r afael ag anghenion capasiti uniongyrchol ond hefyd yn galluogi cynllunio strategol tymor hwy i sicrhau darpariaeth gynaliadwy o ansawdd uchel i bob dysgwr.

Yn ddiweddar, ymwelodd Aelod Cabinet y Cyngor dros Addysg, y Cyfarwyddwr Strategol ar gyfer Cyfarwyddwr Strategol Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd ac uwch swyddogion Addysg â dysgwyr a staff yn y ddarpariaeth newydd.

ѱ岹’r Pennaeth, Deborah Herald:

"Mae Ysgol Pen-y-Cwm yn Vision House yn cefnogi ein dysgwyr ôl-16 wrth iddynt gymryd eu camau nesaf tuag at fwy o annibyniaeth ac oedolaeth. Ar y cyd â Chyngor AƬ, rydym wedi gweithio'n galed i greu amgylchedd croesawgar sy'n annog ein dysgwyr i ffynnu. Mae Vision House yn cynnig gofod diogel, cefnogol lle gall dysgwyr barhau i ddatblygu sgiliau bywyd hanfodol, cymryd rhan mewn profiadau dysgu ystyrlon, a pharatoi ar gyfer bywyd y tu hwnt i'r ysgol. Mae'r ddarpariaeth yn estyniad cyffrous o ymrwymiad Ysgol Pen-y-Cwm i roi dysgwyr wrth wraidd popeth a wnawn."

Meddai'r Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet y Cyngor dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:

"Mae'r ddarpariaeth newydd hon yn dyst i'n hymrwymiad i addysg gynhwysol ac i weithio gyda phartneriaid i sicrhau bod gan bob dysgwr fynediad at yr adnoddau a'r gefnogaeth sydd eu hangen arno i lwyddo. Rydym yn falch o fod yn Gyngor Marmot a rhan allweddol o hynny yw galluogi pob plentyn, person ifanc ac oedolyn i wneud y mwyaf o'u gallu a chael rheolaeth dros eu bywydau. Rydym yn falch o'r hyn sydd wedi'i gyflawni yn Vision House ac yn gyffrous am y cyfleoedd y mae'n eu creu i bobl ifanc Ysgol Pen-y-Cwm."

 

]]>
/cy/newyddion/ehangu-ysgol-pen-y-cwm-yn-llwyddiant-i-ddysgwyr-a-theuluoedd-1/ /cy/newyddion/ehangu-ysgol-pen-y-cwm-yn-llwyddiant-i-ddysgwyr-a-theuluoedd-1/ Tue, 15 Jul 2025 10:57:09 GMT Louise Bishop
Lansio llwybr digidol yng Nglynebwy Mae llwybr digidol newydd wedi'i lansio yng Nglynebwy sy'n archwilio hanes y dref. Disgyblion o Ysgol Pen-y-Cwm oedd yr ymwelwyr cyntaf i gerdded y llwybr. Roedd y llwybr yn rhan o ddatblygiadau twristiaeth a ariannwyd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Comisiynwyd y llwybr gan Gyngor AƬ ac mae'n defnyddio’r platfform History Points. Mae 14 o adeiladau, gweithiau celf a safleoedd yn eich tywys ar lwybr cylchol drwy'r dref gan archwilio cysylltiadau â Paul Robeson, hufen iâ Eidalaidd a'i gorffennol diwydiannol. Synnodd y disgyblion o glywed bod y llyfrgell ar un adeg yn gapel uniaith Gymraeg, a bod y rheilffordd yn rhedeg yn syth ar hyd prif stryd y dref.

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet Cyngor AƬ dros yr Economi a Lleoedd:

"Mae Glynebwy yn adnabyddus i raddau helaeth am ei hanes diwydiannol, a thyfodd yn gyflym gyda datblygiad cynhyrchu dur. Ochr yn ochr â hyn mae straeon am ymfudwyr Eidalaidd yn dod â hufen iâ i'r cymoedd, artistiaid rhyngwladol ac ymladdwyr dros ryddid yn ymweld â'r dref i ganu yn yr Eisteddfod. Mae'r rhain yn straeon uchelgeisiol am oresgyn adfyd a sut cafodd y dref ei gwneud yn lle gwell i fyw a gweithio gan ei phobl.

"Rydym yn gobeithio y bydd y llwybr yn denu mwy o bobl i'n trefi ac yn eu hannog i aros yn hirach. Glynebwy yw'r llwybr cyntaf i'w lansio - llwybr Abertyleri fydd nesaf, gyda threfi eraill i ddilyn."

Meddai Nichola Fry, Athrawes yn Ysgol Pen-y-Cwm:

"Roedd yn wych cael dangos pa mor uchelgeisiol yw ein dysgwyr a'r hyn y gallan nhw ei gyflawni. Gwnaethom i gyd ddysgu cymaint am Lynebwy ac roedden ni'n gyffrous iawn i weld un o'n dysgwyr, Ciaran Mitchel-Neal, yn ymddangos yn un o'r Pwyntiau Hanes. Bydd dysgwyr eraill o Ben-y-Cwm yn ymweld â'r llwybr cyn bo hir - mae'n ffordd wych o ddysgu mwy am ein hardal mewn ffordd arloesol."

Dywedodd y disgybl Emily Bevan:

"Roedd hi’n hyfryd dysgu am hanes Glynebwy, ac roedd yr hufen iâ yn fonws."

Os hoffech chi ddilyn y llwybr ewch i a chlicio ar Tours in AƬ ().

]]>
/cy/newyddion/lansio-llwybr-digidol-yng-nglynebwy/ /cy/newyddion/lansio-llwybr-digidol-yng-nglynebwy/ Wed, 16 Jul 2025 09:32:40 GMT Louise Bishop
Murlun Nye Bevan newydd wedi'i ddadorchuddio yn Nhredegar Mae'r diweddaraf mewn cyfres o furluniau yn seiliedig ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi'i gwblhau yn Nhredegar. Mae'r gwaith celf diweddaraf wedi'i beintio gan yr artist lleol James Telford ac mae'n darlunio pensaer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Aneurin Bevan, ochr yn ochr ag un o'i ddyfyniadau enwocaf.

"I never used to regard myself so much as a politician as a projectile discharged from the Welsh valleys... when I listen to the cacophony of harsh voices trying to intimidate, I close my eyes and listen to the silent voices of the poor."

Mae'r gwaith celf i'w weld ar wal tafarn a Llety Gwely a Brecwast y Coach and Horses yn Charles Street, Tredegar.

Ganwyd Aneurin Bevan yn 32 Charles Street, y chweched plentyn mewn teulu o ddeg – yn drist iawn dim ond chwech ohonynt a dyfodd i fod yn oedolion. Pan oedd yn wyth oed symudodd y teulu i eiddo mwy yn 7 Charles Street, ac yna sgil ymarferoldeb ac athrylith ei dad, mwynhaodd y teulu bopty nwy cyntaf ar y stryd, toiled dan do, a dŵr poeth. Wedi dweud hynny, roedd yn ymwybodol iawn nad oedd teuluoedd eraill mor ffodus, ac roedd yn dyst i dlodi a salwch a achoswyd gan dai gwael ar draws y dref.

Gwnaeth hyn, ynghyd â dylanwad ei dad a'i fentor Walter Conway, danio awydd yn y Bevan ifanc i wneud gwahaniaeth. Cafodd ei ethol yn gynrychiolydd y Glowyr (Cynrychiolydd Undeb Llafur) yn Ffederasiwn Glowyr De Cymru, lle ymladdodd dros amodau gwaith a thâl gwell i'w gyd-lowyr. Cafodd ei ethol i Gyngor Dosbarth Trefol Tredegar ym 1922, Cyngor Sir Fynwy ym 1928 ac yn Aelod Seneddol ym 1929, a oedd yn esgyniad aruthrol i rym. Roedd yn dal y swyddi etholedig ar y Cyngor Sir ac yn y Senedd ar yr un pryd ac mae'r dyfyniad hwn yn dod o araith a wnaeth mewn cinio a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Fynwy er anrhydedd iddo, i gydnabod ffurfio'r GIG.

Meddai'r Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet Cyngor AƬ dros yr Economi a Lleoedd:

"Mae lleoliad y murlun hwn mor bwysig gan fod Bevan wedi cerdded ar hyd y stryd hon ar ei ffordd i'r ysgol - cerddodd y stryd hon a gweld tlodi a thai gwael, cerddodd y stryd hon yn dyst i ddiweithdra a'r angen am newid. Roedd yn hanu o Stryd Charles, yn Nhredegar, yng nghymoedd Cymru, ac roedd ei bobl, y rhai yr oedd angen rhywun i sefyll drostyn nhw, ar flaen ei feddwl ar hyd ei daith wleidyddol.

"Rydym yn falch mai AƬ yw cartref ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol arbennig, ac rwy'n annog ymwelwyr i ddod yma i weld y safleoedd treftadaeth a'r gweithiau celf sy'n dathlu etifeddiaeth Bevan heddiw."

Dywedodd James Telford, yr artist a beintiodd y gwaith celf anhygoel hwn:

"Tan yn ddiweddar roeddwn i wedi gweithio ar gomisiynau ar raddfa lai yn bennaf ond gwnes i fy murlun awyr agored cyntaf yn Nhredegar y llynedd fel rhan o Brosiect Celf Stryd y Cymoedd. Yna cefais wahoddiad i gymryd rhan yn Full Colour Maindee. Comisiynodd AƬ y murlun hwn, a dyma'r un mwyaf rydw i wedi'i gwblhau o bell ffordd. Roeddwn i eisoes wedi gwneud sawl darn yn seiliedig ar Bevan, felly mae'n wyneb rwy'n gyfarwydd ag ef. Mae wedi bod yn darged mawr i mi beintio murlun mawr yn fy nhref enedigol. Mae cyflawni hyn gan beintio Aneurin Bevan, un o eiconau’r dref a'r wlad, yn gwneud hyn hyd yn oed yn fwy arbennig. Diolch yn fawr iawn i Gyngor AƬ am ymddiried ynof gyda phrosiect mor fawr ac i Simon ac Amanda o'r Coach and Horses am roi sêl bendith i'r prosiect."

Hoffai Cyngor AƬ ddiolch i berchennog yr eiddo, Simon Griffiths, am ganiatáu i'r comisiwn fynd yn ei flaen.

Meddai Mr Griffiths:

"Mae'r GIG mor anhygoel, ac rydw i mor falch bod y cyfan wedi dechrau yma yn fy nhref enedigol. Mae James wedi gwneud gwaith gwych, chwarae teg iddo. O’n rhan ni, rydyn ni’n hynod falch o roi rhywbeth bach yn ôl i un o ddyfeisiadau gorau’r wlad a gŵr anhygoel. Pan ddywedodd Winston Churchill fod Aneurin Bevan yn un o siaradwyr gorau ei genhedlaeth, er gwaethaf eu gwahaniaethau gwleidyddol, mae'n dangos cymeriad y dyn."

Dywedodd Amanda Burrows, Tafarnwraig y Coach and Horses:

"Rydw i mor falch o gael hwn ar ochr fy nhafarn, wrth gwrs! Mae'n drawiadol. Pan glywodd ein cymdogion mai Nye oedd yn cael ei beintio, roedden nhw i gyd mor gyffrous. Mae James wedi gwneud gwaith gwych, ac roedd hi’n bleser ei helpu i dorri ei syched ar y diwrnodau poeth ’na. Mae ’na lwyth o gelf yn ymddangos ledled y wlad ond mae pobl yn dweud mai hwn yw’r gorau."

Dywedodd Emma Jones, perchennog Hair Play yn Charles Street:

"Cefais fy swyno o weld y gwaith yn datblygu dros yr wythnos. Mae mor glyfar; roeddwn i yn yr ysgol gyda James, mae e mor dalentog. Fe wnaethon ni ei gadw i fynd gyda choffi ac mae mor hyfryd gweld pobl yn dod i weld y gwaith ac yn tynnu lluniau."

Roedd y murlun yn rhan o brosiect Cartref y GIG a ariannwyd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac fe'i comisiynwyd gan Gyngor AƬ.

Lleoedd i ymweld â nhw yn lleol:

Cerrig Coffa Aneurin Bevan

Y man lle siaradodd Bevan â'i etholwyr a'r byd Cerrig Coffa Aneurin Bevan | CBS AƬ

Tŷ Bedwellty

Cyfle i ymweld â siambr y cyngor lle cafodd Bevan ei ethol am y tro cyntaf, gwylio ffilm ar ei fywyd cynnar a'i sgiliau areithio, a gweld penddelw Bevan gan Lambda. Tŷ a Pharc Bedwellty | CBS AƬ

Canolfan Treftadaeth Cymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar

Mae'r ganolfan treftadaeth yn adrodd yr hanes am sut y defnyddiodd Aneurin Bevan AS, fel Gweinidog Iechyd, y gymdeithas fel glasbrint ar gyfer cyflwyno gofal iechyd am ddim i bawb pan 'Dredegareiddiodd' y DU. Cymdeithas Treftadaeth Cymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar | CBS AƬ

Amgueddfa Hanes Lleol Tredegar

Mae gan yr amgueddfa gasgliad amrywiol o arteffactau sy'n adlewyrchu diwydiant a bywyd y dref haearn bwysig hon. Amgueddfa Hanes Lleol Tredegar | CBS AƬ

Archifau Gwent

Mae'r cyfleusterau newydd gwych yn Archifau Gwent yn darparu amgylchedd delfrydol i chi ddefnyddio'r casgliad unigryw o ddogfennau. Archifau Gwent | CBS AƬ

Llwybr Treftadaeth Aneurin Bevan

Mae'r llwybr hwn yn llwybr cerdded a gyrru yn Nhredegar, man geni Aneurin Bevan 1897-1960, Aelod Seneddol Llafur dros Lynebwy 1929-1960. /cy/ymwelwyr/llwybrau-lleol/

Yn olion traed Nye

Cerdded yn ôl troed chwedl... Roedd Aneurin ‘Nye’ Bevan wrth ei fodd yn cerdded ar draws y rhostir uwchben Trefil, cymuned chwareli calchfaen ar ymyl ogleddol ei etholaeth a'r pentref uchaf yng Nghymru. Gallwch ddilyn yn ôl troed y gŵr arloesol ac egwyddorol hwn, trwy dirwedd llawn chwedlau, ar y daith gerdded hon at ei hoff olygfa. Dyma rai o'r pethau i gadw llygad amdanynt ar hyd y ffordd. /cy/ymwelwyr/llwybrau-lleol/

Murluniau

Canolfan Siopa Gwent, Tredegar gan Walls by Paul
Walkway Bank Lane i Commercial Street, Tredegar gan Walls by Paul
Charles Street, Tredegar gan James Telford
Portread Bevan gan Stewy on 10, The Circle.

Gweithiau Celf Eraill

Pedair tarian grog efydd ar waelod Cloc Tref Tredegar gan Diane Gorvin
Penddelw efydd o Bevan gan Lambda yn Nhŷ Bedwellty
Murluniau ceramig cymunedol yn Walkway Bank Lane i Commercial Street ac yn Llyfrgell Tredegar
Silwét dur gan Circling the Square yn The Circle.

 

]]>
/cy/newyddion/murlun-nye-bevan-newydd-wedii-ddadorchuddio-yn-nhredegar/ /cy/newyddion/murlun-nye-bevan-newydd-wedii-ddadorchuddio-yn-nhredegar/ Wed, 16 Jul 2025 09:59:01 GMT Louise Bishop
Ysgol Ebwy Fawr yn Lansio Lle Golff Bach wedi'i Ddylunio a'i Adeiladu gan Fyfyrwyr Mae lle awyr agored, a lansiwyd ddydd Mercher, 16eg o Orffennaf yng Nghymuned Ddysgu Ebwy Fawr, wedi'i drawsnewid yn gwrs golff bach, bywiog - diolch i greadigrwydd myfyrwyr a oedd gynt wedi ymddieithrio o'r ysgol, cefnogaeth sefydliadau lleol, a chais llwyddiannus am gyllid cymunedol dan arweiniad myfyriwr blwyddyn 10.

Roedd gan y prosiect bwrpas dyfnach: ail-ymgysylltu â dysgwyr a oedd wedi ymddieithrio o'r ysgol. Dechreuodd pan gymerodd Brooklyn Jaricha, disgybl blwyddyn 10 yn Ebwy Fawr, y cam cyntaf i wneud cais am grant prosiect cymunedol gan GAVO Cymru. Gyda chefnogaeth gan gyd-ddisgyblion, ffilmiodd Brooklyn y safle arfaethedig a chyflwynodd gais cymhellol. O fewn mis, roedd y cais yn llwyddiannus - gan sicrhau'r cyllid sydd ei angen i wireddu'r weledigaeth.

Gyda chyllid yn ei le, ymunodd yr ysgol â Men’s Den AƬ - grŵp cymunedol lleol sy'n darparu lleoedd creadigol i leihau unigrwydd ac arwahanrwydd. Gweithiodd gwirfoddolwyr o Men’s Den ochr yn ochr â myfyrwyr a oedd yn dilyn cymhwyster Datblygiad Personol a Chyflogadwyedd Ymddiriedolaeth y Brenin (a elwir yn Sgiliau Gwaith yn yr ysgol) i ddylunio ac adeiladu'r cwrs. O dan oruchwyliaeth, cymerodd y myfyrwyr ran mewn gweithgareddau awyr agored ymarferol, gan gynnwys mesur, torri a chydosod deunyddiau - gan ddatblygu sgiliau adeiladu a gwaith tîm ymarferol a fydd o fudd iddynt mewn gyrfaoedd yn y dyfodol.

Arweiniwyd y myfyrwyr drwy’r broses gan Mr Walters, sy'n arwain y rhaglen Sgiliau Gwaith. Rhannodd un myfyriwr, Adam, sut y creodd y grŵp nifer o ddyluniadau ar gyfer y cwrs, cymryd mesuriadau manwl gywir, a helpu i archebu cyflenwadau - gan ennill profiad gwerthfawr mewn cynllunio ac adeiladu.

Chwaraeodd yr Adran Gelf rôl allweddol hefyd, gan ddylunio a pheintio arwyddion lliwgar a ychwanegodd naws greadigol at y cwrs terfynol.

Darparodd Cymdeithas Tai Calon gefnogaeth gynnar hanfodol, gan roi amser ac adnoddau staff i helpu i adeiladu'r lloches awyr agored sydd bellach yn angori'r gofod. Gosododd eu cyfraniad y sylfaen ar gyfer yr hyn a fydd yn fuan yn hwb llewyrchus ar gyfer dysgu awyr agored.

Cynhaliwyd y lansiad swyddogol ddydd Mercher, 16eg o Orffennaf yn Ysgol Uwchradd Ebwy Fawr, lle daeth myfyrwyr, staff a phartneriaid cymunedol ynghyd i ddathlu'r cyflawniad.

Yn y digwyddiad lansio, rhannodd Dr Scott Reasons, Pennaeth yr Ysgol:

“Yn syml iawn, ni fyddem wedi gallu gwneud i hyn i gyd ddigwydd heb y bartneriaeth â Tai Calon a Men’s Den, a’r arwyr tawel ar draws yr ysgol a ddarparodd oruchwyliaeth a chefnogaeth. Rwy’n hynod ddiolchgar ac yn falch ein bod, fel cymuned, wedi cyflawni rhywbeth gwirioneddol arbennig.”

Ychwanegodd David Finch, Ymddiriedolwr Men’s Shed AƬ:

“Rydym wedi bod yn ymwneud ag Ysgol Ebwy Fawr ers ychydig fisoedd bellach yn creu cwrs golff giamocs. Pan ddywedwn ni mai ni a’i creodd – nid yw hynny’n wir. Dim ond rhoi arweiniad, cymorth a chyfarwyddyd i’r bechgyn ifanc nad oeddent yn dod i’r ysgol wnaethom ni. Y syniad oedd eu cael nhw’n ôl i’r ysgol - ac fe weithiodd. Fe wnaethon nhw ei ddylunio, ei adeiladu a’i beintio - a nawr maen nhw’n mynychu’r ysgol yn amlach, sy’n wych.”

Gan edrych ymlaen, mae'r ysgol yn bwriadu agor y cwrs golf bach i'r gymuned ehangach, cynnal digwyddiadau a chynnig mynediad i deuluoedd lleol. Yn fewnol, mae system wobrwyo yn cael ei datblygu lle gall disgyblion gyfnewid pwyntiau ymddygiad cadarnhaol am amser ar y cwrs - gan sicrhau bod y lle yn parhau i ysbrydoli a chymell.

Mae'r hyn a ddechreuodd fel syniad un myfyriwr wedi blodeuo'n brosiect sydd wedi dod â myfyrwyr, staff a'r gymuned ehangach ynghyd. Mae'r cwrs golff bach yn dystiolaeth o'r hyn y gall pobl ifanc ei gyflawni pan roddir y cyfle - a'r gefnogaeth - i arwain.

]]>
/cy/newyddion/ysgol-ebwy-fawr-yn-lansio-lle-golff-bach-wedii-ddylunio-ai-adeiladu-gan-fyfyrwyr/ /cy/newyddion/ysgol-ebwy-fawr-yn-lansio-lle-golff-bach-wedii-ddylunio-ai-adeiladu-gan-fyfyrwyr/ Mon, 21 Jul 2025 09:54:52 GMT Emma Bennett
Plant a phobl ifanc yn cael eu cydnabod mewn Gwobrau Cymunedol ysgol Mae Cymuned Ddysgu Abertyleri wedi dathlu cyflawniadau a chyfraniadau rhyfeddol ei dysgwyr yn eu Noson Wobrwyo Gymunedol gyntaf.

Daeth y digwyddiad â myfyrwyr, teuluoedd, staff a phartneriaid cymunedol ynghyd i arddangos tosturi, ymrwymiad ac ysbryd cymunedol dysgwyr, ac i ddiolch iddynt am eu hymdrechion.

ѱ岹’r Pennaeth Tracey Jarvis:

"Roedd yn noson hyfryd a wnaeth ein hatgoffa mewn ffordd bwerus o'r hyn sy'n gwneud ein hysgol ni’n wirioneddol arbennig: ein plant a'n pobl ifanc anhygoel ac ysbrydoledig. Roeddwn i mor falch o glywed popeth am eu cyflawniadau, sydd wir yn ein hatgoffa o'r hyn y gellir ei gyflawni pan mae cymuned fel Abertyleri yn dod at ei gilydd. Da iawn, bawb."

Meddai Cadeirydd y Llywodraethwyr, Darryl Tovey:

"Diolch i bawb a helpodd i wneud y digwyddiad hwn mor gofiadwy - o gyflwynwyr a threfnwyr i deuluoedd a ffrindiau a ymunodd â ni i ddathlu. Ac yn bwysicaf oll, llongyfarchiadau i enillwyr y gwobrau, a phob disgybl sy'n parhau i wneud ein hysgol a'n cymuned yn llefydd mor ysbrydoledig."

Rhestr lawn yr enillwyr:

Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn: Cerys Palmer
Dysgwr sy’n cynnig cefnogaeth dosturiol ddiwyro gydag agwedd gadarnhaol. Mae Cerys yn gwirfoddoli ar gyfer Llwybr Anabledd, gan helpu plant 4-12 oed i nofio'n ddiogel a chael hwyl. 

Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig: Niamh Tetley Lanah-Mai Coles, Ava Staley, Darcie Gallier-Morgan ac Amelia Williams 
Mae gwaith tîm ac ysbryd y grŵp hwn wedi dod â chynhesrwydd a chefnogaeth i lawer o brosiectau cymunedol. Mae'r merched hyn yn stopio bob bore ar eu ffordd i'r ysgol i sgwrsio â gwraig sydd â dementia. Bob bore, maen nhw'n gwneud yn siŵr ei bod hi’n iawn ac yn treulio amser yn siarad â hi. Mae teulu'r wraig yn dweud ei bod hi'n edrych ymlaen at weld a sgwrsio gyda'r merched bob dydd ac mae hi'n aros wrth y ffenestr neu'r drws nes iddi weld y merched. Mae'r merched wedi mynd ag anrhegion iddi, blodau adeg y Nadolig, ac os ydyn nhw’n pasio yn ystod gwyliau'r ysgol, maen nhw'n galw gyda hi.

Gwobr Gweithred o Garedigrwydd: Evan Small 
Mae gweithredoedd tawel Evan o garedigrwydd yn aml yn mynd heb sylw ond maen nhw wedi cyffwrdd â llawer o galonnau - o gefnogi cyd-ddisgyblion i wirfoddoli ei amser heb feddwl ddwywaith. Yn ddiweddar cafodd ffrind i deulu Evan ddiagnosis o ganser terfynol. Roedd y wraig hon yn caru clwb pêl-droed Everton. Cysylltodd Evan â sawl clwb pêl-droed i gael llythyrau o gefnogaeth iddi, cardiau wedi’u llofnodi a ffotograffau. Ei gwir gariad oedd clwb pêl-droed Everton. Cysylltodd Evan â'r clwb a gofyn am grys gêm wedi'i lofnodi gan ei hoff chwaraewr, Seamus Coleman. Talodd gyda’i arian ei hun i gael y crys wedi’i anfon ato. Gwisgodd hi’r crys gyda chymaint o falchder. Yn anffodus, bu farw'r wraig yn ddiweddar, a soniwyd am Evan yn ei hangladd am y llawenydd a ddaeth iddi.

Gwobr Eco-Ryfelwr: Lillian Tinker 
Mae Lillian Tinker wedi trawsnewid ymagwedd ei hysgol at ailgylchu, gan lansio menter sydd wedi cynyddu ymdrechion ailgylchu yn sylweddol a chodi ymwybyddiaeth ymhlith ei chyfoedion am leihau gwastraff ac ailddefnyddio adnoddau. Ers bod yn eco-ryfelwr, mae hi wedi helpu gyda phrosiect Cymru yn ei Blodau yr ysgol. Mae hi hefyd wedi casglu sbwriel yn llynnoedd Cwmtyleri ac yn ddiweddar aeth i ŵyl Glastonbury lle cymerodd ran yng nghaeau Greenpeace. 

Gwobr Gofalwr Ifanc: Kailen Williams
Mae Kailen Williams yn cydbwyso’i fywyd ysgol, ei fywyd personol a gofal gyda dewrder a gosgeiddrwydd rhyfeddol. Mae Kailen yn gofalu am ei fam-gu sy'n ddall, ac roedd yn gofalu am ei dad-cu cyn iddo farw o MND.

Gwobr Arwr Cymunedol: Dosbarth 10LS 
Mae Dosbarth 10LS yn grŵp rhyfeddol o ddysgwyr sydd wedi dod at ei gilydd fel tîm i greu newid parhaol. Trwy fentrau amrywiol, maent wedi gwella eu hamgylchedd lleol a chryfhau ysbryd cymunedol, gan ddangos pŵer gwaith tîm a phwrpas cyffredin. Pan achosodd storm dirlithriad dinistriol yng Nghwmtyleri y llynedd, effeithiwyd ar lawer o deuluoedd, gan gynnwys dau o'u cyd-ddisgyblion eu hunain. Wedi'u heffeithio’n ddwfn gan yr effaith ar eu cyfoedion, teimlodd myfyrwyr 10LS fod angen iddynt weithredu. Penderfynon nhw mai'r ffordd orau o gefnogi'r rhai mewn angen oedd darparu prydau cartref cynnes – gweithred o ofal ac undod. Gwnaethant baratoi prydau ychwanegol a'u rhoi gyda Chaffi Tyleri, gan sicrhau bod gan breswylwyr fynediad at faeth mewn cyfnod anodd.  Mae eu gweithredoedd yn adlewyrchu ymdeimlad cryf o empathi, ysbryd cymunedol, ac arweinyddiaeth y tu hwnt i'w hoedran. Trodd 10LS dosturi yn weithredu, ac ymateb anhunanol. 

Gwobr y Celfyddydau a Diwylliant: Oliver Harmer 
Mae Oliver Harmer yn gerddor ifanc talentog. Mae Oliver yn chwarae'r cornet ac wedi perfformio'n eang gyda'r band pres lleol yn cefnogi digwyddiadau cymunedol. Mae Oliver hefyd yn aelod o AYDMS ac mae wedi perfformio sawl deuawd ac unawd mewn gwahanol leoliadau, gan gynnwys yn y MET, Abertyleri.

Gwobr Cydnabod Disgybl: Isabella Mathelin
Mae ymroddiad ac arweinyddiaeth Isabella wedi gosod esiampl wych i'w chyfoedion ac wedi cyfrannu'n fawr at ysbryd a llwyddiant yr ysgol. Mae hi wedi bod yn gwirfoddoli mewn gwersi nofio anabledd yn Aneurin Leisure Trust dros y flwyddyn ddiwethaf, gan ddangos ymroddiad a gwasanaeth rhagorol. Mae Isabella wedi dangos tosturi, amynedd ac ymrwymiad yn gyson, gan wneud gwahaniaeth ystyrlon i fywydau'r unigolion y mae'n eu cefnogi. Mae ei hagwedd gadarnhaol a'i pharodrwydd i fynd yr ail filltir wedi ei gwneud hi’n rhan amhrisiadwy o'r tîm ac yn fodel rôl go iawn yn y gymuned.

Gwobr Hyrwyddwr Elusennol: Archie Williams 
Mae Archie Williams wedi bod yn gefnogwr diflino i elusennau lleol, gan drefnu digwyddiadau codi arian ac ysbrydoli eraill i gymryd rhan. Mae ei frwdfrydedd a'i arweinyddiaeth wedi helpu i godi arian mawr ei angen ac ymwybyddiaeth o’r clefyd niwronau motor. Yn ddiweddar, rhedodd 5k a chodi dros £2000 i 'My Name's Doddie Foundation'. Ynghyd â'i rieni, mae Archie hefyd wedi sefydlu ymddiriedolaeth o'r enw MNDEFIANCE, ac mae wedi cerdded Pen-y-fan i godi arian i MND ochr yn ochr ag aelodau eraill y Defiance Army.

Gwobr Personoliaeth Gymunedol y Flwyddyn: Erin Grote 
Ers ei bod yn bump oed, mae Erin wedi bod yn defnyddio iaith arwyddion i gyfathrebu â'i brawd iau. Mae'r bond hyfryd hwn maen nhw'n ei rannu wedi'i adeiladu ar gariad, dealltwriaeth ac amynedd. Ond nid oedd ei thalent naturiol a'i thosturi yn stopio gartref. Rhannodd ei gwybodaeth yn frwdfrydig gyda chyd-ddisgyblion ac athrawon, gan greu eiliadau dysgu hwyl, cynhwysol a ddaeth â ni i gyd yn agosach at ein gilydd. Mae ei charedigrwydd a'i harweinyddiaeth wedi ysbrydoli llawer. Yn 2024, aeth y ddysgwraig hon â'i thalent anhygoel i lwyfan ALC's Got Talent, gan gystadlu ochr yn ochr â dysgwyr o'r pedwar campws. Gwnaeth ei pherfformiadau, yn arwyddo i wahanol ganeuon, swyno'r gynulleidfa a'r beirniaid fel ei gilydd - ac enillodd hi’r ffeinal!

]]>
/cy/newyddion/plant-a-phobl-ifanc-yn-cael-eu-cydnabod-mewn-gwobrau-cymunedol-ysgol/ /cy/newyddion/plant-a-phobl-ifanc-yn-cael-eu-cydnabod-mewn-gwobrau-cymunedol-ysgol/ Wed, 23 Jul 2025 14:18:25 GMT Louise Bishop
Diwrnod VJ Dathlu 80 Mlynedd Digwyddiadau AƬ, Dydd Gwener 15 Awst 2025

11:00yb

Gwasanaeth Coffa Gofeb Rhyfel, Parc Canolog, Blaenau

Gofeb Rhyfel, Glyn Ebwy

11.45yb

Llanhilleth Gofeb Rhyfel

12 canol dydd

Cenedlaethol 2 Munud o dawelwch

Gwasanaeth Coffa Gofeb Rhyfel,Abertyleri

Cysegrfa Burma,Ty Bedwellte, Tredegar

2:00yp

Gwasanaeth Coffa ,Gofeb Rhyfel Cwm

6:30yh

Can’r clychau i Ddathlu

Eglwys San Sior, Tredegar yn canu clychau’r eglwys

7:00yh

Gorymdaith o Gatiau’r Gofeb Rhyfel i’r Senotaff ar gyfer gwasanaeth coffa

Gwasanaeth coffa,Parc Bedwellte, Tredegar

Gwasanaeth coffa, Christ Church, Glyn Ebwy

9:00yh

Fflaglau a Lampau Goleuadau Heddwch

Meini Coffa Aneurin Bevan, Tredegar

Dewch a’ch llusern neu’ch cannwyll

]]>
/cy/newyddion/diwrnod-vj-dathlu-80-mlynedd/ /cy/newyddion/diwrnod-vj-dathlu-80-mlynedd/ Thu, 31 Jul 2025 08:42:44 GMT Carolyn Jenkins
Hwb i Deithio Llesol a Llwybrau Ysgol Mwy Diogel ym Mrynmawr (2) Mae Brynmawr bellach yn elwa o seilwaith Teithio Llesol gwell, diolch i lwybr troed a chroesfan twcan newydd a gynlluniwyd i wneud cerdded, beicio a theithiau ysgol yn fwy diogel ac yn fwy hygyrch.  Y gobaith yw y bydd gwelliannau i'r rhwydwaith teithio llesol yn lleihau'r ddibyniaeth ar geir ac y bydd pobl yn dewis cerdded a beicio fel eu dull o deithio ar gyfer teithiau byr, pwrpasol.   

Ymunodd y Cynghorydd Tommy Smith, Aelod Cabinet dros Gymdogaethau a'r Amgylchedd, ag aelodau ward lleol ar gyfer Brynmawr i ymweld â'r safleoedd sydd newydd eu cwblhau a gweld y gwelliannau drosto'i hun. 

Mae llwybr troed newydd bellach yn cysylltu isffyrdd Brynmawr yn uniongyrchol â Llwybr 46 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Wedi'i gynllunio gan y Cyngor a'i ariannu drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, cyflawnwyd y prosiect gan y contractwr lleol Nigel Sullivans Groundworks & Plant Hire. Mae'r cysylltiad newydd hwn yn cael gwared ar yr angen am risiau a chroesfannau ffordd prysur, gan wneud y llwybr yn fwy cynhwysol i ddefnyddwyr cadair olwyn a theuluoedd â phramiau. 

Yn ogystal, mae croesfan twcan newydd wedi'i gosod ar draws yr A467 ger Ffordd Daren Felin, wedi’i hariannu gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru. Wedi'i chynllunio gan y Cyngor a'i hadeiladu gan Horan Construction Ltd, mae'r groesfan yn gwella diogelwch i gerddwyr a beicwyr. Fel rhan o'r cynllun, mae terfyn cyflymder y ffordd wedi'i leihau o 50mya i 40mya, ac mae'r ramp ar ochr ogleddol y ffordd gerbydau wedi'i ehangu i wella hygyrchedd. 

Dywedodd y Cynghorydd Tommy Smith: 

"Rydyn ni’n falch o fod wedi cyflawni'r gwelliannau hyn mewn partneriaeth â chontractwyr a chyllidwyr lleol. Mae'r llwybr troed a'r groesfan newydd yn gwneud Teithio Llesol yn fwy hygyrch ac yn fwy diogel i bawb ym Mrynmawr a'r ardaloedd cyfagos. Mae'r newidiadau hyn yn cefnogi ein hymrwymiad fel Cyngor Marmot i adeiladu cymunedau iachach, mwy cynaliadwy." 

Yn gynharach eleni, ymrwymodd y Cyngor i bartneriaeth â'r elusen cyfranogiad cyhoeddus Involve i gynnal Fforwm Dinasyddion cyntaf AƬ ar ddyfodol teithio lleol. Daeth ugain o drigolion a ddewiswyd ar hap at ei gilydd i archwilio sut y gellid gwneud teithio yn yr ardal yn decach, gwyrddach a mwy cynhwysol. Ymhlith eu prif argymhellion roedd opsiynau teithio ysgol gwell a mwy o gefnogaeth i gerdded, beicio ac olwyno. 

Ychwanegodd y Cynghorydd Smith: 

"Mae gwella teithio lleol yn gofyn am gydweithrediad â phartneriaid a chymunedau. Gwnaeth y Fforwm Dinasyddion hi’n glir fod llwybrau Teithio Llesol mwy diogel, mwy hygyrch yn flaenoriaeth - ac rydyn ni’n gwrando ac yn gweithredu ar yr adborth hwnnw." 

I ddysgu mwy am Deithio Llesol ym Mlaenau Gwent ewch i: /cy/preswylwyr/priffyrdd/teithio-llesol-blaenau-gwent/ 

]]>
/cy/newyddion/hwb-i-deithio-llesol-a-llwybrau-ysgol-mwy-diogel-ym-mrynmawr-2/ /cy/newyddion/hwb-i-deithio-llesol-a-llwybrau-ysgol-mwy-diogel-ym-mrynmawr-2/ Thu, 31 Jul 2025 09:08:56 GMT Louise Bishop
Llongyfarchiadau Gillian a Sonia Mae ein cynorthwywyr arlwyo ysgolion annwyl, Gill a Sonia, sy’n 80 oed, wedi cael eu cydnabod yn genedlaethol am eu hymroddiad a'u gwasanaeth anhygoel!

Mae'n ymddangos nad ni yn unig sydd wedi sylweddol pa mor wych ydyn nhw – mae Gillian Morris a Sonia Blanchard nawr wedi ennill y Wobr Arwyr Tawel yng Ngwobrau Rhagoriaeth LACA 2025. Mae aelodau LACA wrth wraidd dosbarthu bwyd ysgol, yn cynrychioli dros 3,300 o wahanol sefydliadau ac unigolion, i gyd yn ymroddedig i sicrhau bod ein plant yn gallu manteisio ar ginio ysgol iach, maethlon.

Fe siaradon ni â Gillian a Sonia yn gynharach eleni wrth iddyn nhw ddathlu eu pen-blwyddi mawr ac nid oes gan y naill na'r llall unrhyw fwriad i gamu allan o’r gegin eto. Mae eu hymrwymiad, eu cynhesrwydd a'u hegni diflino wedi cael effaith barhaol ar genedlaethau o blant ym Mlaenau Gwent.

Llongyfarchiadau – haeddiannol iawn! A diolch unwaith eto am eich gwasanaeth a'ch ymroddiad i'n plant a'n pobl ifanc.

 

 

 

 

]]>
/cy/newyddion/llongyfarchiadau-gillian-a-sonia/ /cy/newyddion/llongyfarchiadau-gillian-a-sonia/ Fri, 01 Aug 2025 06:09:21 GMT Louise Bishop
Dathlu Ein Pencampwr Cymraeg nesaf: Lowri Butler-Griffiths Wedi'i eni a'i magu yn Llanhiledd, Lowri Butler-Griffiths yw'r enw rhyfeddol nesaf i ymuno â'n Rhestr Anrhydeddau Pencampwyr Cymru ar gyfer Diwrnod Shwmae Su'mae eleni.

Yn gyn-fyfyriwr balch o Ysgol Gynradd Sant Illtud ac yn ddiweddarach Ysgol Gyfun Trecelyn, dechreuodd angerdd Lowri am y Gymraeg yn gynnar.

"Roedd gen i athrawes ysbrydoledig, Mrs Whitlock, yn ysgol gynradd St Illtyds, a'm hannog i ddysgu felly fe wnes i drwy’r ysgol gyfun. Doeddwn i ddim yn academaidd iawn, ond roeddwn i wrth fy modd â gwersi Cymraeg," cofia Lowri, gan wenu.

Arweiniodd ei hymroddiad i Goleg Gwent Crosskeys, lle cyflawnodd ei Safon Uwch yn y Gymraeg, cyn parhau i Brifysgol Aberystwyth i gwblhau gradd yn y Gymraeg.

"Ar y dechrau, roeddwn i'n cael trafferth. Fe wnes i hyd yn oed ffonio fy mam mewn dagrau oherwydd roedd popeth yn Gymraeg ac roeddwn i'n meddwl nad oeddwn i'n gallu gwneud hynny. Ond fe wnes i gadw ati - ac rydw i mor falch fy mod i wedi gwneud."

Dan arweiniad yr awdur enwog o Gymru, Mererid Hopwood, ffynnodd Lowri o dan hyfforddiant arbenigol ac enillodd ei gradd yn llwyddiannus, ac yna TAR.

Ar ôl ennill profiad gwerthfawr yn Ysgol Bro Helyg ac Ysgol Cwm Gwyddon, lleoliadau a fwynhaodd yn fawr, mae Lowri wedi dod yn gylch llawn. Ym mis Medi, mae'n dychwelyd i'w gwreiddiau fel athrawes Gymraeg newydd yn Ysgol Gyfun Trecelyn, yr union ysgol lle dechreuodd ei thaith.

"Rydw i eisiau ysbrydoli pobl i deimlo fel fi, rydyn ni'n Gymry felly roedd angen i mi siarad Cymraeg." Mae Lowri yn dechrau, "Mae cymaint o ddigwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol ac mae pobl yn colli allan ar gymaint o bethau."

Sut olwg fydd ar y dyfodol i Lowri?

"Hoffwn ddechrau gwersi yn yr ardal a helpu pobl i syrthio mewn cariad â'r iaith yr un fath â fi, dwi ddim yn deall pam na fyddech chi'n caru bod gennym ein hiaith hardd ein hunain ac eisiau ei siarad."

Dymuno'r holl lwyddiant i Lowri yn ei rôl newydd - mae eich angerdd a'ch ymroddiad yn parhau i ysbrydoli a siapio siaradwyr Cymraeg yfory. Diolch o galon am fod yn eiriolwr mor bwerus dros ein hiaith a'n diwylliant!

Os oes gennych enwebiad ar gyfer rhestr anrhydedd Cymraeg, yna rhowch wybod i ni gan ddilyn y ddolen hon: a byddwn yn cysylltu.

Am ragor o wybodaeth am sut y gallwch chi ddechrau ar eich taith eich hun:

]]>
/cy/newyddion/dathlu-ein-pencampwr-cymraeg-nesaf-lowri-butler-griffiths/ /cy/newyddion/dathlu-ein-pencampwr-cymraeg-nesaf-lowri-butler-griffiths/ Fri, 01 Aug 2025 11:27:34 GMT Carolyn Jenkins
Dathlu Degawd o Fwyd a Hwyl ym Mlaenau Gwent Mae'r haf hwn yn nodi 10 mlwyddiant y rhaglen Bwyd a Hwyl ym Mlaenau Gwent – ac eleni mae dros 440 o blant yn mwynhau dechrau bywiog i'w gwyliau drwy'r fenter boblogaidd hon.

Yn rhedeg ar draws chwe ysgol yn y fwrdeistref, mae Bwyd a Hwyl yn cyfuno prydau maethlon, chwarae egnïol, a chyfoethogi creadigol i gefnogi plant yn ystod wythnosau cyntaf gwyliau'r haf. Mae'r cynllun yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei weinyddu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac yn cael ei gyflwyno gan Gyngor AƬ, mewn partneriaeth ag Aneurin Leisure Trust ac ysgolion lleol.

Am bythefnos, mae plant sy'n cymryd rhan yn elwa o amgylchedd diogel, cefnogol lle gallant fwyta'n dda, cadw’n actif, a mwynhau profiadau newydd. Mae'r rhaglen yn chwarae rhan hanfodol wrth hyrwyddo lles a mynd i'r afael â newyn gwyliau, yn enwedig mewn ardaloedd sy'n wynebu heriau cymdeithasol ac economaidd.

Mae llwyddiant parhaus Bwyd a Hwyl diolch i ymroddiad staff ysgol, timau arlwyo, a phenaethiaid sy'n cynnal ac yn cefnogi'r cynllun flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae eu hymrwymiad yn sicrhau bod plant mewn ysgolion sy'n cymryd rhan yn cael dechrau cadarnhaol, iach a difyr i'w haf.

Wrth edrych ymlaen, mae disgwyl i hyd yn oed mwy o ysgolion ymuno â'r rhaglen yn 2026, gan ehangu ei chyrhaeddiad a'i heffaith ledled y fwrdeistref.

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:

"Mae Bwyd a Hwyl yn enghraifft wych o sut y gallwn ni gefnogi lles plant yn ystod gwyliau'r haf. Mae'n fwy na dim ond pryd o fwyd – mae'n ymwneud â chreu cyfleoedd i blant ddysgu, chwarae a ffynnu. Rwy'n hynod falch o'r ymroddiad a ddangoswyd gan ein hysgolion a'n staff, ac edrychaf ymlaen at weld y rhaglen yn tyfu hyd yn oed ymhellach y flwyddyn nesaf."

Ychwanegodd Angharad Barrett, Cydlynydd Bwyd a Hwyl AƬ:

"Mae dathlu 10 mlynedd o Bwyd a Hwyl yn foment falch i ni i gyd. Dros y degawd diwethaf, rydyn ni wedi gweld sut mae'r rhaglen hon yn trawsnewid yr haf i blant – gan gynnig bwyd iach, ond hefyd cyfeillgarwch, hwyl a thwf personol. Mae'r effaith gadarnhaol ar les corfforol ac emosiynol plant yn glir, ac mae'r adborth gan deuluoedd wedi bod yn hynod gadarnhaol.

"Mae’r llwyddiant hwn ond wedi bod yn bosibl diolch i'r cydweithrediad anhygoel rhwng ein hysgolion, y Cyngor, Aneurin Leisure Trust, Llywodraeth Cymru, a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae'n ymdrech tîm go iawn, ac rwy'n ddiolchgar iawn i bawb sy'n gweithio mor galed y tu ôl i'r llenni i wneud iddo ddigwydd. Rwy'n gyffrous i weld beth ddaw yn y dyfodol wrth i ni barhau i dyfu a chyrraedd hyd yn oed mwy o blant."

]]>
/cy/newyddion/dathlu-degawd-o-fwyd-a-hwyl-ym-mlaenau-gwent/ /cy/newyddion/dathlu-degawd-o-fwyd-a-hwyl-ym-mlaenau-gwent/ Wed, 06 Aug 2025 09:07:15 GMT Louise Bishop
Y Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth i fuddsoddi mewn priffyrdd lleol Bydd mwy na £4 miliwn yn cael ei fuddsoddi i wella priffyrdd ym Mlaenau Gwent dros y ddwy flynedd nesaf, diolch i gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a chyllid lleol.

Fel rhan o'r buddsoddiad sylweddol hwn, bydd pob un o'r 14 ward yn y fwrdeistref yn gweld rhai ffyrdd yn cael eu hailarwynebu ac mae aelodau'r ward yn gweithio gyda swyddogion y Cyngor i nodi'r ardaloedd hynny sydd angen eu gwella fwyaf.

Trwy Fenter Benthyca Llywodraeth Leol Priffyrdd, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cyllid refeniw ychwanegol i gefnogi tua £2.2 miliwn mewn buddsoddiad cyfalaf yn rhwydwaith y priffyrdd lleol dros y ddwy flynedd nesaf. Mae hyn yn cynnwys £1.3 miliwn yn 2025/2026 a £0.9 miliwn pellach yn 2026/2027.

Mewn arwydd pellach o ymrwymiad i wella seilwaith tymor hir, mae'r Cyngor yn dyrannu £0.5 miliwn y flwyddyn o'i gyllideb ei hun gan ddechrau yn 2026/2027, gan sicrhau buddsoddiad parhaus yn ffyrdd a chysylltiadau trafnidiaeth y fwrdeistref.

Mae'r cyllid hwn yn ychwanegol at gyllideb refeniw flynyddol bresennol y Cyngor o £1.36 miliwn, sydd eisoes wedi'i neilltuo i ariannu atgyweiriadau a chynnal a chadw adweithiol parhaus ar draws rhwydwaith y priffyrdd.

Dywed y Cynghorydd Tommy Smith, Aelod Cabinet y Cyngor dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Amgylchedd:

“Rydym yn gwrando ar yr hyn y mae ein cymunedau yn ei ddweud wrthym ac yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau manteision go iawn. Mae ein ffyrdd yn hanfodol i fywydau beunyddiol trigolion, busnesau ac ymwelwyr â'r fwrdeistref. Bydd y buddsoddiad hwn yn caniatáu inni wneud gwelliannau ystyrlon, gwella diogelwch a chefnogi twf economaidd ar draws y fwrdeistref.”

Mae'r Cyngor wedi dechrau cynllunio a blaenoriaethu prosiectau i sicrhau bod y cyllid yn cael yr effaith fwyaf, gyda ffocws ar gynaliadwyedd, diogelwch a gwerth hirdymor i drigolion.

Rhaglen yr Awdurdod Lleol ar gyfer Gwaith Arwynebu Priffyrdd

Ffyrdd Dosbarthiadol:

A4046 Ffordd Osgoi Cwm

A4281 Ffordd y Coleg, Glynebwy

A467 Cylchfan Blaenant, Brynmawr

A4048/A4047 Cylchfan Ffordd Osgoi Tredegar

A4046 Cyffordd Maes Parcio Aml-lawr Glynebwy â Heol Tredegar

A4048 Heol Newydd, Tredegar i Bochin (ffin)

A467 Aber-big i Crymlyn (ffin)

A4046 Heol Brynserth, Glynebwy

Strydoedd Preswyl:

Ward

Stryd

Abertyleri & Six Bells

Cwm Cottage Road

Stryd Clynmawr

Heol y Frenhines

Beaufort

Chandlers Road

Lôn Fach

Rhanbarth Waun Goch

Blaenau

Stryd Fawr

Coronation Street

Bryncelyn

Brynmawr

Ffordd Warwick

Brynawel

Stryd Morgan

Cwm

Teras Hillside, Waunlwyd

Teras Falcon

Teras Cendl

Cwmtyleri

Ffordd Roseheyworth

Ffordd Tillery

Ffordd Victor

De Glynebwy

Stryd y Wal

Cilgant Shakespeare

Rhodfa Caerefrog

Gogledd Glynebwy

Cilgant Darby

Heol Letchworth

Ffordd y Cwm

Georgetown

Rhodfa Bethel

Teras Kimberley

Teras Rhyd

Llanhiledd

Stad Hafodarthen, Brynithel

Rhodfa Lloyd

Rhodfa Hector

Nant-y-glo

The Walk

The Rise

Ffordd y Farchnad

Rasa & Garnlydan

Ffordd y Mynydd

Ffordd Nantmelyn

Ffordd Rowan

Sirhywi

Golwg y Mynydd

Ystrad Deri

Stryd Harford

Tredegar

Coronation Street

Gerddi Griffiths

Stryd yr Eglwys

]]>
/cy/newyddion/y-cyngor-yn-gweithio-mewn-partneriaeth-i-fuddsoddi-mewn-priffyrdd-lleol/ /cy/newyddion/y-cyngor-yn-gweithio-mewn-partneriaeth-i-fuddsoddi-mewn-priffyrdd-lleol/ Wed, 06 Aug 2025 14:00:02 GMT Louise Bishop
Atafaelu Tybaco a Fêps Anghyfreithlon ym Mlaenau Gwent Mae Tîm Gorfodi Tybaco Rhanbarthol Safonau Masnach Cyngor AƬ a Safonau Masnach Cymru wedi bod yn cynnal gweithrediadau ar y cyd i gynhyrchion anghyfreithlon yn y fwrdeistref sirol. Yn ystod y ddau fis diwethaf atafaelwyd cyfanswm o 456 o fêps, 4,280 o sigaréts, a 2,650 gram o dybaco i’w rolio â llaw. Mae'r cynhyrchion hyn yn aml wedi'u cuddio mewn lleoliadau cudd o amgylch siop, gan gynnwys y tu mewn i ddiffoddwr tân gwag a blychau wal hydrolig.

Meddai'r Cynghorydd Tommy Smith, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a'r Amgylchedd:

"Gall sigaréts ffug a thybaco fod yn beryglus i iechyd gan y gall rheolaethau sy'n llywodraethu eu cynhyrchiant fod yn ddiffygiol, a gall rhybuddion allweddol o'r risgiau iechyd fod ar goll o ddeunydd pecynnu. Yn destun pryder, mae'r cynhyrchion anghyfreithlon hyn yn aml yn cyrraedd dwylo plant gan nad yw troseddwyr sy'n eu gwerthu yn poeni am ddilysu oedran, fel gofyn am ID.

"Nid yw gwerthu nwyddau ffug yn drosedd ddi-ddioddefwr, a bydd swyddogion yn parhau i atal gwerthwyr y cynhyrchion anghyfreithlon hyn. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi'r economi leol a bydd Swyddogion Safonau Masnach yn parhau i weithio i sicrhau y gall pob busnes weithredu ar faes chwarae gwastad."

Mae Swyddogion Safonau Masnach yn rhybuddio bod tybaco a fêps anghyfreithlon yn herio ymdrechion i leihau cyfraddau ysmygu ac anghydraddoldebau iechyd trwy danseilio rheolaethau prisiau a strategaethau rhoi'r gorau i ysmygu, gan ei gwneud hi'n anoddach i ysmygwyr presennol roi'r gorau iddi. At hynny, mae'r gweithgareddau troseddol hyn yn caniatáu i bobl iau gael mynediad at gynhyrchion sy'n cynnwys nicotin, a allai gael effaith niweidiol ar ymennydd ac ysgyfaint datblygol plant ac arwain at ddibyniaeth gydol oes.

Gallai unrhyw un sy'n cael ei gael yn euog o fasnachu tybaco neu fêps anghyfreithlon wynebu ystod o sancsiynau, gan gynnwys atafaelu nwyddau anghyfreithlon, dirwyon, gorchmynion cau, neu garchar.

Os oes gennych wybodaeth am werthu nwyddau anghyfreithlon, cysylltwch â ni ar 01495 369542 neu e-bostiwch environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk

I roi gwybod i Crimestoppers yn ddienw ffoniwch 0800 555111 neu cyflwynwch adroddiad yn .

Mae cymorth ychwanegol i helpu i roi'r gorau i ysmygu ar gael gan y GIG yn .

]]>
/cy/newyddion/atafaelu-tybaco-a-feps-anghyfreithlon-ym-mlaenau-gwent/ /cy/newyddion/atafaelu-tybaco-a-feps-anghyfreithlon-ym-mlaenau-gwent/ Fri, 08 Aug 2025 10:53:36 GMT Louise Bishop
80fed Pen-blwydd Diwrnod VJ ym Mlaenau Gwent: Cofio Brwydr Bryn Tredegar Roedd heddwch wedi torri trwodd yn Ewrop, roedd dathliadau Diwrnod VE drosodd, ac roedd teuluoedd wedi aduno, ond roedd rhyfel yn dal i gynddeiriogi yn Asia a'r Môr Tawel. Daeth y bomiau atomig a syrthiodd ar Hiroshima a Nagasaki ag un o gyfnodau mwyaf ffyrnig yr Ail Ryfel Byd i ben. Bydd y rhyfel hwn yn cael ei gofio am byth ym Mlaenau Gwent gan fod rhan o'r ymgyrch honno wedi achosi un o'r colledion unigol mwyaf i'n cymuned.

Un o adegau allweddol ymgyrch De-ddwyrain Asia oedd yr angen i sicrhau rheolaeth dros Dwneli Mayu, cadwyn gyflenwi ar gyfer penrhyn Arakan yn Byrma (Myanmar bellach) a oedd yn cael eu defnyddio gan y Japaneaid fel depo arfau rhyfel.

Roedd lluoedd Prydain wedi ceisio cipio'r twneli o'r blaen ond heb fawr o lwyddiant cyn i luoedd Cymru ymosod. Ar y 26ain o Fawrth 1944 cyrhaeddodd 6ed Bataliwn Cyffinwyr De Cymru a'i chipio drwy lwyddiant ysgubol.

Mae Tŷ Bedwellty, Tredegar, yn gartref i Gysegr Byrma sy'n cydnabod y rhai a gollwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, yr Ail Ryfel Byd a Brwydr Bryn Tredegar. Wrth ei ochr mae paentiad sy'n dangos eiliad yr ymosodiad gyda'r gynnau peiriant ar hyd y grib a'r bryn mor serth fel ei bod bron yn amhosibl ei raddio. Roedd Archie Jones, yr artist, yn y bataliwn a gymerodd ran yn y frwydr a phaentiodd y dirwedd neu'r olygfa ryfel, 60 mlynedd ar ôl y frwydr.

Yn cael eu harddangos mae dau lythyr hefyd gan arweinwyr yr ymosodiad yn disgrifio'r frwydr.

W.J. Slim General Commander-in-Chief, Allied Land Forces Southeast Asia described the ridge as being, ‘held by a tenacious and fanatical enemy who fought to the last. In its capture the officers and men of the Battalion showed, at its highest, the traditional fighting spirit and valour of Wales.’

While Lieut-General Sir A.F. Christison said he was ‘privileged to watch the assault on the 26th March by the 6th Battalion South Wales Borderers and it was with great pride that I saw with my glasses British Troops swarming over the Hill and knew that the position had been won.’

Yn amlwg, nid oedd y naill na'r llall o fewn cyrraedd tanio’r dryll peiriannol hynny a chostiodd y frwydr yn ddrud i Dredegar. Collodd un ar ddeg o ddynion ifanc o'r dref eu bywydau ac anafwyd naw ar hugain o rai eraill. Gellir gweld rhai o'r rhain mewn llun i'r dde o'r cysegr. O ganlyniad i'r frwydr a enillwyd a'r bywydau a gollwyd, ailenwyd y grib yn Bryn Tredegar.

Y rhai a gollodd eu bywydau oedd:

Y Preifat John Edward Ellis; Y Preifat Charles Benjamin Evans; Y Rhingyll Charles Gwilliam; Yr Is-gorporal Edward Holmes; Y Preifat Thomas Sims Howells; Y Preifat William Eleazer Jones; Y Corporal Harold Lucas; Y Preifat William Emlyn Rogers; Yr Is-gapten Austin Noel Stephens; Y Preifat William John Tranter; Y Corporal Raymond Frederick Wookey.

Gwnaed y gofeb ei hun mewn derw gan yr adeiladwr lleol Dickenson’s. Mae’r ddau flwch mwy yn cynnwys cyfrolau coffa’r rhai a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd. Yn y canol mae blwch o liw gwahanol. Mae hyn oherwydd ei fod wedi’i wneud o goeden dîc. Collwyd y boncyff tîc cyntaf pan gafodd y llong a’i cludodd ei thorpido ar y ffordd o Byrma i’r DU, felly dychwelodd y milwyr i Fryn Tredegar a dod o hyd i foncyff arall mewn twll llwynog, a chafodd hwn ei gludo’n ddiogel yn ôl i Gymru lle cafodd ei ddodrefnu mewn cist hardd yn llawn pridd o Fryn Tredegar. Mae hwn yn eistedd fel cofeb barhaol i’r milwyr a oedd wedi marw.

Ar y cysegr mae dau lew efydd bach a gyflwynwyd gan Lysgennad Gweriniaeth Undeb Myanmar, yr Anrhydeddus Kyaw Zwar Minn, i ddathlu 70 mlynedd ers y Frwydr. Dyma oedd ymweliad cyntaf erioed llysgennad o Myanmar â Chymru. Fel rhan o’r ymweliad, derbyniodd gist o bridd o Dredegar i’w chymryd i Myanmar fel rhodd gydfuddiannol a symbol o undod rhwng y gwledydd. Gwnaed y gist o dderw Cymreig gan hyfforddeion yng Nghanolfan Hyfforddi AƬ ac roedd yn cynnwys arysgrifau yn y Gymraeg a'r Saesneg ynghyd â sgrôl yn coffáu'r rhai a gollodd eu bywydau a phridd o Dredegar.

Siaradodd Pat Evans, o Dredegar, am ei thad a wasanaethodd yn Byrma: “Gwasanaethodd fy nhad Douglas Healy yn 2il Fataliwn Catrawd Dug Wellington, a adnabyddir yn well fel y Chindits. Roeddent yn llu arbennig elitaidd a oedd yn aml yn gweithio y tu ôl i linellau’r gelyn ac yn dioddef yr amodau mwyaf erchyll. Er i fy nhad ddychwelyd adref a symud ymlaen i gael teulu o chwech o blant, ni wellodd erioed o’r hyn a brofodd yno. Cafodd falaria 17 gwaith a theiffoid ddwywaith. Ni siaradodd erioed am ei brofiadau nes i ni gael ei fathodyn a’i fedalau a wisgodd gyda balchder. Lle bynnag yr aeth a phryd bynnag y gwisgodd ei fathodyn, cafodd ei gyfarch a diolchwyd iddo gan bobl a oedd yn gwbl ymwybodol o’r hyn a brofodd ef a’i gymrawd.”

ѱ岹’r Cynghorydd Derrick Bevan, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog ar gyfer Cyngor AƬ: “Roeddwn i’n adnabod Doug yn dda, fel plant byddem wrth ein bodd yn gweld ei datŵs a gwrando ar ei straeon, ond ni siaradodd erioed am ei gyfnod yn y rhyfel. Roedd pawb a wasanaethodd yn Ymgyrch De-ddwyrain Asia yn arwyr go iawn. Fe wnaethant ymladd mewn rhai o’r amodau mwyaf heriol, trwy goedwigoedd trwchus, llawn pryfed, ac wynebu ymladd ffyrnig gan y gwrthwynebwyr. Hyd yn oed ar ôl iddo ddod i ben, fe wnaethant ddatgelu’r gwersylloedd carcharorion rhyfel erchyll. Nid yw’n syndod nad oedd y rhai a wasanaethodd yno erioed wedi siarad amdano.”

Bydd cyfres o ddigwyddiadau coffa ledled AƬ ddydd Gwener, 15fed o Awst i goffáu 80fed pen-blwydd Diwrnod VJ. Mae’r holl ddigwyddiadau ar agor i’r cyhoedd ac mae croeso arbennig i deuluoedd yr holl ddynion a menywod a wasanaethodd yn Ymgyrch De-ddwyrain Asia.

11am - Gwasanaethau Coffa wrth y Gofeb Ryfel, Parc Canolog, Blaenau a'r Gofeb Ryfel, Heol Libanus, Glynebwy.

11.45am - Gwasanaethau Coffa wrth Gofeb Ryfel Llanhiledd

12 canol dydd - Gwasanaethau Coffa wrth y Gofeb Ryfel, Abertyleri a Chysegr Byrma, Tŷ Bedwellty, Tredegar

2pm - Gwasanaeth Coffa wrth Gofeb Ryfel Cwm

6:30pm - Caniad mewn Dathliad - canu clychau'r eglwys yn Eglwys Sant Siôr, Tredegar

7pm - Parêd o Gatiau Coffa'r Ail Ryfel Byd i'r Senotaff ar gyfer y Gwasanaeth Coffa ym Mharc Bedwellty, Tredegar a'r Gwasanaeth Coffa yn Eglwys Crist, Glynebwy.

9pm – Ffagl a Goleuadau Lamp Heddwch wrth Gerrig Coffa Aneurin Bevan, Tredegar

Dewch â'ch llusern neu gannwyll eich hun i ymuno â'r gwasanaeth.

]]>
/cy/newyddion/80fed-pen-blwydd-diwrnod-vj-ym-mlaenau-gwent-cofio-brwydr-bryn-tredegar/ /cy/newyddion/80fed-pen-blwydd-diwrnod-vj-ym-mlaenau-gwent-cofio-brwydr-bryn-tredegar/ Wed, 13 Aug 2025 08:16:10 GMT Carolyn Jenkins
AƬ yn Dathlu Llwyddiant yng Nghystadleuaeth Cymru yn ei Blodau (1) Mae cymuned Abertyleri yn dathlu cyflawniad rhyfeddol yng nghystadleuaeth Cymru yn ei Blodau. Yn dilyn y cais i gymryd rhan, anfonodd y Pwyllgor Trefnu eu Prif Feirniad, wedi'u cyffroi gan y posibilrwydd y byddai tref yn y dyffryn yn ymgeisydd newydd.

Diolch i ymdrechion ymroddedig amrywiol grwpiau cymunedol ac unigolion, mae'r prosiect - dan arweiniad Grŵp Aspiration Abertyleri - wedi trawsnewid y dref, gan arddangos ei harddwch naturiol a meithrin ymdeimlad cryf o ysbryd cymunedol.

Mynegodd Ralph Henderson, aelod allweddol o'r Grŵp Aspiration, ei falchder yn ymdrechion y gymuned:

"Mae hwn wedi bod yn enghraifft wych o gydweithio rhwng grwpiau positif iawn yn y dref, dan arweiniad Grŵp Aspiration Abertyleri, y Cyngor Cymuned, a llawer o grwpiau eraill o'r un anian."

Gwnaeth trigolion lleol sylwadau ar effaith y prosiect:

"Mae'r planhigion a'r mannau cyhoeddus newydd wedi gwneud i'r ardal edrych yn brydferth, ac mae yna ymdeimlad gwirioneddol o falchder ymhlith y trigolion."

Roedd prosiect Cymru yn ei Blodau yn Abertyleri yn cynnwys nifer o weithgareddau, gan gynnwys creu potiau planhigion newydd, gwella mannau cyhoeddus, a chynnwys ysgolion lleol a gwirfoddolwyr. Derbyniodd y prosiect gyllid o wahanol ffynonellau, gan gynnwys y Cyngor Cymuned, Abertyleri Aspiration, Chillax, a’r Rotari, yn ogystal â chyfraniadau preifat.

Mae effaith y prosiect wedi bod yn hynod o bositif, gan dynnu sylw at y potensial ar gyfer mentrau yn y dyfodol i wella Abertyleri ymhellach a chryfhau cydweithio cymunedol.

 

]]>
/cy/newyddion/blaenau-gwent-yn-dathlu-llwyddiant-yng-nghystadleuaeth-cymru-yn-ei-blodau-1/ /cy/newyddion/blaenau-gwent-yn-dathlu-llwyddiant-yng-nghystadleuaeth-cymru-yn-ei-blodau-1/ Fri, 15 Aug 2025 09:51:35 GMT Carolyn Jenkins
Cyngor AƬ yn llongyfarch myfyrwyr TGAU o bob cwr o'r fwrdeistref Mae Cyngor AƬ wedi llongyfarch dysgwyr wrth iddynt gasglu eu canlyniadau TGAU heddiw. Mae pobl ifanc o'n hysgolion uwchradd wedi cyflawni'n dda unwaith eto ar draws ystod eang o bynciau.

Ymunodd Cyfarwyddwr Strategol Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd y Cyngor, Dr Luisa Munro-Morris, â chydweithwyr yr Awdurdod Lleol wrth ymweld ag ysgolion y bore yma i longyfarch disgyblion a theuluoedd yn bersonol a diolch i staff a llywodraethwyr.

ѱ岹’r Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:

“Diolch i bawb a chwaraeodd ran yn y canlyniadau gwych heddiw. I’n dysgwyr - rydych chi wir yn sêr, a gobeithio y byddwch chi’n parhau i ddisgleirio ym mhopeth a wnewch. I staff ein hysgolion, llywodraethwyr, teuluoedd, a chymunedau ehangach yr ysgolion - diolch am y gefnogaeth a’r ymrwymiad diysgog rydych chi wedi’i roi i’n pobl ifanc drwy gydol eu taith addysgol. Llongyfarchiadau bawb - mwynhewch eich dathliadau.”

Ychwanegodd Dr Luisa Munro-Morris, Cyfarwyddwr Strategol Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:

“Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr yma ym Mlaenau Gwent ac ar draws rhanbarth ehangach Gwent. Mae’r cyflawniadau heddiw yn ganlyniad i waith cydweithio cryf rhwng ein hysgolion, y Cyngor a’n partneriaid yn y Gwasanaeth Cyflawni Addysg. Gyda’n gilydd, rydym yn rhoi plant a phobl ifanc wrth wraidd y penderfyniadau a wnawn.

“Rydym wedi ymrwymo i weithio i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn, i wneud y mwyaf o sgiliau a dysgu i bawb a grymuso unigolion i gyrraedd eu potensial llawn. Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i’n holl fyfyrwyr ar gyfer y dyfodol.”

]]>
/cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-llongyfarch-myfyrwyr-tgau-o-bob-cwr-or-fwrdeistref/ /cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-llongyfarch-myfyrwyr-tgau-o-bob-cwr-or-fwrdeistref/ Thu, 21 Aug 2025 11:54:07 GMT Louise Bishop
Gŵyl Banc Haf Trefniadau Gwasanaeth 2025 (2) Gwasanaethau Cwsmeriaid

Bydd C2BG (Canolfan Gyswllt y Cyngor) yn cau am 5pm ddydd Gwener 22 Awst 2025 ac yn ail-agor ddydd Mawrth 26 Awst 2025.

Gellir cysylltu â’r gwasanaeth argyfwng tu allan i oriau ar y rhif arferol o 01495 311556 yn ystod y cyfnod hwn. 

Bydd gwasanaeth Piper Alarm hefyd yn parhau i weithredu. Dylid cyfeirio ymholiadau am larymau Piper Lifeline tu allan i oriau swyddfa at 0845 056 8035.

Tîm Dyletswydd Gwasanaethau Cymdeithasol

Bydd Swyddfa’r Tîm Dyletswydd ar gau o 4.30pm ddydd Gwener 22 Awst 2025 ac yn ail-agor am 9am ddydd Mawrth 26 Awst 2025. Yn ystod cyfnod Gŵyl y Banc cysylltwch â’r Tîm Dyletswydd Argyfwng ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ar 0800 328 44 32.

Taliadau a Budd-daliadau

Os dymunwch wneud taliad, mae llinell dalu awtomatig 24 awr ar gael ar 0845 604 2635 neu gellir gwneud taliadau drwy ein gwefan -

Gwastraff ac Ailgylchu

Bydd gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu, yn cynnwys casgliadau cewynnau/hylendid a gwastraff gwyrdd yn parhau fel y maent fel arfer. Gofynnir i chi roi eich gwastraff ac ailgylchu allan i’w casglu erbyn 7am ar ddyddiad y casgliad.

Torrwch unrhyw eitemau cardfwrdd mawr yn ddarnau llai cyn iddynt gael eu casglu os gwelwch yn dda.

Bydd Canolfannau Gwastraff Cartrefi ac Ailgylchu ar agor fel y maent fel arfer.

Gwasanaeth Cofrestru

Ni fydd y gwasanaeth cofrestru ar gael ddydd Llun 25 Awst 2025. Bydd y gwasanaeth yn ailddechrau ddydd Mawrth 26 Aest 2025 drwy apwyntiad yn unig.

Hybiau Cymunedol

Bydd Hybiau Cymunedol sydd mewn llyfrgelloedd yng nghanol trefi yn cau am 5pm ddydd Gwener 22 Awst 2025 ac yn ailagor fel y maent fel arfer arfer am 9am ddydd Mawrth 26 Awst 2025 - 
/cy/preswylwyr/hybiau-cymunedol-blaenau-gwent/

]]>
/cy/newyddion/gwyl-banc-haf-trefniadau-gwasanaeth-2025-2/ /cy/newyddion/gwyl-banc-haf-trefniadau-gwasanaeth-2025-2/ Thu, 21 Aug 2025 14:41:05 GMT Emma Bennett
Tîm Cymunedau am Waith a Mwy yn agor drysau i gyflogaeth i bobl ledled AƬ. Mae rhaglen cymorth cyflogaeth drawsnewidiol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau trigolion ledled AƬ. Mae'r Rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn helpu unigolion i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth ac adeiladu dyfodol mwy disglair trwy gefnogaeth bersonoledig, hyfforddiant a mentora.

Wedi'i chyflwyno gan dîm ymroddedig o weithwyr cyflogaeth proffesiynol - gan gynnwys Swyddogion Ymgysylltu, Mentoriaid Cyflogaeth Cymunedol, a Swyddog Hyfforddiant Cyswllt Cyflogwyr - mae'r rhaglen yn cynnig dull cyfannol o helpu pobl 16 oed a hŷn i ennill y sgiliau, yr hyder a'r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i sicrhau gwaith cynaliadwy.

Ers mis Ebrill 2023, mae'r rhaglen wedi cyflawni canlyniadau trawiadol:

  • Ymgysylltwyd â 1,240 o unigolion, gyda 618 yn cael eu cefnogi i mewn i gyflogaeth (cyfradd lwyddo o 49.8%)
  • 188 o unigolion wedi’u cefnogi drwy'r rhaglen Mewn Gwaith, gyda 65 yn sicrhau gwell cyflog, mwy o oriau, neu gontractau
  • 26 Academi Sector wedi’u cyflwyno i 207 o gyfranogwyr, gan roi sgiliau, cymwysterau a thrwyddedau iddynt
  • 266 o gyfranogwyr wedi cael cyngor gan CACBG, gan arwain at £174,398 mewn enillion ariannol
  • 1,037 o unigolion wedi'u cyfeirio at wasanaethau eraill trwy ymyrraeth gynnar ac ymgysylltu

Grymuso Unigolion Trwy Gymorth Personoledig

Mae'r rhaglen yn darparu mentora un-i-un, cyngor cyflogaeth, a mynediad at gyllideb Rhwystrau a Hyfforddiant sy'n helpu i dalu costau hanfodol fel trafnidiaeth, gofal plant, dillad ac offer. Mae hyn yn sicrhau nad yw cyfyngiadau ariannol yn rhwystro cyfleoedd.

Mae cymorth wedi'i dargedu'n arbennig at y rhai sydd bellaf o'r farchnad lafur, gan gynnwys unigolion sy'n wynebu heriau cymhleth fel diweithdra hirdymor, hyder isel, neu ddiffyg cymwysterau.

Helpu'r Tangyflogedig i Ffynnu

Yn ogystal â chefnogi ceiswyr gwaith, mae'r rhaglen hefyd yn cynnig pecyn cymorth 'Mewn Gwaith' - a ariennir trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) - ar gyfer unigolion ar gontractau dim oriau neu sy'n gweithio lai nag 16 awr yr wythnos. Mae'r fenter hon yn helpu pobl i uwchsgilio, cynyddu eu horiau, neu drosglwyddo i rolau mwy diogel sy'n talu'n well.

Academïau Sector: Sgiliau sy'n Arwain at Swyddi

Un o nodweddion allweddol y rhaglen yw ei Hacademïau Sector, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â chyflogwyr lleol a darparwyr hyfforddiant. Mae'r cyrsiau dwys, diwydiant-benodol hyn yn rhoi’r cymwysterau a'r trwyddedau sydd eu hangen ar gyfranogwyr i ennill lle mewn sectorau fel adeiladu, gofal, lletygarwch, manwerthu ac addysg. Mae llawer o gyfranogwyr yn cael cynnig cyfweliadau ar ôl eu cwblhau, gyda sawl un yn sicrhau cyflogaeth yn uniongyrchol trwy'r academïau hyn.

Cyngor a Chymorth Integredig

Trwy bartneriaeth â Cyngor ar Bopeth Caerffili a AƬ (CACBG), mae cyfranogwyr hefyd yn derbyn cymorth amserol ar faterion fel dyled, tai a budd-daliadau lles. Mae'r dull integredig hwn yn sicrhau y gall unigolion ganolbwyntio ar gyflogaeth heb boeni am heriau personol sydd heb eu datrys.

Dywed y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet Cyngor AƬ dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:

"Mae'r rhaglen hon yn golygu mwy na dod o hyd i swyddi - mae'n newid bywydau. Trwy fynd i'r afael â'r ystod lawn o heriau y mae pobl yn eu hwynebu, rydyn ni’n eu helpu i symud ymlaen gyda hyder a phwrpas. Fel Cyngor Marmot, rydyn ni wedi ymrwymo i weithio i alluogi pawb i wneud y mwyaf o'u galluoedd a chael rheolaeth dros eu bywydau, ac i greu cyflogaeth deg a gwaith da i bawb."

Mae Paige Powell yn un person sydd wedi elwa o'r rhaglen. Ar ôl cwblhau ei Safon Uwch, trodd ffocws Paige o droseddeg i therapi harddwch, gan ariannu hyfforddiant ewinedd a gofal traed trwy ei swydd ran-amser. Dechreuodd gynnig triniaethau gartref a, gydag arweiniad mentor a chefnogaeth gan Fenter Busnes, Ymddiriedolaeth y Tywysog, a Busnes Cymru, datblygodd gynllun busnes. Sicrhaodd leoliad yng Nglynebwy a nododd fwlch yn y farchnad mewn triniaethau amrantau ac aeliau. Er nad oedd yn gymwys i rywfaint o gyllid, talodd y Gronfa Rhwystrau am hyfforddiant ac offer. Helpodd mentora wythnosol hi i baratoi ar gyfer ei lansiad.

Dywedodd Paige: "Mae'r gefnogaeth gan Cymunedau am Waith a Mwy wedi bod yn anhygoel, fyddwn i ddim ble rydw i heddiw hebddyn nhw."

I gael rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy, neu i ddysgu sut i gymryd rhan, ewch i: , neu CfW+triage@blaenau-gwent.gov.uk

]]>
/cy/newyddion/tim-cymunedau-am-waith-a-mwy-yn-agor-drysau-i-gyflogaeth-i-bobl-ledled-blaenau-gwent/ /cy/newyddion/tim-cymunedau-am-waith-a-mwy-yn-agor-drysau-i-gyflogaeth-i-bobl-ledled-blaenau-gwent/ Thu, 28 Aug 2025 10:21:10 GMT Louise Bishop
Tân Gwyllt yng Nghlydach Dingle, ger Brynmawr Datganiad gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

"Mae timau aml-asiantaeth yn gweithio'n ddiflino i reoli'r tân gwyllt parhaus yng Nghlydach Dingle, ger Brynmawr. Dan arweiniad Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru gyda chefnogaeth cydweithwyr yn yr heddlu, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, asiantaethau iechyd, a phartneriaid seilwaith. Mae'r ymateb ar y cyd yn canolbwyntio ar amddiffyn cymunedau, diogelu seilweithiau hanfodol, a lleihau'r effaith amgylcheddol.

Ar hyn o bryd, mae'r tân yn ymestyn dros tua 150 hectar gyda ffrynt tân 1 cilomedr o hyd. Mae criwiau'n gweithio’n ddi-baid, gan ddefnyddio offer arbenigol ac yn elwa o fynediad da at gyflenwadau dŵr i gefnogi’r ymdrechion i ddiffodd y tân

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw risg uniongyrchol i fywyd nac eiddo, ac mae camau rhagweithiol yn cael eu cymryd i sicrhau diogelwch y cyhoedd. Cynghorir trigolion i gadw drysau a ffenestri ar gau pan fydd mwg, neu arogl mwg, yn bresennol, a’u hagor eto pan fydd y mwg neu'r arogl wedi mynd heibio. Dylai unrhywun sy’n pryderu am eu hiechyd geisio cyngor meddygol.

Mae’r holl bartneriaid yn rhannu’r newyddion diweddaraf yn gyson gydag awdurdodau lleol a phartneriaid iechyd i roi gwybod i gymunedau.

Mae hwn yn ddigwyddiad dwys a heriol, ac mae’r holl asiantaethau dan sylw wedi ymrwymo i ymdrech gydlynol ar y cyd i'w reoli. Rydym yn ddiolchgar i’r cyhoedd am eu cydweithrediad a dealltwriaeth barhaus y cyhoedd.

Byddwn yn parhau i ddarparu diweddariadau wrth i'r sefyllfa ddatblygu. Gwneir pob ymdrech i reoli'r risgiau ac amddiffyn ein cymunedau."

]]>
/cy/newyddion/tan-gwyllt-yng-nghlydach-dingle-ger-brynmawr/ /cy/newyddion/tan-gwyllt-yng-nghlydach-dingle-ger-brynmawr/ Thu, 28 Aug 2025 18:24:33 GMT Louise Bishop
Cerflun Dur i'w ddadorchuddio o'r athletwr torri recordiau Steve Jones Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi y bydd cerflun dur o'r athletwr torri record Steve Jones MBE, OLY a Freeman o Flaenau Gwent, yn cael ei ddadorchuddio'n swyddogol gan y dyn ei hun yn ei dref enedigol, Glynebwy, ym mis Medi hwn.

Mae'r Cyngor yn gyffrous ac yn anrhydeddus o fod wedi gweithio gyda'n partneriaid a'r gymuned rhedeg ym Mlaenau Gwent i ddathlu gyrfa athletaidd anhygoel Steve ac i amlygu ei gyflawniadau anhygoel mewn ffordd o ysbrydoli ein plant a'n pobl ifanc i ymdrechu bob amser am y gorau y gallant fod.

Wrth ymweld o'i gartref yn America, mae Steve wrth ei fodd yn ôl yn y cymoedd ar gyfer y digwyddiad arbennig hwn.

Dywed:“Mae hi wastad yn hyfryd dod adref, ond bydd yr amser hwn yn arbennig iawn. Mae bron yn swreal bod hyn yn digwydd, ac mae pobl AƬ yn gwneud hyn i mi. Rwy'n gwybod eisoes y bydd yn ddiwrnod anhygoel”

Byddem wrth ein bodd pe bai aelodau'r cyhoedd yn ymuno â ni i ddathlu'r digwyddiad nodedig hwn a gweld chwedl wirioneddol yn ei le. Dyma'r manylion:

  • Dyddiad: Dydd Gwener, 12fed o Fedi 2025.
  • Dadorchuddio'r Cerflun Swyddogol: 1yp, y tu allan i Ganolfan Chwaraeon Glynebwy, Lime Avenue, NP23 6GL

Bydd y digwyddiad yn dod â theulu a ffrindiau balch Steve, athletwyr lleol, enwau mawr o fyd rhedeg, plant a phobl ifanc, cynrychiolwyr yr Awyrlu Brenhinol a phobl bwysig leol ynghyd. Bydd perfformiad bywiog hefyd gan gôr meibion ​​traddodiadol Cymreig, Côr Meibion ​​Beaufort.

Mae anrhydeddu cyflawniadau Steve yn ganlyniad i waith partneriaeth rhwng y Cyngor; Clwb Rhedeg Parc Bryn Bach ac Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin, gyda chefnogaeth cyllid torfol a Chronfa Ffyniant a Rennir Llywodraeth y DU.

Blwyddyn ddiwethaf nododd 40fed pen-blwydd buddugoliaeth Steve ym Marathon Chicago, llwyddiant a swynodd y byd a chadarnhaodd ei le yn hanes athletau trwy osod record byd. Mae ei restr lawn o gyflawniadau rhedeg yn drawiadol a gellir dod o hyd iddi yma:

Darllenwch fwy amdanom ni’n dyfarnu Rhyddid Bwrdeistref Sirol AƬ i Steve yma: /cy/newyddion/yr-athletwr-a-dorrodd-recordiau-steve-jones-mbe-oly-yn-derbyn-rhyddid-y-fwrdeistref/

Ymunwch â ni ar gyfer y digwyddiad unwaith mewn oes hwn!

]]>
/cy/newyddion/cerflun-dur-iw-ddadorchuddio-or-athletwr-torri-recordiau-steve-jones/ /cy/newyddion/cerflun-dur-iw-ddadorchuddio-or-athletwr-torri-recordiau-steve-jones/ Fri, 29 Aug 2025 15:29:53 GMT Louise Bishop
Llyfrgell y Pethau Celfyddydau AƬ yn cael ei lansio heddiw Lansiwyd Llyfrgell y Pethau Celfyddydau BG - gwasanaeth cymunedol sy'n benthyca offer celfyddydau a digwyddiadau am ddim - heddiw. Mae'r gwasanaeth ar gael bob bore Mawrth o Sefydliad y Glowyr Llanhiledd ac mae'n annog rhannu i leihau gwastraff a hyrwyddo cynaliadwyedd ym Mlaenau Gwent.

Mae'r llyfrgell yn gweithredu yn Sefydliad Llanhiledd, Meadow Street, Llanhiledd, Abertyleri, NP13 2JT. Mae ar agor bob dydd Mawrth rhwng 10:30am a hanner dydd yn y caffi cymunedol. Er mwyn benthyca, bydd angen i chi greu cyfrif aelod ar-lein ar ein gwefan: Llyfrgell y Pethau Celfyddydau BG / BG Arts Library of Things neu galwch draw i'r lleoliad.

Mae'r holl eitemau yn cael eu profi ac yn cael gwiriad PAT gan wirfoddolwyr cyn iddynt gael eu benthyca, ac mae pob un yn dod gyda llawlyfr a gwybodaeth ddiogelwch. Rhaid i fenthycwyr ddefnyddio eitemau yn gyfrifol a rhoi gwybod am unrhyw ddifrod neu broblemau.

Meddai'r Cynghorydd Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Oedolion a Chymunedau yng Nghyngor AƬ:

"Llongyfarchiadau i Celfyddydau BG am wireddu’r prosiect hwn trwy ymdrechion cydweithredol. Bydd Llyfrgell y Pethau yn helpu trigolion i archwilio cyfleoedd ar gyfer digwyddiadau cymunedol a hobïau a lleihau gwariant ariannol mawr. Rwy'n annog trigolion i gymryd rhan a chefnogi'r fenter wych hon. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i adeiladu cymuned fywiog a ffyniannus."

Dywedodd Cyfarwyddwr a Chyd-sylfaenydd Benthyg Cymru, Becky Harford, a fynychodd y digwyddiad:

"Nid yw'r mudiad cenedlaethol yr oeddem yn gobeithio ei gyflawni yn ymwneud â benthyca yn unig; mae'n golygu dod at ein gilydd fel cymdogion, defnyddio pob adnodd a gofalu am ein gilydd fel cymuned." 

Celfyddydau BG yw'r Gwasanaeth Datblygu Celfyddydau newydd sy'n anelu at gefnogi, hyrwyddo a dathlu'r celfyddydau ym Mlaenau Gwent.  Mae’r gwasanaeth yn gweithio gyda thrigolion, artistiaid a phartneriaid i greu sector celfyddydau bywiog, uchelgeisiol, llawn dychymyg yn y fwrdeistref. Mae'r gwasanaeth wedi gweithio gyda chydweithwyr cynaliadwyedd amgylcheddol yn y Cyngor ar brosiect Llyfrgell y Pethau ac wedi elwa o gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Chwilio am gyfle gwirfoddoli?

Mae’r gwasanaeth bob amser yn chwilio am fwy o wirfoddolwyr i'w helpu i sicrhau bod pethau’n rhedeg yn esmwyth. Trwy wirfoddoli, rydych chi nid yn unig yn helpu eich cymuned ond hefyd yn cael cyfle i ddatblygu sgiliau newydd ac ehangu eich gorwelion eich hun. Rydyn ni’n cydnabod ac yn gwerthfawrogi'r rhai sydd ag ystod eang o sgiliau ymarferol a rhyngbersonol. Bydd angen tîm ymroddedig o wirfoddolwyr arnom i ddarparu a chynnal gwasanaeth dibynadwy o ansawdd uchel.

Ymunwch heddiw:

Gwefan:  

E-bost: bgartslibraryofthings1@gmail.com

Rhif ô: 01495 400211

]]>
/cy/newyddion/llyfrgell-y-pethau-celfyddydau-blaenau-gwent-yn-cael-ei-lansio-heddiw/ /cy/newyddion/llyfrgell-y-pethau-celfyddydau-blaenau-gwent-yn-cael-ei-lansio-heddiw/ Tue, 02 Sep 2025 15:26:03 GMT Louise Bishop
Lle hapus a gofalgar lle mae disgyblion yn ffynnu - Adroddiad Arolygu Ysgol Gynradd Willowtown Llongyfarchiadau i bawb yn Ysgol Gynradd Willowtown ar eu hadroddiad Estyn diweddar, sy'n dweud bod yr ysgol yn lle hapus, gofalgar lle mae disgyblion yn ffynnu. 

Nododd arolygwyr: 

✅ Fod disgyblion yn dangos agweddau cadarnhaol iawn at ddysgu 
✅ Bod staff ac arweinwyr yn fodelau rôl cryf
✅ Bod disgyblion ag ADY, gan gynnwys y rhai yn y Ganolfan Adnoddau Anghenion Arbennig, yn gwneud cynnydd da
✅ Bod ymddygiad yn gyson ardderchog 
✅ Bod llywodraethwyr yn chwarae rôl weithredol a chefnogol 
✅ Bod profiadau dysgu bywyd go iawn yn ennyn diddordeb ac yn ysbrydoli, ynghyd ag amgylcheddau dysgu effeithiol 

Mae'r adroddiad hefyd yn canmol diwylliant diogelu cryf yr ysgol a'i rôl fel canolbwynt yn y gymuned, gyda busnesau a theuluoedd lleol yn cymryd rhan weithredol yn addysg y disgyblion. 

Tynnodd Estyn sylw hefyd at ddarpariaeth eithriadol yr adran Blynyddoedd Cynnar a'u tîm. 

Dywed y Pennaeth, Mel Evans:

"Rydym yn hynod falch bod Estyn wedi cydnabod Ysgol Gynradd Willowtown fel ysgol hapus, ofalgar lle mae disgyblion yn ffynnu. Mae'r adroddiad hwn yn dyst i waith caled ac ymroddiad diflino ein staff, llywodraethwyr, disgyblion, a theuluoedd. Mae ein gweledigaeth i Herio, Cyflawni ac Anelu at Fwy yn disgleirio trwy bopeth a wnawn, gan sicrhau bod ein holl blant, gan gynnwys y rhai ag ADY, yn derbyn y profiadau dysgu gorau.

"Canmolodd arolygwyr agweddau cadarnhaol iawn ein disgyblion at ddysgu, sydd wir yn glod i'n hysgol. Rwy'n teimlo'n freintiedig, ochr yn ochr â’m tîm arwain, i arwain Ysgol Gynradd Willowtown – calon ein cymuned."

Meddai'r Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:  

"Da iawn i gymuned gyfan ysgol Willowtown ar yr adroddiad gwych hwn a diolch i'r staff, y llywodraethwyr, y disgyblion a'u teuluoedd am eu hymroddiad a'u gwaith tîm. Rydyn ni’n Gyngor Marmot, wedi ymrwymo i weithio'n agos gyda'n hysgolion a'n teuluoedd i gefnogi plant a phobl ifanc i gael y dechrau gorau mewn bywyd a gwneud y mwyaf o'u potensial." 

Darllenwch yr adroddiad llawn

]]>
/cy/newyddion/lle-hapus-a-gofalgar-lle-mae-disgyblion-yn-ffynnu-adroddiad-arolygu-ysgol-gynradd-willowtown/ /cy/newyddion/lle-hapus-a-gofalgar-lle-mae-disgyblion-yn-ffynnu-adroddiad-arolygu-ysgol-gynradd-willowtown/ Fri, 05 Sep 2025 12:50:53 GMT Louise Bishop
Cerflun Dur yn Anrhydeddu'r Athletwr a Dorrodd Recordiau, Steve Jones MBE, OLY wedi'i ddadorchuddio'n swyddogol heddiw Mae cerflun dur o un o arwyr chwaraeon mwyaf Cymru, Steve Jones MBE, OLY a Rhyddfreiniwr AƬ, wedi’i ddadorchuddio gan y dyn ei hun yng Nglynebwy heddiw.

Mae'r cerflun yn coffáu cyflawniadau chwedlonol yr athletwr ac fe'i dadorchuddiwyd ym mhresenoldeb cymuned falch; pwysigion lleol a chenedlaethol; enwau mawr o’r byd rhedeg; sefydliadau chwaraeon Cymru; plant a phobl ifanc a chynrychiolwyr o'r RAF a Chadetiaid ATC lleol.

Roedd Steve yn rhan o Sgwadron Glynebwy 1158 Glynebwy, a roddodd gyfle iddo arddangos ei ddoniau am y tro cyntaf. Yn ddiweddarach aeth ymlaen i wasanaethu yn yr RAF, gan gyfuno bywyd milwrol a'i yrfa athletau lewyrchus, yn aml yn rhedeg yn gwisgo fest yr RAF.

Darllenodd ffrind da i Steve, Kelvin Smith, ei gerdd emosiynol 'Because you are our Legend' i'r dorf a chanodd Côr Meibion Beaufort ddwy gân cyn arwain y dorf yn yr Anthem Genedlaethol, 'Hen Wlad Fy Nhadau'.

Mae'r cerflun, a grëwyd gan yr artist Tim Ward, yn adlewyrchu’r eiliad eiconig yr enillodd Steve Farathon Chicago ym 1984, gan dorri record - eiliad a enillodd le iddo yn hanes athletau’r byd.

Dywedodd Steve heddiw, a oedd dan emosiwn: "Pwy fyddai wedi meddwl, pan adawais i Lynebwy ar 19 Chwefror 1974 fel bachgen 18 oed i ymuno â'r Llu Awyr Brenhinol heb lawer o brofiad rhedeg, y byddai hyn yn dod yn rhan mor enfawr o ’mywyd i. Mae fy llwyddiannau nid yn unig yn dyst i’m gwaith i a’m hyfforddwyr, ond hefyd wir yn adlewyrchiad o le rwy’n dod. Gwnaeth tyfu i fyny yng Nglynebwy, ac yn enwedig Hilltop, fy nghreu i fel person ac athletwr, a dydw i byth yn anghofio hynny. Felly, i ddyfynnu'r arwr Michael Foot, bob tro roeddwn i'n rhoi pâr o sgidiau rhedeg ’mlaen, ble bynnag roeddwn i o gwmpas y byd, roeddwn i nid yn unig yn cynrychioli fy ngwlad, Cymru, ond hefyd Glynebwy.

"Heddiw yw un o ddiwrnodau gorau fy mywyd i. Fel y gwnes i ymdrechu i anrhydeddu Glynebwy a Hilltop, rwy'n falch iawn bod AƬ a Glynebwy yn arbennig yn anrhydeddu'r crwt ifanc o Hilltop a wnaeth rywbeth ohono’i hun. Diolch Diolch Diolch."

Mae Steve, a ddathlodd ei ben-blwydd yn 70 oed yn ddiweddar, yn ymweld o'i gartref yn Colorado, UDA. Ar ôl y dadorchuddiad cynhaliwyd 'Cynulleidfa gyda Steve Jones – Dathlu Mawredd Lleol', digwyddiad yn edrych ar fywyd a gyrfa nodedig.

Ar ddiwedd y dydd, cyflwynwyd sgrôl Rhyddid Bwrdeistref Sirol AƬ i Steve yn swyddogol gan Aelod Llywyddol Cyngor AƬ, y Cynghorydd Chris Smith.

Mae'r dathliad hwn o Steve o ganlyniad i bartneriaeth rhwng Cyngor AƬ, Clwb Rhedeg Parc Bryn Bach, a’r Aneurin Leisure Trust, gyda chefnogaeth cyllid torfol a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Mae etifeddiaeth Steve Jones yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau. Mae ei fuddugoliaethau yn cynnwys ennill Marathonau Chicago a Llundain, a gellir dod o hyd i'w restr lawn o gyflawniadau yma: link. Y llynedd nodwyd 40 mlynedd ers ei fuddugoliaeth yn Chicago, ac ym mis Ebrill nodwyd 40 mlynedd ers ei fuddugoliaeth ym Marathon Llundain.

Mae'r Cynghorydd Sue Edmunds a Chadeirydd Clwb Rhedeg Parc Bryn Bach (ac un o gefnogwyr mwyaf Steve Jones), Lee Aherne wedi bod yn allweddol wrth sicrhau'r etifeddiaeth barhaol hon i Steve.

Meddai Lee Aherne: "Mae Steve yn un o eiconau chwaraeon Cymru ac yn haeddu pob clod. Rwy'n gobeithio y bydd y cerflun hwn yn ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol i ddechrau rhedeg a helpu fy nghlwb i, Parc Bryn Bach, i ddod y gorau yng Nghymru gobeithio. Hoffwn ddiolch yn bersonol i'r tîm gwych o bobl yng Nghyngor AƬ a’r Aneurin Leisure Trust am helpu i wireddu breuddwyd saith mlynedd."

Dywed y Cynghorydd Sue Edmunds:

"Mae Steve Jones yn arwr go iawn, ac mae ei stori yn ymgnawdoli ysbryd AƬ. O strydoedd Glynebwy i'r llwyfan byd-eang, mae ei daith yn ddim llai na rhyfeddol. Mae ei wyleidd-dra, hyd yn oed wedi torri record byd, yn adrodd cyfrolau am gryfder ei gymeriad. Nid dim ond eicon rhedeg yw Steve - mae'n un ohonom ni. Mae ei gyflawniadau’n parhau i ysbrydoli cenedlaethau, gan brofi bod mawredd o fewn cyrraedd.

"Mae ei gerflun a ddadorchuddiwyd heddiw yn symbol pwerus o'r hyn sy'n bosibl. Bydd y cerflun yn ein hatgoffa am byth - yn enwedig ein pobl ifanc - y gall uchelgais, gwytnwch a chred ynoch chi’ch hun fynd â chi i unrhyw le. Gadewch i ni wneud yn siŵr bod etifeddiaeth Steve yn parhau’n gonglfaen i stori AƬ. Bydd ei gerflun yn sefyll yn falch, nid yn unig mewn dur, ond yng nghalonnau pawb sy'n meiddio breuddwydio'n fawr."

Enillodd Lynn Davies fedal aur yn y naid hir yng Ngemau Olympaidd 1964, enillodd Gemau'r Gymanwlad ddwywaith, a daeth yn bencampwr Ewrop. Hefyd, mae’n gyn-reolwr tîm athletau Tîm Prydain Fawr ym Mhencampwriaethau'r Byd 1983 a Gemau Olympaidd 1984, pan oedd Steve Jones yn y tîm. Lynn yw Llywydd Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru.

Dywedodd heddiw: "Roedd Steve bob amser yn un o'r bois, dyn a oedd yn mwynhau peint neu ddau ’slawer dydd. Mae ei stori’n profi y gall pŵer chwaraeon ddyrchafu unrhyw un o unrhyw gefndir ac unrhyw swydd i’r lefel uchaf, gan ddod yn fyd-enwog.

"I mi mae bob amser wedi bod yn fachgen o Lynebwy sydd heb anghofio o le mae’n dod, ac mae mor falch o'i dreftadaeth. Rhoddodd chwaraeon gyfle iddo, ac fe afaelodd yn y cyfle hwnnw gyda dwy law.

"Mae ei gyflawniadau yn y gamp yn rhyfeddol ac mae bob amser yn wych gweld athletwr o Gymru yn perfformio i lefel mor uchel ar lwyfan y byd. Mae bob amser wedi sicrhau bod draig Cymru’n hedfan yn uchel ac yn falch o amgylch y byd, ble bynnag yr aeth.

"Mae ei yrfa’n parhau i fod yn ysbrydoliaeth i athletwyr yng Nghymru a ledled y DU. Mae ei ymroddiad i'w swydd yn yr RAF a'i hyfforddiant athletau yn enghreifftiau disglair o'r hyn y gellir ei gyflawni gyda disgyblaeth, penderfyniad ac awydd.

"Mae Steve yn un o fawrion chwaraeon Cymru, ond bydd y cerflun yn ei dref enedigol, Glynebwy, yn atgoffa pobl am byth ei fod hefyd yn arwr lleol go iawn."

Mae David Bedford yn un o redwyr pellter hir gorau Prydain. Torrodd record 10,000 metr y byd a chafodd ei goroni'n Bencampwr Traws Gwlad y Byd. Rhedodd ym mhob un o'r prif bencampwriaethau ac yna aeth ymlaen i fod yn gyfarwyddwr Marathon Llundain.

Dywedodd: "Roedd Steve yn rhedwr gwych yn ei ddydd, ond meddyliwch faint gwell y byddai wedi bod yn yr oes fodern gyda'r holl ddatblygiadau newydd mewn technoleg sgidiau a dulliau hyfforddi. Mae'n un o'r ychydig bobl sydd wedi ennill parch cenedlaethau newydd o athletwyr.

"Rydw i mor falch ei fod yn cael ei anrhydeddu fel hyn yn ei dref enedigol. Roedd yn athletwr o'r radd flaenaf, ond mae hefyd yn ŵr da.

"Roedd holl gyfarwyddwyr rasys y byd eisiau Steve Jones yn eu marathon ac roedden ni wrth ein bodd pan ddaeth i Lundain ym 1985 am frwydr enwog gyda Charlie Spedding. Roedd ei amser buddugol yn record ar gyfer y cwrs, a barodd tan 1997.

"Roeddwn i'n ei nabod yn gyntaf fel rhedwr 10,000 metr ac arbenigwr traws gwlad cyn iddo ddechrau cystadlu yn y marathon. Roedd ei gryfder a'i ddycnwch bob amser yn gwneud iddo sefyll allan o'r dorf.

"Mae'n debyg i’w gyflawniad pennaf - ennill aur - lithro o’i afael ym Mhencampwriaethau Ewrop 1986 pan darodd wal yn ail hanner y ras ar ôl cael problemau gyda'i ddŵr yn y gorsafoedd bwydo.

"Roedd ar y blaen o ddwy funud ar ôl yr hanner cyntaf, ond fe ddadhydradodd a llithro i lawr y rhestr ddetholion, ond fe wrthododd roi'r ffidil yn y to. Pan fyddai pawb arall yn ei sgidiau wedi rhoi'r gorau iddi, rhedodd yn llythrennol nes iddo syrthio dros y llinell mewn 2 awr 22 munud - am foi penderfynol!

"Rwy'n falch iawn ei fod yn cael ei gydnabod fel hyn yn ei dref enedigol, ac mae'n cael ei garu a'i barchu nid yn unig yn ei gymuned leol, ond gan athletwyr ledled y byd."

Dywedodd yr artist Tim Ward ei bod yn anrhydedd cael creu'r cerflun. Meddai:

"Rwy'n falch o fod wedi cael fy nghomisiynu i ddylunio a chreu'r cerflun er anrhydedd i Steve Jones a diolch i bawb y bues i'n gweithio mewn partneriaeth gyda nhw ar y prosiect gwych hwn. Bydd y cerflun, rwy'n siŵr, yn rhoi ysbrydoliaeth i bobl sy'n ymweld â'r ganolfan chwaraeon ac yn dod yn dirnod lleol cadarnhaol."

]]>
/cy/newyddion/cerflun-dur-yn-anrhydeddur-athletwr-a-dorrodd-recordiau-steve-jones-mbe-oly-wedii-ddadorchuddion-swyddogol-heddiw/ /cy/newyddion/cerflun-dur-yn-anrhydeddur-athletwr-a-dorrodd-recordiau-steve-jones-mbe-oly-wedii-ddadorchuddion-swyddogol-heddiw/ Thu, 11 Sep 2025 14:19:45 GMT Louise Bishop
‘Dennis i'r Adwy’ yn dysgu plant ym Mlaenau Gwent am ailgylchu a gofalu am yr amgylchedd (1) Mae 'Dennis i’r Adwy' – ystafell ddosbarth symudol sy'n dysgu plant am bwysigrwydd gofalu am ein hamgylchedd – yn teithio o amgylch ysgolion AƬ.

Mae'n edrych fel cerbyd casglu sbwriel nodweddiadol o'r tu allan ond y tu mewn mae Dennis yn cynnwys offer ystafell ddosbarth gyda sgriniau teledu a byrddau gwyn i 15 o ddisgyblion gymryd rhan mewn gwersi am wastraff ac ailgylchu, newid hinsawdd, cynaliadwyedd a llawer o bynciau eraill sy'n gysylltiedig â materion amgylcheddol allweddol.

Gan adeiladu ar daith lwyddiannus y llynedd, bydd Dennis a'n Pencampwr Ansawdd Amgylcheddol Lleol, John Mewett yn ymweld â naw ysgol o amgylch y fwrdeistref sirol dros y pythefnos nesaf.

Gwnaeth yr Aelod Cabinet dros Gymdogaethau a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Tommy Smith, ddal i fyny â Dennis a disgyblion yn Ysgol Gynradd Bryn Bach yn Nhredegar.

ѱ岹’r Cynghorydd Smith:

"Un o'n prif flaenoriaethau yw ymateb i'r argyfwng natur a hinsawdd ac fel Cyngor Marmot rydym yn gweithio i ddatblygu lleoedd a chymunedau cynaliadwy. Mae'n hanfodol i blant a phobl ifanc ddysgu am yr heriau sy'n wynebu ein hamgylchedd a sut y gallant chwarae eu rhan yn yr ateb - nhw yw pencampwyr gwyrdd y dyfodol. Rydw i wedi mwynhau fy ymweliad heddiw a dysgu ambell beth fy hun."

 

]]>
/cy/newyddion/dennis-ir-adwy-yn-dysgu-plant-ym-mlaenau-gwent-am-ailgylchu-a-gofalu-am-yr-amgylchedd-1/ /cy/newyddion/dennis-ir-adwy-yn-dysgu-plant-ym-mlaenau-gwent-am-ailgylchu-a-gofalu-am-yr-amgylchedd-1/ Mon, 15 Sep 2025 13:02:01 GMT Louise Bishop
Cynllun cyflogaeth wedi'i deilwra yn tanio llwybr i'r gweithle Mae'r rhaglen 'Trailblazer' gwerth £10 miliwn yn parhau i ddarparu cymorth cyflogaeth wedi'i deilwra, gyda chadarnhad o gyllid yn yr ail flwyddyn.

Bydd pobl yng Nghymru yn parhau i elwa o gymorth cyflogaeth arloesol wrth i Weinidogion Cymru a Llywodraeth y DU ymweld â Glynebwy heddiw [dydd Iau 18 Medi] i nodi lansiad ail ardal Trailblazer Cymru a chadarnhau cyllid ar gyfer ail flwyddyn y cynllun.

Mae'r rhaglen Trailblazer, a ariennir gan Lywodraeth y DU, yn targedu pobl economaidd anweithgar o oedran gweithio sy'n anabl a/neu sydd â chyflyrau iechyd, neu gyfrifoldebau gofalu trwy ddarparu ymyriadau wedi'u teilwra gan gynnwys mentora un-i-un, gwasanaethau cwnsela, darpariaeth lles, a chymorth arbenigol i'r rhai sydd â chyflyrau iechyd.

Daw ymweliad Gweinidog Sgiliau Llywodraeth Cymru, Jack Sargeant, ac Is-ysgrifennydd Seneddol Gwladol Swyddfa Cymru Llywodraeth y DU, Anna McMorrin, dri mis ar ôl lansiad llwyddiannus rhaglen Trailblazer cyntaf Cymru yn Sir Ddinbych.

Yn ystod y digwyddiad arddangos yn Institiwt Glynebwy, gwelodd y Gweinidogion y cymorth lleol wedi’i dargedu sy'n cael ei ddarparu ym Mlaenau Gwent. Cawsant gyfarfod cyfranogwyr sy'n elwa o'r prosiect Chwalu Rhwystrau sy'n gweithio gyda chymuned y teithwyr, prosiect Ceidwaid AƬ sy'n darparu hyfforddiant sgiliau gwyrdd, a mentrau iechyd a lles a gyflwynir mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan.

Mae'r rhaglen Trailblazer yng Nghymru yn cwmpasu tair ardal - AƬ, Sir Ddinbych, a Chastell-nedd Port Talbot - gan ganiatáu i arweinwyr lleol ddylunio cynlluniau cymorth cyflogaeth wedi'u teilwra i heriau unigryw eu cymuned. Mae hyn yn cynrychioli newid sylweddol o'r un dull cyffredinol blaenorol o gymorth cyflogaeth.
Mae'r cynllun buddsoddi gwerth £10 miliwn yn rhan o fenter Get Britain Working Llywodraeth y DU, sy'n targedu'r ardaloedd gyda'r lefelau uchaf o anweithgarwch economaidd.

Cafwyd cadarnhad hefyd o gyllid ar gyfer ail flwyddyn y rhaglen, gyda hyd at £10miliwn wedi'i gymeradwyo ar gyfer 2026 - 2027.

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant a Sgiliau, Jack Sargeant:

"Mae'r cynllun arloesol hwn yn dangos sut rydym yn creu gwasanaethau gwirioneddol integredig sy'n cydnabod bod gwaith da yn sylfaenol i les, trwy weithio'n agos gyda phartneriaid cymunedol lleol, gan gynnwys byrddau iechyd. Mae'n ddull yr ydym yn gwybod ei fod yn gweithio, ac mae'n adeiladu ar lwyddiant ein Gwarant i Bobl Ifanc sydd eisoes yn darparu cymorth i bobl ifanc ennill sgiliau neu ddod o hyd i waith.

"Mae ehangu'r rhaglen arloesol hon heddiw ym Mlaenau Gwent yn dangos maint ein gallu drwy weithio ar y cyd â Llywodraeth y DU. 

"Mae cadarnhau cyllid ar gyfer yr ail flwyddyn yn ein galluogi i adeiladu ar y llwyddiant cynnar rydyn ni wedi'i weld a pharhau i ddatblygu'r dull arloesol, lleol ymatebol hwn o gefnogi pobl yn ôl i waith."

Dywedodd yr Is-ysgrifennydd Seneddol (Swyddfa Cymru), Anna McMorrin:

"Mae Llywodraeth y DU eisiau helpu cymaint o bobl â phosibl i gael gwaith. Rydym yn gwybod bod gwaith yn gwneud bywydau pobl yn well, yn rhoi annibyniaeth ariannol iddynt ac yn gwella eu lles.

"Mae'r cynllun arloesol hwn yn darparu cymorth ychwanegol i'r rhai sydd ei angen, ac rwy'n falch iawn o'i weld yn cael ei gyflwyno ym Mlaenau Gwent."

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet dros yr Economi a Lleoedd yng Nghyngor AƬ:

"Roedd yn bleser croesawu cynrychiolwyr o Lywodraethau'r DU a Chymru i Lynebwy i arddangos ein prosiectau arloesol Trailblazer, sy'n cefnogi pobl sydd â rhwystrau i gael gwaith drwy ddatrysiadau beiddgar, sy’n cael eu sbarduno yn lleol.

"Fel Cyngor Marmot, rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a helpu pobl i gymryd rheolaeth o'u bywydau trwy hyrwyddo cyflogaeth deg ac adeiladu cymunedau iachach, mwy cynaliadwy. Mae Trailblazers yn ymwneud â mwy na swyddi yn unig - mae'n golygu ailadeiladu hyder, gwella lles, a darparu'r sgiliau a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar bobl i ffynnu."

Mae prosiectau Trailblazers Cymru yn rhan o ddiwygiadau ehangach Get Britain Working gwerth £240 miliwn Llywodraeth y DU, sy'n cynnwys trawsnewid canolfannau gwaith, gwarantu cyfle i bobl ifanc ennill neu ddysgu, a darparu cymorth iechyd meddwl i helpu pobl i ddechrau ac aros mewn gwaith.

 

]]>
/cy/newyddion/cynllun-cyflogaeth-wedii-deilwra-yn-tanio-llwybr-ir-gweithle/ /cy/newyddion/cynllun-cyflogaeth-wedii-deilwra-yn-tanio-llwybr-ir-gweithle/ Thu, 18 Sep 2025 13:05:50 GMT Louise Bishop
Mae Aspire yn dathlu degawd o brentisiaethau sy'n newid bywydau ym Mlaenau Gwent Mae Aspire, rhaglen brentisiaeth ar y cyd Cyngor AƬ, yn dathlu 10 mlynedd o gefnogi pobl i mewn i waith. Nodwyd y pen-blwydd gyda digwyddiad dathlu arbennig yn y Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy, neithiwr, gan ddod â chynrychiolwyr y Cyngor a Llywodraeth Cymru, busnesau lleol ac wrth gwrs rhai o'r prentisiaid eu hunain ynghyd. Daeth y noson i ben drwy gyflwyno sbectol ysgythredig arbennig i'r prentisiaid i nodi eu cyfranogiad yn y cynllun.

Ers iddi ddechrau, mae Aspire wedi sefyll fel menter flaenllaw - enghraifft ddisglair o'r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd diwydiant, addysg, Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn dod at ei gilydd gyda gweledigaeth gyffredin.

Mae Aspire wedi cefnogi dros 200 o brentisiaid ym Mlaenau Gwent, gyda'i chwaer-raglen ym Merthyr Tudful hefyd yn cael effaith ryfeddol, gan gefnogi dros 150 o brentisiaid mewn dim ond saith mlynedd. Mae prentisiaethau wedi'u sicrhau o fewn y Cyngor a gyda busnesau lleol mewn meysydd fel peirianneg, iechyd a gofal cymdeithasol, datblygu chwaraeon, addysg a dysgu, fferyllol, TG, cyllid a llawer mwy.

Meddai'r Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet Economi a Lleoedd Cyngor AƬ:

"Mae Aspire wedi bod yn gonglfaen i'n hymrwymiad i ddatblygu sgiliau a chreu swyddi yma ym Mlaenau Gwent. Mae wedi bod yn 10 mlynedd hynod lwyddiannus, ac rydym yn parhau â'r gwaith da. Rydym wedi gweld pobl ifanc yn tyfu mewn hyder, datblygu sgiliau hanfodol a meithrin uchelgais – ac mae llawer ohonynt bellach yn arweinwyr yn eu meysydd. O'r cychwyn cyntaf mae Aspire wedi cael ei gyrru gan genhadaeth glir: i greu cyfleoedd uchelgeisiol i bobl ifanc, ac mae'n sicr wedi cyflawni ar hynny. Diolch i'n holl bartneriaid am eu cefnogaeth a'u hymrwymiad i'r agenda sgiliau."

Mae tîm Aspire yn recriwtio'n weithredol o bob ysgol uwchradd yn y fwrdeistref sirol a cholegau lleol, yn ogystal â chefnogi'r rhai yn y gymuned ehangach, i sicrhau bod cyfleoedd ar gael i ystod eang ac amrywiol o ddysgwyr.

Ychwanegodd y Cynghorydd Morgan:

"Rydym hefyd yn falch o'n hymrwymiad i gynhwysiant. Dros y blynyddoedd, rydym wedi croesawu nifer cynyddol o brentisiaid benywaidd, ac mae'r nifer hwnnw'n parhau i godi flwyddyn ar ôl blwyddyn - tystiolaeth o ymroddiad Aspire i chwalu rhwystrau a herio stereoteipiau o fewn y sector."

Roedd cyn-Brentis y Flwyddyn, Declan Hughes yn y digwyddiad. Meddai:

"Ymunais â'r cynllun yn 2015, ar y cychwyn, ac allwn i ddim fod wedi dychmygu'r daith y byddai'n ei sbarduno. Gyda chefnogaeth anhygoel gan y tîm, enillais gymwysterau niferus - gan gynnwys NVQs, HNCs, a gradd prifysgol - a osododd y sylfeini ar gyfer fy ngyrfa mewn peirianneg. Heddiw, rwy'n falch o fod yn gweithio fel Peiriannydd Ansawdd yn Aumovio (Continental gynt), rôl sydd wedi mynd â mi ledled Ewrop ac wedi fy nghysylltu â gweithwyr proffesiynol ysbrydoledig. Helpodd digwyddiadau adeiladu tîm y cynllun i greu ffrindiau oes a rhwydweithiau gwerthfawr, y mae llawer ohonynt yn parhau i ffynnu. Yn ystod fy nghyfnod yn y rhaglen, cefais yr anrhydedd o ennill 'Prentis y Flwyddyn' a 'Model Rôl y Flwyddyn'. Nawr, rwy'n mwynhau rhoi rhywbeth yn ôl trwy fentora prentisiaid newydd a dathlu pa mor bell mae'r cynllun wedi dod. Rwy'n falch o fod wedi bod yn rhan o'i ddegawd cyntaf - ac rwy'n gyffrous am beth sydd i ddod."

I ddysgu mwy am y rhaglen Aspire, cliciwch yma.

]]>
/cy/newyddion/mae-aspire-yn-dathlu-degawd-o-brentisiaethau-syn-newid-bywydau-ym-mlaenau-gwent/ /cy/newyddion/mae-aspire-yn-dathlu-degawd-o-brentisiaethau-syn-newid-bywydau-ym-mlaenau-gwent/ Fri, 19 Sep 2025 12:08:19 GMT Louise Bishop
Arddangosfeydd Tân Gwyllt - cofrestrwch a chadwch yn ddiogel Wrth i noson Tân Gwyllt brysur agosáu, mae Cyngor AƬ yn gofyn i drefnwyr arddangosfeydd tân gwyllt gofrestru eu digwyddiad gyda'n tîm Iechyd yr Amgylchedd.

Mae'r cynllun am ddim hwn yn cwmpasu digwyddiadau sydd wedi’u trefnu o bob maint ac fe'i crëwyd i helpu a sicrhau bod pawb yn cael digwyddiad tân gwyllt hapus, heb ddamweiniau. Bob blwyddyn ar draws y DU mae damweiniau y gellid bod wedi'u hosgoi'n hawdd yn digwydd yn ystod digwyddiadau tân gwyllt, ac mae'r rhain yn aml yn arwain at anaf difrifol.

Bydd swyddogion o'r Cyngor yn cynnig canllawiau cyn y digwyddiad i'r rhai sy'n cynllunio ac yn cynnal arddangosfeydd o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol AƬ a gallant ymweld cyn ac yn ystod y digwyddiad os oes angen.

Dywedodd Tommy Smith, Aelod Cabinet dros Gymdogaethau a Gwasanaethau Amgylcheddol:

“Gall tân gwyllt fod yn hynod beryglus os na chânt eu rheoli’n ofalus a gallant fod yn beryglus i bobl sy’n sefyll o gwmpas a phobl sy’n eu cynnau. Gwyddom i gyd pa mor swnllyd y gall tân gwyllt fod, yn enwedig y rhai sydd mewn digwyddiadau heb eu cynllunio mewn ardaloedd adeiledig a all fod yn ofidus i lawer o bobl ac anifeiliaid anwes hefyd.

Mae ein staff iechyd yr amgylchedd wedi’u hyfforddi i gynorthwyo trefnwyr arddangosfeydd tân gwyllt a gallant gynnig cyngor i drefnwyr digwyddiadau tân gwyllt yn y cyfnod cyn yr arddangosfa a gallant ymweld ar y noson ei hun. I wneud hyn mae angen i ni fod yn ymwybodol bod digwyddiad yn digwydd felly cysylltwch â ni i gofrestru eich digwyddiad tân gwyllt.”

Am ragor o wybodaeth am y cynllun cofrestru cysylltwch â ni ar:

Rhif ffôn: 01495 369542.

Cyfeiriad E-bost: environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk

Gwefan: Diogelwch Tân Gwyllt | CBS AƬ (blaenau-gwent.gov.uk)

]]>
/cy/newyddion/arddangosfeydd-tan-gwyllt-cofrestrwch-a-chadwch-yn-ddiogel/ /cy/newyddion/arddangosfeydd-tan-gwyllt-cofrestrwch-a-chadwch-yn-ddiogel/ Tue, 30 Sep 2025 15:14:40 GMT Carolyn Jenkins
Gwarchodwch ein hamgylchedd a'n bywyd gwyllt y Noson Tân Gwyllt hon (1) Wrth i chi baratoi i ddathlu Noson Guto Ffowc eleni, cymerwch ofal gyda’r deunyddiau rydych chi'n eu llosgi. Nid yw rhai tocsinau byth yn chwalu ac mae ganddynt effaith barhaol ar yr amgylchedd. Gallant hefyd achosi problemau iechyd i'r rhai sy'n anadlu aer llygredig.

Wrth adeiladu tân gwyllt, anogir pobl i fod yn ymwybodol o'u a pheidio â llosgi eitemau gwastraff fel teiars, pren wedi'i drin, plastigau, tanwyddau, metelau a gwydr. Gall yr eitemau hyn gael effaith barhaol ar yr amgylchedd pan fyddant yn cael eu llosgi. Dim ond gwastraff gardd sych, pren heb ei drin a symiau bach o ddail y dylid eu llosgi.

Dylid paratoi unrhyw dân gwyllt ar y diwrnod y bydd yn cael ei gynnau i atal unrhyw fywyd gwyllt, fel draenogod, rhag ei ​​ddefnyddio fel lloches. Dylid cynnau tân gwyllt hefyd o un gornel bob amser, yn hytrach nag yn y canol, er mwyn rhoi cyfle i unrhyw fywyd gwyllt ddianc.

Nid oes cyfraith yn erbyn cael tân gwyllt, ond mae'n drosedd i'r mwg neu'r arogl achosi niwsans. Mae hefyd yn bosibl bod gwelededd yn cael ei leihau ar ffyrdd cyfagos.

Dywedodd y Cynghorydd Tommy Smith, Gwasanaethau Cymdogaethau a’r Amgylchedd:

“Y ffordd fwyaf diogel o ddathlu Noson Tân Gwyllt yw mynychu digwyddiad cyhoeddus wedi’i drefnu. Os ydych chi’n cynllunio tân gwyllt, meddyliwch yn ofalus am yr hyn rydych chi’n ei losgi. Nid oes unrhyw fath o dân gwyllt yn ddefnyddiol i’r amgylchedd felly ceisiwch fod mor ecogyfeillgar â phosibl a byddwch yn ymwybodol ei bod yn drosedd gwaredu gwastraff mewn ffordd a allai achosi llygredd i’r amgylchedd.”

]]>
/cy/newyddion/gwarchodwch-ein-hamgylchedd-an-bywyd-gwyllt-y-noson-tan-gwyllt-hon-1/ /cy/newyddion/gwarchodwch-ein-hamgylchedd-an-bywyd-gwyllt-y-noson-tan-gwyllt-hon-1/ Wed, 08 Oct 2025 12:02:14 GMT Carolyn Jenkins
Sbotolau ar Bencampwyr Cymru: Emily Johnson

Rydym wrth ein bodd yn croesawu Emily Johnson o Emily's Miles of Smiles i'n  Rhestr Anrhydeddau Pencampwyr Cymru! 

Mae Emily yn dathlu 10 mlynedd mewn busnes eleni, a pha ffordd well o nodi'r garreg filltir na thrwy ddod yn un o'n llysgenhadon Cymraeg anhygoel.

Wedi'i lleoli yn Abertyleri, dechreuodd taith Emily gyda'r Gymraeg ym mis Ionawr pan sylwodd ar fwy o rieni sy'n chwilio am ofal plant cyfrwng Cymraeg. Gydag angerdd a phenderfyniad, cofleidiodd yr her - ac nid yw wedi edrych yn ôl!

"Mae gen i rhandir ac roedd y genhedlaeth hŷn yn arfer chwerthin pan ddechreuais ddysgu Cymraeg. Nawr maen nhw'n fy ngalw'n wraig Gymreig ac yn fy nghyfarch gyda 'Croeso' neu 'Hwyl fawr'—rydw i hyd yn oed wedi dysgu ychydig eiriau iddyn nhw!"

Mae Emily bellach yn gweithio yng Nghylch Meithrin Brynithel, lle mae'n magu hyder yn darllen llyfrau Cymraeg i blant a defnyddio ymadroddion bob dydd. Mae ei chariad at yr iaith hyd yn oed wedi gwneud teithiau teuluol i Ogledd Cymru yn fwy ystyrlon.

"Rwy'n Gymraeg - dylwn allu siarad ein hiaith. Rwy'n falch fy mod i'n dysgu ac rydw i eisiau bod yn rhugl. Dyna'r cynllun!"

Dechreuodd Emily ei thaith gyda phrosiect Camau () drwy ac mae wedi neidio ar bob cwrs am ddim a gynigir. Ei chyngor? Rhowch gynnig arni. Cadwa fynd. Mae'n perthyn i bob un ohonom.

Llongyfarchiadau, Emily, ar 10 mlynedd o ysbrydoli meddyliau ifanc ac am fod yn hyrwyddwr gwirioneddol i'n hiaith a'n diwylliant.

Ydych chi'n adnabod rhywun sy'n gwneud gwahaniaeth gyda'r Gymraeg yn eich cymuned? Enwebwch nhw trwy e-bostio Cymraeg@blaenau-gwent.gov.uk.

Am ragor o wybodaeth ac i gysylltu ag Emily dilynwch y ddolen hon:

 

]]>
/cy/newyddion/sbotolau-ar-bencampwyr-cymru-emily-johnson/ /cy/newyddion/sbotolau-ar-bencampwyr-cymru-emily-johnson/ Wed, 08 Oct 2025 13:44:03 GMT Carolyn Jenkins
Ysgol Gynradd Cyfrwng Cymraeg AƬ yn dathlu adroddiad arolygu Llongyfarchiadau i Ysgol Gymraeg Bro Helyg sydd wedi derbyn adborth gwych o'i arolwg diweddar gan Estyn. Roedd adroddiad yr ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn y Blaenau yn adlewyrchu ymrwymiad yr ysgol i ragoriaeth, cynhwysiant a lles disgyblion.

Tynnodd yr adroddiad sylw at:

✅ Gymuned ofalgar a chynhwysol lle mae disgyblion yn teimlo'n ddiogel a’u bod yn cael eu cefnogi
✅ Arweinyddiaeth gref sy'n meithrin diwylliant o gydweithredu ac uchelgais
✅ Disgyblion sy'n barchus, yn hyderus, ac yn ymfalchïo yn eu dysgu
✅ Cwricwlwm ysgogol sy'n herio ac yn cefnogi pob dysgwr
✅ Defnydd creadigol o fannau awyr agored i ennyn chwilfrydedd ac ymgysylltiad
✅ Staff sy'n darparu profiadau dysgu cyffrous ac yn annog hunanfyfyrio
✅ Disgyblion yn gwneud cynnydd cryf yn y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig
✅ Addysgu cadarn sy'n hyrwyddo meddwl annibynnol a chydweithredu

Canmolwyd hefyd y ddarpariaeth arbenigol 'ragorol' yn y Noddfa, sy'n cefnogi disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, a datblygiad effeithiol sgiliau digidol a rhifedd drwy brosiectau cyfoethog.

ѱ岹’r Pennaeth, Janine Wardill:

"Rydyn ni’n hynod falch o’r adroddiad Estyn. Mae'n adlewyrchu ymroddiad ein staff, brwdfrydedd ein disgyblion, a chefnogaeth barhaus ein rhieni a'n llywodraethwyr. Mae'n dyst i'r holl waith caled sy'n digwydd bob dydd ym Mro Helyg.

"Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at arweinyddiaeth gref yr ysgol, cwricwlwm deniadol, a'r amgylchedd gofalgar sy'n cefnogi disgyblion i ffynnu'n academaidd ac yn bersonol.

"Hoffem ddiolch yn ddiffuant i'n teuluoedd am eu cefnogaeth barhaus, ac estyn ein gwerthfawrogiad llawn i'r staff, y disgyblion a'r Llywodraethwyr am eu hymroddiad, eu gwaith tîm a'u gweledigaeth gyffredin wrth greu cymuned ddysgu fywiog a gofalgar.

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet Cyngor AƬ dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:

"Mae'r adroddiad hwn yn dyst i ymroddiad cymuned gyfan yr ysgol. Da iawn i'r holl staff, disgyblion, a theuluoedd - mae eich gwaith caled wir yn gwneud gwahaniaeth."

]]>
/cy/newyddion/ysgol-gynradd-cyfrwng-cymraeg-blaenau-gwent-yn-dathlu-adroddiad-arolygu/ /cy/newyddion/ysgol-gynradd-cyfrwng-cymraeg-blaenau-gwent-yn-dathlu-adroddiad-arolygu/ Thu, 09 Oct 2025 10:11:09 GMT Louise Bishop
Clwb Pêl-rwyd Cymric yn cael ei Anrhydeddu am Hyrwyddo Cydraddoldeb a Chynhwysiant Mae Cyngor AƬ wedi anrhydeddu Clwb Pêl-rwyd Cymric gyda thystysgrif cydnabyddiaeth arbennig am eu hymrwymiad rhagorol i gydraddoldeb a chynhwysiant o fewn y gymuned.

Ymwelodd yr Aelod Llywyddol a'r Pencampwr Cydraddoldeb, y Cynghorydd Chris Smith, â sesiwn hyfforddi'r wythnos hon i gyflwyno'r wobr i'r tîm a manteisiodd ar y cyfle i rwydo ychydig o beli ei hun!

Mae'r wobr yn dathlu ymroddiad y clwb i greu amgylchedd croesawgar, cefnogol a chynhwysol i bawb - ar y cwrt ac oddi arno. Mae Clwb Pêl-rwyd Cymric wedi dangos yn gyson sut y gall chwaraeon fod yn rym pwerus i ddod â phobl ynghyd, chwalu rhwystrau a dathlu amrywiaeth.

Canmolodd y Cynghorydd Smith effaith y clwb, gan ddweud:

“Mae Clwb Pêl-rwyd Cymric yn enghraifft wych o sut y gall chwaraeon ein huno. Mae eu hymrwymiad i gynhwysiant ac ysbryd cymunedol yn adlewyrchu’r gorau o Flaenau Gwent. Mae’n anrhydedd cydnabod eu gwaith.”

Dywed Helen Williams o'r clwb:

"Rydym wrth ein bodd yn derbyn y wobr hon a derbyn cydnabyddiaeth am ein rôl wrth ddarparu lle diogel i aelodau gysylltu â bod yn egnïol. Byddwn yn parhau i wasanaethu'r gymuned leol a sicrhau bod gan bawb, ni waeth pwy ydynt, y cyfle i gymryd rhan yn y gamp yr ydym yn ei charu. Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'n haelodau anhygoel, rhieni, gofalwyr a holl wirfoddolwyr ymroddedig ein clwb am bopeth a wnânt i gefnogi Cymric. Heb eu cefnogaeth, ni fyddem yn gallu cyflawni'r gydnabyddiaeth hon nac amcanion ein clwb.

"Rhaid sôn yn arbennig am Chloe Rose, Prif Hyfforddwr ein clwb ac arweinydd Cyfryngau Cymdeithasol, mae Chloe yn mynd y tu hwnt i'r disgwyl yn barhaus i'n haelodau ar ac oddi ar y cwrt ac yn ymgorffori'r gwerthoedd cynhwysol yr ydym yn eu hyrwyddo fel clwb. Wrth wneud hynny mae hi wedi trawsnewid y ffordd yr ydym yn cysylltu â'n cymuned ac mae'n golygu bod ein gwaith yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r cwrt."

 Roedd y noson yn ddathliad o werthoedd sy'n bwysig iawn i Flaenau Gwent — cydraddoldeb, cynhwysiant a chymuned. Llongyfarchiadau i Glwb Pêl-rwyd Cymric ar yr anrhydedd haeddiannol hon.

]]>
/cy/newyddion/clwb-pel-rwyd-cymric-yn-cael-ei-anrhydeddu-am-hyrwyddo-cydraddoldeb-a-chynhwysiant/ /cy/newyddion/clwb-pel-rwyd-cymric-yn-cael-ei-anrhydeddu-am-hyrwyddo-cydraddoldeb-a-chynhwysiant/ Fri, 10 Oct 2025 13:44:21 GMT Louise Bishop
Cyngor AƬ yn cyhoeddi canllawiau i ysgolion ar ddyfeisiau symudol i hybu dysgu a lles Mae Cyngor AƬ yn cymryd camau rhagweithiol i wella lles, ymddygiad a deilliannau dysgu disgyblion drwy gyflwyno canllawiau cyson ar ddefnyddio ffonau symudol a dyfeisiau clyfar mewn ysgolion.

Bydd y canllawiau, a ddatblygwyd mewn ymgynghoriad ag ysgolion ac undebau llafur, yn cael eu rhannu gyda'r holl ysgolion a chyrff llywodraethu a gellir eu gweithredu ar ôl hanner tymor mis Hydref 2025 ar adeg a chyflymder a bennir gan leoliadau unigol.

Daw'r symudiad hwn mewn ymateb i dystiolaeth gynyddol gan ysgolion y fwrdeistref o effaith negyddol dyfeisiau symudol ar ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth, rhyngweithio cymdeithasol, a chanolbwyntio. Mae ymchwil gan, er enghraifft, UNESCO, Estyn a'r NEU, wedi tynnu sylw at sut y gall defnydd anghyfyngedig o ddyfeisiau amharu ar ddysgu a chyfrannu at broblemau ymddygiadol.

Mae'r canllawiau’n ddull gweithredu a argymhellir, ac mae gan rai ysgolion reolau ar waith yn barod mewn perthynas â defnyddio dyfeisiau symudol yn ystod y diwrnod ysgol, ond mae Penaethiaid wedi dangos cefnogaeth gref i ddull gweithredu cyson i'w fabwysiadu ar draws amgylchedd dysgu'r fwrdeistref. Cefnogwyd y canllawiau gan Gabinet y Cyngor a'r Pwyllgor Craffu Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd.

Uchafbwyntiau Allweddol:

  • Rhaid diffodd ffonau symudol a dyfeisiau clyfar a'u storio yn ystod y diwrnod ysgol, gan gynnwys amseroedd egwyl.
  • Bydd eithriadau yn cael eu gwneud ar gyfer disgyblion ag anghenion meddygol neu hygyrchedd.
  • Mae gan ysgolion ymreolaeth o hyd i deilwra polisïau a phenderfynu ar sancsiynau priodol.
  • Anogir staff a gwirfoddolwyr i ddangos esiampl gyda defnydd cyfrifol o ddyfeisiau.
  • Bydd llythyrau’n cael eu hanfon at rieni/gofalwyr yn esbonio pam mae'r canllawiau’n cael eu mabwysiadu a'u manteision.

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:

"Mae ymchwil yn dangos bod cyfyngu ar y defnydd o ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol yn helpu i greu amgylchedd dysgu mwy diogel, yn gwella canolbwyntio ar ddysgu, ac yn hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol. Mae'r canllawiau hyn yn rhoi disgyblion yn gyntaf—cefnogi lles, gwella ymddygiad, a'u helpu i ffynnu. Dywedodd penaethiaid wrthym y byddai dull cyson wir yn gwneud gwahaniaeth, felly mae hwn yn gam rhagweithiol sy'n adlewyrchu ein hymrwymiad i weithio mewn partneriaeth i sicrhau bod system addysg AƬ y gorau y gall fod."

 

]]>
/cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-cyhoeddi-canllawiau-i-ysgolion-ar-ddyfeisiau-symudol-i-hybu-dysgu-a-lles/ /cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-cyhoeddi-canllawiau-i-ysgolion-ar-ddyfeisiau-symudol-i-hybu-dysgu-a-lles/ Thu, 16 Oct 2025 10:14:58 GMT Louise Bishop
Llongyfarchiadau a Phob Lwc! Pedwar ar bymtheg o fusnesau o Flaenau Gwent ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Busnes Cyhoeddwyd enwau’r rhai a gyrhaeddodd rownd derfynol Gwobrau Busnes Torfaen, Sir Fynwy a AƬ 2025, gan ddathlu cyflawniadau rhagorol busnesau ac entrepreneuriaid ar draws y tair sir.

Mae cyfanswm o 20 o fusnesau o Flaenau Gwent wedi cyrraedd y rhestr fer mewn amrywiaeth o gategorïau, gan gynnwys tri allan o bedwar a gyrhaeddodd y rownd derfynol yng nghategorïau Cyflogwr y Flwyddyn ac Entrepreneur y Flwyddyn. Mae AƬ yn ymuno â'r rhestr am y tro cyntaf eleni, gan greu noson fwy cyffrous fyth o gydnabyddiaeth, rhwydweithio ac ysbrydoliaeth.

Wedi'i drefnu gan Grapevine Event Management, mae'r gwobrau'n dathlu cymunedau busnes bywiog a ffyniannus Torfaen, Sir Fynwy a AƬ, gan roi cyfle i gydnabod ymroddiad, arloesedd a chyflawniadau busnesau lleol dros y 12 mis diwethaf. Gyda’r nifer uchaf erioed o geisiadau wedi'u derbyn, mae'r beirniaid wedi adolygu pob cyflwyniad yn ofalus i benderfynu ar restr fer eithriadol eleni.

Wrth siarad am y rhestr fer, dywedodd Liz Brookes, Sylfaenydd y Gwobrau a Chyfarwyddwr Grapevine Event Management:

“Rydym wrth ein bodd yn gweld rhai busnesau sy’n dychwelyd o’r llynedd yn gobeithio cadw eu teitlau, ochr yn ochr ag ystod wych o ymgeiswyr newydd, gan gynnwys amrywiaeth gyffrous o fusnesau AƬ yn ymuno â ni am y tro cyntaf. Yn yr hinsawdd economaidd bresennol, mae’n bwysicach nag erioed i ni ddod at ein gilydd fel cymuned fusnes a chydnabod gwaith caled ac ymroddiad pawb sy’n cyfrannu at y grym y tu ôl i’n heconomïau lleol ac mae’r gwobrau hyn yn rhoi’r cyfle perffaith i ni wneud hynny.”

ѱ岹’r Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet dros yr Economi a Lleoedd yng Nghyngor AƬ:

“Mae’n wych gweld cynrychiolaeth mor gryf o Flaenau Gwent yn ein blwyddyn gyntaf o gymryd rhan yn y Gwobrau Busnes. Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo’n gadarn i feithrin amgylchedd lle gall busnesau newydd a sefydledig ffynnu, ac rydym yn falch iawn o weld cyflawniadau’r busnesau hyn yn cael eu cydnabod yn y digwyddiad mawreddog hwn. Pob lwc i bawb ac edrychwn ymlaen at ddathlu eich llwyddiant.”

Mae cyfanswm o 50 o ymgeiswyr terfynol wedi cael eu rhoi ar restr fer ar draws 14 categori. Byddant nawr yn cael eu gwahodd i fynychu cyfweliad panel, gyda'r enillwyr i'w cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo tei du ar 27 Tachwedd 2025 yng Ngwesty'r Parkway. Gall gwesteion edrych ymlaen at noson o ddathlu, adloniant a rhwydweithio wrth i gymuned fusnes y rhanbarth ddod ynghyd i anrhydeddu cyflawniadau rhagorol.

Y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer Busnesau AƬ yw:

Busnes Creadigol a Digidol y Flwyddyn

  • Games Alchemist

Cyflogwr y Flwyddyn

  • Blackwood Engineering
  • Diack
  • Halton Wales MEI

Entrepreneur y Flwyddyn

  • Matthew Davies - The Social Work Way
  • Tobias Johnson - Games Alchemist
  • Samantha Fitz-Symonds - Accessible Futures Group 

Busnes Gwasanaeth Ariannol a Phroffesiynol y Flwyddyn

  • Kairos-K

Busnes Gwyrdd y Flwyddyn

  • Honest Love Our Planet

Busnes Rhyngwladol y Flwyddyn

  • Blackwood Engineering
  • The Insurgo Group

Busnes Gweithgynhyrchu'r Flwyddyn

  • J C Moulding
  • M&J Europe

Microfusnes y Flwyddyn (llai na 10 o weithwyr)

  • Powell Bespoke Interiors
  • Shape MSP

Busnes Gwledig y Flwyddyn

  • Roundhouse Farm

Busnes Bach a Chanolig y Flwyddyn

  • Clam's Handmade Cakes
  • Waldron Commercials

 Busnes Trydydd Sector y Flwyddyn

  • Session Recall CIC

Busnes Twristiaeth a Lletygarwch y Flwyddyn

  • Wonder Cinema

Person Busnes Ifanc y Flwyddyn

  • Luke Shepard - Luke Shephard Funeral Directors

Mae'r gwobrau hefyd yn cael eu cefnogi a'u noddi gan: Ystad Parc Mamhilad, Cyngor Sir Torfaen, Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Sir AƬ, Evermore, Stills a Cleartech Live.

Mae BusinessNewsWales hefyd yn cefnogi Gwobrau Busnes Torfaen, Sir Fynwy a AƬ fel ei bartner cyfryngau. Mae cyfleoedd noddi ar gael.

Mae tocynnau ar werth nawr ar gyfer Gwobrau Busnes Torfaen, Sir Fynwy a AƬ


]]>
/cy/newyddion/llongyfarchiadau-a-phob-lwc-pedwar-ar-bymtheg-o-fusnesau-o-flaenau-gwent-ar-y-rhestr-fer-ar-gyfer-gwobrau-busnes/ /cy/newyddion/llongyfarchiadau-a-phob-lwc-pedwar-ar-bymtheg-o-fusnesau-o-flaenau-gwent-ar-y-rhestr-fer-ar-gyfer-gwobrau-busnes/ Fri, 17 Oct 2025 10:00:43 GMT Louise Bishop
Ysgol Gynradd Cyfrwng Cymraeg newydd bron â'i chwblhau Mae ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd AƬ bron wedi'i chwblhau, ac mae'r disgyblion a'r staff yn gyffrous iawn i symud ym mis Tachwedd.

Mae Ysgol Gymraeg Tredegar yn ysgol egin 210 o leoedd, gyda gofal plant ar yr un safle, yn Ffordd y Siartwyr. Gyda nifer y plant mewn addysg Gymraeg yn tyfu, mae'n rhan o'n hymrwymiad i gynyddu cyfleoedd i deuluoedd o fewn y fwrdeistref sirol. Mae'r ysgol wedi'i hariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru trwy'r Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg.

Mae Ysgol Gymraeg Tredegar wedi'i ffederaleiddio ag ysgol gynradd Gymraeg arall y fwrdeistref sirol, Ysgol Gymraeg Bro Helyg, ac mae'n rhannu'r un Corff Llywodraethu a Phennaeth. Mae'r ysgol eisoes ar agor gyda disgyblion mewn llety dros dro yn Nhŷ Bedwellty ar hyn o bryd.

ѱ岹’r Pennaeth, Janine Wardill:

“Gyda'r ysgol newydd ar fin agor ei drysau, mae’r cyffro'n cynyddu ar draws AƬ. Mae'r adeilad modern, gyda'i bensaernïaeth drawiadol a'i gyfleusterau o'r radd flaenaf, yn adlewyrchu'r weledigaeth uchelgeisiol sydd gennym ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg. Mae'r ysgol hon yn fwy na dim ond adeilad - mae'n ganolfan gymunedol lle bydd plant yn tyfu'n hyderus, yn ddwyieithog, ac yn barod ar gyfer y dyfodol.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i'r datblygwyr am eu gwaith rhagorol, ac yn enwedig i Dŷ Bedwellty am eu croeso cynnes a'u cefnogaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae'r gefnogaeth gan rieni, staff, y gymuned leol, a'n partneriaid addysgol wedi bod yn hanfodol - gyda'n gilydd, rydym yn gosod sylfeini cryf ar gyfer dyfodol mwy disglair i'n plant a'n cymuned.”

Mae gan yr ysgol newydd Ardal Gemau Aml-ddefnydd (MUGA), ardal chwarae coedwig, perllan ar gyfer tyfu, dolydd blodau gwyllt a man chwarae cyfagos. Mae ganddi hefyd baneli solar a phwyntiau gwefru cerbydau trydan. Cymerwyd gwaith adeiladu’r ysgol drosodd gan Tilbury Douglas yn gynharach eleni.

ѱ岹’r Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Gweithredol y Cyngor dros Bobl ac Addysg:

“Rydym am sicrhau ein bod yn cynnig mwy o ddewis a chyfleoedd i rieni a gofalwyr o ran addysg eu plentyn, yn ogystal â chefnogi’r iaith Gymraeg i dyfu yma ym Mlaenau Gwent. Mae pawb yn gyffrous iawn i symud i’r adeilad newydd y mis nesaf, a fydd yn amgylchedd dysgu modern a chynaliadwy i’n disgyblion. Fedra i ddim aros i ymweld!”

Nid yw byth yn rhy hwyr i ystyried mynediad i addysg Gymraeg i’ch plentyn, ac mae digon o wybodaeth ar gael yn yr adran Ysgolion a Dysgu ar wefan ein Cyngor. I unrhyw un sy’n gwneud y newid, mae dysgu drwy drochi ar gael. Am ragor o wybodaeth ewch i Bod yn ddwyieithog.

]]>
/cy/newyddion/ysgol-gynradd-cyfrwng-cymraeg-newydd-bron-ai-chwblhau/ /cy/newyddion/ysgol-gynradd-cyfrwng-cymraeg-newydd-bron-ai-chwblhau/ Tue, 21 Oct 2025 08:00:17 GMT Louise Bishop
Dathlu Bwyd Lleol a Chymuned yn Uwchgynhadledd Fwyd AƬ 2025 Ar Ddiwrnod Bwyd y Byd 2025, cynhaliwyd Uwchgynhadledd Fwyd gyntaf AƬ yn Nhŷ Bedwellty yn Nhredegar, gan ddod â grwpiau cymunedol, tyfwyr lleol, busnesau, gwasanaethau cyhoeddus ac unigolion angerddol ynghyd am ddiwrnod o ddathlu, cydweithio a sgwrsio ynghylch bwyd.

Trefnwyd y digwyddiad gan Gyngor AƬ, ynghyd â Phartneriaeth Bwyd AƬ. Gyda rhaglen lawn o drafodaethau panel, gweithdai a sesiynau rhyngweithiol, amlygodd y digwyddiad ymrwymiad y fwrdeistref i adeiladu system fwyd lleol iachach, tecach a mwy cynaliadwy.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid a'r gymuned leol i greu a chefnogi lle tecach a mwy cyfartal i fyw i bawb trwy sicrhau mynediad at fwyd iach a fforddiadwy gydag urddas, cryfhau rhwydweithiau bwyd cymunedol a busnes, ac adeiladu arferion bwyd cynaliadwy sy'n cefnogi'r amgylchedd a natur.



Ymhlith uchafbwyntiau'r diwrnod roedd:

•    Trafodaeth panel ar Strategaeth Bwyd Cymunedol lleol newydd y Bartneriaeth Bwyd, gan amlygu straeon llwyddiant lleol ac uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol
•    Gweithdai ymarferol gan gynnwys Diffyg Diogeledd Bwyd, Bwyd Iach yn y Sector Cyhoeddus, a Castell Howell ar ddarparu bwyd da ar draws Cymru
•    Sesiynau diddorol ar yr hinsawdd, natur, ac ymgysylltiad y trydydd sector mewn tyfu bwyd, gan gynnwys Taith Gardd Furiog gyda thynnu Sudd Afal o Goetiroedd Bryn Sirhowy

Darparodd y digwyddiad hefyd gyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr a llwyfan i leisiau ar lawr gwlad gael eu clywed, gan atgyfnerthu ymrwymiad y Cyngor i newid dan arweiniad y gymuned ac i wella llesiant trwy leihau anghydraddoldeb i sicrhau bod gan bob plentyn a pherson ifanc y dechrau gorau mewn bywyd a'r cyfle i ffynnu.

ѱ岹’r Cynghorydd Sonia Behr, Hyrwyddwr Hinsawdd Cyngor AƬ:

“Mae'r Uwchgynhadledd Bwyd yn enghraifft wych o sut y gall partneriaethau lleol gydweithio i yrru newid cadarnhaol. Fel ardal Marmot, mae'n ysbrydoledig iawn gweld cymaint o bobl yn dod at ei gilydd i rannu syniadau ac ymrwymo i gymryd camau gweithredu dros ddyfodol bwyd iachach a mwy cynaliadwy ym Mlaenau Gwent.”

Yn y llun mae grawn lleol wedi tyfu gan sefydliad cymunedol yng Nghwmtyleri, Pentref Tyleri.

]]>
/cy/newyddion/dathlu-bwyd-lleol-a-chymuned-yn-uwchgynhadledd-fwyd-blaenau-gwent-2025/ /cy/newyddion/dathlu-bwyd-lleol-a-chymuned-yn-uwchgynhadledd-fwyd-blaenau-gwent-2025/ Tue, 21 Oct 2025 08:12:13 GMT Louise Bishop
Ymgyrch Bwydo ar y Fron AƬ yn Disgleirio mewn Cynhadledd Genedlaethol Gwahoddwyd Ceri Bird, Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol AƬ, i gyflwyno yng Nghynhadledd Bwydo ar y Fron Genedlaethol Iechyd Cyhoeddus Cymru – 'Bright Spots' – yn arddangos llwyddiant rhyfeddol ymgyrch 'Dewch i Fwydo ar y Fron AƬ'.

Wedi'i lansio yn 2024, pan gofnododd AƬ rai o'r cyfraddau bwydo ar y fron isaf yng Nghymru a'r DU (tua 42%), mae'r ymgyrch wedi mynd o nerth i nerth — wedi'i gyrru gan leisiau, profiadau ac angerdd mamau lleol.

Cynlluniwyd yr ymgyrch 'Dewch i Fwydo ar y Fron AƬ' gan famau AƬ, ar gyfer mamau AƬ. Mae wedi cael ei harwain yn falch gan y gymuned, gyda mamau lleol yn hyfforddi fel cefnogwyr cyfoedion i roi cyngor, anogaeth a chyfeillgarwch i eraill ar eu teithiau bwydo ar y fron. Mae'r cefnogwyr cyfoedion hyn bellach yn cynnal grwpiau cymorth rheolaidd a sesiynau galw heibio cymunedol ar draws y fwrdeistref.

Mae gan Flaenau Gwent hefyd 35 o adeiladau cyhoeddus a busnesau preifat wedi cofrestru i ddweud bod croeso i famau fwydo ar y fron ar eu safle, sef y nifer uchaf o safleoedd ar draws y 5 Awdurdod Lleol yng Ngwent – ​​Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Mae ffigurau diweddar yn dangos cynnydd sylweddol yng nghyfraddau bwydo ar y fron ar draws y flwyddyn gyfan, gyda rhai misoedd yn cyrraedd 60–62% ac yn cyrraedd cyfartaledd cenedlaethol Cymru. Mae hyn yn golygu bod mwy o famau ym Mlaenau Gwent bellach yn dewis bwydo ar y fron nag sydd ddim, gan nodi cam eithriadol ymlaen wrth wella canlyniadau'r blynyddoedd cynnar a lleihau anghydraddoldebau iechyd ar draws y fwrdeistref.

“Rydym yn hynod falch o'r hyn y mae ein mamau, tîm staff, a phartneriaid cymunedol wedi'i gyflawni mewn cyfnod mor fyr ac roeddwn yn falch iawn o arddangos hyn yn y Gynhadledd Genedlaethol” meddai Ceri Bird, Rheolwr Gwasanaeth, Cyfarwyddiaeth Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd. “Mae'r ymgyrch hon yn ei dyddiau cynnar o hyd, ond mae eisoes yn trawsnewid cenedlaethau, diwylliant, hyder, a chymorth cymunedol o amgylch bwydo ar y fron ym Mlaenau Gwent. Ein nod yw parhau i ymgorffori'r newid cenedliadol hwn fel bod pob babi yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, mae ein babanod yn haeddu hyn.”

Pam Mae Bwydo ar y Fron yn Bwysig

Mae bwydo ar y fron yn cynnig manteision iechyd pwerus i'r fam a'r babi:

  • Mae babanod sy'n cael eu bwydo ar y fron yn llai tebygol o ddatblygu heintiau, asthma, gordewdra yn ystod plentyndod, a diabetes math 2.
  • Mae bwydo ar y fron yn cefnogi datblygiad iach yr ymennydd ac yn helpu i adeiladu system imiwnedd babi.
  • Mae gan famau sy'n bwydo ar y fron risg is o ganser y fron a'r ofari, diabetes math 2, a chlefyd y galon.
  • Mae bwydo ar y fron hefyd yn cefnogi bondio emosiynol, gan helpu'r fam a'r babi i deimlo'n dawelach ac yn fwy cysylltiedig.

Cefndir

Mae ymgyrch 'Dewch i Fwydo ar y Fron AƬ' yn rhan o ymrwymiad ehangach y Cyngor i sicrhau bod gan bob plentyn y dechrau gorau mewn bywyd, mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Strategaethau Blynyddoedd Cynnar a Thlodi Plant Llywodraeth Cymru.

Mae'r ymgyrch yn parhau i dyfu trwy ddigwyddiadau cymunedol, hyrwyddo cyfryngau cymdeithasol, a rhwydweithiau cyfoedion mam-i-fam, gyda'r uchelgais o wneud bwydo ar y fron yn rhan weladwy, gefnogol, a dathlu bywyd bob dydd ym Mlaenau Gwent.

]]>
/cy/newyddion/ymgyrch-bwydo-ar-y-fron-blaenau-gwent-yn-disgleirio-mewn-cynhadledd-genedlaethol/ /cy/newyddion/ymgyrch-bwydo-ar-y-fron-blaenau-gwent-yn-disgleirio-mewn-cynhadledd-genedlaethol/ Tue, 21 Oct 2025 09:28:34 GMT Emma Bennett
Pobl ifanc yn helpu i ddathlu trawsnewid Canolfan Ieuenctid Cwm Dathlwyd gwaith adnewyddu Canolfan Ieuenctid Cwm gwerth £200,000 mewn digwyddiad lansio arbennig neithiwr.

Diolch i gyllid Ysgolion sy'n Canolbwyntio ar y Gymuned gan raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru, mae'r ganolfan wedi cael trawsnewidiad sy'n cynnwys ffenestri, llawr, to, toiledau, drws ffrynt, trydan, larymau tân, larymau diogelwch, cegin a band eang newydd.

Mae'r cyllid hefyd wedi galluogi Gwasanaeth Ieuenctid AƬ i brynu adnoddau ac offer digidol newydd, gan gynnwys gosod gorsaf radio ac offer podledu. Mae'r ychwanegiadau hyn wedi cefnogi datblygu cynigion digidol poblogaidd ac effeithiol, gan wella sut mae pobl ifanc yn ymgysylltu â chyfryngau creadigol a chyfathrebu. Maent hefyd wedi gallu prynu byrddau biliards, bwrdd ping pong, bwrdd dartiau, a setiau teledu.

Ymunodd swyddogion Cyngor AƬ â gwesteion a gwleidyddion yn y lansiad, gan fanteisio ar y cyfle i weld y cyfleusterau wedi'u hailwampio drostynt eu hunain a hefyd ymgysylltu â phobl ifanc a oedd yn cymryd rhan mewn cyfres o weithgareddau, gan gynnwys gweithdy radio, coginio a DJio.

Yn ogystal â bod yn lleoliad ar gyfer clwb ieuenctid poblogaidd a gynhelir ddwywaith yr wythnos, mae'r ganolfan bellach hefyd yn cael ei defnyddio gan Wasanaeth Ieuenctid AƬ i gyflwyno prosiectau addysg amgen, gan gynnwys darpariaeth *EOTAS i bobl ifanc sydd mewn perygl o ddod yn *NEET neu ymddieithrio o ddysgu ffurfiol. Yn ogystal, mae'r ganolfan yn cynnal mentrau wedi'u targedu sy'n cefnogi digartrefedd a llesiant pobl ifanc, gan ddarparu amgylchedd diogel a chefnogol i bobl ifanc agored i niwed.

ѱ岹’r Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd yng Nghyngor AƬ:

“Roedd yn hyfryd gweld y bobl ifanc yn mwynhau ac yn gwerthfawrogi’r ganolfan wedi’i hadnewyddu. Mae ein pobl ifanc yn haeddu’r gorau ac rydym wrth ein bodd ein bod wedi sicrhau cyllid Llywodraeth Cymru i fuddsoddi yn y cyfleuster lleol pwysig hwn. Nid yn unig y mae hwn yn ganolfan i bobl ifanc fwynhau a chymdeithasu â’i gilydd, mae hefyd yn fan lle gall ein pobl ifanc agored i niwed gael mynediad at addysg, cymorth a chyngor.”

Fe wnaeth y Cynghorydd George Humphreys, aelod ward Cwm a chyn-weithiwr ieuenctid ei hun, helpu i lansio'r cyfleuster newydd. Meddai:

“Mynychais y clwb ieuenctid hwn fy hun ac mae’n dwyn i gof nid yn unig lawer o atgofion o hwyl a chwerthin, ond hefyd addysg anffurfiol. Yn ogystal, cefais y fraint o weithio ochr yn ochr â staff y Cyngor sy’n darparu gwasanaethau ieuenctid yn y fwrdeistref sirol, ac er y gallai amseroedd fod wedi newid, yr un yw’r nodau a’r canlyniadau.

“Mae grymuso pobl ifanc heddiw yn adeiladu cymunedau cryfach yfory. Mae buddsoddi mewn pobl ifanc yn golygu buddsoddi yn y dyfodol, dyna pam mae clybiau ieuenctid a staff ieuenctid mor arbennig. Mentor da yw rhywun sy'n gweld mwy o dalent a gallu ynoch chi nag yr ydych chi'n ei weld eich hun, felly diolch i bawb sy'n ymwneud â rhoi nid yn unig gyfleuster 21ain ganrif i'n cymuned, ond popeth a ddaw yn ei sgil.”

  • NEET (Pobl nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant)
  • EOTAS (Addysg Heblaw yn yr Ysgol)

 

]]>
/cy/newyddion/pobl-ifanc-yn-helpu-i-ddathlu-trawsnewid-canolfan-ieuenctid-cwm/ /cy/newyddion/pobl-ifanc-yn-helpu-i-ddathlu-trawsnewid-canolfan-ieuenctid-cwm/ Thu, 23 Oct 2025 10:01:25 GMT Louise Bishop
2025 Gwyl y Cofio Ym Mlaenau Gwent Dydd Gwener 7fed o Dachwedd

9:15yb: Coffhad yng Nghofeb Rhyfel Princetown a Tafarnaubach

7yh: Cyngerdd Pabi y Lleng Brydeinig Frenhinol gyda Chôr Orpheus Merched Abertyleri, Côr Cymunedol Dysgu Abertyleri a chanu emynau. Tocynnau £2.50 arian parod, plant am ddim.

Dydd Sadwrn 8fed o Dachwedd

9:30yb Taith Gerdded a Choffhad ar gyfer criw y bomber Wellington T2520. Cyfarfod yn The Quarrymen's Arms am 9.30yb gadael am y chwarel am 9.45yb.Cerdded caled i safle'r damwain gyda Gwasanaeth Coffa byr. Ffoniwch 01495 722352 i ddweud os ydych yn dod, rhag ofn bod newid yn y digwyddiad.

6yh: Coffhad yng Nghofeb, Rhyfel Swfrydd

Dydd Sul 9fed o Dachwedd

10yb: Gwsanaeth Coffa yn Eglwys Sant Siôr gyda gorymdaith i ddilyn i’r Senotaff ym Mharc Bedwellte, Tredegar

10:25yb: Ymgynnull yn Stryd Beaufort am orymdaith i Gofeb Rhyfel Brynmawr ar gyfer Gwasanaeth Coffa am 10:45yb

10:30yb: Cynnull yn Stryd yr Eglwys ar gyfer gorymdaith i Gofeb Rhyfel Abertyleri ar gyfer Gwasanaeth Coffa am 10:45yb

10:30yb: Coffhad yng Nghofeb Rhyfel Nghofeb Rhyfel Llanhiledd.

10:45yb: Ymgynnull yn Stryd Marine ar gyfer gorymdaith i Gofeb Rhyfel Cwm ar gyfer Gwasanaeth Coffa am 10:55yb.

10:45yb: Cynnull yn Stryd Bethcar ar gyfer gorymdaith i Gofeb Rhyfel Glynebwy ar gyfer Gwasanaeth Coffa am 11:00yb

10:50yb: Gwasanaeth Coffa, Senotaff, Parc Bedwellty, Tredegar

11yb: Gwasanaeth Coffa, Bethany Chapel, Six Bells

Canol dydd:  Coffhad wrth Allor Burma, Ty Bedwellte, Tredegar

1:30yp: Cynnull yn Theatr Beaufort ar gyfer gorymdaith i Gofeb Rhyfel Rhasa a Beaufort ar gyfer Gwasanaeth Coffa am 1:45yp

2:10yp: Cynnull ger Croes Garn ar gyfer gorymdaith i Gofeb Rhyfel Nantyglo a Blaenau, Parc Canolog ar gyfer Gwasanaeth Coffa am 14:45

3yp: Coffhad yng Nghanolfan Gymunedol Bournville, Abertyleri

4yp: Coiffhad ar y Gwyrddle Pentref AƬ, Abertyleri

6yh: Gwasanaeth gyda Cor Ebbw Fach, Capel Bethany, Six Bells

6yh: Gwsanaeth Coffa, West End, Capel Cysylltu, Glynebwy

Dydd Mawrth 11eg o Dachwedd

10:50yb: Coffhad yng Nghanolfan Siopa, Tredegar

11:10yb: Coffhad ym Mainc Goffa’r Rhyfel Byd Cyntaf, Stryd Fasnachol, Tredegar

11:20yb: Coffhad ym Mainc Goffa’r Rhyfel Byd Cyntaf, Peacehaven, Tredegar

11:40yb: Coffhad ym Mainc Goffa’r Rhyfel Byd Cyntaf, Gwyrddle Pentref Sirhywi, Tredegar

7yh: Cyngerdd Diwrnod y Cofio, Neuadd Orpheus Tredegar, Teras Rawlinson, Tredegar Tocyn £6 Å07583897170.

Dydd Gwener 14eg o Dachwedd

1yp: Dawns Pabi gyda pherfformiad gan Adele. Y Dugout, Glynebwy. Tocyn £10

]]>
/cy/newyddion/2025-gwyl-y-cofio-ym-mlaenau-gwent/ /cy/newyddion/2025-gwyl-y-cofio-ym-mlaenau-gwent/ Thu, 23 Oct 2025 12:13:54 GMT Louise Bishop
Cyflwyno un arall o'n Pencampwyr Cymraeg ar gyfer 2025 Amanda Smith Efallai eich bod chi'n adnabod Amanda Smith fel Amanda Masquerade – arlunydd wynebau talentog, modelwr balŵn, a dewin. Ond mae hi hefyd yn ddysgwr Cymraeg angerddol sydd wedi bod yn ymroddedig i feistroli'r iaith ers sawl blwyddyn.

Roedd Amanda wastad eisiau dysgu Cymraeg ond ni chafodd y cyfle nes i'w phlant dyfu. Arweiniodd yr hyn a ddechreuodd fel diddordeb achlysurol yn y pen draw at ddosbarthiadau ffurfiol, a heddiw mae hi bron yn rhugl. Mae ei thaith wedi ysbrydoli'r rhai o'i chwmpas: er nad oedd ei phlant wedi tyfu i fyny yn siarad Cymraeg, maen nhw wedi dechrau dysgu fel oedolion, ac mae ei wyrion bellach yn mynychu Ysgol Cymraeg Bro Helyg. Mae hyd yn oed ffrindiau a theulu a oedd unwaith yn meddwl ei bod hi'n "wallgof" am geisio wedi ymuno - ac maen nhw'n ei garu.

Mae ei sgiliau iaith newydd wedi agor drysau di-ri. Mae busnes Amanda wedi ffynnu, gydag archebion gan sefydliadau Cymreig fel Menter Iaith, Mudiad Meithrin, cynghorau lleol, Eisteddfodau, yr Urdd, a llawer mwy. Mae galw amdani bellach ledled Cymru, ac mae ei bywyd cymdeithasol wedi blodeuo hefyd. Mae Amanda hefyd yn gweithio'n rhan-amser yn Ysgol Bro Helyg, gan helpu plant i ddarllen – dim ond un o'r nifer o ffyrdd y mae'n rhannu ei doniau.

"Mae wastad amser da i ddefnyddio'r iaith, waeth ble ydw i," meddai.

Pan ddechreuodd Amanda ddysgu, dim ond un dosbarth oedd ar gael. Nawr, mae yna gyfleoedd di-ri – o gyrsiau ar-lein gyda Dysgu Cymraeg i apiau symudol a dosbarthiadau cymunedol ledled Cymru a thu hwnt.

Ei chyngor i ddysgwyr newydd? "Gwnewch hynny - a pheidiwch â rhoi'r gorau iddi. Efallai y bydd angen i chi oedi, ond peidiwch â rhoi'r gorau iddi."

Mae dyfodol Amanda yn llawn cynlluniau cyffrous. Yn ddiweddar, cwblhaodd furlun hyfryd yn Ysgol Bro Helyg yn arddangos uchafbwyntiau'r fwrdeistref leol. Mae hi'n gobeithio parhau i gefnogi'r ysgol a hefyd rhedeg dosbarthiadau gwau a chrosio dwyieithog i'r gymuned. Mae ei gyrfa modelu balŵn yn ffynnu, gydag archebion rheolaidd a chynhadledd flynyddol lle mae'n dysgu artistiaid o bob cwr o'r byd. Mae hi hefyd yn lansio gweithdai dydd Sadwrn yng Ngholeg Gwent – perffaith i unrhyw un sy'n dymuno rhoi cynnig ar rywbeth newydd.

Beth bynnag y mae Amanda yn ei wneud nesaf, rydym yn dymuno'r gorau iddi ac yn diolch iddi am bopeth y mae'n dod i'n cymuned. Mae ei hangerdd dros iaith a diwylliant Cymru yn ei gwneud hi'n Bencampwr Cymreig gwirioneddol haeddiannol.

I gysylltu ag Amanda, dewch o hyd iddi ar Facebook:

Oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu Cymraeg neu enwebu eich Pencampwr Cymraeg eich hun ar gyfer ein rhestr anrhydeddau 2026? Cysylltwch â ni drwy e-bost: Cymraeg@blaenau-gwent.gov.uk

 

]]>
/cy/newyddion/cyflwyno-un-arall-on-pencampwyr-cymraeg-ar-gyfer-2025-amanda-smith/ /cy/newyddion/cyflwyno-un-arall-on-pencampwyr-cymraeg-ar-gyfer-2025-amanda-smith/ Tue, 28 Oct 2025 09:34:41 GMT Carolyn Jenkins
Cartref Gofal Preswyl EMI Cwrt Mytton yn Dathlu 35 Mlynedd o Ofal a Chymuned Mae Cartref Gofal Preswyl Henoed Eiddil eu Meddwl Cwrt Mytton yn falch o ddathlu ei ben-blwydd yn 35 oed, gan nodi carreg filltir ers agor ei ddrysau i breswylwyr am y tro cyntaf ym 1990.

I anrhydeddu'r achlysur, mae'r cartref yn cynnal ei barti Calan Gaeaf blynyddol poblogaidd ddydd Iau, 30ain o Hydref, gan wahodd preswylwyr, eu teuluoedd a'u ffrindiau i ymuno yn y dathliadau. Gall gwesteion edrych ymlaen at wisg ffansi, bwffe poeth ac awyrgylch cynnes a chroesawgar sy'n adlewyrchu calon ysbryd cymunedol Cwrt Mytton.

Wedi'i leoli ychydig oddi ar Stryd Alma ger canol y dref, mae Cwrt Mytton yn gartref gofal preswyl EMI Gwasanaethau Cymdeithasol a redir gan Gyngor AƬ ar gyfer pobl hŷn, gan gynnwys y rhai sy'n byw gyda dementia. Dyluniwyd yr adeilad yn feddylgar i sicrhau cyfforddusrwydd a chyfleustra i breswylwyr ac ymwelwyr, gyda llety wedi'i wasgaru ar draws dau lawr ac wedi'i wasanaethu gan lifft.

Meddai Joanne Hawkins, Rheolwr, Cartref Gofal Preswyl EMI Cwrt Mytton:

“Mae Cwrt Mytton yn fwy na chartref gofal - mae'n gymuned fywiog. Trwy ystod eang o weithgareddau cymdeithasol a chysylltiadau lleol cryf, rydym yn sicrhau bod pob preswylydd yn profi safon uchel o ofal personol ac emosiynol, wedi'i deilwra i'w hanghenion a'u dewisiadau unigol.

Mae dathlu 35 mlynedd yn dyst i ymroddiad ein staff a chynhesrwydd ein preswylwyr a'n teuluoedd. Rydym yn falch o barhau i ddarparu amgylchedd diogel, cefnogol a llawen i bawb sy'n galw Cwrt Mytton yn gartref.” Cenhadaeth y cartref yw darparu gofal preswyl EMI 24 awr o ansawdd uchel wrth gefnogi annibyniaeth a dewis preswylwyr. Dewisir gweithgareddau ar y cyd gan staff a phreswylwyr sy'n cynnwys digwyddiadau cymdeithasol, cwisiau, cyngherddau, a chorau, gemau fel dominos, dartiau, bingo, a chrefftau. Maent hefyd yn mwynhau dathliadau tymhorol gan gynnwys barbeciws a phartïon Nadolig yn ogystal â boreau coffi, nosweithiau fideo, a theithiau i siopau, sioeau, llyfrgell a bwytai.

Edrych Ymlaen

Wrth i Gwrt Mytton ddathlu 35 mlynedd o wasanaeth, mae'r tîm yn parhau i fod wedi ymrwymo i greu amgylchedd diogel, cefnogol a llawen i bob preswylydd. Nid dathliad o'r gorffennol yn unig yw'r pen-blwydd - mae'n ailddatganiad o ymroddiad y cartref i ofal tosturiol a chysylltiad cymunedol.

]]>
/cy/newyddion/cartref-gofal-preswyl-emi-cwrt-mytton-yn-dathlu-35-mlynedd-o-ofal-a-chymuned/ /cy/newyddion/cartref-gofal-preswyl-emi-cwrt-mytton-yn-dathlu-35-mlynedd-o-ofal-a-chymuned/ Thu, 30 Oct 2025 11:12:39 GMT Emma Bennett