°¬²æAƬ

Estyn yn cyhoeddi adroddiad ar Gymuned Ddysgu Abertyleri

Mae Estyn wedi cyhoeddi eu hadroddiad ar Gymuned Ddysgu 3 – 16 Abertyleri yn dilyn arolygiad diweddar. Tynnodd yr adroddiad sylw at lawer o bethau positif a chydnabod y gwelliannau sylweddol a wnaed gan gynnwys arweinyddiaeth gref a medrus; cynnydd sylweddol yn nifer y disgyblion sy'n mynychu'r ysgol yn rheolaidd, a phwyslais ar les disgyblion a staff.

Nodwyd bod agweddau ar addysgu yn dal i ddatblygu mewn nifer o feysydd a bod angen gwella ansawdd addysgu a dysgu a'r her i ddysgwyr, yn enwedig yn y cyfnod uwchradd, i sicrhau bod pawb yn gwneud cynnydd. Mae Estyn wedi argymell bod yr ysgol yn cael ei gosod yn eu categori Gwella Ysgol ac mae Cynllun Gweithredu Ôl-Arolwg wedi'i lunio fel blaenoriaeth i fynd i'r afael â'r meysydd i'w gwella.

Roedd yr adroddiad yn dangos hyder ym Mhennaeth ac uwch arweinyddiaeth yr ysgol i barhau i arwain ac adeiladu ar y gwaith da presennol i wneud y gwelliannau pellach sydd eu hangen.

Meddai Pennaeth Cymuned Ddysgu Abertyleri, Tracey Jarvis:

"Rydym yn derbyn canfyddiadau Estyn a'r argymhellion yn llawn a byddwn yn gweithio'n agos gyda'r Awdurdod Lleol, ein partneriaid gwella ysgol a chymuned gyfan yr ysgol i wneud cynnydd pellach. Mae Cynllun Gweithredu Ôl-Arolwg wedi'i lunio fel blaenoriaeth, a fydd yn nodi sut y byddwn yn mynd i'r afael â'r argymhellion ac yn gweithio i wneud gwelliannau i sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o’r dysgu ac yn sicrhau’r cyfleoedd gorau i'n holl blant a phobl ifanc. 

"Rwy'n falch bod uwch arweinyddiaeth wedi cael ei chydnabod fel cryfder gan Estyn, a bod hyn yn arwain at ddisgwyliadau uchel, gweledigaeth glir a newidiadau cadarnhaol i les, diogelu a phresenoldeb. Rydym wir yn ymrwymedig i gyflawni gwelliannau pellach ac adeiladu ar ein llwyddiannau hyd yn hyn, ac rwy'n hyderus y gallwn wneud hyn gan weithio mewn partneriaeth â chymuned gyfan yr ysgol.

"Mae gwella presenoldeb wedi bod yn brif flaenoriaeth i ni ac rwy'n falch bod y gwaith hwn wedi cael ei gydnabod. Ni all dysgwyr wneud cynnydd a chyrraedd eu llawn botensial heb fod yn yr ysgol yn gyntaf. Cydnabuwyd newidiadau sylweddol a wnaed yn yr ysgol i reoli ymddygiad hefyd a bod hyn wedi arwain at welliant sylweddol yn ymddygiad disgyblion a’u hagweddau at ddysgu.

"Rydym wedi ymrwymo i roi ein dysgwyr wrth wraidd y gwaith hwn yn y dyfodol; mae eu lles, hapusrwydd, potensial a chyflawniad yn hollbwysig."

Canfu Estyn fod cefnogaeth a darpariaeth dda i ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn yr ysgol, ac mae hyn yn parhau i ddatblygu. Barnwyd bod y darpariaethau hyn yn creu amgylchedd tawel a gofalgar i ddisgyblion, gyda staff yn canolbwyntio ar les cymdeithasol ac emosiynol disgyblion, gan arwain at ymddygiad ac agwedd gadarnhaol ymysg disgyblion cynradd ac uwchradd.

Canfu Estyn hefyd fod gan ddisgyblion lais a'u bod yn cymryd rhan weithredol mewn penderfyniadau; bod gan staff berthynas gadarnhaol â disgyblion sy'n hyrwyddo amgylcheddau gwaith tawel, cadarnhaol, a bod cefnogaeth ac arweiniad ar gael i ddysgwyr sy'n dymuno symud ymlaen i addysg bellach neu hyfforddiant, gan arwain at bron pob disgybl yn llwyddo i sicrhau cyfle wrth adael yr ysgol.

Gwnaeth yr adroddiad yr argymhellion canlynol:

  • Gwella ansawdd yr addysgu fel bod disgyblion o bob gallu yn gwneud cynnydd priodol, yn enwedig yn y cyfnod uwchradd
  • Darparu cyfleoedd herio ystyrlon i ddisgyblion ddatblygu eu sgiliau llythrennedd a rhifedd
  • Sicrhau bod arweinwyr yn nodi camau gweithredu clir a phenodol wrth gynllunio ar gyfer gwella, yn enwedig mewn perthynas â gwella addysgu
  • Sicrhau bod yr ysgol yn bodloni'r gofyniad statudol i ddisgyblion astudio'r Gymraeg hyd at 16 oed